Cyflwyniad

I bwy mae Rheolau'r Ffordd Fawr, sut mae wedi cael ei eirio, y canlyniadau o beidio â dilyn y rheolau, cerbydau hunanyrru, a hierarchaeth defnyddwyr ffyrdd (Rheolau H1 i H3).

Cyflwyniad

Mae Rheolau’r Ffordd Fawr hwn yn berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban. Mae Rheolau’r Ffordd Fawr yn ddarllen hanfodol i bawb.

Nod Rheolau’r Ffordd fawr yw hyrwyddo diogelwch ar y ffordd, tra’n cefnogi system drafnidiaeth iach, gynaliadawy ac effeithlon.

Geiriad Rheolau’r Ffordd Fawr

Mae llawer o’r Rheolau yn ofynion cyfreithiol, ac os byddwch yn anufuddhau i’r rheolau hyn, rydych chi’n cyflawni trosedd. Gallech gael dirwy, cael pwyntiau cosb ar eich trwydded neu gael eich gwahardd rhag gyrru. Yn yr achosion mwyaf difrifol gallech gael eich anfon i’r carchar. Nodir rheolau o’r fath drwy ddefnyddio’r geiriau ‘RHAID/RHAID I CHI BEIDIO’. Yn ogystal, mae’r rheol yn cynnwys cyfeiriad cryno at y ddeddfwriaeth sy’n creu’r drosedd. Gweler esboniad o’r byrfoddau.

Er na fydd methu â chydymffurfio â rheolau eraill, o fewn y Rheolau ei hun, yn peri i berson gael ei erlyn, gellir defnyddio Rheolau’r Ffordd Fawr mewn tystiolaeth mewn unrhyw achos llys o dan y Deddfau Traffig (gweler Defnyddiwr y ffordd a’r gyfraith i sefydlu atebolrwydd). Mae hyn yn cynnwys rheolau sy’n defnyddio geiriau cynghori megis ‘ dylech/ni ddylech ‘ neu ‘ gwnewch/peidiwch ‘.

Gwybod a gweithredu’r rheolau

Gallai gwybod a gweithredu’r rheolau a geir yn Rheolau’r Ffordd Fawr leihau nifer damweiniau ar y ffyrdd yn sylweddol. Mae lleihau nifer y marwolaethau a’r anafiadau sy’n digwydd ar ein ffyrdd bob dydd yn gyfrifoldeb i bob un ohonom. Gall Rheolau’r Ffordd Fawr ein helpu i gyflawni’r cyfrifoldeb hwnnw. Mae rhagor o wybodaeth am dechnegau gyrru/reidio i’w chael yn ‘ Canllawiau Gyrru Swyddogol y DVSA - y sgiliau hanfodol a Canllawiau Swyddogol y DVSA ar gyfer Beicwyr Modur - y sgiliau hanfodol.

Cerbydau hunanyrru

Wrth ‘gerbydau hunanyrru’, rydym yn golygu’r rheini sydd wedi’u rhestru fel cerbydau awtomataidd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth o dan y Ddeddf Cerbydau Awtomataidd a Thrydan 2018.

I wirio os yw’ch cerbyd yn hunanyrru, ewch i Cerbydau hunanyrru a restrir i’w defnyddio ym Mhrydain Fawr.

Mae’r cerbydau hyn yn gallu gyrru eu hunain yn ddiogel pan fydd y swyddogaeth hunanyrru wedi’i droi ymlaen yn gywir a bod y gyrrwr yn dilyn cyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd.

Tra bydd y cerbyd yn gyrru ei hun, nid oes angen i chi ei fonitro.

Mae cerbydau hunanyrru yn wahanol i gerbydau sydd wedi’u ffitio â nodweddion gyrru â chymorth (fel rheolaeth cyflymder a chadw i lôn). Mae nodweddion gyrru â chymorth yn gallu gwneud rhywfaint o’r gyrru, ond mae angen i’r gyrrwr fod yn gyfrifol am yrru ar bob adeg. Os ydych chi’n gyrru cerbyd sy’n defnyddio’i nodweddion gyrru â chymorth, mae Rheol 150 yn gymwys.

Mae gallu cerbyd hunanyrru i yrru ei hun yn gyfyngedig i sefyllfaoedd penodol neu rannau o daith. Mae pethau fel y math o ffordd, amser o’r dydd, tywydd, lleoliad a chyflymder yn gallu effeithio ar hyn. Dylech ddilyn cyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchydd ynglŷn â phryd a sut i ddefnyddio’r swyddogaeth hunanyrru’n ddiogel.

