Rheolau ar gyfer beicwyr (59 i 82)

Rheolau ar gyfer beicwyr, gan gynnwys trosolwg, cyffyrdd ffyrdd, cylchfannau a chroesi'r ffordd.

Mae’r rheolau hyn yn ychwanegol at y rhai yn yr adrannau canlynol, sy’n berthnasol i bob cerbyd (ac eithrio’r adran draffordd). Gweler hefyd Chi a’ch beic.

Trosolwg (rheol 59 i 72)

Rheol 59

Dillad. Dylech osgoi dillad sy’n gallu mynd ynghlwm yn y gadwyn, neu mewn olwyn neu sy’n gallu cuddio’ch goleuadau pan fyddwch yn seiclo.

Mae dillad lliw golau neu fflworoleuol yn gallu helpu defnyddwyr eraill y ffordd i’ch gweld mewn golau dydd a golau gwael, tra bo dillad adlewyrchol a/neu ategolion (gwregys, bandiau braich beu ffêr) yn gallu cynyddu’ch gweladwyedd yn y tywyllwch.

Dylech wisgo helmed seiclo sy’n cydymffurfio â’r rheoliadau presennol, mae’n faint cywir ac wedi’i chlymu’n ddiogel. Mae tystiolaeth yn awgrymu y bydd helmed wedi’i ffitio’n gywir yn lleihau eich risg o ddioddef anaf pen o dan amgyclhiadau penodol.

Rheol 59: Helpwch eich hun i gael eich gweld

Rheol 59: Helpwch eich hun i gael eich gweld

Rheol 60

Yn ystod y nos mae’n RHAID i’ch beic fod wedi’i oleuo â goleuadau blaen gwyn a goleuadau cefn coch. Mae’n RHAID i’ch beic hefyd fod wedi’i ffitio ag adlewyrchwyr coch cefn (ac adlewyrchwyr ambr ar y pedalau, os cânt eu cynhyrchu ar ôl 1/10/85). Bydd adlewyrchwyr blaen gwyn ac adlewyrchwyr sbocsen olwynion hefyd yn eich helpu i gael eich gweld. Caniateir goleuadau sy’n fflachio ond argymhellir bod beicwyr sy’n seiclo mewn ardaloedd heb oleuadau stryd yn defnyddio lamp flaen gyson.

Y ddeddf RVLR regs 13, 18 a 24

Rheol 61

Llwybrau Seiclo a Chyfleusterau Eraill. Mae lonydd seiclo wedi’u nodi gan linell wen (sy’n gallu bod yn doredig) ar hyd y ffordd gerbydau (gweler Rheol 140).

Defnyddiwch gyfleusterau fel lonydd a thraciau seiclo, uwch-linellau stopio a chroesfannau twcan (gweler Rheolau 62 a 73) lle maen nhw’n gwneud eich taith yn ddigelach ac yn haws. Bydd hyn yn dibynnu ar eich profiad a’ch sgiliau a’r sefyllfa ar y pryd. Er bod y fath gyfleusterau yn cael eu darparu am resymau diogelwch, gall seiclwyr ymarfer eu barn ac nid oes rhaid iddynt eu defnyddio.

Rheol 62

Traciau seiclo. Llwybrau yw’r rhain i seiclwyr sydd wedi’u diogelu’n gorfforol neu wedi’u lleoli i ffwrdd o draffig moduron, heblaw am pan fyddant yn croesi ffyrdd ochr (gweler Rheol 206). Gall traciau seiclo redeg ochr yn ochr â llwybrau troed neu balmentydd a chael eu gwahanu oddi wrthynt gan nodwedd fel newid deunydd, ymyl, ymylfaen neu linell wen. Mae’n RHAID cadw i’r ochr a fwriedir ar gyfer seiclwyr gan fod ochr y cerddwr yn parhau’n balmant neu’n llwybr troed.

