Atodiad 7. Cymorth cyntaf ar y ffordd

Gwybodaeth am gymorth cyntaf ar y ffordd, gan gynnwys delio â pherygl, cael cymorth, helpu'r rhai dan sylw, a darparu gofal brys.

Casglwyd yr wybodaeth ganlynol â chymorth St John Ambulance, the British Heart Foundation a’r Groes Goch Brydeinig. Bwriedir iddo fod yn ganllaw cyffredinol i’r rhai heb hyfforddiant cymorth cyntaf ond ni ddylid ei ystyried yn lle hyfforddiant priodol. Dim ond dros dro y dylid edrych ar unrhyw gymorth cyntaf a roddir yn lleoliad digwyddiad, hyd nes y bydd y gwasanaethau brys yn cyrraedd.

1. Delio â pherygl

Rhagor o wrthdrawiadau a thân yw’r prif beryglon yn dilyn damwain. Ewch at unrhyw gerbyd sy’n gysylltiedig yn ofalus, cadwch olwg am olew wedi’i ollwng neu wydr sydd wedi torri. Diffoddwch bob injan ac, os yw’n bosibl, rhybuddiwch draffig arall. Os oes gennych gerbyd, rhowch eich goleuadau sy’n rhybuddio am beryglon ymlaen. Stopiwch unrhyw un rhag ysmygu, a gwisgwch y menig o’ch cit cymorth cyntaf os oes gennych un.

2. Cael help

Os gallwch chi wneud hynny’n ddiogel, ceisiwch gael help gwylwyr. Gofynnwch i rywun ffonio’r gwasanaethau brys priodol ar 999 neu 112 cyn gynted â phosibl. Bydd angen iddyn nhw wybod union leoliad

y digwyddiad (gan gynnwys cyfeiriad y traffig, er enghraifft, tua’r Gogledd) a nifer y cerbydau dan sylw. Ceisiwch roi gwybodaeth am gyflwr unrhyw un a anafwyd, er enghraifft, os yw rhywun yn cael trafferth anadlu, yn gwaedu’n drwm, wedi’i ddal mewn cerbyd neu ddim yn ymateb pan siaredir â nhw.

3. Helpwch y rhai sy’n gysylltiedig

PEIDIWCH â symud rhai a anafwyd o’u cerbydau oni bai fod risg o berygl ychwanegol. PEIDIWCH â thynnu helmed beiciwr modur oni bai ei bod yn hanfodol. CEISIWCH gadw’r rhai a anafwyd yn gynnes, yn sych ac mor gyfforddus ag y gallwch. RHOWCH sicrwydd yn hyderus a cheisio peidio â’u gadael ar eu pennau eu hunain neu adael iddynt grwydro i lwybr traffig arall. PEIDIWCH â rhoi unrhyw beth iddynt ii’w fwyta na’i yfed.

4. Rhowch ofal brys

Cofiwch y llythrennau D R A B C:

D - Perygl Gwiriwch ei bod yn ddiogel i ddynesu.

R - Ymateb Ceisiwch gael ymateb drwy ysgwyd ysgwyddau’r rhai a anafwyd yn dyner a gofyn yn uchel ‘Ydych chi’n iawn?’ Os ydynt yn ymateb, gwiriwch am anafiadau.

A - Llwybr anadlu Os nad oes ymateb, agorwch lwybr anadlu’r claf drwy roi eich bysedd dan ei ên a’i godi ymlaen.

Os yw'r claf yn anymwybodol ac yn anadlu, rhowch ef yn yr ystum adfer hyd nes y bydd y cymorth meddygol yn cyrraedd

Os yw'r claf yn anymwybodol ac yn anadlu, rhowch ef yn yr ystum adfer hyd nes y bydd y cymorth meddygol yn cyrraedd

B - Anadlu Gofalwch fod y claf yn anadlu yn arferol. Edrychwch am symudiadau’r frest, edrychwch a gwrandewch am anadlu, a theimlwch am anadl ar eich boch.

Os nad oes arwyddion o anadlu, dechreuwch CPR. Gan gyd-gloi eich bysedd, gosodwch nhw yng nghanol brest yr un a anafwyd a phwyso i lawr yn galed ac yn gyflym – tua 5 i 6 centimetr a thua dwywaith yr eiliad. Efallai mai dim ond un llaw sydd ei angen ar blentyn ac ni ddylech bwyso i lawr cyn belled. Ar gyfer babanod, defnyddiwch ddau fys yng nghanol y frest a gwasgwch i lawr tua thraean o ddyfnder y frest. Peidiwch â stopio nes bydd yr un a anafwyd yn dechrau anadlu eto neu pan fydd gweithiwr meddygol proffesiynol yn cymryd drosodd.

C - Cylchrediad Os yw’r un a anafwyd yn ymatebol ac yn anadlu, gwiriwch am arwyddion o waedu. Gwarchodwch eich hun rhag cael eich dinoethi i waed a gwiriwch am unrhyw beth a allai fod yn y clwyf, fel gwydr. Peidiwch â thynnu unrhyw beth sy’n sownd yn y clwyf. Gan gymryd gofal i beidio â phwyso ar y gwrthrych, adeiladwch y padiau ar y naill ochr a’r llall i’r gwrthrych. Os nad yw unrhyw beth yn mynd yn sownd, rhowch bwysau cadarn dros y clwyf i atal llif y gwaed. Cyn gynted ag y bo’n ymarferol, clymwch y pad i’r clwyf â rhwymynnau neu hyd o liain. Defnyddiwch y defnydd glanaf sydd ar gael.

Llosgiadau

Diffoddwch unrhyw fflamau, gan ofalu am eich diogelwch eich hun. Oerwch y llosg am o leiaf 20 munud â digonedd o ddŵr glân, oer. Gorchuddiwch y llosg â chling ffilm os yw ar gael. Peidiwch â cheisio tynnu

unrhyw beth sy’n glynu wrth y llosg.

Byddwch yn barod

Dylech bob amser gario pecyn cymorth cyntaf – efallai na fydd ei angen arnoch, ond gallai achub bywyd. Dysgwch gymorth cyntaf – gallwch gael hyfforddiant cymorth cyntaf gan sefydliad cymwysedig fel St John Ambulance, Cymorth Cyntaf St Andrew, Y Groes Goch Brydeinig, neu unrhyw gorff addas, cymwysedig.