Gwaith ffyrdd, croesfannau gwastad a thramffyrdd (288 i 307)

Rheolau ar gyfer gwaith ffyrdd (gan gynnwys ffyrdd cyflymder uchel), croesfannau gwastad a thramffyrdd.

Gwaith ffyrdd (rheol 288)

Rheol 288

Pan fydd yr arwydd ‘Gwaith Ffordd Ymlaen’ yn cael ei arddangos, cymerwch ofal ychwanegol a chwiliwch am arwyddion ychwanegol sy’n darparu cyfarwyddiadau mwy penodol. Dilynwch bob arwydd - maen nhw yno er mwyn eich diogelwch a diogelwch gweithwyr ffordd.

  • Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â mynd dros unrhyw derfyn cyflymder uchaf dros dro.

  • Cadwch bellter diogel o’r cerbyd o’ch blaen (gweler Rheol 126).

  • Defnyddiwch eich drychau ac ewch i’r lôn gywir ar gyfer eich cerbyd mewn da bryd ac fel y mae’r arwyddion yn cyfarwyddo.

  • Peidiwch â newid lonau i oddiweddyd traffig sy’n ciwio.

  • Cymerwch ofal ychwanegol ger seiclwyr a beicwyr modur gan eu bod yn agored i niwed yn sgidio ar raean, mwd neu falurion wrth waith ffordd.

  • Lle mae lonydd wedi’u cyfyngu oherwydd gwaith ffordd, ymunwch yn eich tro (gweler Rheol 134).

  • Peidiwch â gyrru trwy ardal wedi’i marcio i ffwrdd gan gonau traffig.

  • Cadwch olwg am gerbydau sy’n dod i mewn i neu’n gadael ardal y gwaith. Lle mae cerbydau’n teithio yn y ffordd ac yn arddangos goleuadau rhybudd oren, gadewch ofod ychwanegol a disgwyliwch iddynt arafu neu droi i mewn i ardal waith.

  • Canolbwyntiwch ar y ffordd ymlaen, nid y gwaith ffordd.

  • Cadwch mewn cof y gall y ffordd ymlaen gael ei rhwystro gan y gwaith neu gan draffig sy’n symud yn araf neu draffig llonydd.

Y ddeddf RTRA sect 16

Rheolau ychwanegol ar gyfer ffyrdd cyflym iawn (rheol 289 i 290)

Rheol 289

Cymerwch ofal arbenigol ar draffyrdd a lonydd deuol cyflymder uchel eraill.

  • Gall lonydd fod ar gau i draffig a gall terfyn cyflymder is fod yn gymwys.

  • Gall cerbydau gwaith gael eu defnyddio i gau lonydd neu gerbydffyrdd ar gyfer atgyweiriadau. Lle mae arwyddion mawr ‘Cadwch i’r Chwith’ neu ‘Cadwch i’r Dde’ yn cael eu harddangos ar y cefn, mae’n RHAID i chi symud drosodd a mynd heibio i’r cerbyd gwaith ar yr ochr a ddangosir a pheidio â dychwelyd i’r lôn sydd wedi’i chau hyd y gallwch weld ei bod yn ddiogel i wneud hynny.

  • Lle mae cerbyd yn arddangos yr arwydd ‘CERBYD CYMDAITH DIM GODDIWEDDYD’, mae’n RHAID I CHI BEIDIO â mynd heibio i’r cerbyd. Gall saeth golau’n fflachio neu ‘X’ coch gael eu defnyddio hefyd i wneud y cerbyd gwaith yn fwy gweladwy o bellter a rhoi rhybudd cynharach i yrwyr.

Deddfau RTA 1988 sect 36, TSRGD reg 3 a sched 13

Rheol 290

Gall gwaith ffordd gynnwys nodweddion sy’n gofyn am ofal ychwanegol.

  • Lonydd cul. Gall lonydd fod yn gulach nac arfer a byddant yn cael eu marcio gan stydiau neu farciau ffordd dros dro. Cadwch bellter diogel (gweler Rheol 126) o’r cerbyd o’ch blaen a sicrhewch eich bod yn gallu gweld ymylon y lôn o’ch blaen yn glir.

