Rheolau, technegau a chyngor cyffredinol ar gyfer gyrwyr a beicwyr (103 i 158)

Signalau, gweithdrefnau stopio, goleuadau rheoli'r cerbyd, terfynau cyflymder, pellteroedd stopio, llinellau a marciau lonydd a ffyrdd aml-lôn, ysmygu, ffonau symudol a llywio â lloeren.

Dylai’r adran hon gael ei darllen gan holl yrwyr, beicwyr modur, beicwyr a marchogion. Nid yw’r rheolau yn Rheolau’r Ffordd Fawr yn rhoi’r hawl tramwy i chi mewn unrhyw amgylchiadau, ond maent yn eich cynghori pryd y dylech ildio i eraill. Ildiwch bob amser os gall helpu i osgoi digwyddiad.

Signalau (rheol 103 i 106)

Rheol 103

Mae rhoi signalau yn rhybuddio ac yn hysbysu defnyddwyr eraill y ffordd, gan gynnwys cerddwyr (gweler ‘Rhoi signalau i ddefnyddwyr ffyrdd eraill’), o’r camau yr ydych yn bwriadu eu cymryd. Dylech bob amser

  • roi signalau clir mewn digon o amser, ar ôl gwirio nad yw’n gamarweiniol rhoi signal ar yr adeg honno

  • rhoi signalau i gynghori defnyddwyr eraill y ffordd cyn newid llwybr neu gyfeiriad, stopio neu symud i ffwrdd

  • canslo’r signalau ar ôl eu defnyddio

  • gwneud yn siŵr na fydd eich signalau yn drysu pobl eraill. Os ydych, er enghraifft, am stopio ar ôl ffordd ymyl, peidiwch â rhoi signal nes eich bod yn pasio’r ffordd. Os ydych yn rhoi signal yn gynharach efallai y bydd yn rhoi’r argraff eich bod yn bwriadu troi i’r ffordd. Bydd eich goleuadau brêc yn rhybuddio traffig y tu ôl i chi eich bod yn arafu

  • defnyddiwch arwydd braich i bwysleisio neu atgyfnerthu eich signal os oes angen. Cofiwch nad yw rhoi signal yn rhoi blaenoriaeth i chi.

Rheol 104

Dylech hefyd

  • wylio am signalau a roddir gan ddefnyddwyr eraill y ffordd a mynd yn eich blaen dim ond pan fyddwch yn fodlon ei bod yn ddiogel

  • bod yn ymwybodol efallai na fydd dangosydd ar gerbyd arall wedi cael ei ganslo.

Rheol 105

Mae’n RHAID i chi ufuddhau i signalau a roddir gan swyddogion heddlu, swyddogion traffig, wardeiniaid traffig (gweler ‘Signalau gan bersonau awdurdodedig ac’) arwyddion a ddefnyddir gan hebryngwyr croesfannau ysgol.

Deddfau RTRA sect 28, RTA 1988 sect 35, TMA sect 6 a FTWO art 3

Rheol 106

Gweithdrefnau stopio’r heddlu. Os bydd yr heddlu am stopio eich cerbyd, byddant, lle bo’n bosibl, yn denu eich sylw drwy

  • fflachio goleuadau glas, priflampau neu ddefnyddio eu seiren neu gorn, fel arfer o’r tu ôl

  • eich cyfeirio i dynnu at yr ochr drwy bwyntio a/neu ddefnyddio’r dangosydd chwith.

Mae’n RHAID i chi wedyn dynnu i’r ochr a stopio cyn gynted ag y bo’n ddiogel i wneud hynny. Yna diffoddwch eich injan.

Y ddeddf RTA 1988 sect 163

Gweithdrefnau stopio eraill (rheol 107 i 112)

Rheol 107

Mae gan swyddogion yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau y pŵer i atal cerbydau ar yr holl ffyrdd, gan gynnwys traffyrdd a chefnffyrdd. Byddant yn denu eich sylw drwy fflachio goleuadau ambr

  • naill ai o’r tu blaen yn gofyn i chi eu dilyn i le diogel i stopio

  • neu o’r tu ôl yn eich cyfeirio i dynnu at yr ochr drwy bwyntio a/neu ddefnyddio’r dangosydd chwith.

Mae’n drosedd peidio â chydymffurfio â’u cyfarwyddiadau. Mae’n RHAID i chi ufuddhau i unrhyw signalau a roddir (gweler ‘Signalau gan bersonau awdurdodedig’).

Deddfau RTA 1988 sect 67, a PRA sect 41 a sched 5(8)

Rheol 108

Mae gan Swyddogion traffig bwerau i atal cerbydau ar y rhan fwyaf o draffyrdd a rhai ffyrdd dosbarth ‘A’, yng Nghymru a Lloegr. Os bydd swyddogion traffig mewn iwnifform am atal eich cerbyd ar sail diogelwch (e.e. llwyth anniogel), byddant, lle bo’n bosibl, yn denu eich sylw drwy

  • fflachio’r goleuadau ambr, o’r tu ôl fel arfer

  • eich cyfeirio i dynnu at yr ochr drwy bwyntio a/neu ddefnyddio’r dangosydd chwith.

Mae’n RHAID i chi wedyn dynnu i’r ochr a stopio cyn gynted ag y bo’n ddiogel i wneud hynny. Yna diffoddwch eich injan. Mae’n drosedd peidio â chydymffurfio â’u cyfarwyddiadau (gweler ‘Signalau gan bersonau awdurdodedig’).

Y ddeddf RTA 1988 sects 35 a 163 fel y’u diwygiwyd gan TMA sect 6

Rheol 109

Signalau goleuadau traffig ac arwyddion traffig. Mae’n RHAID i chi ufuddhau i bob signal goleuadau traffig (gweler ‘Signalau goleuadau sy’n rheoli traffig’) ac arwyddion traffig sy’n rhoi gorchmynion, gan gynnwys signalau ac arwyddion dros dro (gweler ‘Arwyddion traffig’). Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod, yn deall ac yn gweithredu ar yr holl arwyddion traffig a gwybodaeth a marciau ffyrdd eraill (gweler ‘Arwyddion traffig’, ‘Marciau ffyrdd’ a Marciau cerbydau’).

