Defnyddio'r ffordd (159 i 203)

Rheolau ar gyfer defnyddio'r ffordd, gan gynnwys rheolau cyffredinol, goddiweddyd, cyffyrdd, cylchfannau, croesfannau i gerddwyr a bacio.

Rheolau cyffredinol (rheol 159 i 161)

Rheol 159

Cyn symud i ffwrdd dylech

  • ddefnyddio pob drych i wirio bod y ffordd yn glir

  • edrych o gwmpas i wirio’r mannau dall (y lleoedd nad ydych yn gallu eu gweld yn y drychau)

  • rhoi signal os bydd angen cyn symud allan

  • edrych o gwmpas unwaith eto fel gwiriad terfynol.

Symudwch i ffwrdd dim ond pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.

Rheol 159: Gwiriwch y man dall cyn symud i ffwrdd

Rheol 159: Gwiriwch y man dall cyn symud i ffwrdd

Rheol 160

Unwaith y byddwch yn symud dylech

  • gadw i’r chwith, oni bai bod arwyddion neu farciau ffyrdd yn nodi fel arall. Mae eithriadau i hyn yn cynnwys pan fyddwch am oddiweddyd, troi i’r dde neu basio cerbydau sydd wedi’u parcio neu gerddwyr yn y ffordd

  • cadw’n agos i’r chwith ar droadau i’r ochr dde. Bydd hyn yn gwella eich golwg o’r ffordd ac yn helpu i osgoi’r risg o wrthdaro â thraffig sy’n agosáu o’r cyfeiriad arall

  • gyrru neu reidio â’r ddwy law ar yr olwyn neu’r carn lle bo’n bosibl. Bydd hyn yn eich helpu i gadw rheolaeth lawn dros y cerbyd bob amser. Gallwch ddefnyddio systemau cymorth gyrwyr pan fyddwch yn gyrru. Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio unrhyw system yn ôl cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr.

  • bod yn ymwybodol o ddefnyddwyr eraill y ffordd, yn enwedig beiciau a beiciau modur a all fod yn hidlo drwy’r traffig. Mae’n anoddach gweld y defnyddwyr ffyrdd hyn na cherbydau mwy ac mae eu beicwyr yn fregus iawn. Rhowch ddigon o le iddyn nhw, yn enwedig os byddwch chi’n gyrru cerbyd hir neu’n tynnu trelar. Dylech ildio i seiclwyr pan fyddwch yn newid cyfeiriad neu lôn - peidiwch â thorri ar eu traws.

  • dewis gêr is cyn i chi gyrraedd llethr hir iawn ar i lawr. Bydd hyn yn helpu i reoli eich cyflymder

  • wrth lusgo, cofiwch y bydd yr hyd ychwanegol yn effeithio ar oddiweddyd a manwfro. Bydd y pwysau ychwanegol hefyd yn effeithio ar y brecio a chyflymu.

Rheol 161

Drychau. Dylid defnyddio pob drych yn effeithiol drwy gydol eich taith. Dylech chi

  • ddefnyddio eich drychau yn aml fel eich bod bob amser yn gwybod beth sydd y tu ôl i chi ac i bob ochr i chi

  • defnyddio’r drychau mewn da bryd cyn i chi roi signal neu newid cyfeiriad neu gyflymder

  • bod yn ymwybodol nad yw drychau yn dangos pob man ac y bydd rhai mannau dall.

Bydd angen i chi edrych o’ch cwmpas a gwirio.

Cofiwch: Drychau – Rhowch signal – Symudwch

Goddiweddyd (rheol 162 i 169)

Rheol 162

Cyn goddiweddyd dylech sicrhau’r canlynol

  • mae’r ffordd o’ch blaen yn ddigon clir

  • nid yw defnyddwyr y ffordd yn dechrau eich goddiweddyd

  • mae bwlch addas o flaen defnyddiwr y ffordd yr ydych yn bwriadu ei oddiweddyd.

Rheol 163

Dylech ond goddiweddyd pan fydd yn ddiogel ac yn gyfreithlon i wneud hynny. Dylech chi

  • beidio â mynd yn rhy agos at y cerbyd y bwriadwch ei oddiweddyd

  • defnyddio eich drychau, rhoi signalau pan fydd yn ddiogel i wneud hynny, edrych i’r ochr yn y man dall yn gyflym os bydd angen ac yna dechrau symud

  • peidio â chymryd yn ganiataol y gallwch ddilyn cerbyd sydd o’ch blaen sy’n goddiweddyd; efallai y bydd ond digon o le i un cerbyd

  • symud yn gyflym heibio’r cerbyd yr ydych yn ei oddiweddyd, unwaith y byddwch wedi dechrau goddiweddyd. Gadewch ddigon o le. Symudwch yn ôl i’r chwith cyn gynted ag y gallwch ond peidiwch â thorri i mewn

