Rheolau ar gyfer gyrwyr a beicwyr modur (89 i 102)

Rheolau ar gyfer gyrwyr a beicwyr modur, gan gynnwys cyflwr cerbydau, ffitrwydd i yrru, alcohol a chyffuriau, beth i'w wneud cyn cychwyn, tynnu a llwytho cerbydau, a gwregysau diogelwch ac ataliadau plant.

Cyflwr y cerbyd (rheol 89)

Rheol 89

Cyflwr y cerbyd Mae’n RHAID i chi sicrhau bod eich cerbyd a’ch trelar yn cydymffurfio â gofynion llawn Rheoliadau Cerbydau Ffyrdd (Adeiladwaith a Defnydd) a Rheoliadau Goleuo Cerbydau Ffyrdd (gweler ‘Y defnyddiwr ffordd a’r gyfraith’).

Ffitrwydd i yrru (rheol 90 i 94)

Rheol 90

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ffit i yrru. Mae’n RHAID i chi adrodd i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) unrhyw gyflwr iechyd sy’n debygol o gael effaith ar eich gyrru.

Y ddeddf RTA 1988 sect 94

Rheol 91

Mae gyrru pan fyddwch wedi blino yn cynyddu eich risg o gael gwrthdrawiad yn fawr. I leihau’r risg hon

  • gwnewch yn siŵr eich bod yn ffit i yrru. Peidiwch â dechrau taith os byddwch wedi blino. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael noson dda o gwsg cyn cychwyn ar daith hir

  • ceisiwch osgoi gwneud teithiau hir rhwng hanner nos a 6 am, pan fyddwch yn naturiol llai effro

  • cynlluniwch eich taith â digon o seibiannau. Argymhellir saib o 15 munud o leiaf ar ôl bob dwy awr o yrru

  • os ydych chi’n teimlo’n gysglyd, stopiwch mewn man diogel. Peidiwch â stopio mewn ardal argyfwng na llain galed traffordd (gweler Rheol 262 am gyfarwyddyd ar leoedd i gymryd saib wrth deithio ar draffyrdd).

Rheol 92

Golwg. Mae’n RHAID eich bod yn gallu darllen plât rhif cerbyd, mewn golau dydd da, o bellter 20 metr (neu 20.5 metr lle defnyddir yr hen fath o blât rhif cerbyd). Os oes angen i chi wisgo sbectol (neu lensys cyffwrdd) i wneud hyn, mae’n RHAID i chi eu gwisgo bob amser wrth yrru. Mae gan yr heddlu’r pŵer i’w gwneud yn ofynnol i yrrwr gael prawf llygaid.

Deddfau RTA 1988 sect 96, a MV(DL)R reg 40 a sched 8

Rheol 93

Arafwch, ac os oes angen, stopiwch, os ydych wedi’ch dallu gan olau haul llachar.

Rheol 94

Yn y nos neu mewn gwelededd gwael, peidiwch â defnyddio sbectol arlliw, lensys cyffwrdd na fisorau os byddan nhw’n cyfyngu ar eich golwg.

Alcohol a chyffuriau (rheol 95 i 96)

Rheol 95

Peidiwch ag yfed a gyrru gan y bydd yn effeithio’n ddifrifol ar eich synnwyr a’ch galluoedd.

Yng Nghymru a Lloegr, mae’n RHAID I CHI BEIDIO â gyrru â lefel alcohol anadl uwch na 35 microgram/100 mililitr o anadl neu lefel alcohol gwaed o fwy na 80 miligram/100 mililitr o waed.

Mae’r terfynau cyfreithiol yn Yr Alban yn is. Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â gyrru â lefel alcohol anadl uwch na 22 microgram/100 mililitr o anadl neu lefel alcohol gwaed o fwy na 50 miligram/100 mililitr o waed.

Bydd alcohol yn

  • rhoi ymdeimlad ffug o hyder

  • lleihau cydsymud ac arafu ymatebion

  • cael effaith ar sut fyddwch yn amcangyfrif cyflymder, pellter a risg

  • lleihau eich gallu i yrru, hyd yn oed os byddwch yn is na’r terfyn cyfreithiol

  • cymryd amser i adael eich corff; efallai na fyddwch yn ffit i yrru gyda’r nos ar ôl yfed amser cinio, neu yn y bore ar ôl yfed y noson gynt.