Ni fydd rhai traciau seiclo sy’n cael eu rhannu â cherddwyr sy’ncael eu gwahanu gan y fath nodwedd. Ar y fath lwybrau defnydd ar y cyd, dylech gymryd gofal bob amser wrth fynd heibio i gerddwyr, yn enwedig plant, pobl hŷn neu anabl, a chaniatáu digon o le iddynt. Byddwch yn barod bob amser i arafu a stopio os oes angen (gweler Rheol H2)

Deddf HA 1835 sect 72

Rheol 63

Rhannu gofod â cherddwyr, marchogion a cherbydau wedi’u tynnu gan geffylau. Wrth reidio mewn mannau lle mae rhannu â cherddwyr, marchogion neu gerbydau wedi’u tynnu gan geffyl yn cael eu caniatáu, cymerwch ofal wrth fynd heibio i gerddwyr a marchogion, yn enwedig plant, pobl hŷn neu bobl anabl. Arafwch pan fydd angen a rhowch wybod iddynt eich bod yno; er enghraifft, trwy ganu’ch cloch (argymhellir bod cloch yn cael ei gosod ar eich beic), neu trwy alw allan yn gwrtais.

Cofiwch y gall cerddwyr fod yn fyddar, dall neu’n gweld yn rhannol ac nad yw hyn o bosibl yn amlwg.

Peidiwch â mynd heibio i gerddwyr, marchogion na cherbydau wedi’u tynnu gan geffyl yn agos nac ar gyflymder uchel, yn enwedig o’r tu ôl. Ni ddylech fynd heibio i geffyl ar ei ochr chwith. Cofiwch fod ceffylau’n gallu cael eu dychryn wrth fynd heibio iddynt heb rybudd. Byddwch yn barod bob amser i arafu a stopio pan fydd angen.

Rheol 64

Mae’n rhaid i chi BEIDIO â seiclo ar balmant.

Deddfau HA 1835 sect 72 a R(S)A sect 129

Rheol 65

Lonydd bysiau. Gellir defnyddio’r rhan fwyaf o lonydd bysiau gan feicwyr fel y nodir ar arwyddion. Gwyliwch am bobl sy’n mynd ar fws neu’n dod oddi ar fws. Byddwch yn ofalus iawn pan fyddwch yn goddiweddyd bws neu’n gadael lôn fysiau gan y byddwch yn mynd mewn i lif traffig prysurach. Peidiwch â seiclo rhwng y palmant a’r bws pan fydd y bws yn stopio.

Rheol 66

Dylech

  • osgoi unrhyw weithredoedd a allai leihau’ch rheolaeth o’ch beic

  • byddwch yn ystyriol o anghenion defnyddwyr eraill y ffordd pan fyddant yn reidio mewn grwpiau. Gallwch reidio’n ddau wrth ochr eich gilydd ac mae’n gallu bod yn ddiogelach i wneud hynny, yn enwedig mewn grwpiau mwy neu wrth gadw cwmni i blant neu reidwyr llai profiadol. Byddwch yn ymwybodol o yrwyr y tu ôl i chi a chaniatewch iddynt oddiweddyd (er enghraifft, trwy symud i un llinell neu stopio) pan deimlwch ei bod yn ddiogel i adael iddynt wneud hynny

  • peidio â reidio’n agos y tu ôl i gerbyd arall rhag ofn iddo stopio’n sydyn

  • peidio â chario unrhyw beth fydd yn effeithio ar eich cydbwysedd neu a all fynd ynghlwm yn eich olwynion neu gadwyn

  • byddwch yn ystyriol o ddefnyddwyr eraill y ffordd, yn enwedig cerddwyr dall a rhai sy’n gweld yn rhannol, a marchogion (gweler Rheol H1). Rhowch wybod iddynt eich bod yno pan fydd angen, er enghraifft, trwy alw allan neu ganu’ch cloch os oes gennych un. Argymhellir i gloch gael ei gosod.

Rheol 67

Dylech

  • edrych o’ch cwmpas i sicrhau ei bod hi’n ddiogel cyn symud i ffwrdd o’r ymyl, wrth dynnu allan i oddiweddyd neu i basio cerbydau llonydd, neu wrth droi wrth gyffyrdd neu stopio

  • cadwch olwg am rwystrau yn y ffordd, megis draeniau, gorchuddion gwasanaethau a cheudyllau, gan safleoli’ch hun fel y gallwch symud i’r chwith (yn ogystal ag i’r dde) i’w hosgoi yn ddiogel

  • cymerwch ofal wrth fynd heibio i gerbydau wedi’u parcio, gan adael digon o le (lled drws neu 1 metr) i osgoi cael eich taro os oes drws car yn cael ei agor, a chadwch olwg am gerddwyr yn camu i mewn i’ch llwybr

  • byddwch yn ymwybodol o draffig yn agosáu y tu ôl i chi, gan gynnwys seiclwyr eraill, a rhowch arwydd clir i ddangos i ddefnyddwyr eraill y ffordd yr hyn rydych chi’n bwriadu ei wneud, gweler Arwyddion i ddefnyddwyr eraill y ffordd