Deddfau RTA 1988 sect 36 a TSRGD schedule 3 part 4, schedule 9 parts 7 a 8, schedule 14 parts 1 a 5, schedule 7 part 6, schedule 15 part 1

Rheol 110

Fflachio priflampau Fflachiwch eich goleuadau dim ond i adael i ddefnyddwyr eraill y ffordd wybod eich bod yno. Peidiwch â fflachio eich priflampau i gyfleu unrhyw neges arall neu fygwth defnyddwyr eraill y ffordd.

Rheol 111

Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod rhywun yn fflachio priflampau yn arwydd i chi fwrw ymlaen. Defnyddiwch eich synnwyr cyffredin ac ewch ymlaen yn ofalus.

Rheol 112

Y corn Canwch gorn tra bod eich cerbyd yn symud yn unig ac mae angen i chi rybuddio defnyddwyr ffyrdd eraill o’ch presenoldeb. Peidiwch â chanu corn yn ymosodol. Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â chanu corn

  • tra’n llonydd ar y ffordd

  • wrth yrru mewn ardal adeiledig rhwng 11.30 yh a 7.00 yb

ac eithrio pan fo defnyddiwr ffordd arall yn achosi perygl.

Y ddeddf CUR reg 99

Gofynion goleuadau (rheol 113 i 116)

Rheol 113

Deddfau RVLR regs 3, 24 a 25 (Yn yr Alban - RTRA sect 82 (as amended by NRSWA, para 59 of sched 8))

RHAID i chi

  • sicrhau bod yr holl oleuadau ochr a’r goleuadau plât cofrestru cefn wedi’u goleuo rhwng machlud a chodiad haul
  • ddefnyddio prif oleuadau yn y nos, ac eithrio ar ffordd sydd â goleuadau stryd wedi’u goleuo. Yn gyffredinol, mae’r ffyrdd hyn wedi’u cyfyngu i derfyn cyflymder o 30 mya (48 km/awr), neu 20mya (32km/h) yng Nghymru, heblaw y nodir yn wahanol.
  • ddefnyddio prif oleuadau pan fydd y gwelededd wedi’i leihau’n ddifrifol (gweler Rheol 226).

Diffinnir nos (yr oriau o dywyllwch) fel y cyfnod rhwng hanner awr ar ôl machlud haul a hanner awr cyn codiad haul.

Cyfreithiau RVLR rheoliadau 3, 24 & 25 (Yn yr Alban – RTRA adran 82 (fel y diwygiwyd gan NRSWA, para 59 atodlen 8)), RR(20)O

Rheol 114

Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â

  • defnyddio unrhyw oleuadau mewn ffordd a fyddai’n dallu neu achosi anghysur i ddefnyddwyr eraill y ffordd, gan gynnwys cerddwyr, beicwyr a marchogion

  • defnyddio goleuadau niwl blaen neu gefn oni bai bod gwelededd yn cael ei leihau’n ddifrifol. Mae’n RHAID i chi eu diffodd pan fydd gwelededd yn gwella i osgoi dallu defnyddwyr ffyrdd eraill (gweler Rheol 226).

Mewn ciwiau llonydd o draffig, dylai gyrwyr ddefnyddio’r brêc parcio ac, unwaith y bydd y traffig dilynol wedi stopio, cymryd eu troed oddi ar y brêc troed i ddatgysylltu goleuadau brêc y cerbyd. Bydd hyn yn lleihau’r disgleirdeb i ddefnyddwyr y ffordd y tu ôl nes bod y traffig yn symud eto.

Y ddeddf RVLR reg 27

Rheol 115

Dylech hefyd

  • ddefnyddio goleuadau wedi’u gostwng, neu oleuadau gostwng gwannach os ydynt wedi’u gosod, yn y nos mewn ardaloedd adeiledig ac mewn tywydd diflas yn ystod y dydd, er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich gweld

  • cadw’r goleuadau wedi’u gostwng pan fyddwch yn goddiweddyd nes eich bod yn cyrraedd yr un lefel â’r cerbyd arall ac yna’n newid i brif oleuni os bydd angen, oni bai y byddai hyn yn dallu defnyddwyr y ffordd sy’n dynesu

  • arafu, a stopio os bydd angen, os byddwch yn cael eich dallu gan briflampau traffig sy’n dod atoch.

Rheol 116

Goleuadau rhybudd. Gellir defnyddio’r rhain pan fydd eich cerbyd yn llonydd, i rybuddio ei fod yn rhwystro traffig dros dro. Peidiwch â’u defnyddio fel esgus am barcio peryglus neu anghyfreithlon. Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â defnyddio goleuadau rhybudd wrth yrru neu gael eich llusgo oni bai eich bod ar draffordd neu ffordd ddeuol anghyfyngedig a bod angen i chi rybuddio gyrwyr y tu ôl i chi am berygl neu rwystr o’ch blaen. Dylech ond eu defnyddio’n ddigon hir i sicrhau bod eich rhybudd wedi’i arsylwi.

Y ddeddf RVLR reg 27

Rheoli’r cerbyd (rheol 117 i 126)

Brecio

Rheol 117

O dan amgylchiadau arferol. Y ffordd fwyaf diogel o frecio yw gwneud hynny’n gynnar ac yn ysgafn. Breciwch yn fwy cadarn wrth i chi ddechrau stopio. Tynnwch y pwysau oddi arno ychydig cyn i’r cerbyd ddod i orffwys er mwyn osgoi stop herciog.

Rheol 118

Mewn argyfwng. Breciwch ar unwaith. Ceisiwch osgoi brecio mor arw fel eich bod yn cloi eich olwynion. Gall olwynion wedi’u cloi arwain at golli rheolaeth.

Rheol 119

Sgidiau. Mae sgidio fel arfer yn cael ei achosi gan y gyrrwr yn brecio, cyflymu neu lywio’n rhy arw neu yrru’n rhy gyflym ar gyfer amodau’r ffordd. Os bydd sgidio’n digwydd, gwaredwch yr achos drwy ryddhau’r pedal brêc yn llawn neu dynnu oddi ar y cyflymydd. Trowch yr olwyn lywio i gyfeiriad y sgidio. Er enghraifft, os bydd y tu cefn i’r cerbyd yn sgidio i’r dde, llywiwch i’r dde ar unwaith i adfer.

