Traffyrdd (253 i 274)

Rheolau ar gyfer traffyrdd, gan gynnwys rheolau ar gyfer rhoi signalau, ymuno â'r draffordd, gyrru ar y draffordd, rheolaeth lonydd, goddiweddyd, stopio a gadael y draffordd.

Mae nifer o’r rheolau ar gyfer traffyrdd hefyd yn berthnasol i ffyrdd cyflym eraill. Mae llawer o reolau eraill yn berthnasol ar gyfer gyrru ar y draffordd, naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol: Rheolau 46, 57, 83 i 126, 130 i 134 , 139, 144, 146 i 151, 160, 161, 219, 221 i 222, 225, 226 to 237, 274 i 278, 280 a 281 i 290.

Cyffredinol (rheol 253 i 254)

Rheol 253

Cerbydau gwaharddedig. Mae’n RHAID i draffyrdd beidio â chael eu defnyddio gan gerddwyr, deiliaid trwydded beic modur amodol, reidwyr beiciau modur o dan 50 cc (4 kW), seiclwyr, marchogion, cerbydau penodol sy’n symud yn araf a’r rheini sy’n cludo llwythi rhy fawr (ac eithrio trwy ganiatâd arbennig), cerbydau amaethyddol a chadeiriau olwyn wedi’u pweru/sgwteri symudedd wedi’u pweru (gweler Rheolau 36 i 46 cynhwysol).

Mae’n RHAID i ddeiliaid trwydded car amodol beidio â gyrru ar y draffordd oni bai eu bod yng nghwmni Hyfforddwr Gyrru Wedi’i Gymeradwyo gan DVSA (ADI) ac yn gyrru car sy’n arddangos platiau L coch (neu blatiau D yng Nghymru) â rheolaethau deuol.

Deddfau HA 1980 sects 16, 17 a sched 4, MT(E&W)R regs 3(d), 4 a 11 fel y’u diwygiwyd gan MT(E&W)(A)R 2004 & MT(E&W)(A)R 2018, R(S)A sects 7, 8 a sched 3, RTRA sect 17 a MT(S)R reg 10 fel y’u diwygiwyd gan MT(S)(A)R 2018

Rheol 254

Mae traffig ar draffyrdd fel arfer yn teithio’n gyflymach nac ar ffyrdd eraill, felly mae gennych lai o amser i ymateb. Mae’n arbennig o bwysig defnyddio’ch drychau yn gynharach ac i edrych lawer ymhellach ymlaen nac y byddech yn ei wneud ar ffyrdd eraill.

Signalau traffyrdd (rheol 255 i 258)

Rheol 255

Defnyddir arwyddion a signalau (gweler ‘Signalau goleuadau yn rheoli traffig’) i’ch rhybuddio o beryglon ymlaen. Er enghraifft, gall fod digwyddiad, niwl, gollyngiad neu weithwyr ffordd ar y gerbydffordd nad ydych o bosibl yn gallu eu gweld ar unwaith.

Rheol 256

Mae arwydd neu signal unigol yn gallu arddangos cyngor, cyfyngiadau a rhybuddion ar gyfer pob lôn.

Mae arwyddion a signalau penodol i lôn yn gallu arddangos cyngor, cyfyngiadau a rhybuddion sy’n gymwys i lonydd unigol.

Rheol 257

Goleuadau oren yn fflachio. Mae’r signalau hyn yn rhybuddio am berygl ymlaen. Dylech chi

  • leihau eich cyflymder

  • bod yn barod am y perygl

  • dim ond cynyddu’ch cyflymder pan fyddwch yn mynd heibio i signal sydd ddim yn fflachio, neu arwydd sy’n arddangos terfyn cyflymder cenedlaethol neu’r gair ‘DIWEDD’, a’ch bod yn siwr ei bod yn ddiogel i wneud hynny.

Rheol 257: Signal yn rhybuddio am berygl

Rheol 258

Golau coch yn fflachio signalau a ‘X’ coch ar arwydd yn nodi lôn wedi’i chau lle mae pobl, cerbydau wedi’u stopio neu beryglon eraill yn bresennol. Mae’n

  • RHAID i chi ddilyn y cyfarwyddiadau ar arwyddion cyn lôn wedi’i chau i symud yn ddiogel i lôn agored

  • RHAID I CHI BEIDIO â gyrru mewn lôn wedi’i chau. Bydd arwydd yn rhoi gwybod i chi pan nad yw’r lôn wedi’i chau mwyach trwy arddangos terfyn cyflymder neu’r gair ‘DIWEDD’.