  • cymerwch ofal ychwanegol ger twmpathau ffordd, mannau culhau a nodweddion arafu traffig eraill

  • wrth seiclo ar y ffordd, ewch heibio i gerbydau mawr ar y chwith pan fyddant yn llonydd neu’n symud yn araf a dylech fynd ymlaen â gofal gan nad yw’r gyrrwr yn eich gweld o bosibl. Byddwch yn arbennig o ofalus ar agosáu at gyffyrdd neu lle gallai cerbyd mawr newid lonydd i’r chwith.

Rheol 68

Mae’n rhaid i chi BEIDIO â

  • chario teithiwr oni bai bod eich beic wedi cael ei adeiladu neu ei addasu i gario un

  • dal ymlaen i gerbyd neu drelar sy’n symud

  • seiclo mewn ffordd beryglus, diofal neu anystyriol

  • seiclo o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, gan gynnwys meddyginiaeth.

Y ddeddf RTA 1988 sects 24, 26, 28, 29 a 30 fel y’u diwygiwyd gan RTA 1991

Rheol 69

Mae’n RHAID i chi ufuddhau i bob arwydd traffig a signalau goleuadau traffig.

Deddfau RTA 1988 sect 36 a TSRGD schedule 3 part 3, schedule 7 part 4, schedule 9 parts 4 and 6, schedule 13 part 6, schedule 14 part 2

Rheol 70

Wrth barcio eich beic

  • dewch o hyd i leoliad amlwg lle gellir ei weld gan bobl yn mynd heibio

  • defnyddiwch standiau beiciau neu gyfleusterau parcio beiciau eraill lle bo hynny’n bosibl

  • peidiwch â gadael y beic lle y byddai’n achosi rhwystr neu berygl i ddefnyddwyr eraill y ffordd

  • gwnewch y beic yn ddiogel fel na fydd yn disgyn drosodd ac yn dod yn rhwystr neu berygl.

Rheol 71

Wrth gyffyrdd goleuadau traffig ac wrth groesfannau beiciau yn unig, mae’n RHAID I CHI BEIDIO â chroesi’r llinell stopio pan fydd y goleuadau traffig yn goch.

Mae gan rai cyffyrdd uwch-linell stopio i’ch galluogi i safleoli’ch hun o flaen traffig arall ac aros (gweler Rheol 178). Pan fydd y goleuadau traffig yn goch, gallwch groesi’r llinell stopio gyntaf, ond mae’n RHAID I CHI BEIDIO â chroesi’r llinell stopio olaf.

Deddfau RTA 1988 sect 36 a TSRGD Schedule 14 part 1

Rheol 72

Safleoli ar y ffordd. Wrth reidio ar y ffyrdd, mae dau safle ffordd sylfaenol y dylech eu mabwysiadu, gan ddibynnu ar y sefyllfa.

1) Reidiwch yn nghanol eich lôn, i wneud eich hun mor weladwy glir â phosibl, yn y sefyllfaoedd canlynol

  • ar ffyrdd neu strydoedd tawel – os oes cerbyd cyflymach yn dod i fyny y tu ôl i chi, symudwch i’r chwith i’w alluogi i oddiweddyd, os gallwch wneud hynny’n ddiogel

  • mewn traffig sy’n symud yn arafach - pan fydd y traffig o’ch cwmpas yn dechrau llifo’n fwy rhydd, symudwch drosodd i’r chwith os gallwch wneud hynny’n ddiogel er mwyn i gerbydau cyflymach y tu ôl i chi oddiweddyd

  • wrth agosáu at gyffyrdd neu fannau lle mae’r ffordd yn culhau lle byddai’n anniogel i yrwyr eich goddiweddyd

2) Wrth reidio ar ffyrdd prysur, a cherbydau’n symud yn gyflymach na chi, caniatewch iddynt oddiweddydd lle mae’n ddiogel i wneud hynny tra’n cadw o leiaf 0.5 metr i ffwrdd, ac ymhellach lle mae’n ddiogelach, o ochr yr ymyl. Cofiwch fod traffig ar ffyrdd deuol yn symud yn gyflym. Cymerwch ofal ychwanegol yn croesi slipffyrdd.