 Rheol 119: Mae cefn y car yn sgidio i'r dde. Mae'r gyrrwr yn llywio i'r dde

Rheol 119: Mae cefn y car yn sgidio i'r dde. Mae'r gyrrwr yn llywio i'r dde

Rheol 120

ABS. Os yw’r cerbyd wedi’i osod â breciau gwrth-glo, dylech ddilyn y cyngor a roddir yn llawlyfr y cerbyd. Fodd bynnag, mewn achos argyfwng, gwasgwch y brêc troed yn gadarn; peidiwch â rhyddhau’r gwasgedd nes bod y cerbyd wedi arafu i’r cyflymder a ddymunir. Dylai’r ABS sicrhau bod rheolaeth lywio yn cael ei chadw, ond peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd cerbyd ag ABS yn stopio mewn pellter byrrach.

Rheol 121

Breciau wedi eu heffeithio gan ddŵr. Os ydych wedi gyrru trwy ddŵr dwfn efallai y bydd eich breciau yn llai effeithiol. Profwch nhw ar y cyfle diogel cyntaf trwy wthio’n ysgafn ar y pedal brêc i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio. Os nad ydyn nhw’n gwbl effeithiol, rhowch bwysau ysgafn wrth yrru’n araf. Bydd hyn yn helpu i’w sychu.

Rheol 122

Powlio. Mae’r term hwn yn disgrifio cerbyd sy’n teithio yn y gêr niwtral neu â’r clytsh wedi’i wasgu i lawr. Gall leihau rheolaeth gyrwyr oherwydd

  • caiff brecio’r injan ei ddileu

  • bydd cyflymder cerbyd i lawr rhiw yn cynyddu’n gyflym

  • gall mwy o ddefnydd o’r brêc troed leihau ei effeithiolrwydd

  • effeithir ar yr ymateb llywio, yn enwedig ar droeon a chorneli

  • gall fod yn anoddach dewis y gêr priodol pan fo angen.

Rheol 123

Y Gyrrwr a’r Amgylchedd. Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â gadael cerbyd sydd wedi’i barcio heb neb i ofalu amdano â’r injan yn rhedeg neu adael injan cerbyd yn rhedeg yn ddiangen tra bo’r cerbyd hwnnw’n llonydd ar ffordd gyhoeddus. Yn gyffredinol, os yw’r cerbyd yn llonydd ac yn debygol o barhau felly am fwy nag ychydig funudau, dylech ddefnyddio’r brêc parcio a diffodd yr injan i leihau allyriadau a llygredd sŵn. Fodd bynnag, caniateir gadael yr injan yn rhedeg os yw’r cerbyd yn llonydd mewn traffig neu ar gyfer canfod namau.

Y ddeddf CUR regs 98 a 107

Rheol 124

Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â theithio yn gyflymach na’r terfynau cyflymder uchaf ar gyfer y ffordd ac ar gyfer eich cerbyd (gweler y tabl isod). Mae terfyn cyflymder o 30 mya (48km yr awr), neu 20mya (32km yr awr) yng Nghymru, yn gymwys yn gyffredinol i bob ffordd â goleuadau stryd (ac eithrio traffyrdd) oni bai fod arwyddion yn dangos fel arall.

Terfynau cyflymder

Terfynau Cyflymder Ardaloedd adeiledig, Lloegr a’r Alban Ardaloedd adeiledig, Cymru Cerbydffyrdd sengl Ffyrdd deuol Traffyrdd
Math o gerbyd mya (km/a) mph (km/h) mya (km/a) mya (km/a) mya (km/a)
Ceir a beiciau modur (yn cynnwys faniau’n deillio o geir hyd at bwysau llwythog uchaf o 2 dunnell fetrig) 30 (48) 20 (32) 60 (96) 70 (112) 70 (112)
Ceir yn towio carafannau neu drelars (yn cynnwys faniau’n deillio o geir a beiciau modur) 30 (48) 20 (32) 50 (80) 60 (96) 60 (96)
Cartrefi modur neu garafannau modur (heb fod y tu hwnt i bwysau uchaf heb lwytho o 3.05 tunnell fetrig) 30 (48) 20 (32) 60 (96) 70 (112) 70 (112)
Cartrefi modur neu garafannau modur (heb fod y tru hwnt i bwysau uchaf heb lwytho o 3.05 tunnell fetrig) 30 (48) 20 (32) 60 (96) 70 (112) 70 (112)
Bysiau, bysiau moethus a bysiau mini (heb fod yn fwy na 12 metr mewn cyfanswm hyd) 30 (48) 20 (32) 50 (80) 60 (96) 70† (112)
Cerbydau nwyddau (heb fod yn fwy na pwysau llwythog mwyaf o 7.5 tunnell fetrig) 30 (48) 20 (32) 50 (80) 60 (96) 70†† (112)
Cerbydau nwyddau (dros 7.5 tunnell fetrig o bwysau llwythog uchaf) yng Nghymru a Lloegr 30 (48) 20 (32) 50 (80) 60 (96) 60 (96)
Cerbydau nwyddau (dros 7.5 tunnell fetrig o bwysau llwythog uchaf) yn yr Alban 30 (48) 20 (32) 40 (64) 50 (80) 60 (96)

† 60 mya (96 km/a) os yn fwy na 12 metr mewn cyfanswm hyd.

†† 60 mya (96 km/a) os yn gymalog neu’n towio trelar.

Ar gyfer terfynau cyflymder sy’n gymwys i fathau arbennig o gerbydau, fel cerbydau anarferol o fawr, gweler Darllen ychwanegol.

Gall terfynau cyflymder wedi’u gosod yn lleol fod yn gymwys, er enghraifft

  • 20 mya (32 km/a) mewn rhai ardaloedd adeiledig yn Lloegr a’r Alban
  • 30 mya (48 km/a) mewn rhai ardaloedd adeiledig yng Nghymru
  • 50 mya (80 km/a) ar gerbydffyrdd sengl â pheryglon hysbys
  • mae arwyddion terfyn cyflymder armrywiol yn cael eu defnyddio ar rai traffyrdd a ffyrdd deuol i newid uchafswm y terfyn cyflymder.

Mae terfynau cyflymder yn cael eu gorfodi gan yr heddlu.

