Marciau ffyrdd

Marciau ffyrdd a ddefnyddir, gan gynnwys y rhai ar draws y gerbydffordd, ar hyd y gerbydffordd, wrth ymyl y gerbydffordd, ar y cwrb neu ar ymyl y gerbydffordd a marciau ffyrdd eraill.

Ar draws y gerbydffordd

Llinell stop ar signalau neu reolaeth yr heddlu

Llinell stop ar signalau neu reolaeth yr heddlu

Llinell stop wrth arwydd 'Stopiwch'

Llinell stop wrth arwydd 'Stopiwch'

Llinell stop ar gyfer cerddwyr wrth groesfan wastad

Llinell stop ar gyfer cerddwyr wrth groesfan wastad

Ildiwch i draffig ar y ffordd fawr (gellir ei ddefnyddio hefyd ar gylchfannau bach)

Ildiwch i draffig ar y ffordd fawr (gellir ei ddefnyddio hefyd ar gylchfannau bach)

Ildiwch i draffig o'r dde wrth gylchfan Ildiwch i draffig o'r dde wrth gylchfan

Ildiwch i draffig o'r dde wrth gylchfan Ildiwch i draffig o'r dde wrth gylchfan

Ildiwch i draffig o'r dde wrth gylchfan ac Ildiwch i draffig o'r dde wrth gylchfan fach

Ildiwch i draffig o'r dde wrth gylchfan ac Ildiwch i draffig o'r dde wrth gylchfan fach

Ar hyd y gerbydffordd

Llinell ymyl

Llinell ymyl

 Llinell ganol Gweler Rheol 127

Llinell ganol Gweler Rheol 127

Llinell rhybudd Gweler Rheol 127

Llinell rhybudd Gweler Rheol 127

 Llinellau gwyn dwbl Gweler Rheol 128 a 129

Llinellau gwyn dwbl Gweler Rheol 128 a 129

Llinellau gwyn dwbl Gweler Rheol 128 a 129

Llinellau gwyn dwbl Gweler Rheol 128 a 129

Gweler Rheol 130

Gweler Rheol 130

Llinell lôn Gweler Rheol 131

Llinell lôn Gweler Rheol 131

Ar hyd ymyl y gerbytffordd

Cyfyngiadau aros

Mae’r cyfyngiadau aros a ddangosir gan linellau melyn yn berthnasol i gerbydffyrdd, palmentydd a’r ymylon. Gallwch stopio i lwytho neu ddadlwytho (oni bai bod cyfyngiadau llwytho fel y disgrifir isod) neu pan fydd teithwyr yn mynd i mewn i gerbyd neu’n dod allan o gerbyd. Mae llinellau melyn dwbl yn golygu dim aros ar unrhyw adeg, oni bai bod arwyddion sy’n nodi cyfyngiadau tymhorol yn benodol. Mae’r amseroedd y mae’r cyfyngiadau yn berthnasol ar gyfer marciau ffyrdd eraill i’w gweld ar blatiau gerllaw neu ar arwyddion mynediad i barthau parcio rheoledig. Os na ddangosir unrhyw ddiwrnodau ar yr arwyddion, mae’r cyfyngiadau mewn grym bob dydd gan gynnwys dyddiau Sul a gwyliau banc.

Mae marciau cilfachau gwyn ac arwyddion unionsyth (gweler isod) yn nodi lle caniateir parcio.

Dim aros ar unrhyw adeg

Dim aros ar unrhyw adeg

Dim aros yn ystod amseroedd a ddangosir ar arwydd

Dim aros yn ystod amseroedd a ddangosir ar arwydd

Mae aros yn gyfyngedig i'r amser a nodir yn ystod y diwrnodau a'r amseroedd a ddangosir

Mae aros yn gyfyngedig i'r amser a nodir yn ystod y diwrnodau a'r amseroedd a ddangosir

Rheolaethau stopio llwybrau coch

Defnyddir llinellau coch ar rai ffyrdd yn lle llinellau melyn. Mae’r llinellau coch dwbl a sengl a ddefnyddir ar lwybrau coch yn dangos bod stopio i barcio, llwytho/dadlwytho neu i fynd i mewn i gerbyd neu ddod allan o gerbyd (ac eithrio tacsi trwyddedig neu os oes gennych Fathodyn Glas) wedi’i wahardd. Mae’r llinellau coch yn berthnasol i gerbydffyrdd, palmentydd a’r ymylon. Mae’r amseroedd y mae gwaharddiadau’r llinell goch yn berthnasol i’w gweld ar arwyddion cyfagos, ond mae’r llinell goch ddwbl BOB AMSER yn golygu dim stopio ar unrhyw adeg. Ar lwybrau coch, gallwch stopio i barcio, llwytho/dadlwytho mewn blychau sydd wedi’u marcio’n arbennig ac mae arwyddion cyfagos yn nodi’r amserau a’r dibenion a’r amser a ganiateir. Mae blwch WEDI’I FARCIO MEWN COCH yn dangos efallai dim ond at y diben a bennir am ran o’r diwrnod y gall fod ar gael (e.e. rhwng cyfnodau prysur). Mae blwch WEDI’I FARCIO MEWN GWYN yn golygu ei fod ar gael drwy’r dydd.