  • cymryd gofal ychwanegol yn y nos ac mewn gwelededd gwael pan mae’n anoddach amcangyfrif cyflymder a phellter

  • ildio i gerbydau sy’n dod tuag atoch cyn mynd heibio i gerbydau sydd wedi’u parcio neu rwystrau eraill ar eich ochr chi o’r ffordd

  • goddiweddyd ar y chwith yn unig os bydd y cerbyd o’ch blaen yn rhoi signal i droi i’r dde, ac mae lle i wneud hynny

  • aros yn eich lôn os bydd y traffig yn symud yn araf mewn ciwiau. Os bydd y ciw ar eich dde yn symud yn arafach na chi, gallwch basio ar y chwith

  • rhoi yr un maint o le i feicwyr modur, beicwyr a marchogion ceffylau ag y byddech chi’n ei roi wrth oddiweddyd car (gweler Rheol 211 i 215). Fel canllaw:

  • gadewch o leiaf 1.5 metr wrth oddiweddyd seiclwyr ar gyflymderau o hyd at 30mya, a rhowch ragor o ofod iddynt wrth oddiweddyd ar gyflymderau uwch

  • ewch heibio i farchogion a cherbydau wedi’u tynnu gan geffylau ar gyflymderau o dan 10 mya a chaniatewch o leiaf 2 metr o ofod

  • caniatewch o leiaf 2 metr o ofod a chadwch at gyflymder isel wrth fynd heibio i gerddwr sy’n cerdded yn y ffordd (er enghraifft, pan nad oes palmant)

  • cymerwch ofal ychwanegol a ragor fwy o ofod wrth oddiweddyd beicwyr modur, marchogion, cerbydau wedi’u tynnu gan geffylau a cherddwyr mewn tywydd gwael (gan gynnwys gwyntoedd cryf) ac yn y nos

  • dylech aros y tu ôl i’r beiciwr modur, marchog, cerbyd wedi’i dynnu gan geffyl neu gerddwr a pheidio â goddiweddyd os nad yw’n ddiogel neu nad yw’n bosibl i fynd heibio iddynt.

Cofiwch: Drychau – Rhowch signal – Symudwch

Rheol 163: Rhowch yr un maint o le i ddefnyddwyr ffyrdd bregus ag y byddech chi'n ei roi i gar

Rheol 163: Rhowch yr un maint o le i ddefnyddwyr ffyrdd bregus ag y byddech chi'n ei roi i gar

Rheol 164

Cerbydau mawr. Mae goddiweddyd cerbydau mawr yn fwy anodd. Dylech chi

  • ollwng yn ôl. Bydd hyn yn cynyddu eich gallu i weld yn eich blaen a dylai alluogi gyrrwr y cerbyd mawr i’ch gweld yn ei ddrychau. Bydd mynd yn rhy agos at gerbydau mawr, gan gynnwys cerbydau amaethyddol megis tractor â threlar neu offer sefydlog arall, yn cuddio’ch golwg o’r ffordd o’ch blaen ac mae’n bosibl y bydd cerbyd arall sy’n symud yn araf o’ch blaen

  • gwneud yn siŵr bod gennych chi ddigon o le i gwblhau eich manwfr goddiweddyd cyn ymrwymo iddo. Mae’n cymryd mwy o amser i basio cerbyd mawr. Os nad ydych yn siŵr, peidiwch â goddiweddyd

  • peidio â chymryd yn ganiataol y gallwch ddilyn cerbyd o’ch blaen sy’n goddiweddyd cerbyd hir. Os bydd problem yn datblygu, efallai na fyddant yn goddiweddyd ac yn tynnu’n ôl

Rheol 164: Peidiwch â thorri i mewn yn rhy gyflym

Rheol 164: Peidiwch â thorri i mewn yn rhy gyflym

Rheol 165

Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â goddiweddyd

  • pe byddai’n rhaid i chi groesi neu grwydro llinellau gwyn dwbl gyda llinell solet agosaf atoch chi (ond gweler Rheol 129)

  • pe byddai’n rhaid i chi fynd i mewn i ardal a gynlluniwyd i rannu traffig, os bydd yn cael ei chwmpasu gan linell wen gadarn

  • y cerbyd agosaf at groesfan i gerddwyr, yn enwedig pan fydd wedi stopio i adael i gerddwyr groesi

  • pe byddai’n rhaid i chi fynd i mewn i lôn a neilltuwyd ar gyfer bysus, tramiau neu feiciau yn ystod ei horiau gweithredu

  • ar ôl arwydd ‘Dim Goddiweddyd’ a nes i chi basio arwydd yn dangos nad oes cyfyngiad bellach.

Deddfau RTA 1988 sect 36, TSRGD schedule 1, schedule 9 part 7, schedule 14 part 1

Rheol 166

Os nad ydych yn sicr, neu os na allwch weld yn ddigon pell o’ch blaen i fod yn siŵr ei bod yn ddiogel, PEIDIWCH â goddiweddyd. Er enghraifft, pan fyddwch yn nesáu at

  • gornel neu dro

  • pont groca

  • ael bryn.

