Gyrru mewn tywydd garw (226 i 237)

Rheolau ar gyfer gyrru dan amodau tywydd garw, gan gynnwys tywydd gwlyb, tywydd rhewllyd ac eira, tywydd gwyntog, niwl a thywydd poeth.

Trosolwg (rheol 226)

Rheol 226

Mae’n RHAID i chi ddefnyddio prif lampau blaen pen pan fydd gwelededd yn cael ei leihau’n ddifrifol, fel arfer pan na allwch weld am fwy na 100 metr (328 troedfedd). Gallwch hefyd ddefnyddio goleuadau niwl yn y blaen neu’r cefn ond mae’n RHAID i chi eu diffodd pan fydd gwelededd yn gwella (gweler Rheol 236)

Y ddeddf RVLR regs 25 a 27

Tywydd gwlyb (rheol 227)

Rheol 227

Tywydd gwlyb. Mewn tywydd gwlyb, bydd pellteroedd stopio o leiaf ddwywaith y rhai sydd eu hangen i stopio ar ffyrdd sych (gweler ‘Pellteroedd stopio safonol’). Y rheswm am hyn yw bod gan eich teiars lai o afael ar y ffordd. Mewn tywydd gwlyb

  • dylech gadw’n bell yn ôl o’r cerbyd o’ch blaen. Bydd hyn yn gwella eich gallu i weld a chynllunio ar gyfer beth sydd o’ch blaen
  • os nad yw’r olwynion yn ymateb wrth i chi lywio, mae hyn o bosib yn golygu bod dŵr yn atal y teiars rhag cydio yn y ffordd. Cymerwch eich troed oddi ar y sbardun ychydig ac arafwch yn raddol
  • gall y glaw a’r chwistrelliad o gerbydau ei gwneud hi’n anodd gweld a chael eich gweld
  • byddwch yn ymwybodol o beryglon diesel sydd wedi’i arllwys a fydd yn gwneud yr arwyneb yn llithrig iawn (gweler Cynnal a chadw a diogelwch cerbydau)
  • byddwch yn fwy gofalus o amgylch cerddwyr, beicwyr, beicwyr modur a marchogion ceffylau.

Tywydd rhewllyd ac eira (rheol 228 i 231)

Rheol 228

Yn y gaeaf, edrychwch ar ragolygon y tywydd lleol am rybuddion o dywydd rhewllyd neu eira. PEIDIWCH â gyrru dan yr amodau hyn oni bai bod eich taith yn hanfodol. Os ydyw, byddwch yn ofalus iawn a gadewch fwy o amser ar gyfer eich taith. Ewch â phecyn argyfwng o ddadrewydd ac ysgrafell rew, tortsh, dillad ac esgidiau cynnes, cit cymorth cyntaf, gwifrau cyswllt a rhaw, ynghyd â diod gynnes a bwyd brys rhag ofn na fyddwch chi’n gallu symud oherwydd y tywydd neu os bydd eich cerbyd yn torri i lawr.

Rheol 229

Cyn i chi gychwyn

  • mae’n RHAID i chi allu gweld, felly cliriwch yr holl eira a rhew o’ch ffenestri
  • mae’n RHAID i chi sicrhau bod y goleuadau’n lân a bod platiau rhif i’w gweld yn glir ac yn ddarllenadwy
  • gwnewch yn siŵr bod y drychau yn glir a bod y ffenestri’n cael eu diniwlio yn drylwyr
  • symudwch yr holl eira a allai ddisgyn i lwybr defnyddwyr eraill y ffordd
  • gwiriwch nad oes oedi ar eich llwybr arfaethedig ac na ragwelir unrhyw eira na thywydd garw ychwanegol.

Deddfau CUR reg 30, RVLR reg 23, VERA sect 43 a RV(DRM)R reg 11

Rule 229: Gwnewch yn siŵr bod eich ffenestr flaen yn gwbl glir

Rheol 229: Gwnewch yn siŵr bod eich ffenestr flaen yn gwbl glir

Rheol 230

Wrth yrru mewn tywydd rhewllyd neu eira

  • gyrrwch yn ofalus, hyd yn oed os yw’r ffyrdd wedi cael eu trin
  • cadwch yn ôl o ddefnyddiwr y ffordd o’ch blaen gan y gall pellteroedd stopio fod ddeg gwaith yn fwy nac ar ffyrdd sych
  • byddwch yn ofalus wrth i gerbydau sy’n goddiweddyd wasgaru halen neu ddadrewydd arall, yn enwedig os byddwch ar feic modur neu feic
  • gwyliwch am aradr eira a allai daflu eira ar y naill ochr a’r llall. Peidiwch â’u goddiweddyd oni bai fod y lôn yr ydych yn bwriadu ei defnyddio wedi’i chlirio
  • byddwch yn barod i amodau’r ffordd newid dros bellteroedd cymharol fyr
  • gwrandewch ar fwletinau teithio a sylwch ar arwyddion negeseuon newidiol a allai roi gwybodaeth am amodau’r tywydd, y ffordd a’r traffig o’ch blaen.