Y ddeddf RTRA sects 81, 86, 89 a sched 6 fel y’u diwygiwyd gan MV(VSL)(E&W), RR(20)O

Rheol 124: Engreifftiau o orfodi cyflymder

Rheol 124: Engreifftiau o orfodi cyflymder

Rheol 125

Y terfyn cyflymder yw’r uchafswm absoliwt ac nid yw’n golygu ei bod yn ddiogel gyrru ar y cyflymder hwnnw beth bynnag y bo’r amodau. Mae cyflymder anniogel yn cynyddu’r cyfleoedd o achosi gwrthrawiad (neu fethu ag osgoi un), yn ogystal â’i ddifrifoldeb. Mae cyflymderau amhriodol hefyd yn fygythiol, yn atal pobl rhag cerdded, seiclo neu farchogaeth ceffylau. Mae gyrru ar gyflymder rhy gyflym i’r ffordd ac amodau traffig yn beryglus. Dylech bob amser leihau eich cyflymder os

  • bydd cynllun neu gyflwr y ffordd yn dangos peryglon, fel troadau

  • rhannu’r ffordd â cherddwyr, yn enwedig plant, oedolion hŷn neu bobl anabl, seiclwyr a marchogion, cerbydau wedi’u tynnu gan geffylau a beicwyr modur

  • bydd amodau’r tywydd yn ei gwneud yn fwy diogel i wneud hynny

  • byddwch chi’n gyrru yn y nos gan ei bod yn anoddach gweld defnyddwyr eraill y ffordd.

Rheol 126

Pellteroedd stopio. Gyrrwch ar gyflymder a fydd yn eich galluogi i stopio ymhell o fewn y pellter y gallwch ei weld yn glir. Dylech chi

  • adael digon o le rhyngoch chi a’r cerbyd o’ch blaen fel y gallwch stopio yn ddiogel os bydd yn arafu neu’n stopio yn sydyn. Y rheol ddiogel yw peidio â dod yn agosach na’r pellter stopio cyffredinol (gweler y diagram Pellter Stopio Safonol, a ddangosir uchod)

  • caniatáu bwlch o ddau eiliad o leiaf rhyngoch chi a’r cerbyd o’ch blaen ar ffyrdd cyflymder uchel ac mewn twnelau lle mae gweladwyedd wedi’i leihau. Dylai’r bwlch gael ei ddyblu o leiaf ar ffyrdd gwlyb a hyd at ddeg gwaith yn fwy ar ffyrdd rhewllyd

  • cofio bod angen mwy o bellter stopio ar gerbydau mawr a beiciau modur. Os byddwch chi’n gyrru cerbyd mawr mewn twnnel, dylech adael bwlch o bedair eiliad rhyngoch chi a’r cerbyd o’ch blaen.

Os oes rhaid i chi stopio mewn twnnel, gadewch fwlch o 5 metr o leiaf rhyngoch chi a’r cerbyd o’ch blaen.

Rheol 126: Defnyddiwch bwynt sefydlog i helpu mesur bwlch o ddwy eiliad

Rheol 126: Defnyddiwch bwynt sefydlog i helpu mesur bwlch o ddwy eiliad

Gyrru trwyn wrth gwt yw lle ma’r bwlch rhyngoch chi a’r cerbyd o’ch blaen yn rhy fach i chi allu stopio’n ddiogel os yw’r cerbyd o’ch blaen yn brecio’n sydyn.

Mae gyrru trwyn wrth gwt yn beryglus, bygythiol ac mae’n gallu achosi gwrthdrawiadau, yn enwedig wrth yrru ar gyflymder. Mae cadw pellter diogel o’r cerbyd o’ch blaen yn rhoi’r amser i chi adweithio a stopio os oes angen. Mae troseddau gyrru peryglus a diofal, megis gyrru trwyn wrth gwt, yn cael eu gorfodi gan yr heddlu.

Llinellau a marciau lonydd ar y ffordd (rheol 127 i 132)

Gweler ‘Marciau ffyrdd’ i weld diagramau o bob llinell.

Rheol 127

Llinell wen wedi ei thorri. Mae hwn yn nodi canol y ffordd. Pan fydd y llinell hon yn ymestyn a’r bylchau’n byrhau, mae’n golygu bod perygl o’ch blaen. Peidiwch â chroesi’r llinell oni bai eich bod yn gallu gweld y ffordd yn glir ac yn dymuno goddiweddyd neu droi oddi ar y ffordd.

Rheol 128

Llinellau gwyn dwbl lle mae’r llinell agosaf atoch wedi torri. Mae hyn yn golygu y gallwch groesi’r llinellau i oddiweddyd os yw’n ddiogel, ar yr amod y gallwch gwblhau’r symudiad cyn cyrraedd llinell wen solet ar eich ochr chi. Mae saethau cyfeiriadau gwyn ar y ffordd yn dangos bod angen i chi fynd yn ôl ar eich ochr chi o’r ffordd.

Rheol 129

Llinellau gwyn dwbl lle mae’r llinell agosaf atoch yn solet. Mae hyn yn golygu bod RHAID I CHI BEIDIO â chroesi na chrwydro’r llinellau oni bai ei bod yn ddiogel a bod angen i chi fynd i mewn i adeilad cyfagos neu ffordd ymyl. Gallwch groesi’r llinell os bydd angen, ar yr amod bod y ffordd yn glir, i basio cerbyd llonydd, neu i oddiweddyd beic, ceffyl neu gerbyd cynnal a chadw ffyrdd, os byddant yn teithio ar 10 mya (16 km/h) neu lai.

Deddfau RTA 1988 sect 36 a TSRGD schedule 9 part 8

Rheol 130

Streipiau croeslinol gwyn neu geibrau wedi’u paentio ar y ffordd. Ceir rhain i wahanu lonydd traffig neu i ddiogelu traffig yn troi i’r dde.

  • Os yw’r ardal wedi’i ffinio gan linell wen wedi’i thorri, ni ddylech fynd i mewn i’r ardal oni bai ei bod yn angenrheidiol a gallwch weld ei bod yn ddiogel i wneud hynny.

  • Os yw’r ardal wedi’i marcio â cheibrau ac wedi’i ffinio gan linellau gwyn solet, mae’n RHAID I CHI BEIDIO â mynd i mewn iddi ac eithrio mewn argyfwng.