Rheol 167

PEIDIWCH â goddiweddyd lle y gallech wrthdaro â defnyddwyr eraill y ffordd. Er enghraifft

  • agosáu neu wrth gyffordd ar y naill ochr a’r llall i’r ffordd

  • lle mae’r ffordd yn culhau

  • wrth nesáu at hebryngwr croesi ysgol

  • wrth agosáu at gyfleusterau croesi

  • lle mae cerbyd ymlaen yn arafu i stopio i gerddwr sy’n croesi o ynys cerddwr (gweler Rheol 165)

  • rhwng y cwrbyn a’r bws neu’r tram pan fydd mewn arhosfan

  • lle mae traffig yn ciwio wrth gyffyrdd neu waith ffyrdd

  • pan fyddech yn gorfodi defnyddiwr ffordd arall i droi yn sydyn neu arafu

  • ar groesfan wastad

  • pan fydd defnyddiwr y ffordd yn rhoi arwydd ei fod yn troi i’r dde, hyd yn oed os credwch y dylai’r signal fod wedi cael ei ganslo. Peidiwch â chymryd risg; arhoswch i’r signal gael ei ganslo

  • aros tu ôl os byddwch yn dilyn beiciwr yn agosáu at gylchfan neu gyffordd, a’ch bod yn bwriadu troi i’r chwith. Peidiwch â thorri ar draws seiclwyr wrth fynd ymlaen, gan gynnwys y rheini sy’n defnyddio lonydd seiclo a thraciau seiclo (gweler Rheol H3)

  • arhoswch y tu ôl os ydych chi’n dilyn marchog neu gerbyd wedi’i dynnu gan geffyl wrth agosáu at gylchfan neu gyffordd, a’ch bod yn bwriadu troi i’r chwith. Peidiwch â thorri ar draws marchog neu gerbyd wedi’i dynnu gan geffyl wrth fynd ymlaen

  • pan fydd tram yn aros wrth arhosfan tram wrth ymyl y ffordd ac nad oes lôn basio wedi’i marcio’n glir ar gyfer traffig arall.

Rheol 168

Cael eich goddiweddyd. Os bydd gyrrwr yn ceisio eich goddiweddyd, cadwch eich cyflymder yn gyson, gan arafu os bydd angen gadael i’r cerbyd basio. Peidiwch â rhwystro gyrwyr sy’n dymuno pasio. Mae cyflymu neu yrru’n anrhagweladwy pan fydd rhywun yn eich goddiweddyd yn beryglus. Gollyngwch yn ôl i gynnal bwlch o ddwy eiliad os bydd rhywun yn goddiweddyd ac yn tynnu i mewn i’r bwlch o’ch blaen.

Rheol 169

Peidiwch â dal rhes hir o draffig yn ei ôl, yn enwedig os byddwch yn gyrru cerbyd mawr neu gerbyd sy’n symud yn araf. Edrychwch ar eich drychau yn aml, ac os bydd angen, tynnwch i mewn lle mae’n ddiogel a gadewch i’r traffig basio.

Cyffyrdd (rheol 170 i 183)

Rheol 170

Byddwch yn fwy gofalus wrth gyffyrdd. Dylech chi

  • wylio am feicwyr, beicwyr modur, cadeiriau olwyn/sgwteri symudedd modur a cherddwyr am nad ydynt bob amser yn hawdd eu gweld. Byddwch yn ymwybodol efallai na fyddant wedi eich gweld neu eich clywed os ydych yn agosáu o’r tu ôl

  • Wrth gyffordd dylech chi ildio i gerddwyr sy’n croesi neu’n aros i groesi ffordd rydych chi’n troi i mewn iddi neu’n troi allan ohoni. Os ydynt wedi dechrau croesi mae ganddynt flaenoriaeth, felly ildiwch (gweler Rheol H2)

  • arhoswch y tu ôl i seiclwyr, marchogion, cerbydau wedi’u tynnu gan geffylau a beicwyr modur wrth gyffyrdd hyd yn oed os ydynt yn aros i droi ac wedi’u safleoli yn agos at yr ymyl

  • gwylio am gerbydau hir a all fod yn troi wrth gyffordd o’ch blaen; efallai y bydd yn rhaid iddynt ddefnyddio lled cyfan y ffordd i wneud y troad (gweler Rheol 221)

  • gwylio am farchogion a all gymryd llinell wahanol ar y ffordd i’r hyn y byddech yn ei ddisgwyl

  • peidio â thybio, wrth aros ar gyffordd, y bydd cerbyd sy’n dod o’r dde ac yn rhoi signal i’r chwith o reidrwydd yn mynd i droi. Arhoswch a gwnewch yn siŵr

  • edrych o’ch cwmpas cyn dod allan. Peidiwch â chroesi neu ymuno â ffordd nes bod bwlch digon mawr i chi wneud hynny’n ddiogel.