  • Systemau gwrthlif. Mae’r rhain yn golygu y gallwch fiod yn teithio mewn lôn gulach nac arfer ac heb rwystr parhaol rhyngoch chi a thraffig sy’n dod atoch chi. Ar ddechrau a diwedd gwrthlifau, dylech arafu a chynyddu’r pellter i’r cerbyd o’ch blaen oherwydd y gall newidiadau yng nghambr y ffordd effeithio ar sefydlogrwydd cerbydau.

  • Cyngor torri i lawr. Os yw’ch cerbyd yn torri i lawr mewn gwaith ffordd, dilynwch Reolau 275, 277 a 278 ond byddwch yn ymwybodol fod ardaloedd wedi’u marcio i ffwrdd gan gonau yn cynnwys peryglon arwyddocaol. Lle ar gael, dylech symud eich cerbyd i leoliad lloches gwaith ffordd wedi’i arwyddo. Mae arwyddion yn dangos lle mae gwasanaethau adfer dynodedig yn cael eu darparu.

Croesfannau gwastad (rheol 291 i 299)

Rheol 291

Croesfan wastad yw lle mae ffordd yn croesi llinell rheilffordd neu dramffordd. Dyneswch at y groesfan a’i chroesi yn ofalus. Peidiwch â gyrru ar groesfan nes bod y ffordd yn glir ar yr ochr arall a pheidiwch â mynd yn rhy agos at y car o’ch blaen. Peidiwch â stopio na pharcio ar, na ger, croesfan.

Rheol 292

Llinellau trydan uwchben. Mae’n beryglus i gyffwrdd â llinellau trydan uwchben. Mae’n RHAID i chi ufuddhau i’r arwyddion ffyrdd rhybudd uchder diogel ac ni ddylech barhau i fynd ymlaen i’r rheilffordd os bydd eich cerbyd yn cyffwrdd ag unrhyw rwystr neu glychau uchder. Mae’r cliriad sydd ar gael fel arfer yn 5 metr (16 troedfedd 6 modfedd) ond gall fod yn is.

Deddfau RTA 1988 sect 36 a TSRGD schedule 2 part 7

Rheol 293

Croesfannau a reolir. Ceir signalau goleuadau traffig ar y rhan fwyaf o groesfannau, â golau ambr cyson, a goleuadau stopio coch yn fflachio ar y safle (gweler ‘Arwyddion goleuadau yn rheoli traffig’ ac ‘Arwyddion traffig’) â larwm clywadwy i gerddwyr. Efallai y bydd ganddynt rwystrau llawn, hanner neu ddim o gwbl.

  • Mae’n RHAID i chi ufuddhau i’r goleuadau stopio coch sy’n fflachio bob amser.

  • Mae’n RHAID i chi aros y tu ôl i’r llinell wen ar draws y ffordd.

  • Daliwch i fynd os ydych chi eisoes wedi croesi’r llinell wen pan ddaw’r golau ambr ymlaen.

  • Peidiwch â bacio ar groesfan reoledig na throsti.

  • Mae’n RHAID i chi aros os bydd trên yn mynd heibio a bydd y goleuadau coch yn parhau i fflachio. Mae hyn yn golygu y bydd trên arall yn pasio yn fuan.

  • Croeswch y groesfan pan fydd y goleuadau yn stopio fflachio a bydd y rhwystrau yn agor.

  • Peidiwch â mynd igam-ogam o gwmpas hanner rhwystrau, maent yn gostwng yn awtomatig oherwydd bod trên yn agosáu.

  • Ar groesfannau lle nad oes bariau, bydd trên yn agosáu pan fydd y goleuadau’n dangos.

Deddfau RTA 1988 sect 36 a TSRGD schedule 14 parts 1 a 4

Rheol 293: Stopiwch pan fydd y goleuadau traffig yn dangos

Rheol 293: Stopiwch pan fydd y goleuadau traffig yn dangos

Rheol 294

Ffonau rheilffyrdd. Os byddwch yn gyrru cerbyd mawr neu araf wrth symud, cerbyd hir, isel sydd â risg o grafu’r ddaear, neu’n anfon anifeiliaid, gallai trên gyrraedd cyn eich bod wedi symud i ffwrdd o’r groesfan. Mae’n RHAID i chi ufuddhau i unrhyw arwydd yn eich cyfarwyddo i ddefnyddio ffôn y rheilffordd i gael caniatâd i groesi. Mae’n RHAID i chi ffonio hefyd pan fyddwch wedi symud i ffwrdd o’r groesfan os gofynnir i chi wneud hynny.