Deddfau MT(E&W)R regs 5, 9, 10 a 16, MT(S)R regs 4, 8, 9 a 14, RTA 1988 sect 36 a TSRGD schedule 9 part 8

Rheol 131

Rhanwyr lonydd. Mae’r rhain yn llinellau byr, gwyn wedi’u torri sy’n cael eu defnyddio ar gerbydffyrdd llydan i’w rhannu’n lonydd. Dylech chi gadw rhyngddyn nhw.

Rheol 132

Gellir defnyddio stydiau ffyrdd adlewyrchol gyda llinellau gwyn.

  • Mae stydiau gwyn yn marcio’r lonydd neu ganol y ffordd.

  • Mae stydiau coch yn dangos ymyl chwith y ffordd.

  • Mae stydiau ambr yn dangos llain ganol ffordd ddeuol neu draffordd.

  • Mae stydiau gwyrdd yn dangos ymyl y briffordd wrth gilfannau a ffyrdd ymuno ac ymadael.

  • Mae stydiau gwyrdd/melyn yn dangos addasiadau dros dro i gynlluniau lonydd, e.e. lle mae gwaith ffyrdd yn digwydd.

Rheol 132: Mae stydiau ffordd adlewyrchol yn dangos y lonydd ac ymyl y gerbytffordd

Rheol 132: Mae stydiau ffordd adlewyrchol yn dangos y lonydd ac ymyl y gerbytffordd

Cerbydffyrdd aml lôn (rheol 133 i 143)

Rheolau lonydd

Rheol 133

Os oes angen i chi newid lôn, defnyddiwch eich drychau yn gyntaf ac, os oes angen, edrychwch i’r ochr i wneud yn siŵr na fyddwch yn gorfodi defnyddiwr ffordd arall i newid cyfeiriad neu gyflymder. Pan fydd yn ddiogel gwneud hynny, rhowch signal er mwyn dangos eich bwriad i ddefnyddwyr eraill y ffordd a phan fydd yn glir, symudwch drosodd.

Rheol 134

Dylech ddilyn yr arwyddion a’r marciau ffordd a symud i mewn i’r lôn fel y cyfarwyddir. Peidiwch â newid lonydd yn ddiangen mewn tagfeydd ar ffyrdd. Argymhellir cyfuno yn eich tro ond dim ond os yw’n ddiogel ac yn briodol pan fydd cerbydau’n teithio ar gyflymder isel iawn, e.e. wrth agosáu at waith ffyrdd neu ddigwyddiad traffig ar y ffordd. Ni argymhellir hyn ar gyflymder uchel.

Cerbydffyrdd sengl

Rheol 135

Pan fydd tair lôn ar gerbydffordd sengl ac nid yw’r marciau neu’r arwyddion ffordd yn rhoi blaenoriaeth i draffig yn y naill gyfeiriad neu’r llall

  • defnyddiwch y lôn ganol ar gyfer goddiweddyd neu droi i’r dde yn unig. Cofiwch, nid oes gennych fwy o hawl i ddefnyddio’r lôn ganol na gyrrwr sy’n dod o’r cyfeiriad arall

  • peidiwch â defnyddio’r lôn ar yr ochr dde.

Rheol 136

Pan fydd pedair lôn neu fwy ar gerbydffordd sengl, defnyddiwch y lonydd y mae arwyddion neu farciau yn eu dangos yn unig.

Ffyrdd deuol

Ffordd ddeuol yw lôn sydd â llain ganol i wahanu’r lonydd.

Rheol 137

Dylech aros yn y lôn ar y chwith ar ffordd ddeuol. Defnyddiwch y lôn ar yr ochr dde ar gyfer goddiweddyd neu droi i’r dde. Ar ôl goddiweddyd, symudwch yn ôl i’r lôn ar yr ochr chwith pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.

Rheol 138

Ar ffordd ddeuol, â thair lôn neu fwy, gallwch ddefnyddio’r lonydd canol neu’r lôn ar yr ochr dde i oddiweddyd ond dylech ddychwelyd i’r lonydd canol ac wedyn y lôn ar yr ochr chwith pan fydd yn ddiogel i wneud hynny.

Rheol 139

Lonydd dringo ac araf. Fe welwch rhain ar rai bryniau. Defnyddiwch y lonydd hyn os byddwch yn gyrru cerbyd sy’n symud yn araf neu os bydd cerbydau y tu ôl i chi sy’n dymuno goddiweddyd. Byddwch yn ymwybodol o’r arwyddion a’r marciau ffordd sy’n dangos bod y lôn ar fin dod i ben.

Rheol 140

Lonydd seiclo a thraciau seiclo. Mae lonydd seiclo yn cael eu dangos gan farciau ac arwyddion ffordd. Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â gyrru na pharcio mewn lôn seiclo wedi’i marcio gan linell wen solet yn ystod ei hamseroedd gweithredu. Peidiwch â gyrru na pharcio mewn lôn seiclo wedi’i marcio gan linell wen doredig oni bai nad yw’n bosibl osgoi hynny. Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â pharcio mewn unrhyw lôn seiclo tra bo cyfyngiadau aros yn gymwys.

Dylech ildio i unrhyw seiclwyr mewn lôn seiclo, gan gynnwys pan fyddant yn agosáu o’r tu ôl i chi – peidiwch â thorri ar eu traws pan fyddwch yn troi neu pan fyddwch yn newid lôn (gweler Rheol H3). Byddwch yn barod i stopio ac arhoswch am fwlch diogel yn llif y seiclwyr cyn croesi’r lôn seiclo.

Mae traciau seiclo yn llwybrau i seiclwyr sydd wedi’u diogelu’n gorfforol neu wedi’u lleoli i ffwrdd o draffig moduron, heblaw am pan fyddant yn croesi ffyrdd ochr. Gall traciau seiclo gael eu rhannu â cherddwyr.

Dylech ildio i seiclwyr sy’n agosáu neu’n defnyddio’r trac seiclo pan fyddwch yn troi i mewn i neu allan o gyffordd (gweler Rheol H3). Byddwch yn barod i stopio ac arhoswch am fwlch diogel yn llif y seiclwyr cyn croesi’r lôn feiciau, sy’n gallu cael ei defnyddio gan seiclwyr yn teithio i’r ddau gyfeiriad.

Cadwch mewn cof nad oes rhaid i seiclwyr ddefnyddio lonydd seiclo neu draciau seiclo.