Rheol 258: signalau ac arwyddion sy'n dangos lonydd wedi'u cau

Rheol 258: signalau ac arwyddion sy'n dangos lonydd wedi'u cau

Byddwch yn ymwybodol

  • y gall fod sawl perygl mewn lôn wedi’i chau

  • mae gwasanaethau argyfwng ac awdurdodau traffig yn defnyddio lonydd wedi’u cau i gyrraedd digwyddiadau a helpu pobl mewn angen

  • lle mae’r lôn chwith wedi’i chau wrth slipffordd allanfa, mae hyn yn golygu na ellir defnyddio’r allanfa.

Lle mae signalau golau coch yn fflachio a chau pob lôn yn cael ei ddangos ar arwydd, mae’r ffordd wedi’i chau. Mae’n

  • RHAID I CHI BEIDIO â mynd y tu hwnt i’r arwydd mewn unrhyw lôn na defnyddio’r llain galed i osgoi’r ffordd wedi’i chau oni bai y cewch eich cyfarwyddo gan heddlu neu swyddog traffig i wneud hynny.

  • RHAID I CHI BEIDIO â mynd y tu hwnt i’r arwydd mewn unrhyw lôn na defnyddio’r llain galed i osgoi’r ffordd wedi’i chau oni bai y cewch eich cyfarwyddo gan heddlu neu swyddog traffig i wneud hynny.

Rheol 258: signalau ac arwyddion sy'n dangos lonydd wedi'u cau

Mae lonydd ffyrdd wedi’u cau a ddangosir gan oleuadau coch yn fflachio yn cael eu gorfodi gan yr heddlu.

Deddfau RTA 1988 sects 35 a 36 fel y’u diwygiwyd gan TMA sect 6, TSRGD reg 3 a sched 15, MT(E&W)R reg 9 a MT(S)R reg 8.

Ymuno â’r draffordd (rheol 259)

Rheol 259

Ymuno â’r draffordd. Pan fyddwch yn ymuno â’r draffordd, byddwch fel arfer yn mynd ati o ffordd ar y chwith (ffordd ymuno) neu o draffordd gyffiniol. Dylech chi

  • roi blaenoriaeth i draffig sydd eisoes ar y draffordd

  • gwirio’r traffig ar y draffordd a chyfateb eich cyflymder i ffitio mewn yn ddiogel i’r llif traffig yn y lôn ochr chwith

  • peidio â chroesi llinellau gwyn solet sy’n gwahanu lonydd na defnyddio’r llain galed

  • aros ar y slipffordd os bydd yn parhau fel lôn ychwanegol ar y draffordd

  • aros yn y lôn ochr chwith yn ddigon hir i addasu i gyflymder y traffig cyn ystyried goddiweddyd.

Ar y draffordd (rheol 260 i 263)

Rheol 260

Pan fyddwch chi’n gallu gweld ymhell ymlaen a bod amodau’r ffordd yn dda, dylech

  • yrru ar gyflymder criwsio cyson y gallwch chi a’ch cerbyd ei drin yn ddiogel ac sydd o fewn y terfyn cyflymder (gweler Tabl terfynau cyflymder)

  • cadw pellter diogel oddi wrth y cerbyd o’ch blaen a chynyddu’r bwlch ar ffyrdd gwlyb neu rewllyd, neu mewn niwl (gweler Rheol 126 a 235).

Rheol 261

Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â mynd y tu hwnt i

  • derfyn cyflymder a arddangosir o fewn cylch coch ar arwydd

  • y terfyn cyflymder uchaf ar gyfer y ffordd a’ch cerbyd (gweler Rheol 124)

  • Mae terfynau cyflymder yn cael eu gorfodi gan yr heddlu (gweler Rheol 124)

Deddf RTRA sects 17, 86, 89 a sched 6

Rheol 262

Mae’r undonedd o yrru ar draffordd yn gallu gwneud i chi deimlo’n gysglyd. Er mwyn lleihau’r risg, dilynwch y cyngor yn Rheol 91 ynghylch sicrhau eich bod yn ffit i yrru a chymryd seibiau.

Mae ardaloedd gwasanaeth wedi’u lleoli ar hyd traffyrdd i’ch caniatáu i gymryd seibiau ac i gael lluniaeth. Gall cyfleusterau lluniaeth a gorffwys fod yn hygyrch o allanfeydd traffyrdd.

Rheol 263

Oni bai eich bod yn cael eich cyfarwyddo gan heddlu neu swyddog traffig i wneud hynny, mae’n RHAID I CHI BEIDIO

  • â symud yn ôl ar hyd unrhyw ran o draffordd, gan gynnwys slipffyrdd, lleiniau caled ac ardaloedd argyfwng

  • croesi’r llain ganol

  • gyrru yn erbyn llif y traffig.