Rheol 170: Ildiwch i gerddwyr sydd wedi dechrau croes

Rheol 170: Ildiwch i gerddwyr sydd wedi dechrau croesi

Rheol 171

Mae’n RHAID I CHI stopio y tu ôl i’r llinell ar gyffordd gydag arwydd ‘Stop’ a llinell wen gadarn ar draws y ffordd. Arhoswch am fwlch diogel yn y traffig cyn i chi symud i ffwrdd.

Deddfau RTA 1988 sect 36 a TSRGD schedule 9 parts 7 a 8

Rheol 172

Wrth ddynesu at gyffordd, efallai bydd arwydd ‘Ildiwch’ neu driongl wedi’i marcio ar y ffordd. Mae’n RHAID I CHI ildio i draffig ar y brif ffordd wrth ddod allan o gyffordd â llinellau gwyn toredig ar draws y ffordd.

Deddfau RTA 1988 sect 36 a TSRGD schedule 9 parts 7 a 8

Rheol 173

Ffyrdd deuol. Wrth groesi neu droi i’r dde, penderfynwch yn gyntaf a yw’r llain ganol yn ddigon dwfn i ddiogelu hyd llawn eich cerbyd.

  • Os ydyw, yna dylech drin pob hanner o’r gerbydffordd fel ffordd unigol. Arhoswch yn y llain ganol nes bod bwlch diogel yn y traffig ar ail hanner y ffordd.

  • Os nad yw’r llain ganol yn ddigon dofn ar gyfer hyd eich cerbyd, arhoswch nes y gallwch groesi’r ddwy gerbydffordd mewn un tro.

Rheol 173: Aseswch hyd eich cerbyd a pheidiwch â rhwystro traffig

Rheol 173: Aseswch hyd eich cerbyd a pheidiwch â rhwystro traffig

Rheol 174

Cyffyrdd sgwâr. Mae gan y rhain linellau melyn croes wedi eu paentio ar y ffordd (gweler ‘Marciau ffyrdd’). Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â mynd mewn i’r blwch nes bod eich ffordd neu lôn ymadael yn glir. Fodd bynnag, cewch fynd i mewn i’r blwch ac aros pan fyddwch am droi i’r dde, a byddwch ond yn cael eich atal rhag gwneud hynny gan draffig sy’n dod, neu gan gerbydau eraill sy’n aros i droi i’r dde. Wrth gylchfannau ag arwyddion, mae’n RHAID I CHI BEIDIO â mynd i mewn i’r blwch oni bai eich bod yn gallu ei groesi’n llwyr heb stopio.

Y ddeddf TSRGD schedule 9 parts 7 a 8

Rheol 174: Dylech ond mynd i mewn i gyffordd sgwâr os bydd eich ffordd ymadael ynglir

Rheol 174: Dylech ond mynd i mewn i gyffordd sgwâr os bydd eich ffordd ymadael yn glir

Cyffyrdd wedi’u rheoli gan oleuadau traffig

Rheol 175

Mae’n RHAID I CHI stopio y tu ôl i’r llinell ‘Stop’ wen ar draws eich ochr chi o’r ffordd oni bai fod y golau’n wyrdd. Os bydd golau ambr yn ymddangos, gallwch ond fynd ymlaen os ydych eisoes wedi croesi’r llinell stop neu os ydych mor agos ati y gallai achosi gwrthdrawiad wrth stopio.

Deddfau RTA 1988 sect 36 a TSRGD schedule 14 parts 1 a 4

Rheol 176

Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â symud ymlaen dros y llinell wen pan mae’r golau coch yn dangos. Dylech ond symud ymlaen pan fydd y goleuadau traffig yn wyrdd ac os oes lle i chi fynd trwy’r gyffordd yn ddiogel neu os byddwch yn mynd i’ch lle i droi i’r dde. Os nad yw’r goleuadau traffig yn gweithio, dylech drin y sefyllfa fel y byddech yn ei wneud wrth ddynesu at gyffordd heb ei marcio a symud ymlaen â gofal mawr.

Deddfau RTA 1988 sect 36 a TSRGD schedule 14 parts 1 a 4

Rheol 177

Saeth hidlo gwyrdd. Mae hyn yn nodi lôn hidlo yn unig. Peidiwch â mynd i mewn i’r lôn honno oni bai eich bod am fynd i gyfeiriad y saeth. Cewch fynd ymlaen i gyfeiriad y saeth werdd pan fydd hi, neu’r golau gwyrdd llawn yn dangos. Rhowch amser a lle i draffig arall, yn enwedig beicwyr, symud i’r lôn gywir.

