Damweiniau a digwyddiadau (275 i 287)

Rheolau ar gyfer damweiniau a digwyddiadau, gan gynnwys rheolau ar gyfer traffyrdd, rhwystrau, digwyddiadau, digwyddiadau sy'n ymwneud â nwyddau a dogfennau peryglus.

Man diogelwch cymharol (rheol 275)

Rheol 275

Os oes angen i chi stopio’ch cerbyd oherwydd torri i lawr neu ddigwyddiad, ceisiwch stopio mewn man o ddiogelwch cymharol. Man o ddiogelwch cymharol yw lle rydych chi, eich teithwyr a’ch cerbyd yn llai tebygol o fod mewn perygl o draffig sy’n symud.

Y man diogelaf i stopio yw lleoliad sydd wedi’i gynllunio ar gyfer parcio. Ar draffyrdd a ffyrdd cyflymder uchel eraill, y man diogelaf i stopio yw ardal wasanaeth. Mae mannau eraill o ddiogelwch cymharol yn cynnwys

Byddwch yn ymwybodol fod lleiniau caled yn darparu llai o amddiffynfa na mannau eraill o ddiogelwch cymharol oherwydd eu bod mor agos at draffig cyflymder uchel.

Dylech chi a’ch teithwyr, lle’n bosibl, gadw’n bell i ffwrdd o’ch cerbyd a thraffig sy’n symud. Fel arall gallai traffig sy’n symud wrthdaro â’ch cerbyd, gan ei orfodi i mewn i chi a’ch teithwyr.

Damweiniau (rheol 276)

Rheol 276

Os bydd eich cerbyd yn torri i lawr, meddyliwch yn gyntaf am holl ddefnyddwyr eraill y ffordd a

  • symud eich cerbyd oddi ar y ffordd os yn bosibl

  • rhybuddio traffig eraill drwy ddefnyddio eich goleuadau rhybudd os bydd eich cerbyd yn achosi rhwystr

  • helpu defnyddwyr eraill y ffordd i’ch gweld drwy wisgo dillad lliw golau neu fflwroleuol mewn golau dydd a dillad llachar yn y nos neu mewn gwelededd gwael

  • rhoi triongl rhybudd ar y ffordd o leiaf 45 metr (147 troedfedd) y tu ôl i’ch cerbyd sydd wedi torri i lawr ar yr un ochr o’r ffordd, neu defnyddiwch ddyfeisiau rhybuddio eraill a ganiateir os oes gennych rai. Byddwch yn ofalus iawn bob amser wrth eu gosod neu eu cael yn ôl, ond peidiwch byth â’u defnyddio ar draffyrdd

  • os yn bosibl, cadwch eich goleuadau ystlys ymlaen os bydd yn dywyll neu os bydd gwelededd yn wael

  • peidiwch â sefyll (na gadael i unrhyw un arall sefyll) rhwng eich cerbyd a’r traffig sy’n dod tuag atoch

  • peidiwch â sefyll, yn y nos neu mewn gwelededd gwael, lle byddwch yn atal defnyddwyr eraill y ffordd rhag gweld eich goleuadau

Rheolau ychwanegol ar gyfer traffyrdd (rheol 277 i 278)

Rheol 277

Os yw’ch cerbyd yn datblygu problem, gadewch y gerbydffordd yn yr allanfa nesaf neu tynnwch i mewn i ardal wasanaeth os yn bosibl (gweler Rheol 275 am leoedd o ddiogelwch cymharol). Os nad ydych yn gallu, dylech chi

Fynd i’r chwith

  • symud i’r lôn chwith

  • tynnu i mewn i ardal argyfwng neu ar lain galed os gallwch chi

  • stopio mor bell i’r chwith â phosibl, gan adael gofod i fynd allan o’ch cerbyd ac â’ch olwynion wedi troi i’r chwith

  • os gallwch chi, stopiwch ychydig heibio i deleffon argyfwng

  • rhowch eich goleuadau rhybudd perygl ymlaen

  • os yw’n dywyll neu fod gweladwyedd yn wael, defnyddiwch oleuadau bach.