Y ddeddf RTRA sects 5 a 8

Rheol 141

Lonydd bysiau. Dangosir y rhain ar farciau ac arwyddion ffyrdd sy’n dangos pa gerbydau (os unrhyw rai) sy’n cael defnyddio’r lôn fysiau. Oni nodir fel arall, ni ddylech yrru mewn lôn fysiau yn ystod y cyfnod y mae’n gweithredu. Gallwch fynd i mewn i lôn fysiau i stopio, llwytho neu ddadlwytho lle nad yw hyn yn waharddedig.

Rheol 142

Lonydd cerbydau â sawl teithiwr (HOV) a lonydd cerbydau dynodedig eraill. Gellir cyfyngu lonydd i’w defnyddio gan fathau penodol o gerbyd; gall y cyfyngiadau hyn fod yn gymwys weithiau neu drwy’r amser. Bydd yr amseroedd gweithredu a’r mathau o gerbydau yn cael eu nodi ar yr arwyddion traffig cysylltiedig. Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â gyrru mewn lonydd o’r fath yn ystod eu cyfnod gweithredu oni bai fod arwyddion yn dangos bod eich cerbyd yn cael defnyddio’r lôn (gweler ‘Arwyddion traffig’).

Gall cerbydau a ganiateir i ddefnyddio lonydd dynodedig gynnwys, neu beidio â chynnwys, beiciau, bysiau, tacsis, cerbydau hurio preifat trwyddedig, beiciau modur, cerbydau nwyddau trwm (HGVs) a cherbydau â sawl teithiwr (HOVs).

Pan fydd lonydd HOV yn weithredol, gallant DDIM OND CAEL eu defnyddio gan

  • gerbydau ag o leiaf y nifer isaf o bobl a nodir ar yr arwyddion traffig

  • unrhyw gerbydau eraill, megis bysiau a beiciau modur, fel y nodir ar arwyddion cyn dechrau’r lôn, faint bynnag o deithwyr sydd ynddynt.

Deddfau RTRA sects 5 a 8, a RTA 1988 sect 36

Rheol 143

Strydoedd unffordd. Mae’n RHAID i’r traffig deithio i’r cyfeiriad a nodir gan arwyddion. Mae’n bosibl y bydd gan fysiau a/neu feiciau lôn gwrthlif. Dewiswch y lôn gywir ar gyfer eich allanfa cyn gynted ag y gallwch. Peidiwch â newid lonydd yn sydyn. Oni bai fod arwyddion ffyrdd neu farciau’n dangos fel arall, dylech ddefnyddio

  • y lôn ar y chwith wrth fynd i’r chwith

  • y lôn ar yr ochr dde wrth fynd i’r dde

  • y lôn fwyaf priodol wrth fynd yn syth ymlaen. Cofiwch-gallai traffig fod yn pasio ar y ddwy ochr.

Deddfau RTA 1988 sect 36 a RTRA sects 5 a 8

Cyngor cyffredinol (rheol 144 i 158)

Rheol 144

Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â

  • gyrru’n beryglus

  • gyrru heb y gofal a’r sylw dyladwy

  • gyrru heb ystyriaeth resymol i ddefnyddwyr eraill y ffordd.

Mae gyrru yn gofyn am ffocws a sylw bob amser. Cofiwch, gallwch fod yn gyrru’n beryglus neu’n teithio’n rhy gyflym hyd yn oed os nad ydych chi’n bwriadu gwneud.

Y ddeddf fel y’i diwygiwyd gan a RTA 1988 sect 34

Y ddeddf RTA 1988 sects 2 a 3 fel y’i diwygiwyd gan RTA 1991

Rheol 145

Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â gyrru ar neu dros balmant, llwybr troed neu lwybr ceffyl ac eithrio i gael mynediad cyfreithlon i eiddo, neu mewn achos argyfwng.

Deddfau HA 1835 sect 72 a RTA 1988 sect 34

Rheol 146

Addaswch eich gyrru i’r math a’r cyflwr priodol o ffordd yr ydych chi arni. Yn benodol

  • peidiwch â thrin terfynau cyflymder fel targed. Yn aml, nid yw’n briodol nac yn ddiogel gyrru ar y terfyn cyflymder uchaf

  • ystyriwch y ffordd a’r amodau traffig. Byddwch yn barod ar gyfer sefyllfaoedd annisgwyl neu anodd, er enghraifft, y ffordd yn cael ei blocio y tu hwnt i dro dall. Byddwch yn barod i addasu eich cyflymder fel rhagofal

  • ble mae cyffyrdd, byddwch yn barod ar gyfer defnyddwyr ffyrdd yn dod i’r amlwg

  • edrychwch am gyffyrdd heb eu marcio mewn ffyrdd ymyl a lonydd cefn gwlad lle nad oes gan neb flaenoriaeth

  • byddwch yn barod i stopio mewn systemau rheoli traffig, gwaith ffyrdd, croesfannau i gerddwyr neu oleuadau traffig os bydd angen

  • ceisiwch ragweld beth y gallai cerddwyr a beicwyr ei wneud. Os bydd cerddwyr, yn enwedig plant, yn edrych y ffordd arall, efallai y byddant yn camu allan i’r ffordd heb eich gweld.

Rheol 147

Byddwch yn ystyriol. Byddwch yn ofalus ac ystyriol tuag at bob math o ddefnyddwyr y ffordd, yn enwedig y rhai sydd angen sylw ychwanegol (gweler Rheol 204).

  • mae’n RHAID I CHI BEIDIO â thaflu unrhywbeth allan o gerbyd; er enghraifft, deunydd pecynnu bwyd neu fwyd, bonion sigaréts, caniau, papur neu fagiau siopa. Gall hyn beryglu defnyddwyr eraill y ffordd, yn enwedig beicwyr modur a beicwyr.

  • ceisiwch fod yn amyneddgar os bydd defnyddwyr eraill y ffyrdd yn achosi problemau; mae’n bosib eu bod yn ddibrofiad neu yn anghyfarwydd â’r ardal.

  • byddwch yn amyneddgar; cofiwch y gall unrhyw un wneud camgymeriad.

  • peidiwch â gadael i’ch hun gynhyrfu na chymryd rhan os bydd rhywun yn ymddwyn yn wael ar y ffordd. Bydd hyn ond yn gwneud y sefyllfa’n waeth. Tynnwch i ochr y ffordd, gan bwyll a, phan fyddwch chi wedi ymlacio, parhewch â’ch taith.

