Rheolau ar gyfer beicwyr modur (83 i 88)

Rheolau ar gyfer beicwyr modur, gan gynnwys helmedau, cludo teithwyr, beicio mewn golau dydd a beicio yn y tywyllwch.

Mae’r rheolau hyn yn ychwanegol at y rhai yn yr adrannau canlynol sy’n berthnasol i bob cerbyd. Gweler ‘ Gofynion trwyddedau beiciau modur’.

Cyffredinol (rheol 83 i 88)

Rheol 83

Ar bob taith, mae’n RHAID i’r beiciwr a’r teithiwr piliwn ar feic modur, sgwter neu foped wisgo helmed amddiffynnol. Nid yw hyn yn berthnasol i’r rhai sy’n dilyn crefydd Siciaeth tra’n gwisgo tyrban. Mae’n RHAID i’r helmedau gydymffurfio â’r Rheoliadau ac mae’n RHAID i’r helmedau gael eu clymu’n ddiogel. Dylai beicwyr modur a theithwyr beiciau tair olwyn a beiciau cwad wisgo helmed amddiffynnol hefyd. Cyn pob taith, gwnewch yn siŵr bod fisor eich helmed yn lân ac mewn cyflwr da.

Deddfau RTA 1988 sects 16 a 17, a MC(PH)R fel y’u diwygiwyd gan reg 4

Rheol 84

Mae hefyd yn ddoeth gwisgo diogelwyr llygaid, sy’n GORFOD cydymffurfio â’r Rheoliadau. Gall diogelwyr llygaid sydd wedi’u crafu neu sy’n ffitio’n wael gyfyngu ar eich golwg wrth seiclo, yn enwedig mewn heulwen llachar ac oriau’r tywyllwch. Ystyriwch roi rhywbeth ar eich clustiau i’w hamddiffyn. Gall esgidiau cryf, menig a dillad addas helpu i’ch amddiffyn os byddwch mewn gwrthdrawiad.

Deddfau RTA 1988 sect 18 a MC(EP)R fel y’u diwygiwyd gan reg

Rheol 85

Mae’n rhaid i chi BEIDIO â chario mwy nag un teithiwr piliwn sy’n GORFOD eistedd ar gefn y peiriant ar sedd iawn. Dylen nhw wynebu’r blaen â’r ddwy droed ar y stoliau troed. Mae’n rhaid i chi BEIDIO â chario teithiwr piliwn oni bai bod eich beic modur wedi’i ddylunio i wneud hynny. Mae’n rhaid i ddeiliaid trwydded dros dro BEIDIO â chario teithiwr piliwn.

Deddfau RTA 1988 sect 23, MV(DL)R reg 16(6) a CUR reg 102

Rheol 86

Seiclo mewn golau dydd. Gwnewch eich hun mor weladwy â phosibl o’r ochr yn ogystal â’r tu blaen a’r cefn. Gallech wisgo helmed lliw golau neu lachar a dillad neu stribedi fflworoleuol. Gall goleuadau wedi’u gostwng, hyd yn oed mewn golau dydd da, hefyd eich gwneud yn fwy amlwg. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol efallai na fydd gyrwyr cerbydau eraill wedi eich gweld o hyd, nac wedi amcangyfrif eich pellter neu gyflymder yn gywir, yn enwedig wrth gyffyrdd.

 Rheol 86: Helpwch eich hun i gael eich gweld

Rheol 86: Helpwch eich hun i gael eich gweld

Rheol 87

Seiclo yn y tywyllwch. Gwisgwch ddillad neu stribedi adlewyrchol i wella eich gwelededd yn y tywyllwch. Mae’r rhain yn adlewyrchu golau o flaenlampau cerbydau eraill, gan eich gwneud yn weladwy o bellter hirach. Gweler Rheol 113 i 116 ar gyfer gofynion goleuo.

Rheol 88

Symud. Dylech fod yn ymwybodol o’r hyn sydd tu ôl i chi ac wrth eich ymyl cyn symud. Edrychwch y tu ôl i chi; defnyddiwch ddrychau ôl os oes rhai wedi’u gosod. Pan fyddwch mewn ciw traffig, gwyliwch am gerddwyr sy’n croesi rhwng cerbydau a cherbydau sy’n dod allan o gyffyrdd neu’n newid lonydd. Gwnewch eich hun yn amlwg fel y gall gyrwyr o’ch blaen eich gweld yn eu drychau. Yn ogystal, wrth drylifo mewn traffig sy’n symud yn araf, byddwch yn ofalus a chadwch eich cyflymder yn isel.

Cofiwch: Sylwch – Rhowch arwydd – Symudwch