Gwybodaeth arall

Trosiadau metrig, gwefannau defnyddiol, darllen ychwanegol, cynllun y bathodyn glas a chod ymarfer cerbydau a dynnir gan geffylau.

Trosiadau metrig

Mae’r trosiadau a roddir yn Rheolau’r Ffordd Fawr wedi’u talgrynnu ond mae siart trosiadau fanwl i’w gweld isod.

Milltiroedd Cilomedrau Milltiroedd Cilomedrau
1.00 1.61 40.00 64.37
5.00 8.05 45.00 72.42
10.00 16.09 50.00 80.47
15.00 24.14 55.00 88.51
20.00 32.19 60.00 96.56
25.00 40.23 65.00 104.60
30.00 48.28 70.00 112.65
35.00 56.33 - -

Darllen ychwanegol

Arferion gorau

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am arferion gyrru a seiclo da yn llyfrau’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau ‘The Official DVSA Guide to Driving -the essential skills’ a ‘The Official DVSA Guide to Riding - the essential skills’. Gellir dod o hyd i wybodaeth benodol ar gyfer gyrwyr cerbydau mawr yn ‘The Official DVSA Guide to Driving Goods Vehicles’ a ‘The Official DVSA Guide to Driving Buses and Coaches’.

Cynllun y Bathodyn Glas

Gellir cael gwybodaeth am Gynllun y Bathodyn Glas gan eich cyngor.

Côd Ymarfer ar gyfer Cerbydau a Dynnir gan Geffylau

Mae’r Côd ymarfer ar gael o’r

Adran Drafnidiaeth
Safonau Cerbydau Rhyngwladol
Great Minster House
33 Horseferry Road
London
SW1P 4DR

Tel 0300 330 3000

Mathau arbennig o gerbydau

Mae rhagor o wybodaeth am y defnydd o fathau arbennig o gerbydau o dan awdurdod y Gorchymyn Cerbydau Ffyrdd (Awdurdodi Mathau Arbennig) (Cyffredinol) 2003 (STGO) neu orchmynion Arbennig yn gallu cael eu canfod yn y Canllaw gorfodi mathau arbennig.

Towio

Mae rhagor o wybodaeth am dowio’n ddiogel i’w ganfod yn