  • arafwch a daliwch yn ôl os bydd defnyddiwr ffordd yn tynnu allan i’ch llwybr wrth gyffordd. Gadewch iddynt gael lle clir. Peidiwch â gorymateb drwy yrru’n rhy agos i’w dychryn.

Y ddeddf EPA sect 87

Rheol 148

Mae angen canolbwyntio er mwyn gyrru a marchogaeth yn ddiogel. Osgowch wrthdyniadau wrth yrru neu farchogaeth fel

  • cerddoriaeth uchel (gall hyn guddio synau eraill)

  • ceisio darllen mapiau

  • dechrau neu addasu unrhyw gerddoriaeth neu radio

  • dadlau â’ch teithwyr neu ddefnyddwyr ffyrdd eraill

  • bwyta ac yfed

  • ysmygu

Mae’n RHAID I CHI BEIDIO ag ysmygu mewn cerbydau trafnidiaeth gyhoeddus neu mewn cerbydau sy’n cael eu defnyddio at ddibenion gwaith mewn rhai amgylchiadau penodol. Mae rheoliadau gwahanol yn gymwys i Gymru, Lloegr a’r Alban. Yng Nghymru a Lloegr, mae’n rhaid i’r gyrrwr BEIDIO ag ysmygu neu ganiatáu i unrhyw un ysmygu mewn cerbyd preifat caeedig sy’n cludo rhywun o dan 18 oed, gan gynnwys carafannau modur. Mae’n drosedd yn Yr Alban i unrhyw un sy’n 18 oed neu’n hŷn ysmygu mewn cerbyd modur preifat (oni bai ei fod wedi’i barcio ac yn cael ei ddefnyddio fel llety byw) pan fydd rhywun o dan 18 yn y cerbyd ac mae’r cerbyd mewn man cyhoeddus.

Deddfau TSf(EV)R, TSfP(W)R, TPSCP(S)R, S-f(PV)R, S-f(W)R a SP(CIMV)(S)A

Ffonau symudol a thechnoleg mewn cerbydau

Rheol 149

Mae’n RHAID i chi ymarfer rheolaeth gywir o’ch cerbyd bob amser. Mae’n RHAID I CHI BEIDIO a defnyddio ffôn symudol wedi’i ddal â llaw, neu ddyfais debyg, sy’n gallu cyfathrebu’n rhyngweithiol (megis llechen) at unrhyw ddiben wrth yrru neu wrth oruchwylio dysgwr o yrrwr. Mae’r gwaharddiad hwn yn cwmpasu pob defnydd o ddyfais cyfathrebu rhyngweithiol wedi’i dal â llaw ac mae’n gymwys hyd yn oed pan fydd y gallu cyfathrebu rhyngweithiol wedi’i ddiffodd neu ddim ar gael. Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â chodi’r ffôn neu ddyfais debyg wrth yrru i ddeialu rhif ac yna ei rhoi yn y crud am hyd y sgwrs. Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â chodi a defnyddio’ch ffôn wedi’i ddal â llaw neu ddyfais debyg tra’n llonydd mewn traffig.

Mae eithriad i alw 999 neu 112 mewn argyfwng gwirioneddol pan nad yw’n ddiogel neu’n anymarferol i stopio. Mae eithriad hefyd os ydych chi’n defnyddio ffôn symudol wedi’i ddal â llaw neu ddyfais debyg i wneud taliad digyswllt mewn terfynell talu digyswllt. Mae’n RHAID i’ch cerbyd fod yn llonydd, ac mae’n RHAID i’r nwyddau neu wasanaethau gael eu derbyn ar yr un pryd â, neu ar ôl, y taliad digyswllt.

Peidiwch byth â defnyddio microffôn wedi’i ddal a llaw wrth yrru. Mae defnyddio cyfarpar heb ddwylo hefyd yn debygol o dynnu eich sylw oddi ar y ffordd. Mae’n ddiogelach o lawer i beidio â defnyddio unrhyw deleffon neu ddyfais debyg tra’ch bod yn gyrru neu reidio - dewch o hyd i le diogel i stopio yn gyntaf neu defnyddiwch eich cyfleuster lleisbost a gwrandewch ar y negeseuon yn ddiweddarach.

Gallwch barcio eich cerbyd gan ddefnyddio ap neu ddyfais rheoli a ddelir â llaw. Mae’n RHAID i’r ap neu’r ddyfais fod yn gyfreithlon, ac ni ddylech roi pobl eraill mewn perygl pan fyddwch yn ei ddefnyddio.

Deddfau RTA 1988 sects 2 & 3, a CUR regs 104 a 110

Rheol 150

Mae perygl y caiff sylw gyrwyr eu gwrthdynnu gan systemau mewn cerbydau megis systemau llywio â lloeren, systemau rhybuddio am dagfeydd, cyfrifiaduron personol, systemau amlgyfrwng, ac ati.Mae’n RHAID I CHI arfer rheolaeth briodol o’ch cerbyd ar bob adeg. Peidiwch â dibynnu ar systemau cymorth gyrwyr megis cymorth traffordd, rhybuddion gadael lonydd, neu barcio rheoli o bell. Maent ar gael i helpu ond ni ddylech leihau eich lefelau canolbwyntio. Peidiwch â chael eich sylw wedi’i dynnu gan fapiau neu wybodaeth ar sgrin (megis systemau llywio neu reoli cerbydau) wrth yrru neu reidio. Os oes angen, chwiliwch am le diogel i stopio.

Fel y gyrrwr, rydych chi’n dal yn gyfrifol am y cerbyd os ydych chi’n defnyddio system cymorth i yrwyr (fel cymorth traffordd). Mae hyn hefyd yn wir os ydych yn defnyddio ap neu ddyfais parcio rheolaeth o bell a ddelir â llaw. Mae’n RHAID i chi gael rheolaeth lawn dros y systemau hyn bob amser.