Deddfau RTA 1988 sect 36 a TSRGD schedule 9 parts 7 a 8

Rheol 295

Croesfannau heb oleuadau traffig. Dylai cerbydau stopio ac aros wrth y rhwystrau neu’r gât pan fydd yn dechrau cau a pheidio â chroesi nes bod y rhwystrau neu’r gât yn agor.

Rheol 296

Gatiau neu rwystrau a weithredir gan ddefnyddwyr. Mae gan rai croesfannau arwyddion ‘Stop’ a goleuadau coch a gwyrdd bach. Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â chroesi pan fydd y goleuadau coch yn dangos, dylech ddim ond croesi os bydd y goleuadau yn wyrdd. Os byddwch yn croesi â cherbyd, dylech

  • agor y gatiau neu’r rhwystrau ar ddwy ochr y groesfan

  • gwirio bod y golau gwyrdd yn dal i fod ymlaen a chroeswch yn gyflym

  • cau y gatiau neu’r rhwystrau pan fyddwch wedi symud o’r groesfan.

Deddfau TWA 1992 sect 55 a PC(SB)R 1996

Rheol 297

Os nad oes goleuadau, dilynwch y weithdrefn yn Rheol 296. Stopiwch, edrychwch i’r ddwy ffordd a gwrandewch cyn i chi groesi. Os oes ffôn rheilffordd, defnyddiwch y ffôn bob amser i gysylltu â’r gweithredwr signalau i wneud yn siŵr ei bod yn ddiogel i groesi. Rhowch wybod i’r gweithredwr signalau unwaith eto pan fyddwch wedi symud i ffwrdd o’r groesfan.

Rheol 298

Croesfannau agored. Nid oes gan y rhain gatiau, rhwystrau, gwasanaethwyr na goleuadau traffig ond bydd ganddynt arwydd ‘Ildiwch’. Dylech edrych y ddwy ffordd, gwrandewch a gwnewch yn siŵr nad oes trên yn dod cyn i chi groesi.

Rheol 299

Gwrthdrawiadau a damweiniau. Os bydd eich cerbyd yn torri lawr, neu os byddwch mewn gwrthdrawiad ar groesfan, dylech

  • gael pawb allan o’r cerbyd ac yn glir o’r groesfan ar unwaith

  • defnyddio ffôn rheilffordd os bydd un ar gael i ddweud wrth y gweithredwr signal. Dilynwch y cyfarwyddiadau a roddir i chi

  • symud y cerbyd yn glir o’r groesfan os bydd amser cyn i drên gyrraedd. Os bydd larwm yn seinio, neu’r golau ambr yn dod ymlaen, gadewch y cerbyd a symud i ffwrdd o’r groesfan ar unwaith.

Tramffyrdd (rheol 300 i 307)

Rheol 300

Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â mynd ar ffordd, lôn neu lwybr arall a neilltuwyd ar gyfer tramiau. Byddwch yn fwy gofalus pan fydd tramiau’n teithio ar hyd y ffordd. Dylech osgoi gyrru’n uniongyrchol ar ben y cledrau a bod yn ofalus pan fydd tramiau yn gadael y briffordd i fynd i mewn i’r llwybr a neilltuwyd, er mwyn sicrhau nad ydych yn eu dilyn. Dangosir y lled a gymerir gan dramiau yn aml gan lonydd tramiau a farciwyd â llinellau gwyn, dotiau melyn neu gan fath gwahanol o arwyneb ffordd. Mae arwyddion siâp diemwnt a goleuadau gwyn yn rhoi cyfarwyddiadau i yrwyr tramiau yn unig.

Y ddeddf RTRA sects 5 a 8

Rheol 301

Byddwch yn arbennig o ofalus lle mae’r trac yn croesi o un ochr i’r ffordd i’r llall a lle mae’r ffordd yn culhau a’r traciau yn dod yn agos at y palmant. Fel arfer, mae gan yrwyr tramiau eu signalau traffig eu hunain a gellir caniatáu iddynt symud pan nad ydych chi’n symud. Ildiwch i dramiau bob tro. Peidiwch â cheisio rasio tramiau na’u goddiweddyd na’u pasio ar yr ochr fewnol, oni bai eu bod wrth arosfannau tramiau neu wedi’u stopio gan signalau tramiau a bod lôn dramiau benodol i chi eu pasio.