Diogelwch eich hun

  • ewch allan o’ch cerbyd trwy’r ochr bellaf oddi wrth y traffig, os yw’n ddiogel ac yn bosibl i wneud hynny, a sicrhewch fod teithwyr yn gwneud yr un peth

Os nad ydych yn gallu

  • symudwch eich cerbyd i’r lôn chwith neu fan o ddiogelwch cymharol (gweler Rheol 275), ac
  • ewch allan o’ch cerbyd yn ddiogel i gadw’n bell oddi wrtho a thraffig sy’n symud,

dylech chi

  • aros yn eich cerbyd
  • cadw’ch gwregysau diogelwch a goleuadau rhybudd perygl ymlaen
  • galw 999 ar unwaith a gofyn am yr heddlu. Fel arall, pwyswch eich botwm SOS os oes gan eich cerbyd un a gofynnwch am yr heddlu
  • gwisgwch ddillad gweladwyedd uchel os ydynt gennych a’u bod o fewn cyrraedd hawdd

  • ewch y tu ôl i rwystr diogelwch lle mae un, ond byddwch yn ymwybodol o beryglon anweledig gostyngiadau sydyn yn y tir, daear anwastad neu falurion

  • PEIDIWCH â sefyll mewn man lle gallai’ch cerbyd gael ei orfodi i mewn i chi os yw traffig sy’n symud yn gwrthdaro ag ef

  • PEIDIWCH â dychwelyd at eich cerbyd hyd yn oed os yw’n bwrw glaw, yn oer neu’n dywyll

  • arhoswch yn effro ac yn ymwybodol o gerbydau neu falurion sy’n dod tuag atoch

  • cadwch deithwyr i ffwrdd o’r gerbydffordd a phlant o dan reolaeth

  • PEIDIWCH â rhoi cynnig ar atgyweiriadau ar eich cerbyd

  • PEIDIWCH â gosod triongl rhybudd ar y gerbydffordd

  • mae’n RHAID i anifeiliaid gael eu cadw yn y cerbyd neu, mewn argyfwng, o dan reolaeth ar yr ymyl.

Rheol 277: Cadwch yn bell i ffwrdd o'ch cerbyd a thraffig sy'n symud.

Rheol 277: Cadwch yn bell i ffwrdd o'ch cerbyd a thraffig sy'n symud.

Ceisiwch gymorth

  • defnyddiwch y teleffon argyfwng am ddim i gael cyngor a chymorth

  • cysylltwch â gwasanaeth adfer torri i lawr

  • wynebwch y traffig bob amser pan fyddwch yn siarad i aros yn ymwybodol o gerbydau neu falurion sy’n dod tuag atoch

  • rhowch wybod iddynt os ydych chi’n fodurwr agored i niwed megis anabl, hŷn neu’n teithio ar eich pen eich hun

  • arhoswch yn bell i ffwrdd o’ch cerbyd a thraffig sy’n symud, y tu ôl i’r rhwystr diogelwch lle mae un

  • os nad ydych chi’n gallu mynd allan o’ch cerbyd neu os nad ydych wedi stopio’n agos at deleffon argyfwng am ddim, galwch 999 ar unwaith a gofynnwch am yr heddlu. Fel arall, pwyswch eich botwm SOS os oes gan eich cerbyd un a gofynnwch am yr heddlu.

Cyfathrebu’ch lleoliad. Sut i nodi’ch lleoliad i’r gwasanaethau argyfwng.

eAlwad. Pwyswch y botwm SOS os oes gan eich cerbyd un.
Ap. Defnyddiwch ap mapio teleffon symudol.
Post marciwr neu arwydd lleoliad gyrrwr. Dyfynnwch y rhifau a llythrennau ar byst marciwr neu arwyddion lleoliad gyrrwr sydd wedi’u lleoli ar hyd ymyl y ffordd.

