Rheolau ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn modur a sgwteri symudedd (36 i 46)

Rheolau ar gyfer cadeiriau olwyn modur a sgwteri symudedd, gan gynnwys ar balmentydd ac ar y ffordd.

(Gelwir y rhain yn Gerbydau Pobl Anabl yn y gyfraith)

Cadeiriau olwyn modur a sgwteri symudedd (rheol 36 i 37)

Rheol 36

Mae un math o gadair olwyn â llaw (a elwir yn gerbyd pobl anabl Dosbarth 1) a dau ddosbarth o gadeiriau olwyn modur a sgwteri symudedd modur. Cadeiriau olwyn â llaw a cherbydau dosbarth 2 yw’r rhai sydd â therfyn cyflymder uchaf o 4 mya (6 km/h) ac fe’u cynlluniwyd i’w defnyddio ar balmentydd. Cerbydau Dosbarth 3 yw’r rhai sydd â therfyn cyflymder uwch o 8 mya (12 km/h) ac maent wedi’u cyfarparu i gael eu defnyddio ar y ffordd yn ogystal â’r palmant.

Rheol 37

Pan fyddwch ar y ffordd, dylech ufuddhau i’r canllawiau a’r rheolau ar gyfer cerbydau eraill; pan fyddwch ar y palmant dylech ddilyn y canllawiau a’r rheolau ar gyfer cerddwyr.

Ar balmentydd (rheol 38 i 40)

Rheol 38

Mae palmentydd yn fwy diogel na ffyrdd a dylid eu defnyddio pan fyddant ar gael. Dylech roi blaenoriaeth i gerddwyr a dangos ystyriaeth ar gyfer defnyddwyr eraill y palmant, yn enwedig y rheini â nam ar y clyw neu’r golwg nad ydynt o bosibl yn ymwybodol eich bod yno.

Rheol 39

Mae’n rhaid i gadeiriau olwyn a sgwteri modur BEIDIO â theithio’n gyflymach na 4 milltir yr awr (6 km/h) ar balmentydd neu mewn ardaloedd i gerddwyr. Efallai y bydd angen i chi leihau eich cyflymder ar gyfer defnyddwyr palmentydd eraill na fyddant o bosibl yn gallu symud o’ch ffordd yn ddigon cyflym neu lle mae’r palmant yn rhy gul.

Y ddeddf UICHR reg 4

Rheol 40

Wrth symud oddi ar y palmant i’r ffordd, dylech gymryd gofal arbennig. Cyn symud oddi ar y palmant, edrychwch o’ch cwmpas bob tro a gwnewch yn siŵr ei bod yn ddiogel i ymuno â’r traffig. Ceisiwch ddefnyddio cyrbau isel bob tro wrth symud oddi ar y palmant, hyd yn oed os bydd hyn yn gofyn i chi deithio ymhellach i ddod o hyd i un. Os oes rhaid i chi ddringo cwrbyn neu ddisgyn ohono, ewch ato bob amser ar ongl sgwâr a pheidiwch â cheisio croesi cwrbyn yn uwch nac argymhellion gwneuthurwr y cerbyd.

Ar y ffordd (rheol 41 i 46)

Rheol 41

Dylech fod yn ofalus wrth deithio ar y ffordd gan y gallech fod yn teithio’n arafach na thraffig arall (mae eich peiriant wedi’i gyfyngu i 8 mya (12 km/h) a gall fod yn llai gweladwy).

Rheol 42

Wrth fod ar y ffordd, dylai cerbydau Dosbarth 3 deithio yng nghyfeiriad y traffig. Dylai defnyddwyr Dosbarth 2 ddefnyddio’r palmant bob amser pan fydd ar gael. Os nad oes palmant, dylech fod yn ofalus pan fyddwch ar y ffordd. Lle bo modd, dylai defnyddwyr Dosbarth 2 deithio yng nghyfeiriad y traffig. Os byddwch yn teithio yn y nos pan fydd RHAID i oleuadau gael eu defnyddio, dylech deithio yng nghyfeiriad y traffig i osgoi drysu defnyddwyr eraill y ffordd.

Y ddeddf UICHR reg 9

Rheol 43

Mae’n RHAID i chi ddilyn yr un rheolau ynghylch defnyddio goleuadau, dangosyddion a chyrn fel y maent ar gyfer cerbydau ffordd eraill, os bydd eich cerbyd wedi’i ffitio gyda nhw. Yn y nos, mae’n RHAID defnyddio goleuadau. Dylech fod yn ymwybodol efallai na fydd defnyddwyr eraill y ffordd yn eich gweld chi a dylech wneud eich hun yn fwy gweladwy - hyd yn oed yn ystod y dydd ac hefyd gyda’r nos - er enghraifft, trwy wisgo siaced adlewyrchol neu drwy roi stribedi adlewyrchol ar gefn y cerbyd.

Y ddeddf UICHR reg 9

Rheol 44

Byddwch yn fwy gofalus ar gyffyrdd ffyrdd. Wrth fynd yn syth ymlaen, gwiriwch i wneud yn siŵr nad oes cerbydau ar fin croesi eich llwybr o’r chwith, o’r dde, neu eich goddiweddyd a throi i’r chwith. Mae sawl opsiwn ar gyfer delio â throeon i’r dde, yn enwedig wrth droi o ffordd fawr. Os bydd symud i ganol y ffordd yn anodd neu’n beryglus, gallwch

  • stopio ar ochr chwith y ffordd ac aros am fwlch diogel yn y traffig
  • croesi’r troad fel cerddwr, h.y. teithio ar hyd y palmant a chroesi’r ffordd rhwng palmentydd lle mae’n ddiogel gwneud hynny. Dylai defnyddwyr Dosbarth 3 newid i derfyn cyflymder isaf y cerbyd pan fyddant ar balmentydd.

Os bydd y gyffordd yn rhy beryglus, efallai byddai’n werth ystyried ffordd arall. Yn yr un modd, wrth groesi cylchfannau mawr (h.y. â dwy lôn neu fwy) efallai y bydd yn fwy diogel i chi ddefnyddio’r palmant neu ddod o hyd i lwybr sy’n osgoi’r gylchfan yn gyfan gwbl.

Rheol 45

Dylid arsylwi pob cyfyngiad parcio arferol. Ni ddylid gadael eich cerbyd heb neb i ofalu amdano os bydd yn achosi rhwystr i gerddwyr eraill-yn enwedig y rhai mewn cadeiriau olwyn. Bydd consesiynau parcio a ddarperir o dan y cynllun Bathodyn Glas (gweler Darllen pellach) yn berthnasol i’r cerbydau hynny sy’n arddangos bathodyn dilys.

Rheol 46

Mae’n rhaid i’r cerbydau hyn BEIDIO â chael eu defnyddio ar draffyrdd (gweler Rheol 253).

Ni ddylid eu defnyddio ar ffyrdd deuol anghyfyngedig lle mae’r terfyn cyflymder yn fwy na 50 mya (80 km/h) ond os byddant yn cael eu defnyddio ar y ffyrdd deuol hyn, mae’n RHAID iddynt gael golau ambr sy’n fflachio. Dylid defnyddio golau ambr sy’n fflachio ar yr holl ffyrdd deuol eraill (gweler Rheol 220).

Deddfau RTRA sect 17(2) & (3), & RVLR regs 17(1) & 26