Rheol 302

Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â pharcio eich cerbyd lle byddai’n mynd yn y ffordd tramiau neu lle byddai’n gorfodi gyrwyr eraill i wneud hynny. Peidiwch â stopio ar unrhyw ran o’r trac tram, ac eithrio mewn cilfach benodedig lle mae hyn wedi’i ddarparu ar yr ochr ac yn glir o’r trac. Wrth wneud hynny, sicrhewch fod pob rhan o’ch cerbyd y tu allan i’r llwybr tram a amlinellir. Cofiwch na all tram lywio o amgylch rhwystr.

Y ddeddf RTRA sects 5 a 8

Rheol 303

Arosfannau tramiau. Os bydd tram yn stopio ar blatfform, naill ai yn y canol neu wrth ochr y ffordd, mae’n RHAID i chi ddilyn y llwybr a ddangosir gan arwyddion a marciau’r ffordd. Wrth arosfannau heb blatfformau, mae’n RHAID I CHI BEIDIO â gyrru rhwng tram a’r cwrb ar y chwith pan fydd tram wedi stopio i gasglu teithwyr. Os nad oes arwydd ar gyfer llwybr amgen, peidiwch â goddiweddyd y tram - arhoswch i’r tram symud.

Y ddeddf RTRA sects 5 a 8

Rheol 304

Edrychwch am gerddwyr, yn enwedig plant, yn rhedeg i ddal tram sy’n agosáu at arhosfan.

Rheol 305

Rhowch flaenoriaeth i dramiau bob amser, yn enwedig pan fyddant yn rhoi signal i dynnu oddi wrth arosfannau, oni fyddai’n anniogel gwneud hynny. Cofiwch y gallant fod yn cario nifer fawr o deithwyr sy’n sefyll a allai gael eu hanafu pe bai’n rhaid i’r tram wneud stop mewn argyfwng. Cadwch olwg am bobl sy’n mynd oddi ar fws neu dram ac yn croesi’r ffordd.

Rheol 306

Dylai pawb sy’n defnyddio’r ffordd, yn enwedig beicwyr a beicwyr modur, gymryd gofal ychwanegol wrth yrru neu seiclo yn agos at y traciau neu wrth groesi’r traciau, yn enwedig os bydd y cledrau yn wlyb. Dylech gymryd gofal arbennig wrth groesi’r cledrau ar onglau bas, ar droeon ac wrth gyffyrdd. Y peth mwyaf diogel yw croesi’r traciau’n uniongyrchol ar onglau sgwâr. Dylai defnyddwyr eraill y ffordd fod yn ymwybodol y gallai fod angen mwy o le ar feicwyr a beicwyr modur i groesi’r traciau yn ddiogel.

Rheol 307

Llinellau trydan uwchben. Mae gwifrau uwchben tramffyrdd fel arfer yn 5.8 metr uwchben unrhyw gerbydffordd, ond gallant fod yn is. Sicrhewch fod gennych ddigon o gliriad rhwng y wifren a’ch cerbyd (gan gynnwys unrhyw lwyth yr ydych yn ei gario) cyn gyrru o dan wifren uwchben. Dylai gyrwyr cerbydau â chraeniau sy’n ymestyn, breichiau, offer tipio neu fathau eraill o gyfarpar uchder amrywiol sicrhau bod yr offer yn cael ei ostwng yn llawn. Pan fydd gwifrau uwchben wedi’u gosod yn is na 5.8 metr, bydd y rhain yn cael eu dynodi gan farciau clirio uchder - yn debyg i arwyddion ‘Pont isel’. Dylid nodi a gwylio’r cliriadau uchder ar y platiau hyn yn ofalus. Os ydych mewn unrhyw amheuaeth ynghylch a fydd eich cerbyd yn pasio’n ddiogel o dan y gwifrau, dylech bob amser gysylltu â’r heddlu lleol neu’r gweithredwr tramffordd. Peidiwch â chymryd risg oherwydd gall hyn fod yn beryglus iawn.