Os ydych chi wedi methu’ch allanfa, neu wedi cymryd y ffordd anghywir, ewch yn eich blaen i’r allanfa nesaf.

Deddfau RTA 1988 sects 35 fel y’u diwygiwyd gan TMA sect 6 TMA sect 6, MT(E&W)R regs 6, 8 a 10, a MT(S)R regs 4, 5, 7 a 9.

Rheolaeth lonydd (rheol 264 i 266)

Rheol 264

Cadwch yn y lôn chwith oni bai eich bod yn goddiweddyd.

  • Os ydych chi’n goddiweddyd, dylech ddychwelyd i’r lôn chwith pan mae’n ddiogel i wneud hynny (gweler hefyd Rheolau 267 and 268).

  • Byddwch yn ymwybodol o wasanaethau argyfwng, swyddogion traffig, gweithwyr adfer a phobl neu gerbydau eraill wedi stopio ar y llain galed neu mewn ardal argyfwng. Os ydych chi’n gyrru yn y lôn chwith, a’i bod yn ddiogel i wneud hynny, dylech symud i mewn i’r lôn nesaf i greu rhagor o ofod rhwng eich cerbyd a’r bobl a’r cerbydau sydd wedi’u stopio

Rheol 265

Mae’n RHAID PEIDIO â defnyddio lôn dde traffordd sydd â thair lôn neu fwy (ac eithrio mewn amgylchiadau rhagnodedig) pan fyddwch yn gyrru

  • unrhyw gerbyd sy’n tynnu trelar

  • cerbyd nwyddau â phwysau llwyth uchaf yn fwy na 3.5 tunnell ond heb fod yn fwy na 7.5 tunnell, sydd ei angen i’w osod gyda chyfyngydd cyflymder

  • cerbyd nwyddau â phwysau llwyth uchaf yn fwy na 7.5 tunnell

  • cerbyd teithwyr â phwysau llwyth uchaf yn fwy na 7.5 tunnell a adeiladwyd neu a addaswyd i gario mwy nac wyth o deithwyr ar eu heistedd yn ychwanegol at y gyrrwr

  • cerbyd teithwyr â phwysau llwyth uchaf heb fod yn fwy na 7.5 tunnell sydd wedi’i adeiladu neu ei addasu i gario mwy nac wyth o deithwyr ar eu heistedd yn ychwanegol at y gyrrwr, sydd angen cyfyngydd cyflymder wedi’i osod arno.

Deddfau MT(E&W)R reg 12, MT(E&W)(A)R, MT(S)R reg 11 a MT(S)(A)R

Rheol 266

Agosáu at gyffordd. Edrychwch ymlaen ymhell am signalau, arwyddion a marciau ffordd. Gall arwyddion cyfeiriad gael eu gosod dros y ffordd. Os oes angen i chi, dylech newid lonydd ymhell cyn cyffordd. Wrth rai cyffyrdd, gall lôn arwain yn uniongyrchol oddi ar y ffordd. Ewch i’r lôn honno os ydych chi’n dymuno mynd i’r cyfeiriad a ddangosir gan arwyddion neu farciau ffordd yn unig.

Goddiweddyd (rheol 267 i 268)

Rheol 267

Peidiwch â goddiweddyd oni bai eich bod yn siŵr ei bod yn ddiogel ac yn gyfreithlon gwneud hynny. Dylech oddiweddyd ar y dde yn unig. Dylech chi

  • wirio eich drychau

  • cymryd amser i amcangyfrif y cyflymderau’n gywir

  • gwneud yn siŵr bod y lôn y byddwch yn ymuno â hi yn ddigon clir o’ch blaen a’r tu ôl i chi

  • cymryd cipolwg yn gyflym ar yr ochr i’r man dall i wirio lleoliad cerbyd a allai fod wedi diflannu o’ch golwg yn y drych

  • cofio bod traffig yn gallu dod i fyny y tu ôl i chi yn gyflym iawn. Gwiriwch eich holl ddrychau yn ofalus. Gwyliwch am feicwyr modur. Pan fydd yn ddiogel gwneud hynny, rhowch arwydd mewn da bryd, yna symudwch allan

  • sicrhau nad ydych yn torri i mewn ar y cerbyd yr ydych wedi’i oddiweddyd

  • bod yn arbennig o ofalus yn ystod y nos ac mewn gwelededd gwael pan fydd yn anoddach amcangyfrif cyflymder a phellter.

Rheol 268

Peidiwch â goddiweddyd ar y chwith na symud i lôn ar eich chwith i oddiweddyd. Mewn tagfeydd, lle mae lonydd traffig cyfagos yn symud ar gyflymder tebyg, gall traffig mewn lonydd ar y chwith fod yn symud yn gynt weithiau na thraffig i’r dde. Yn yr amodau hyn, gallwch gadw i fyny â’r traffig yn eich lôn hyd yn oed os bydd hyn yn golygu pasio traffig yn y lôn i’ch dde. Peidiwch â phlethu i mewn ac allan o lonydd i oddiweddyd.