Rheol 178

Uwch linellau stopio. Mae gan rai cyffyrdd a reolir gan signalau uwch linellau stopio i ganiatáu i feicwyr gael eu safleoli o flaen traffig arall. Mae’n RHAID i fodurwyr, gan gynnwys beicwyr modur, stopio wrth y llinell wen gyntaf a gyrhaeddir os yw’r goleuadau’n oren neu’n goch a dylent osgoi rhwystro’r ffordd neu fynd ar yr ardal a farciwyd ar adegau eraill, e.e. os yw’r gyffordd ymlaen wedi’i rhwystro. Os yw’ch cerbyd wedi mynd ymlaen dros y llinell wen gyntaf ar yr adeg mae’r signal yn troi’n goch, dylech chi stopio cyn gynted â phosibl ac mae’n RHAID i chi stopio wrth yr ail linell wen. Caniatewch i seiclwyr, gan gynnwys unrhyw rai sy’n symud neu’n aros wrth eich ochr, ddigon o amser a gofod i symud ymlaen pan fydd y golau gwyrdd yn dangos.

Dylai gyrwyr cerbydau mawr stopio’n ddigon pell y tu ôl i’r llinell wen gyntaf fel y gallant weld yr ardal gyfan lle gall seiclwyr fod yn aros, gan ganiatáu am unrhyw fan dall o flaen y cerbyd.

Deddfau RTA 1988 sect 36 a TSRGD Schedule 14 part 1

Rheol 178: Peidiwch â thresmasu ar ardal aros beicwyr yn ddiangen

Rheol 178: Peidiwch â thresmasu ar ardal aros beicwyr yn ddiangen

Troi i’r dde

Rheol 179

Ymhell cyn i chi droi i’r dde, dylech

  • ddefnyddio eich drychau i wneud yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw’r sefyllfa a symudiad y traffig y tu ôl i chi

  • rhoi arwydd signal troi i’r dde

  • cymryd eich safle ychydig i’r chwith o ganol y ffordd neu yn y gofod a farciwyd ar gyfer traffig sy’n troi i’r dde

  • gadael lle i gerbydau eraill basio ar y chwith, os yn bosibl.

Rheol 180

Arhoswch nes bod bwlch diogel rhyngoch chi ac unrhyw gerbyd sy’n dod tuag atoch. Gwyliwch am feicwyr, beicwyr modur, cerddwyr a defnyddwyr ffyrdd eraill. Edrychwch ar eich drychau a’ch man dall eto i wneud yn siŵr nad ydych yn cael eich goddiweddyd, yna gwnewch y tro. Peidiwch â thorri’r gornel. Byddwch yn ofalus iawn wrth droi i brif ffordd; bydd angen i chi wylio am draffig sy’n dod o’r ddau gyfeiriad ac aros am fwlch diogel.

Cofiwch: Drychau – Rhowch signal – Symudwch

Rheol 180: Rhowch eich cerbyd mewn safle cywir i osgoi rhwystro traffig

Rheol 180: Rhowch eich cerbyd mewn safle cywir i osgoi rhwystro traffig

Rheol 181

Wrth droi i’r dde ar groesffordd lle mae cerbyd sy’n dod tuag atoch yn troi i’r dde hefyd, mae dewis o ddau ddull

  • trowch ochr dde i’r ochr dde; cadwch y cerbyd arall ar eich ochr dde a throwch y tu ôl iddo. Yn gyffredinol, dyma’r dull mwy diogel gan fod gennych olwg glir o unrhyw draffig sy’n agosáu wrth gwblhau eich troad

  • ochr chwith i’r ochr chwith, gan droi o flaen eich gilydd. Gall hyn rwystro eich golwg o gerbydau sy’n dod tuag atoch, felly byddwch yn ofalus iawn. Gall beicwyr a beicwyr modur yn enwedig fod wedi’u cuddio o’ch golwg. Gall cynllun a marciau ffordd neu sut y mae’r cerbyd arall wedi’i leoli bennu pa lwybr y dylid ei gymryd.

Rheol 181: Y chwith - Troi ochr dde i'r ochr dde. Y dde - Troi ochr chwith i'r ochr chwith

Rheol 181: Y chwith - Troi ochr dde i'r ochr dde. Y dde - Troi ochr chwith i'r ochr chwith

Troi i’r chwith

Rheol 182

Defnyddiwch eich drychau a rhowch signal troi chwith ymhell cyn i chi droi i’r chwith. Peidiwch â goddiweddyd ychydig cyn i chi droi i’r chwith a gwyliwch am draffig sy’n dod o’ch chwith cyn i chi wneud y tro, yn enwedig os byddwch yn gyrru cerbyd mawr. Gall beicwyr a beicwyr modur a defnyddwyr eraill y ffordd yn enwedig fod wedi’u cuddio o’ch golwg.