Y peth gorau yw peidio ag yfed o gwbl wrth gynllunio i yrru oherwydd bod unrhyw swm o alcohol yn cael effaith ar eich gallu i yrru’n ddiogel. Os byddwch yn bwriadu yfed, trefnwch ddull arall o deithio.

Deddfau RTA 1988 sects 4, 5 a 11(2), a PLSR

Rheol 96

Mae’n rhaid i chi BEIDIO â gyrru dan ddylanwad cyffuriau neu feddyginiaeth. Ar gyfer meddyginiaeth, holwch eich meddyg neu’ch fferyllydd a pheidiwch â gyrru os cewch eich cynghori na allech fod yn ddigon iach i wneud hynny.

Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â gyrru os oes gennych gyffuriau anghyfreithlon neu feddyginiaethau penodol yn eich gwaed uwchlaw terfynau penodedig. Mae’n beryglus iawn felly peidiwch â chymryd cyffuriau anghyfreithlon os byddwch yn bwriadu gyrru; mae’r effeithiau’n anrhagweladwy, ond gallant fod yn fwy difrifol nac alcohol ac arwain at ddamweiniau ffordd angheuol neu ddifrifol. Mae cyffuriau anghyfreithlon wedi’u nodi ar lefelau isel iawn felly gall defnyddio symiau bach hyd yn oed fod yn uwch na’r terfynau penodedig. Mae’r terfynau ar gyfer rhai meddyginiaethau wedi’u pennu ar lefelau uwch, yn fwy na’r lefelau a geir yn gyffredinol yng ngwaed cleifion sydd wedi cymryd dosau therapiwtig arferol. Os gwelir bod gennych gyffur sy’n fwy na’r terfyn penodedig yn eich gwaed am eich bod wedi cael eich rhagnodi neu wedi cael dos arbennig o uchel o feddyginiaeth, yna gallwch godi amddiffyniad meddygol statudol, ar yr amod nad oedd eich gyrru wedi’i amharu gan y feddyginiaeth rydych yn ei chymryd.

Y ddeddf RTA 1988 sects 4 a 5

Cyn cychwyn arni (rheol 97)

Rheol 97

Cyn cychwyn. Mae’n RHAID i chi sicrhau bod

  • gennych drwydded ac yswiriant dilys i yrru’r cerbyd rydych chi’n bwriadu ei ddefnyddio (gweler Atodiad 3)

  • eich cerbyd yn gyfreithiol ac yn addas i’r ffordd (gweler Atodiadau 3 a 6).

Dylech SICRHAU eich bod

  • wedi cynllunio’ch llwybr ac wedi caniatáu digon o amser am seibiau ac oediadau posibl

  • bod gennych ddigon o danwydd neu wefriad ar gyfer eich taith, yn enwedig os yw’n cynnwys teithio ar draffordd

  • rydych chi’n gwybod lle mae’r holl reolaethau a sut i’w defnyddio

  • nad yw dillad nac esgidiau yn eich hatal rhag defnyddio’r rheolaethau yn y dull cywir

  • mae’ch drychau a’ch sedd wedi’u haddasu’n gywir i sicrhau cysur, rheolaeth lawn a gwelediad uchaf

  • ataliadau pen wedi’u haddasu’n gywir i leihau’r risg o anafiadau gwddf ac asgwrn cefn os yw gwrthdaro’n digwydd.

Argymhellir ar gyfer defnydd argyfwng bod

  • gennych deleffon symudol sy’n cynnwys cysylltiadau argyfwng (e.e cymorth torri i lawr)

  • gennych ddillad gweladwyedd uchel

Deddfau RTA 1988 sects 42, 45, 47, 49, 53, 87, 99(4) a 143, MV(DL)R reg 16, 40 a sched 4, VERA sect 29, RVLR 1989 regs 23 a 27, a CUR regs 27, 30, 32 a 61

Rheol 97: Gwnewch yn siŵr bod ataliadau pen yn cael eu haddasu'n gywir

Rheol 97: Gwnewch yn siŵr bod ataliadau pen yn cael eu haddasu'n gywir

Llusgo a llwytho cerbydau (rheol 98)

Rheol 98

Cyn towio. Fel gyrrwr

  • mae’n RHAID I CHI BEIDIOâ thowio mwy na mae’ch trwydded yn ei ganiatáu. Os gwnaethoch lwyddo mewn prawf gyrru ar ôl 1 Ion 1997 rydych chi’n gyfyngedig ar bwysau’r trelar y gallwch ei dowio