Deddfau RTA 1988 sects 2 & 3, a CUR reg 104 a 110

Rheol 151

Mewn traffig sy’n symud yn araf. Dylech

  • leihau’r pellter rhyngoch chi a’r cerbyd o’ch blaen i gynnal llif y traffig

  • peidio â mynd mor agos at y cerbyd o’ch blaen fel na allwch chi stopio’n ddiogel

  • gadael digon o le i allu symud os bydd y cerbyd o’ch blaen yn torri lawr neu os bydd angen i gerbyd brys fynd heibio

  • peidio â newid lonydd i’r chwith i oddiweddyd

  • caniatáu mynediad i ac o ffyrdd ymyl, gan y bydd blocio’r rhain yn ychwanegu at dagfeydd

  • caniatewch i gerddwyr a seiclwyr groesi o’ch blaen chi

  • bod yn ymwybodol o feicwyr a beicwyr modur a all fod yn pasio ar y naill ochr neu’r llall.

Rheol 151: Peidiwch â rhwystro mynediad i ffordd ymyl

Rheol 151: Peidiwch â rhwystro mynediad i ffordd ymyl

Gyrru mewn ardaloedd adeiledig

Rheol 152

Strydoedd preswyl. Dylech yrru’n araf ac yn ofalus ar strydoedd lle mae’n debygol y bydd cerddwyr, beicwyr a cheir wedi’u parcio. Gall terfyn cyflymder uchaf o 20 mya (32 km/h) fod mewn grym mewn rhai ardaloedd. Cadwch olwg am

  • gerbydau sy’n dod allan o gyffyrdd neu dramwyfeydd

  • cerbydau yn symud i ffwrdd

  • drysau ceir yn agor

  • cerddwyr

  • plant yn rhedeg allan rhwng ceir wedi’u parcio

  • beicwyr a beicwyr modur.

Rheol 153

Mesurau gostegu traffig. Ar rai ffyrdd mae mesurau megis twmpathau ffyrdd, rhwystrau igam-ogamu a chulhau y bwriedir iddynt eich arafu. Pan fyddwch chi’n agosau at y mesurau hyn, dylech arafu eich cyflymder. Rhowch le i feicwyr a beicwyr modur basio drwyddynt. Cadwch gyflymdra arafach ar hyd darn cyfan y ffordd o fewn y mesurau gostegu. Ildiwch i ddefnyddwyr y ffordd sy’n dod tuag atoch os cânt eu cyfarwyddo i wneud hynny gan arwyddion. Ni ddylech oddiweddyd defnyddwyr ffyrdd eraill sy’n symud os byddwch yn yr ardaloedd hyn.

Rheol 153: Gellir defnyddio rhwystrau igam-ogamu i arafu traffig

Rheol 153: Gellir defnyddio rhwystrau igam-ogamu i arafu traffig

Ffyrdd gwledig

Rheol 154

Cymerwch ofal ychwanegol ar ffyrdd gwledig a lleihewch eich cyflymder wrth ddynesu at droeon, sy’n gallu bod yn fwy siarp nag y maent yn ymddangos, ac wrth gyffyrdd a throeon, a all fod yn rhannol gudd. Byddwch yn barod ar gyfer cerddwyr, marchogion, beicwyr,cerbydau fferm sy’n symud yn araf neu fwd ar wyneb y ffordd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu stopio o fewn y pellter y gallwch ei weld ei fod yn glir. Dylech hefyd leihau eich cyflymder lle mae ffyrdd gwledig yn mynd i mewn i bentrefi.

Rheol 155

Ffyrdd trac sengl. Mae’r rhain ond yn ddigon llydan ar gyfer un cerbyd. Efallai bod ganddynt leoedd pasio penodol. Os ydych chi’n gweld cerbyd yn dod tuag atoch chi, neu fod y gyrrwr y tu ôl i chi am oddiweddyd, tynnwch i mewn i le pasio ar eich chwith, neu arhoswch gyferbyn â lle pasio ar y dde. Ildiwch i ddefnyddwyr ffyrdd sy’n dod i fyny allt pryd bynnag y gallwch. Os bydd angen, baciwch nes i chi gyrraedd man pasio er mwyn gadael i’r cerbyd arall basio. Arafwch wrth fynd heibio i gerddwyr, beicwyr a marchogion.

Rheol 156

Peidiwch â pharcio mewn mannau pasio.

Cerbydau wedi’u gwahardd rhag defnyddio ffyrdd a phalmentydd

Rheol 157

Nid yw rhai cerbydau modur yn bodloni’r gofynion adeiladwaith a thechnegol ar gyfer cerbydau ffyrdd ac fel arfer nid ydynt wedi’u cynllunio yn addas na chyfreithlon ar gyfer ffyrdd, palmentydd, llwybrau troed, llwybrau beicio neu lwybrau marchogaeth. Mae’r rhain yn cynnwys y rhan fwyaf o fathau o feiciau modur bychain, a elwir hefyd yn motos bach, a sgwteri modur, a elwir hefyd yn go peds, sy’n cael eu pweru gan beiriannau hylosgi trydan neu fewnol. Mae’n rhaid i’r mathau hyn o gerbydau BEIDIO â chael eu defnyddio ar ffyrdd, palmentydd, llwybrau troed neu lwybrau ceffylau.

Deddfau RTA 1988 sects 34, 41a, 42, 47, 63 a 66, HA 1835 sect 72 a R(S)A sect 129

Rheol 158

Mae rhai modelau o feiciau modur, beiciau tair olwyn a beiciau cwad yn addas i’w defnyddio oddi ar y ffordd yn unig ac nid ydynt yn bodloni’r safonau cyfreithiol ar gyfer eu defnyddio ar ffyrdd. Mae’n rhaid i’r cerbydau sydd ddim yn bodloni’r safonau hyn BEIDIO â chael eu defnyddio ar ffyrdd. Mae’n RHAID IDDYNT BEIDIO â chael eu defnyddio ar balmentydd, llwybrau troed, llwybrau beicio neu lwybrau ceffylau hefyd. Mae’n RHAID i chi wneud yn siŵr bod unrhyw feic modur, beic tair olwyn modur, beic cwad neu unrhyw gerbyd modur arall yn bodloni safonau cyfreithiol ac yn cael ei gofrestru, ei drethu a’i yswirio’n briodol cyn ei ddefnyddio ar y ffyrdd. Hyd yn oed pan fyddant wedi’u cofrestru, eu trethu a’u hyswirio ar gyfer y ffordd, mae’n rhaid i gerbydau BEIDIO â chael eu defnyddio ar balmentydd.

Deddfau RTA 1988 sects 34, 41a, 42, 47, 63, 66 a 156, HA 1835 sect 72, R(S)A sect 129, a VERA sects 1, 29, 31A a 43A