Tra bo cerbyd hunanyrru yn gyrru ei hun mewn sefyllfa ddilys, nid ydych yn gyfrifol am sut mae’n gyrru. Gallwch droi’ch sylw oddi ar y ffordd a gallwch hefyd weld cynnwys trwy aparatws gwybodaeth ac adloniant sydd wedi’i adeiladu i mewn i’r cerbyd, os ar gael. Ond mae’n RHAID i chi ddilyn yr holl ddeddfau perthnasol o hyd.

  • Mae’n RHAID i chi fod yn ffit i yrru (er enghraifft, mae’n rhaid i chi fod o fewn y terfynau yfed a gyrru cyfreithiol a pheidio â bod o dan ddylanwad cyffuriau). Gweler Rheolau 90 I 96.

  • Mae’n RHAID i’r cerbyd fod yn gyfreithiol ar gyfer y ffordd (er enghraifft, mae’n rhaid fod ganddo dystysgrif MOT, os yn gymwys, ac mae’n rhaid iddo fod wedi’i drethu a’i yswirio). Mae’n rhaid i’r cerbyd fod yn addas i’r ffordd fawr (gweler Rheolau 89 a 97; ac Atodiadau 3 a 6). Byddwch hefyd yn gyfrifol o hyd am eich teithwyr ac unrhyw un arall rydych chi’n eu cludo (gweler Rheolau 98 i 102).

  • Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â gwneud unrhyw beth anghyfreithlon – fel defnyddio ffôn symudol wedi’i ddal yn eich llaw, neu ddyfais debyg wedi’i dal yn eich llaw. Mae eithriadau i hyn, sydd wedi’u hamlinellu yn Rheol 149.

Os oes angen i gerbyd hunanyrru roi rheolaeth yn ôl i’r gyrrwr, bydd yn rhoi digon o rybudd i chi wneud hyn yn ddiogel. Mae’n RHAID i chi bob amser fod yn gallu ac yn barod i gymryd rheolaeth, a’i wneud pan fydd y cerbyd yn eich cymell. Er enghraifft, dylech chi aros yn sedd y gyrrwr ac aros yn effro. Pan rydych wedi cymryd rheolaeth yn ôl neu wedi wedi diffodd y swyddogaeth hunanyrru, rydych chi’n gyfrifol am bob agwedd o yrru.

Deddfau RTA sects 2, 3, 4, 5, 5A, 14, 15, AEVA section 1 a CUR regs 100, 104, 109 (fel yr addaswyd gan y Gorchymyn Cerbydau Ffyrdd (Adeiladu a Defnyddio) (Cerbydau Awtomataidd) 2022) a 110 fel y’u diwygiwyd gan CUR(A)(No.2 Regulations 2022)

Hierarchaeth Defnyddwyr Ffyrdd

Mae ‘hierarchaeth defnyddwyr ffyrdd’ yn gysyniad sy’n gosod defnyddwyr ffyrdd yn y perygl mwyaf o wrthdaro ar frig yr hierarchaeth. Nid yw’r hierarchaeth yn dileu’r angen i bawb ymddwyn yn gyfrifol. Y defnyddwyr ffyrdd mwyaf tebygol o gael eu hanafu os oes gwrthdaro’n digwydd yw cerddwyr, seiclwyr, marchogion a beicwyr modur, â phlant, oedolion hŷn a phobl anabl mewn perygl mwy. Mae’r rheolau H canlynol yn egluro’r cysyniad hwn.

Rheol H1

Mae’n bwysig fod holl ddefnyddwyr y ffyrdd yn ymwybodol o Reolau’r Ffordd Fawr, yn ystyriol tuag at ddefnyddwyr ffyrdd eraill ac yn deall eu cyfrifoldeb am ddiogelwch eraill.

Mae pawb yn dioddef pan fydd gwrthdrawiadau ffordd yn digwydd, a ydynt wedi’u hanafu’n gorfforol neu beidio. Ond gan y rheini sy’n gyfrifol am gerbydau sy’n gallu achosi’r niwed mwyaf yn achos gwrthdrawiad mae’r cyfrifoldeb mwyaf i gymryd gofal a lleihau’r perygl maen nhw’n ei gyflwyno i eraill. Mae’r egwyddor hwn yn gymwys yn gryfaf i yrwyr cerbydau nwyddau mawr a theithwyr, faniau/bysiau mini, ceir/tacsis a beiciau modur.