DIM OND CANLLAW I’R CYFYNGIADAU A’R RHEOLAETHAU SYDD MEWN GRYM Y GALL Y LLINELLAU MELYN A CHOCH UNIGOL EU RHOI, AC MAE’N RHAID YMGYNGHORI AG ARWYDDION, GERLLAW NEU AR FYNEDIAD I BARTH.

Dim stopio ar unrhyw adeg

Dim stopio ar unrhyw adeg

Dim stopio yn ystod amseroedd a ddangosir ar arwydd

Dim stopio yn ystod amseroedd a ddangosir ar arwydd

Mae parcio yn gyfyngedig i'r amser a nodir yn ystod y dyddiau a'r amseroedd a ddangosir

Mae parcio yn gyfyngedig i'r amser a nodir yn ystod y dyddiau a'r amseroedd a ddangosir

Mae llwytho ond yn gallu digwydd ar yr amseroedd a ddangosir am hyd at 20 munud ar y mwyaf

Mae llwytho ond yn gallu digwydd ar yr amseroedd a ddangosir am hyd at 20 munud ar y mwyaf

Ar y cwrb neu ar ymyl y gerbydffordd

Cyfyngiadau llwytho ar ffyrdd nad ydynt yn Llwybrau Coch

Mae marciau melyn ar y cwrb neu ar ymyl y gerbydffordd yn dangos y gwaherddir llwytho neu ddadlwytho ar yr adegau a ddangosir ar y platiau du a gwyn cyfagos. Gallwch stopio wrth i deithwyr fynd i mewn i gerbyd neu ddod allan o gerbyd. Os na nodir unrhyw ddiwrnodau ar yr arwyddion, mae’r cyfyngiadau mewn grym bob dydd gan gynnwys dyddiau Sul a gwyliau banc.

DYLECH BOB AMSER WIRIO’R AMSEROEDD A DDANGOSIR AR Y PLATIAU.

Nodir darnau o’r ffordd sydd wedi’u neilltuo ar gyfer cerbydau yn llwytho a dadlwytho gan farc ‘cilfach’ gwyn â’r geiriau ‘Llwytho yn unig’ ac arwydd â’r symbol ‘troli’ gwyn ar las. Mae’r arwydd hwn hefyd yn dangos a yw llwytho a dadlwytho yn gyfyngedig i gerbydau nwyddau a’r amseroedd y gellir defnyddio’r gilfach. Os na ddangosir unrhyw amserau neu ddiwrnodau, gellir ei ddefnyddio ar unrhyw adeg. Ni chaiff cerbydau barcio yma os nad ydynt yn llwytho nac yn dadlwytho.

Dim llwytho na dadlwytho ar unrhyw adeg

Dim llwytho na dadlwytho ar unrhyw adeg

Dim llwytho na dadlwytho ar yr adegau a ddangosir

Dim llwytho na dadlwytho ar yr adegau a ddangosir

Cilfach lwytho

Cilfach lwytho Cilfach lwytho

Marciau ffyrdd eraill

Cadwch y fynedfa'n glir o gerbydau llonydd, hyd yn oed os byddwch yn casglu neu'n gollwng plant

Cadwch y fynedfa'n glir o gerbydau llonydd, hyd yn oed os byddwch yn casglu neu'n gollwng plant

Rhybudd am arwydd 'Ildiwch' ychydig o'ch blaen

Rhybudd am arwydd 'Ildiwch' ychydig o'ch blaen

Lle parcio wedi'i neilltuo ar gyfer cerbydau a enwir

Lle parcio wedi'i neilltuo ar gyfer cerbydau a enwir

Gweler Rheol 243

Gweler Rheol 243

Gweler Rheol 141

Gweler Rheol 141

 Cyffordd sgwâr - Gweler Rheol 174

Cyffordd sgwâr - Gweler Rheol 174

Peidiwch â blocio'r rhan honno o'r gerbydffordd a nodir

Peidiwch â blocio'r rhan honno o'r gerbydffordd a nodir

Arwydd o lonydd traffig

Arwydd o lonydd traffig