Rheol 231

Gyrrwch yn ofalus dros ben pan fo’r ffyrdd yn rhewllyd. Osgowch weithredoedd sydyn gan y gallai’r rhain achosi i chi golli rheolaeth. Dylech chi

  • yrru ar gyflymder araf mewn gêr mor uchel â phosibl; cyflymwch a breciwch yn ysgafn iawn
  • gyrru yn araf iawn ar droeon lle mae colli rheolaeth yn fwy tebygol. Breciwch yn raddol ar y darn syth cyn i chi gyrraedd troad. Ar ôl arafu, llywiwch yn esmwyth o amgylch y troad, gan osgoi gweithredoedd sydyn
  • gwirio eich gafael ar arwyneb y ffordd pan fydd eira neu rew drwy ddewis lle diogel i frecio’n ysgafn. Os nad yw’r olwynion yn ymateb wrth i chi lywio, gall hyn fod yn arwydd o rew a bod eich cerbyd yn colli ei afael ar y ffordd. Wrth deithio ar rew, nid yw teiars yn gwneud bron unrhyw sŵn o gwbl.

Tywydd gwyntog (rheol 232 i 233)

Rheol 232

Mae tywydd gwyntog yn effeithio fwyaf ar gerbydau ochrau uchel, ond gall hyrddiau cryf chwythu car, beiciwr, beiciwr modur neu farchog oddi ar y cwrs. Gall hyn ddigwydd ar ddarnau agored o’r ffordd sy’n agored i groeswyntoedd cryf, neu wrth basio pontydd neu fylchau mewn gwrychoedd.

Rheol 233

Mewn tywydd gwyntog iawn, efallai y bydd y tyrfedd a grëir gan gerbydau mawr yn effeithio ar eich cerbyd. Mae beicwyr modur yn cael eu heffeithio’n arbennig, felly cadwch yn ôl oddi wrthynt pan fyddant yn goddiweddyd cerbyd ochrau uchel.

Niwl (rheol 234 i 236)

Rheol 234

Cyn mynd i mewn i’r niwl gwiriwch eich drychau yna arafwch. Os bydd y gair ‘Niwl’ yn cael ei ddangos ar signal ar ochr y ffordd ond bod y lôn yn glir, byddwch yn barod ar gyfer banc o niwl neu niwl bylchog sy’n symud o’ch blaen. Hyd yn oed os bydd yn ymddangos fel bod y niwl yn clirio, gallwch ganfod eich hun mewn niwl trwchus yn sydyn.

Rheol 235

Wrth yrru mewn niwl dylech

  • ddefnyddio eich goleuadau fel sydd angen (gweler Rheol 226)
  • cadw pellter diogel y tu ôl i’r cerbyd o’ch blaen. Gall goleuadau cefn roi ymdeimlad ffug o ddiogelwch
  • gallu tynnu i fyny ymhell o fewn y pellter y gallwch ei weld yn glir. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar draffyrdd a ffyrdd deuol, gan fod cerbydau’n teithio’n gyflymach
  • defnyddio sychwyr ffenestri a’r diniwlwyr
  • bod yn ymwybodol o yrwyr eraill sydd ddim yn defnyddio priflampau
  • peidio â chyflymu i symud oddi wrth gerbyd sy’n rhy agos y tu ôl i chi
  • gwirio eich drychau cyn i chi arafu. Yna, defnyddiwch eich brêc fel bod eich goleuadau brêc yn rhybuddio gyrwyr y tu ôl i chi eich bod yn arafu
  • stopio yn y lle cywir ar gyffordd lle mae gwelededd yn gyfyngedig a gwrando am draffig. Pan fyddwch yn siŵr ei bod yn ddiogel i ddod allan, gwnewch hynny’n bendant a pheidiwch ag oedi mewn sefyllfa sy’n eich rhoi yn syth ar lwybr cerbydau sy’n agosáu.

Rheol 236

Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â defnyddio goleuadau niwl blaen neu’r cefn oni bai fod gwelededd yn cael ei leihau’n ddifrifol (gweler Rheol 226) oherwydd y byddant yn dallu defnyddwyr eraill y ffordd ac yn gallu cuddio’ch goleuadau brêc. Mae’n RHAID i chi ddiffodd y goleuadau pan fydd gwelededd yn well.

Y ddeddf RVLR regs 25 a 27

Tywydd poeth (rheol 237)

Rheol 237

Cadwch eich cerbyd wedi’i awyru’n dda i osgoi teimlo’n gysglyd. Dylech fod yn ymwybodol y gall wyneb y ffordd fynd yn feddal neu, os bydd yn glawio ar ôl ysbaid sych, gall fynd yn llithrig. Gallai’r amodau hyn effeithio ar eich llywio a brecio. Os byddwch yn cael eich dallu gan olau haul llachar, arafwch ac os bydd angen, stopiwch.