Atodiad 6. Cynnal a chadw a diogelwch cerbydau

Gwybodaeth a rheolau am gynnal a chadw a diogelwch cerbydau.

Cynnal a chadw cerbydau

Cymerwch ofal arbennig bod goleuadau, breciau, llywio, system wacáu, gwregysau diogelwch, dadanweddwyr, sychwyr ffenestri ac unrhyw systemau rhybudd clywadwy oll yn gweithio. Hefyd

  • mae’n RHAID bod goleuadau, dangosyddion, adlewyrchyddion, a phlatiau rhifau yn cael eu cadw’n lân a chlir

  • mae’n RHAID cadw sgriniau gwynt a ffenestri yn lân ac yn rhydd rhag rwystrau i’ch golwg

  • mae’n RHAID bod goleuadau yn cael eu haddasu’n briodol i osgoi dallu defnyddwyr eraill y ffordd.

  • Mae angen talu sylw ychwanegol i hyn os yw’r cerbyd wedi’i lwytho’n drwm

  • mae’n rhaid i allyriadau wacáu BEIDIO â bod yn uwch na’r lefelau rhagnodedig

  • sicrhewch fod eich sedd, gwregys diogelwch, ataliad pen a drychau yn cael eu haddasu’n gywir cyn i chi yrru

  • sicrhewch fod eitemau o fagiau yn cael eu storio yn ddiogel.

Cyfreithiau RVLR 1989 regs 23 & 27, & CUR regs 30 & 61

Arwyddion rhybudd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall ystyr pob arwydd rhybudd ar y panel offerynnau cerbyd. Peidiwch ag anwybyddu arwyddion rhybudd, gallen nhw ddangos nam peryglus yn datblygu.

  • Pan fyddwch yn troi’r allwedd danio, bydd goleuadau rhybudd wedi’u goleuo ond byddant yn diffodd pan fydd yr injan yn dechrau (ac eithrio’r golau sy’n rhoi rhybudd am y brêc llaw). Os na fydd hynny yn digwydd, neu os fyddant yn dod ymlaen pan fyddwch yn gyrru, stopiwch ac ymchwiliwch i’r broblem, gan y gallai fod nam difrifol ar y cerbyd.

  • Os daw’r golau rhybudd trydanu ymlaen wrth i chi yrru, gall olygu nad yw’r batri’n trydanu. Dylid hefyd edrych ar hyn cyn gynted ag y bo modd er mwyn osgoi colli pŵer i oleuadau a systemau trydanol eraill.

Arlliwiau ffenestri. Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â defnyddio cerbyd gydag arlliw sy’n rhy dywyll wedi’i osod ar y ffenestr flaen, neu i’r gwydr mewn unrhyw ffenestr flaen ar y naill ochr a’r llall i’r gyrrwr. Mae’r graddliwio a wneir i’r ffenestri wrth weithgynhyrchu yn cydymffurfio â safonau Trosglwyddo Golau Gweledol (VLT). Nid oes unrhyw derfynau VLT ar gyfer sgriniau gwynt yn y cefn na ffenestri teithwyr cefn.

Cyfreithiau RTA 1988 sect 42 & CUR reg 32

Teiars. Mae’n RHAID i deiars gael eu llenwi’n gywir i fanyleb gwneuthurwr y cerbyd ar gyfer y llwyth sy’n cael ei gario. Dylech bob amser gyfeirio at lawlyfr neu ddata’r cerbyd. Dylai teiars hefyd fod yn rhydd rhag rhai toriadau a diffygion eraill.

Mae’n RHAID bod gan teiars ceir, faniau ysgafn a threlars ysgafn ddyfnder gwadn o leiaf 1.6 mm ar draws tri chwarter canol lled y gwadn ac o amgylch y cylchedd cyfan.

Mae’n RHAID bod gan teiars beiciau modur, cerbydau mawr a cherbydau cludo teithwyr ddyfnder gwadn o leiaf 1 mm ar draws tri chwarter o led y gwadn ac mewn band di-dor o amgylch y cylchedd cyfan.

Dylai mopedau fod â gwadn gweladwy.

Byddwch yn ymwybodol y gall rhai diffygion mewn cerbydau arwain at bwyntiau cosb.

Oedran teiar. Mae’n RHAID PEIDIO â defnyddio teiars dros 10 oed ar echelau blaen:

  • cerbydau nwyddau ag uchafswm pwysau gros o fwy na 3.5 tunnell fetrig

  • cerbydau teithwyr â mwy na 6 sedd teithiwr

Yn ogystal, mae’n RHAID IDDYNT BEIDIO â chael eu defnyddio ar echelau ôl cerbydau teithwyr â 9 i 16 sedd teithiwr, oni bai fod ganddynt olwynion dwbl.

I brofi oedran teiar, gofynnir ymhellach fod RHAID i ddyddiad gweithgynhyrchiad y teiar fod yn ddarllenadwy bob amser.

Mae cerbydau sydd ar hyn o bryd wedi’u heithrio o reoliadau addasrwydd teiars i’r ffordd a cherbydau o ddiddordeb hanesyddol sydd ddim yn cael eu defnyddio at ddiben masnachol wedi’u heithrio o’r gofynion hyn.

Y gyfraith CUR reg 27

Os bydd teiars yn byrstio wrth i chi yrru, ceisiwch gadw rheolaeth ar eich cerbyd. Gafaelwch yn yr olwyn lywio yn gadarn a gadewch i’r cerbyd rolio i stop ar ochr y ffordd.

Os oes gennych deiar fflat, stopiwch cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny. Dylech ddim ond newid y teiar os gallwch wneud hynny heb roi eich hun neu eraill mewn perygl – fel arall ffoniwch wasanaeth torri i lawr.