Deddfau MT(E&W)R reg 14 a MT(S)R reg 12

Rheol 278

I ailymuno â cherbydffordd ar ôl torri i lawr o

  • lain galed, adeiladwch gyflymder, rhowch arwydd a chadwch olwg am fwlch diogel yn y traffig. Byddwch yn ymwybodol fod cerbydau, rhwystrau neu falurion yn gallu bod yn bresennol ar y llain galed

  • ardal argyfwng, mae’n RHAID i chi ddefnyddio’r teleffon argyfwng a ddarperir a dilyn cyngor y gweithredwr ar gyfer gadael yr ardal argyfwng. Gall fod angen i lôn gael ei chau er mwyn i chi allu ailymuno â’r gerbydffordd yn ddiogel.

Rheol 278: Arwydd gwybodaeth ardal argyfwng

Deddf RTA 1988 sect 36

Rheol 279

Gyrwyr anabl. Os oes gennych anabledd sy’n eich hatal rhag dilyn y cyngor uchod yn Rheolau 277 a 278, dylech chi

  • roi eich goleuadau rhybudd perygl ymlaen

  • aros yn eich cerbyd a chadw’ch gwregys diogelwch ymlaen

  • galw 999 ar unwaith a gofyn am yr heddlu. Fel arall, pwyswch eich botwm SOS os oes gan eich cerbyd un a gofynnwch am yr heddlu

Os ydych chi’n fyddar, yn drwm eich clyw neu â nam lleferydd, argymhellir eich bod yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth testun 999 (emergencySMS.net) cyn gwneud taith.

Rhwystrau (rheol 280)

Rheol 280

Os oes unrhyw beth yn syrthio o gerbyd ar draffordd neu ffordd gyflymder uchel arall, PEIDIWCH â thynnu’r rhwystr eich hun. Stopiwch mewn man o ddiogelwch cymharol (gweler Rheol 275) a galwch y gwasanaethau argyfwng ar 999.

Ar ffyrdd eraill, dylech ond symud rhwystrau os yw’n ddiogel i wneud hynny.

Damweiniau (rheol 281 i 283)

Rheol 281

Arwyddion rhybudd neu oleuadau’n fflachio. Os gwelwch chi gerbydau argyfwng neu gymorth digwyddiad yn arddangos goleuadau’n fflachio yn y pellter, byddwch yn ymwybodol y gall fod digwyddiad o’ch blaen (gweler Rheol 219). Dylech arafu a bod yn barod i symud yn ddiogel i lôn arall neu i stopio.

Gall fod gofyn i’r gwasanaethau argyfwng, swyddogion traffig a gweithwyr adfer weithio yn y gerbydffordd, er enghraifft, delio â malurion, gwrthdrawiadau neu gynnal rhwystrau ffordd treiglol. Mae’n RHAID i chi ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan heddlu neu swyddogion traffig ynglŷn ag a ydych chi’n gallu mynd heibio i’r digwyddiad neu’r rhwystr yn ddiogel.

Deddfau RTA 1988 sects 35 a 163 fel y’u diwygiwyd gan TMA sect 6

Rheol 282

Wrth fynd heibio i olygfa digwyddiad, arhoswch yn effro am beryglon (megis malurion neu gerbydau’n symud yn araf) a pheidiwch ag arafu’n ddiangen (er enghraifft, os yw digwyddiad ar ochr arall ffordd ddeuol). Dylech ganolbwyntio ar y ffordd ymlaen wrth fynd heibio i ddigwyddiad oherwydd gall diffyg sylw achosi digwyddiad arall, gwrthdaro neu dagfa (gweler hefyd Rheol 283, isod).