Llain galed (rheol 269)

Rheol 269

Llain galed (lle’n bresennol). Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â defnyddio llain galed ac eithrio mewn argyfwng neu os cewch eich cyfarwyddo i wneud hynny gan yr heddlu, swyddogion traffig neu arwydd traffig.

Llain galed (lle caiff ei defnyddio fel lôn ychwanegol). Mae’r llain galed yn cael ei defnyddio fel lôn ychwanegol ar rai traffyrdd yn ystod cyfnodau o draffig trwm. Mae ‘X’ coch neu arwydd gwag uwchben y llain galed yn golygu bod RHAID I CHI BEIDIO â defnyddio’r llain galed ac eithrio mewn argyfwng.

Gallwch ddefnyddio’r llain galed fel lôn ychwanegol yn unig pan fydd terfyn cyflymder yn cael ei ddangos uwchben y llain galed.

Lle mae’r llain galed yn cael ei defnyddio fel lôn ychwanegol, mae ardaloedd argyfwng yn cael eu darparu i’w defnyddio mewn argyfwng (gweler Rheol 270).

Deddfau MT(E&W)R regs 5 a 9, MT(S)R regs 4 a 8, a RTA 1988 sects 35 a 36 fel y’u diwygiwyd gan TMA sect 6

Stopio (rheol 270 i 271)

Rheol 270

Mae ardaloedd argyfwng wedi’u lleoli ar hyd traffyrdd heb lain galed neu lle mae’r llain galed yn gallu cael ei defnyddio fel lôn ychwanegol (gweler Rheol 269) ac mae’n RHAID eu defnyddio mewn argyfwng yn unig.

Maen nhw wedi’u marcio gan arwyddion glas â symbol teleffon SOS oren a gall fod ganddynt arwyneb oren.

Rheol 270: ardal argyfwng

Rheol 270: arwydd yn dangos pellter i'r ardal argyfwng nesaf

Dilynwch y gofynion a chyngor yn

datblygu problem ar y draffordd

o ardal argyfwng.

Deddfau MT(E&W)R reg 9 fel y’u diwygiwyd gan MT(E&W)(A)(E)R a MT(S)R reg 8

Rheol 271

Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â stopio ar unrhyw gerbydffordd, ardal argyfwng, llain galed, slipffordd, llain ganol nac ymyl ac eithrio mewn argyfwng, neu pan ddywedir wrthych i wneud hynny gan yr heddlu, swyddogion traffig, neu arwydd argyfwng neu gan signalau golau coch yn fflachio.

Peidiwch â stopio ar unrhyw ran o draffordd i wneud na derbyn galwadau teleffon symudol, ac eithrio mewn argyfwng.

Deddfau MT(E&W)R regs 7, 9, 10 a 16 fel y’u diwygiwyd gan MT(E&W)(A)(E)R, MT(S)R regs 6(1), 8, 9 a 14, PRA sect 41 a sched 5(8), RTA 1988 sects 35, 36 & 163 fel y’u diwygiwyd gan TMA sect 6, a CUR reg 110 fel y’u diwygiwyd gan CUR(A)(No4)R

Gadael y draffordd (rheol 272 i 273)

Rheol 272

Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â chodi na gollwng unrhyw un, na cherdded ar draffordd, ac eithrio mewn

argyfwng.

Deddfau RTRA sect 17 a MT(E&W)R reg 15

Rheol 273

Oni bai fod arwyddion yn dangos bod lôn yn arwain yn uniongyrchol oddi ar y draffordd, byddwch fel arfer yn gadael y draffordd ar slipffordd ar eich chwith. Dylech chi

  • wylio am arwyddion sy’n gadael i chi wybod eich bod yn dod yn agos i’ch allanfa

  • symud i’r lôn ochr chwith ymhell cyn cyrraedd eich allanfa

  • rhoi signal i’r chwith mewn da bryd ac arafu ar y slipffordd fel y bydd angen.

Rheol 274

Wrth adael y draffordd neu ddefnyddio ffordd gyswllt rhwng traffyrdd, efallai y bydd eich cyflymder yn uwch nac yr ydych yn sylweddoli - mae’n bosibl y bydd 50 mya yn teimlo fel 30 mya. Edrychwch ar eich sbidomedr ac addaswch eich cyflymder yn ôl yr angen. Mae gan rai slipffyrdd a ffyrdd cyswllt droeon siarp, felly bydd angen i chi arafu.