  • mae’n RHAID i chi sicrhau bod eich cerbyd a’ch trelar mewn cyflwr addas i’r ffordd. Mae hyn yn cynnwys gwirio bod pob teiar yn gyfreithlon, bod system frecio’r trelar yn gweithio’n iawn a bod holl oleuadau’r trelar yn gweithio’n gywir

  • mae’n RHAID I CHI BEIDIO â gorlwytho’ch cerbyd neu drelar. Ni ddylech dowio pwysau mwy na’r hyn sy’n cael ei argymell gan weithgynhyrchydd eich cerbyd

  • dylech ddosbarthu’r pwysau yn eich carafan neu drelar yn wastad ag eitemau trymion dros yr echel(au) a sicrhau llwyth am i lawr ar y bêl dowio. Ni ddylid mynd y tu hwnt i’r pwysau a argymhellir gan y gweithgynhyrchydd na llwyth y bêl dowio. Dylai hyn leihau’r posibilrwydd o wyro neu nadreddu a cholli rheolaeth

  • mae’n RHAID i chi ddiogelu’ch llwyth ac mae’n RHAID IDDO BEIDIO â sefyll allan yn beryglus. Sicrhewch fod unrhyw wrthrychau trwm neu finiog ac unrhyw anifeiliaid yn cael eu clymu’n diogel. Os oes gwrthdaro, gallent daro rhywun y tu mewn i’r cerbyd ac achosi anaf difrifol

  • os yw’ch cerbyd yn gulach na’ch trelar neu lwyth, neu fod eich trelar neu lwyth yn rhwystro’ch golygfa yn ôl, yna mae’n RHAID defnyddio drychau towio

  • mae’n RHAID i’ch trelar gael ei osod â dyfais gyplu eilaidd, megis cadwyn ddiogelwch

  • gall cludo llwyth neu dynnu trelar ofyn i chi addasu’r goleuadau mawr.

Cyn towio. Fel gyrrwr

  • dylech fod yn ymwybodol fod terfynau cyflymder gostyngol yn gymwys (gweler Rheol 124)

  • dylech fod yn ymwybodol y gall eich pellter stopio gynyddu’n arwyddocaol wrth dowio (gweler Rheol 126)

  • mae’n RHAID I CHI BEIDIO â gyrru yn y lôn dde ar draffyrdd â thair lôn neu fwy (gweler Rheol 265)

  • os yw’r trelar yn dechrau gwyro neu nadreddu, neu’ch bod yn colli rheolaeth, tynnwch oddi ar y sbardun a gostyngwch gyflymder yn ysgafn i adennill rheolaeth. Peidiwch â brecio’n arw.

Torri i lawr. Os yw torri i lawr yn digwydd, byddwch yn ymwybodol.

  • fod towio cerbyd ar raff dowio yn gallu bod yn beryglus. Dylech ystyried defnyddio bar towio solet neu gerbyd adfer proffesiynol

  • gall gymryd rhagor o amser i adeiladu cyflymder wrth ailymuno â cherbydffordd (gweler hefyd Rheol 278).

Am ragor o gyngor am dowio’n ddiogel, gweler Darllen ychwanegol.

Deddfau CUR regs 27, 33, 86a a 100, RVLR reg 18, MT(E&W)R reg 12 a MV(DL)R reg 6, 7, 76 a sched 2

Gwregysau diogelwch ac ataliadau plant (rheol 99 i 102)

Rheol 99

Mae’n RHAID i chi wisgo gwregys diogelwch mewn ceir, faniau a cherbydau nwyddau eraill os oes un wedi’i osod (gweler y tabl isod). Mae’n RHAID i oedolion, a phlant 14 oed a hŷn ddefnyddio gwregys diogelwch neu ataliad plentyn, os oes un wedi’i osod, pan fyddant yn eistedd mewn bysiau mini, bysiau a choetsys. Caniateir eithriadau ar gyfer deiliaid tystysgrifau eithrio meddygol a’r rhain sy’n gwneud danfoniadau neu gasgliadau mewn cerbydau nwyddau pan fyddant yn teithio llai na 50 metr (tua 162 troedfedd).

Deddfau RTA 1988 sects 14 a 15, MV(WSB)(A)R, MV(WSBCFS)R a MV(WSB)(A)R 2005 a 2006

Gofynion gwregysau diogelwch. Mae’r tabl hwn yn crynhoi’r prif ofynion cyfreithiol ar gyfer gwisgo gwregysau diogelwch mewn ceir, faniau a cherbydau nwyddau eraill.