Rheol 182: Peidiwch â thorri i mewn ar feicwyr

Rheol 182: Peidiwch â thorri i mewn ar feicwyr

Rheol 183

Wrth droi

  • cadwch mor agos i’r chwith ag sy’n ddiogel ac yn bosibl

  • ildiwch i unrhyw gerbydau sy’n defnyddio lôn bysiau, lôn seiclo, trac seiclo neu dramffordd o’r naill gyfeiriad neu’r llall, gan gynnwys pan fyddant yn mynd heibio i gerbydau sy’n symud yn araf neu’n llonydd ar y naill ochr a’r llall.

Cylchfannau (rheol 184 i 190)

Rheol 184

Wrth agosáu at gylchfan cymerwch sylw a gweithredu ar yr holl wybodaeth sydd ar gael i chi, gan gynnwys arwyddion traffig, goleuadau traffig a marciau lonydd sy’n eich cyfeirio i’r lôn gywir. Dylech chi

  • ddefnyddio Drychau – Rhowch signal – Symudwch ar bob cam

  • penderfynu mor gynnar â phosibl pa allanfa sydd angen i chi ei chymryd

  • rhoi signal priodol (gweler Rheol 186,(isod). Amserwch eich signalau i osgoi drysu defnyddwyr eraill y ffordd

  • mynd i mewn i’r lôn gywir

  • addasu eich cyflymder a’ch safle i gyd-fynd ag amodau traffig

  • bod yn ymwybodol o gyflymder a lleoliad holl ddefnyddwyr y ffordd o’ch cwmpas.

Rheol 185

Wrth gyrraedd y gylchfan dylech

  • roi blaenoriaeth i draffig sy’n agosáu o’ch ochr dde, oni bai y cyfarwyddir fel arall gan arwyddion, marciau ffordd neu oleuadau traffig

  • gwirio a yw’r marciau ffordd yn gadael i chi fynd i mewn i’r gylchfan heb ildio. Os felly, ewch yn eich blaen, ond dylech ddal i edrych i’r dde cyn ymuno â’r gylchfan

  • gwylio am ddefnyddwyr eraill y ffordd sydd eisoes ar y gylchfan; byddwch yn ymwybodol efallai na fyddant yn rhoi arwydd yn gywir neu efallai na fyddant yn rhoi arwydd o gwbl

  • edrych o’ch blaen cyn symud i ffwrdd i wneud yn siŵr bod y traffig o’ch blaen wedi symud i ffwrdd.

Rheol 185: Dilynwch y weithdrefn gywir wrth gylchfannau

Rheol 185: Dilynwch y weithdrefn gywir wrth gylchfannau

Rheol 186

Signalau a lleoliad.

Wrth gymryd yr allanfa gyntaf i’r chwith, oni bai bod arwyddion neu farciau’n dangos fel arall

  • rhowch signal i’r chwith a dyneswch yn y lôn ar y chwith

  • cadwch i’r chwith ar y gylchfan a pharhewch â rhoi signal i’r chwith i adael.

Wrth gymryd allanfa i’r dde neu fynd o amgylch y gylchfan yn llwyr, oni bai bod arwyddion neu farciau’n dangos fel arall

  • rhowch signal i’r dde a dyneswch yn y lôn dde

  • cadwch i’r dde ar y gylchfan hyd nes y bydd angen newid lonydd i adael y gylchfan

  • rhowch signal i’r chwith ar ôl i chi basio’r allanfa cyn yr un yr sydd ei heisiau arnoch.

Wrth gymryd unrhyw allanfa yn y canol, oni bai bod arwyddion neu farciau’n dangos fel arall

  • dewiswch y lôn briodol wrth i chi ddynesu at y gylchfan

  • ni ddylai fod angen i chi roi signal fel arfer wrth i chi ddynesu

  • arhoswch yn y lôn hon hyd nes y bydd angen i chi newid llwybr i adael y gylchfan

  • rhowch signal i’r chwith ar ôl i chi basio’r allanfa cyn yr un yr sydd ei heisiau arnoch.

Pan fydd mwy na thair lôn wrth y fynedfa i gylchfan, defnyddiwch y lôn fwyaf priodol wrth i chi ddynesu ati a mynd trwyddi.

Dylech roi blaenoriaeth i feicwyr ar y gylchfan. Byddant yn teithio’n arafach na thraffig modurol. Rhowch ddigon o le iddynt a pheidiwch â cheisio eu pasio o fewn eu lôn. Gadewch iddynt symud ar draws eich llwybr wrth iddynt deithio o amgylch y gylchfan.

Gall beicwyr, marchogion a cherbydau a dynnir gan geffylau aros yn y lôn chwith pan fyddant yn bwriadu parhau ar draws neu o gwmpas y gylchfan a dylent arwyddo i’r dde i ddangos i chi nad ydynt yn gadael y gylchfan. Dylai gyrwyr fod yn arbennig o ofalus wrth fynd i mewn i gylchfan i sicrhau nad ydynt yn torri ar draws beicwyr, marchogion neu gerbydau a dynnir gan geffylau yn y lôn chwith, sy’n parhau o amgylch y gylchfan.