Pwysedd teiars. Gwiriwch yn wythnosol. Gwnewch hyn cyn eich taith, pan fydd teiars yn oer. Gall teiars cynnes neu boeth roi darlleniad camarweiniol.

Bydd eich breciau a’ch llywio yn cael eu heffeithio’n andwyol gan deiars heb eu llenwi ddigon neu wedi’u gorlenwi. Gall traul teiars gormodol neu anwastad gael ei hachosi gan namau yn y systemau brecio neu atal, neu olwynion sydd allan o aliniad. Trefnwch fod y gwallau hyn yn cael eu cywiro cyn gynted â phosibl.

Lefelau hylifau. Edrychwch ar y lefelau hylif yn eich cerbyd o leiaf unwaith yr wythnos. Gall hylif brêc isel arwain at fethiant brêc a damwain. Gwnewch yn siŵr eich bod yn adnabod y goleuadau rhybudd hylif isel os oes rhai wedi’u gosod ar eich cerbyd.

Cyn y gaeaf. Gwnewch yn siŵr fod y batri wedi’i gynnal a’i gadw’n dda a bod yna asiantau gwrth-rewi priodol yn eich rheiddiadur a photel sgrin flaen.

Problemau eraill. Os bydd eich cerbyd

  • yn tynnu i un ochr wrth frecio, mae’n fwyaf tebygol o fod yn wall â’r brêc neu’r teiars wedi’u llenwi’n anghywir. Ymgynghorwch â garej neu fecanydd ar unwaith

  • yn parhau i fownsio ar ôl gwthio i lawr ar y ffrynt neu’r cefn, mae ei siocleddfwyr wedi’u treulio. Gall siocleddfwyr treuliedig effeithio’n ddifrifol ar weithrediad cerbyd a dylent gael eu newid

  • yn arogli o unrhyw beth anarferol fel rwber yn llosgi, petrol neu nam trydanol; ymchwiliwch ar unwaith. Peidiwch ag achosi perygl tân.

Injans wedi’u gorboethi neu dân. Mae’r mwyafrif o injans yn cael eu hoeri gan ddŵr. Os bydd eich injan yn gorgynhesu dylech aros nes ei bod wedi oeri’n naturiol. Dim ond wedyn y dylech dynnu cap llenwi’r oerydd ac ychwanegu dŵr neu oerydd arall.

Os bydd eich cerbyd yn mynd ar dân, ewch â’r teithwyr allan o’r cerbyd yn gyflym ac i le diogel. Peidiwch â cheisio diffodd tân yng ngherbydran yr injan, gan y bydd agor y bonet yn achosi i’r tân ffaglu. Ffoniwch y frigâd dân.

Gorsafoedd petrol/tanc tanwydd/tanwydd yn gollwng. Gofalwch, wrth lenwi tanc eich cerbyd neu unrhyw ganiau tanwydd rydych yn eu cario, nad ydych yn gollwng tanwydd ar y blaengwrt. Dylid rhoi gwybod am unrhyw danwydd sydd wedi’i ollwng i’r gwasanaethwr gorsaf betrol ar unwaith. Mae gollyngiadau diesel yn beryglus i ddefnyddwyr eraill y ffordd, yn enwedig beicwyr modur, gan y bydd yn lleihau’n sylweddol lefel y gafael rhwng y teiars ac wyneb y ffordd. Gwiriwch ddwywaith am ollyngiadau tanwydd a sicrhewch y canlynol

  • nid ydych yn gorlenwi eich tanc tanwydd

  • mae’r cap tanwydd yn cael ei osod yn ddiogel

  • nid yw’r sêl yn y cap wedi rhwygo, wedi treulio nac ar goll

  • nid oes difrod gweledol i’r cap na’r tanc tanwydd

Dylai capiau tanwydd argyfwng, os ydynt wedi’u gosod, ffurfio sêl dda.

Peidiwch ag ysmygu, neu ddefnyddio ffôn symudol, ar flaengwrt gorsafoedd petrol gan fod y rhain yn risgiau tân mawr a gallent achosi ffrwydriad.

Ymgymerwch â phob agwedd o wiriadau cerdded o gwmpas dyddiol ar gyfer cerbydau masnachol, fel yr argymhellir gan DVSA (www.gov.uk/dvsa/commercial-vehicle-safety) a Chynllun Adnabod Rheolwr Fflyd (www.fors-online.org.uk).

Diogelwch cerbydau

Pan fyddwch yn gadael eich cerbyd dylech

  • dynnu’r allwedd danio ac ymgysylltu â’r clo llywio

  • cloi’r car, hyd yn oed os mai dim ond am ychydig funudau y byddwch yn ei adael

  • cau’r ffenestri’n llwyr

  • peidio byth â gadael plant neu anifeiliaid anwes mewn car heb ei awyru

  • cymryd yr holl gynnwys gyda chi, neu eu cloi yn y gist. Cofiwch, efallai bydd lleidr yn meddwl bod bag siopa yn cynnwys eitemau gwerthfawr

  • peidio byth â gadael dogfennau cerbyd yn y car.

Am ddiogelwch ychwanegol gosodwch ddyfais gwrth-ladrad megis larwm neu lonyddydd. Os ydych chi’n prynu car newydd, mae’n syniad da gwirio lefel y nodweddion diogelwch sy’n rhan o’r system. Ystyriwch ysgythru eich rhif cofrestru ar holl ffenestri eich car. Mae hyn yn ataliad rhad ac effeithiol rhag ladron proffesiynol.