Mae gan seiclwyr, marchogion, a gyrwyr cerbydau wedi’u tynnu gan geffylau gyfrifoldeb yn yr un modd i leihau perygl i gerddwyr.

Nid oes dim o hyn yn tynnu oddi wrth gyfrifoldeb POB defnyddiwr ffordd, gan gynnwys cerddwyr, seiclwyr a marchogion, i ystyried eu diogelwch eu hunain a diogelwch defnyddwyr eraill y ffyrdd.

Cofiwch bob amser y gall fod gan y bobl rydych yn eu cyfarfod nam golwg, clyw neu symudedd ac nad yw hyn yn amlwg.

Rheol H2 - Rheol ar gyfer gyrwyr, beicwyr modur, cerbydau wedi’u tynnu gan geffylau, marchogion a seiclwyr

Wrth gyffordd dylech chi ildio i gerddwyr sy’n croesi neu’n aros i groesi ffordd rydych chi’n troi i mewn iddi neu’n troi allan ohoni.

Mae’n RHAID i chi ildio i gerddwyr ar groesfan sebra, ac i gerddwyr a seiclwyr ar groesfan gyfochrog (gweler Rheol 195).

Mae gan gerddwyr flaenoriaeth pan fyddant ar groesfan sebra, ar groesfan gyfochrog neu wrth groesfannau wedi’u rheoli gan olau pan fydd ganddynt signal gwyrdd.

Dylech ildio bob amser i gerddwyr sy’n aros i groesi croesfan sebra, ac i gerddwyr a seiclwyr sy’n aros i groesi croesfan gyfochrog.

Dylai marchogion hefyd ildio i gerddwyr ar groesfan sebra, ac i gerddwyr a seiclwyr ar groesfan gyfochrog.

Dylai seiclwyr ildio i gerddwyr ar draciau seiclo defnydd ar y cyd ac i farchogion ar lwybrau ceffyl.

Dim ond cerddwyr sy’n cael defnyddio’r palmant. Mae cerddwyr yn cynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd.

Mae cerddwyr yn gallu defnyddio unrhyw ran o’r ffordd a defnyddio traciau seiclo yn ogystal â’r palmant, oni bai fod arwyddion sy’n gwahardd cerddwyr.

Rule H2: Wait for the pedestrian to cross the junction before turning. This applies if you are turning right or left into the junction.

Rheol H2: Arhoswch i'r cerddwr groesi'r gyffordd cyn troi. Mae hyn yn gymwys os ydych chi'n troi i'r dde neu'r chwith i mewn i'r gyffordd.

Deddfau TSRGD Atodlen 14 rhan 1 a rhan 5 a HA 1835 sect 72, R(S)A 1984, sect 129 a Deddf Cefn Gwlad 1968 Sect 1 part 30

Rheol H3 - Rheol ar gyfer gyrwyr a beicwyr modur

Ni ddylech dorri ar draws seiclwyr, marchogion na cherbydau wedi’u tynnu gan geffylau wrth fynd ymlaen pan fyddwch yn troi i mewn neu allan o gyffordd neu’n newid cyfeiriad neu lôn, yn union fel na fyddech yn troi ar draws llwybr cerbyd modur arall. Mae hyn yn gymwys os ydynt yn defnyddio lôn seiclo, trac seiclo, neu’n reidio ymlaen ar y ffordd a dylech ildio iddynt.

Peidiwch â throi wrth gyffordd os byddai gwneud hynny’n achosi i’r seiclwr, marchog neu gerbyd wedi’i dynnu gan geffyl sy’n mynd yn syth ymlaen i stopio neu wyro.

Dylech stopio ac aros am fwlch diogel yn llif y seiclwyr os oes angen. Mae hyn yn cynnwys pan fydd seiclwyr yn:

  • dynesu, pasio neu’n cychwyn o gyffordd

  • symud heibio i neu’n aros wrth ochr traffig llonydd neu sy’n symud yn araf

  • teithio o gwmpas cylchfan

Rheol H3: Arhoswch i'r cerddwr groesi'r gyffordd cyn troi. Mae hyn yn gymwys hefyd os oes lôn seiclo neu drac seiclo ac os ydych chi'n troi i'r dde neu'r chwith i mewn i'r gyffordd.

Rheol H3: Arhoswch i'r cerddwr groesi'r gyffordd cyn troi. Mae hyn yn gymwys hefyd os oes lôn seiclo neu drac seiclo ac os ydych chi'n troi i'r dde neu'r chwith i mewn i'r gyffordd.