Rheol 187

Ym mhob achos gwyliwch am y canlynol a rhowch ddigon o le iddynt

  • cerddwyr a all fod yn croesi’r ffyrdd dynesu a’r ffyrdd ymadael

  • traffig yn croesi o’ch blaen ar y gylchfan, yn enwedig cerbydau sy’n bwriadu gadael yn yr allanfa nesaf

  • traffig a all fod yn crwydro lonydd neu wedi’u lleoli’n anghywir

  • beicwyr modur

  • cerbydau hir (gan gynnwys y rheini sy’n tynnu trelars). Efallai y bydd yn rhaid i’r rhain ddilyn llwybr gwahanol neu grwydro lonydd naill ai wrth agosáu at y gylchfan neu ar y gylchfan oherwydd eu hyd. Gwyliwch am eu signalau.

Rheol 188

Cylchfannau bach. Dyneswch at y rhain yn yr un ffordd ag y byddech yn ei wneud wrth ddynesu at gylchfannau arferol. Mae’n RHAID i bob cerbyd basio o amgylch y marciau canolog ac eithrio cerbydau mawr nad ydynt yn gallu gwneud hynny. Cofiwch, mae llai o le i symud a llai o amser i roi signal. Ceisiwch osgoi gwneud troeon pedol ar gylchfannau bach. Byddwch yn ofalus o eraill yn gwneud hyn.

Deddfau RTA 1988 sect 36 a TSRGD schedule 9 parts 7 a 8

Rheol 189

Wrth ddynesu at gylchfannau bach dwbl, mae’n rhaid trin pob cylchfan yn unigol ac ildio i draffig o’r dde.

Rheol 190

Cylchfannau lluosog. Ar rai cyffyrdd cymhleth, efallai y bydd cyfres o gylchfannau bach ar bob groesffordd. Triniwch bob cylchfan fach yn unigol a dilynwch y rheolau arferol.

Rheol 190: Triniwch bob cylchfan yn unigol

Rheol 190: Triniwch bob cylchfan yn unigol

Croesfannau cerddwyr (rheol 191 i 199)

Rheol 191

Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â pharcio ar groesfan neu mewn ardal gyda llinellau igam-ogam. Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â goddiweddyd y cerbyd sy’n symud agosaf i’r groesfan neu’r cerbyd sydd agosaf at y groesfan sydd wedi stopio i ildio i gerddwyr.

Deddfau RTRA sect 25(5) a TSRGD schedule 14 parts 1 a 5

Rheol 192

Mewn traffig sy’n symud yn araf ac yn ciwio dylech gadw croesfannau’n hollol glir, gan fod rhwystro’r rhain yn ei gwneud hi’n anodd ac yn beryglus i gerddwyr groesi. Ni ddylech fynd i mewn i groesfan cerddwyr os nad ydych chi’n gallu clirio’r groesfan yn llwyr. Ni ddylech chwaith rwystro uwch linellau stopio i feiciau.

Rheol 192: Cadwch y groesfan yn glir

Rheol 192: Cadwch y groesfan yn glir

Rheol 193

Dylech gymryd gofal ychwanegol os bydd yr olygfa o bob ochr i’r groesfan yn cael ei rhwystro gan giw o draffig neu gerbydau sydd wedi’u parcio’n anghywir. Gall cerddwyr fod yn croesi rhwng cerbydau llonydd.

Rheol 194

Rhowch ddigon o amser i gerddwyr groesi a pheidiwch ag aflonyddu arnynt drwy refio’r injan neu ymwthio ymlaen.

Rheol 195

Croesfannau sebra. Wrth i chi nesáu at groesfan sebra

  • gwyliwch am gerddwyr sy’n aros i groesi a byddwch yn barod i arafu neu stopio i adael iddynt groesi

  • dylech ildio i gerddwyr sy’n aros i groesi

  • mae’n RHAID i chi ildio pan fydd cerddwr wedi symud i groesfan

  • gadewch fwy o amser ar gyfer stopio ar ffyrdd gwlyb neu rhewllyd

  • peidiwch â chodi llaw ar gerddwyr na ddefnyddio eich corn i wahodd cerddwyr ar draws y groesfan; gallai hyn fod yn beryglus os bydd cerbyd arall yn agosáu

  • byddwch yn amyneddgar, peidiwch a chanu’ch corn na sbarduno’ch injan gan y gall hyn fod yn fygythiol

  • byddwch yn ymwybodol o gerddwyr yn agosáu o ochr y groesfan.

Mae croesfan sebra ag ynys ganolog yn ddwy groesfan ar wahân (gweler Rheolau 19 and 20).

Mae croesfannau cyfochrog yn debyg i groesfannau sebra, ond yn cynnwys llwybr seiclo ochr yn ochr â’r streipiau du a gwyn.