Rheol 283

Os ydych chi’n rhan o ddigwyddiad neu wrthdaro neu’n stopio i roi cymorth

  • os yw’n bosibl,stopiwch mewn man o ddiogelwch cymharol (gweler Rheol 275)

  • defnyddiwch eich goleuadau rhybudd perygl i rybuddio traffig arall

  • gwisgwch ddillad gweladwyedd uchel os ydynt gennych a’u bod o fewn cyrraedd hawdd

  • gofynnwch i yrwyr ddiffodd eu peririannau

  • gofynnwch i yrwyr a theithwyr stopio ysmygu

  • cysylltwch â’r gwasanaethau brys ar 999 a darparwch fanylion llawn o leoliad y digwyddiad ac unrhyw rai a anafwyd. Defnyddiwch deleffon argyfwng, teleffon symudol, neu pwyswch y botwm SOS os oes gan eich cerbyd un (gweler Rheol 277 ar sut i adnabod eich lleoliad ar drafforedd neu ffordd gyflymder uchel arall)

  • symudwch bobl heb eu hanafu i ffwrdd o’r cerbydau i fan o ddiogelwch cymharol (gweler Rheol 275), a

  • PHEIDIWCH â symud pobl wedi’u hanafu o’u cerbydau oni bai eu bod mewn perygl amlwg

  • PEIDIWCH â thynnu helmed beiciwr modur oni bai ei bod yn hanfodol a’ch bod wedi’ch hyfforddi i wneud hynny

  • byddwch yn barod i roi cymorth cyntaf (gweler Atodiad 7 a Gwefannau defnyddiol)

  • arhoswch wrth y fan hyd bod y gwasanaethau argyfwng yn cyrraedd

  • byddwch yn barod i gyfnewid manylion (gweler Rheol 286).

Os ydych chi’n rhan o argyfwng meddygol arall, dylech chi gysylltu â’r gwasanaethau argyfwng yn yr un modd.

Damweiniau yn gysylltiedig â nwyddau peryglus (rheol 284 i 285)

Rheol 284

Bydd cerbydau sy’n cario nwyddau peryglus mewn pecynnau yn cael eu marcio â phlatiau adlewyrchol oren plaen. Bydd gan danceri ffyrdd a cherbydau sy’n cario cynwysyddion tanciau nwyddau peryglus blatiau rhybudd (gweler ‘ Marciau cerbydau’).

Rheol 285

Os bydd damwain yn gysylltiedig â cherbyd sy’n cario nwyddau peryglus, dilynwch y cyngor yn Rheol 283 ac, yn benodol

  • diffoddwch y peiriannau a PHEIDIWCH AG YSYMYGU

  • cadwch yn bell oddi wrth y cerbyd a pheidiwch â chael eich temtio i geisio achub rhai wedi’u hanafu oherwydd y gallech chi eich hun ddod yn un

  • ffoniwch y gwasanaethau brys a rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl am y labeli a’r marciau ar y cerbyd. PEIDIWCH â defnyddio ffôn symudol os byddwch yn agos i gerbyd sy’n cario llwythi fflamadwy.

Dogfennaeth (rheol 286 i 287)

Rheol 286

Os byddwch mewn gwrthdrawiad sy’n achosi niwed neu anaf i unrhyw berson arall, cerbyd, anifail neu eiddo, mae’n RHAID i chi

  • stopio. Os yw’n bosibl,stopiwch mewn man o ddiogelwch cymharol (gweler Rheol 275)

  • rhoi eich enw a chyfeiriad eich hun a pherchennog y cerbyd, a rhif cofrestru’r cerbyd, i unrhyw un sydd â sail resymol dros ofyn am y manylion

  • os nad ydych yn rhoi eich enw a’ch cyfeiriad ar adeg y gwrthdrawiad, rhowch y manylion i’r heddlu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, ac mewn unrhyw achos o fewn 24 awr.

Y ddeddf RTA 1988 sect 170

Rheol 287

Os caiff person arall ei anafu ac nad ydych yn cyflwyno eich tystysgrif yswiriant ar adeg y ddamwain i swyddog heddlu neu i unrhyw un sydd â sail resymol dros ofyn amdano, mae’n RHAID I CHI

  • adrodd i’r heddlu cyn gynted ag y bo modd ac mewn unrhyw achos o fewn 24 awr

  • cyflwyno eich tystysgrif yswiriant i’r heddlu o fewn saith diwrnod.

Deddf RTA 1988 sect 170