Sedd flaen Sedd gefn Pwy sy’n gyfrifol?
Gyrrwr Mae’n RHAID i wregysau diogelwch gael eu gwisgo os oes rhai wedi’u gosod - Gyrrwr
Plentyn dan 3 oed Mae RHAID bod ataliad plentyn cywir yn cael ei ddefnyddio Mae RHAID bod ataliad plentyn cywir yn cael ei ddefnyddio. Os nad oes un ar gael mewn tacsi, gall deithio heb ei atal. Gyrrwr
Plentyn o 3 blwydd oed hyd at 1.35 metr o daldra (neu 12fed penblwydd, pa bynnag un maen nhw’n ei gyrraedd gyntaf) Mae’n RHAID i’r ataliad plentyn cywir gael ei ddefnyddio Mae’n RHAID i’r ataliad plentyn cywir gael ei ddefnyddio lle mae gwregysau diogelwch wedi’u gosod. Mae’n RHAID i wregys oedolyn gael ei ddefnyddio os nad yw ataliad plentyn cywir ar gael mewn tacsi trwyddedig neu gerbyd hurio preifat, neu os bydd angen annisgwyl am bellter byr, neu os bydd y ddau ataliad wedi’u gosod yn atal gosod trydydd ataliad. Gyrrwr
Plentyn dros 1.35 metr (tua 4 troeddfed 5 modfedd) mewn taldra neu 12 neu 13 blwydd oed Mae’n RHAID i wregys diogelwch gael ei ddefnyddio os yw ar gael Mae’n RHAID i wregys diogelwch gael ei ddefnyddio os yw ar gael Gyrrwr
Teithwyr sy’n oedolion 14 oed a hŷn Mae’n RHAID i wregys diogelwch gael ei ddefnyddio os yw ar gael Mae’n RHAID i wregys diogelwch gael ei ddefnyddio os yw ar gael Teithiwr

Rheol 100

Mae’n RHAID i’r gyrrwr sicrhau bod pob plentyn o dan 14 oed mewn ceir, faniau a cherbydau nwyddau eraill yn gwisgo gwregys diogelwch neu’n eistedd mewn ataliad plentyn cymeradwy lle bo angen (gweler y tabl uchod). Os yw plentyn o dan 1.35 metr (tua 4 troedfedd 5 modfedd) mewn taldra, mae’n RHAID i sedd babi, sedd plentyn, sedd hybu neu glustog hybu gael ei defnyddio sy’n addas ar gyfer pwysau’r plentyn ac wedi’i ffitio yn ôl cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr.

Deddfau RTA 1988 sects 14 a 15, MV(WSB)R, MV(WSBCFS)R a MV(WSB)(A)R 2006

Rheol 100: Gwnewch yn siŵr bod plentyn yn defnyddio ataliad addas sy'n cael ei addasu'n gywir

Rheol 100: Gwnewch yn siŵr bod plentyn yn defnyddio ataliad addas sy'n cael ei addasu'n gywir

Rheol 101

Mae’n RHAID I SEDD BABI SY’N WYNEBU’R CEFN BEIDIO â chael ei ffitio i sedd a ddiogelir gan fag aer ffrynt gweithredol, oherwydd, mewn damwain, gall achosi anaf difrifol neu farwolaeth i’r plentyn.

Deddfau RTA 1988 sects 14 a 15, MV(WSB)R, MV(WSBCFS)R a MV(WSB)(A)R 2006

Rheol 102

Plant mewn ceir, faniau a cherbydau nwyddau eraill. Dylai gyrwyr sy’n cario plant mewn ceir, faniau a cherbydau nwyddau eraill hefyd sicrhau’r canlynol

  • dylai’r plant fynd i mewn i’r cerbyd drwy’r drws agosaf i’r cwrb

  • mae ataliadau plant wedi’u gosod yn gywir yn ôl cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr

  • nid yw plant yn eistedd y tu ôl i’r seddi cefn mewn car ystâd neu gar cefn codi, oni bai bod sedd plentyn arbennig wedi’i gosod

  • mae’r cloeon drws diogelwch plant, lle maent wedi’u gosod, yn cael eu defnyddio pan fydd plant yn y cerbyd

  • mae plant yn cael eu cadw dan reolaeth.