Wrth i chi agosáu at groesfan gyfochrog

  • cadwch olwg am gerddwyr neu seiclwyr sy’n aros i groesi ac arafwch neu stopiwch

  • dylech ildio i gerddwyr neu seiclwyr sy’n aros i groesi

  • mae’n RHAID i chi ildio pan fydd cerddwr neu seiclwr wedi symud ar groesfan

  • caniatewch ragor o amser ar gyfer stopio ar ffyrdd gwlyb neu rewllyd

  • peidiwch â chwifio, fflachio’ch goleuadau na chanu’ch corn i wahodd cerddwyr neu seiclwyr ar draws, gallai hyn fod yn beryglus os oes cerbyd arall yn agosáu

  • byddwch yn amyneddgar, peidiwch a chanu’ch corn na sbarduno’ch injan gan y gall hyn fod yn fygythiol

  • byddwch yn ymwybodol o gerddwyr neu seiclwyr sy’n agosáu o ochr y groesfan.

Mae croesfan sebra ag ynys ganolog yn ddwy groesfan ar wahân (gweler Rheolau 19 and 20).

Y ddeddf TSRGD Schedule 14 parts 1 a 5

Croesfannau a reolir gan signal

Rheol 196

Croesfannau pelican. Croesfannau sy’n cael eu rheoli gan signal yw’r rhain lle mae golau ambr sy’n fflachio yn dilyn golau ‘Stop’ coch. Mae’n RHAID i chi stopio pan fydd y golau coch yn dangos. Pan fydd y golau ambr yn fflachio, mae’n RHAID i chi ildio i unrhyw gerddwyr ar y groesfan. Os bydd y golau ambr yn fflachio ac nad oes unrhyw gerddwyr ar y groesfan, gallwch fynd ymlaen yn ofalus.

Deddfau TSRGD reg 14, a RTRA sect 25(5)

Deddfau TSRGD reg 14 a RTRA sect 25(5)

Rheol 196: Gadewch i gerddwyr groesi pan fydd y golau ambr yn fflachio

Rheol 196: Gadewch i gerddwyr groesi pan fydd y golau ambr yn fflachio

Rheol 197

Mae croesfannau pelican sy’n mynd yn syth ar draws y ffordd yn un groesfan, hyd yn oed pan fo ynys ganolog. Mae’n RHAID i chi aros am gerddwyr sy’n croesi o ochr arall yr ynys.

Y ddeddf TSRGD reg 14

Rheol 198

Ildiwch i unrhyw un sy’n dal i groesi ar ôl i’r signal ar gyfer cerbydau newid i wyrdd. Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i bob croesfan.

Rheol 199

Croesfannau twcan, pâl a marchogaeth. Mae’r rhain yn debyg i groesfannau pelican, ond nid oes cam lle mae golau ambr yn fflachio; mae’r drefn goleuadau ar gyfer traffig ar y tair croesfan hyn yr un fath ag y mae hi wrth oleuadau traffig. Os nad yw’r groesfan a reolir gan signal yn gweithio, ewch ymlaen yn ofalus dros ben. Peidiwch â mynd i mewn i’r groesfan os nad ydych yn gallu ei chlirio’n llwyr, i osgoi rhwystro cerddwyr seiclwyr neu farchogion.

Bacio (200 i 203)

Rheol 200

Dewiswch le priodol i fanwfro. Os bydd angen i chi droi eich cerbyd rownd, arhoswch nes i chi ddod o hyd i le diogel. Ceisiwch beidio â bacio neu droi rownd ar ffordd brysur; dewch o hyd i ffordd ymyl dawel neu gyrrwch o amgylch bloc o strydoedd ymyl.

Rheol 201

Peidiwch â bacio o ffordd ymyl i mewn i brif ffordd. Wrth ddefnyddio tramwyfa, baciwch i mewn a gyrru allan os gallwch.

Rheol 202

Edrychwch yn ofalus cyn i chi ddechrau bacio. Dylech chi

  • defnyddio pob drych

  • gwirio’r ‘man dall’ y tu ôl i chi (y rhan o’r ffordd na allwch ei gweld yn hawdd yn y drychau)

  • gwirio nad oes unrhyw gerddwyr (yn enwedig plant), beicwyr, defnyddwyr eraill y ffordd neu rwystrau yn y ffordd y tu ôl i chi.

Baciwch yn araf wrth

  • edrych o’ch cwmpas

  • edrych yn bennaf drwy’r ffenestr gefn

  • bod yn ymwybodol y bydd blaen eich cerbyd yn troi allan wrth i chi droi.

Gofynnwch i rywun eich arwain os na allwch weld yn glir.

Rheol 202: Edrychwch o'ch cwmpas wrth facio

Rheol 202: Edrychwch o'ch cwmpas wrth facio

Rheol 203

Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â bacio eich cerbyd ymhellach nac sydd angen.

Y ddeddf. CUR reg 106