Cyffyrdd (rheol 73 i 77)

Rheol 73

Cyffyrdd. Mae gan rai cyffyrdd, yn enwedig y rheini â goleuadau traffig, gyfleusterau seiclo arbennig, gan gynnwys goleuadau traffig beiciau bach ar uchder lefel llygad, sy’n gallu’ch caniatáu i symud neu groesi ar wahân i neu o flaen traffig arall. Defnyddiwch y cyfleusterau hyn lle byddant yn gwneud eich taith yn ddiogelach ac yn haws.

Wrth gyffyrdd â dim cyfleusterau ar wahân i seiclwyr, argymhellir eich bod yn symud ymlaen fel pe byddech yn gyrru cerbyd modur (gweler Rheolau 170 i 190).

Safleolwch eich hun yn nghanol eich lôn ddewisol, lle rydych chi’n teimlo eich bod yn gallu gwneud hyn yn ddiogel, i wneud eich hun mor weladwy â phosibl ac i osgoi cael eich goddiweddyd lle byddai hynny’n beryglus. Os nad ydych yn teimlo’n ddiogel i symud ymlaen yn y ffordd hon, gall fod yn well gennych ddod oddi ar y beic a’i olwyno ar draws y gyffordd.

Rheol 74

Troi. Wrth agosáu at gyffordd ar y chwith, cadwch olwg am gerbydau yn troi o’ch blaen, allan o neu i mewn i ffordd ochr. Os ydych chi’n bwriadu troi i’r chwith, gwiriwch yn gyntaf am seiclwyr neu feicwyr modur eraill cyn rhoi arwydd. Peidiwch â reidio ar ochr fewnol cerbydau sy’n rhoi arwydd neu’n arafu i droi i’r chwith.

Os ydych chi’n troi i’r dde, gwiriwch y traffig i sicrhau ei bod yn ddiogel, yna rhowch arwydd a symudwch i ganol y ffordd. Arhoswch hyd bod bwlch diogel yn y traffig sy’n dod atoch a chymerwch olwg olaf cyn cwblhau’r tro. Gall fod yn ddiogelach i aros ar y chwith hyd bod bwlch diogel neu i ddod oddi ar y beic a’i wthio ar draws y ffordd.

Wrth droi i mewn i neu allan o ffordd ochr, dylech ildio i gerddwyr sy’n croesi neu’n aros i groesi (gweler Rheol H2).

Rheol 75

Troeon Dau Gam. Wrth rai cyffyrdd wedi’u rheoli gan signalau gall fod arwyddion a marciau sy’n rhoi gwybod i seiclwyr i droi i’r dde mewn dau gam:

Cam 1: Pan fydd y goleuadau traffig yn troi’n wyrdd, dylai seiclwyr sy’n dymuno gwneud y tro fynd yn syth ymlaen i’r lleoliad wedi’i farcio gan symbol beic a saeth troi ar y gerbydffordd; wedyn stopio ac aros yno

Cam 2: Pan fydd y goleuadau traffig ar ochr bell y gyffordd, yn awr yn wynebu’r seiclwyr, yn troi’n wyrdd, dylent wedyn gwblhau’r symudiad

Rheol 76

Mynd yn syth ymlaen. Os ydych chi’n mynd yn syth ymlaen wrth gyffordd, mae gennych flaenoriaeth dros draffig sy’n aros i groesi i mewn i neu allan o ffordd ochr, oni bai fod arwyddion neu farciau ffordd yn dangos fel arall (gweler Rheol H3)

Gwiriwch eich bod yn gallu symud ymlaen yn ddiogel, yn enwedig wrth agosáu at gyffyrdd ar y chwith wrth ochr traffig llonydd neu sy’n symud yn araf. Cadwch olwg am yrwyr sy’n bwriadu troi ar draws eich llwybr. Cofiwch nad yw’r gyrrwr o’ch blaen yn gallu’ch gweld o bosibl, felly cadwch eich cyflymder a’ch safle ar y ffordd mewn cof.

Cymerwch ofal mawr wrth benderfynu a yw’n ddiogel i fynd heibio i lorïau a cherbydau hir eraill sy’n llonydd neu’n symud yn araf, yn enwedig wrth agosau at gyffyrdd, gan nad yw eu gyrwyr yn gallu eich gweld o bosibl. Cofiwch y gall fod rhaid iddynt symud drosodd i’r dde cyn troi i’r chwith, ac y gall eu holwynion ôl ddod yn agos iawn at yr ymyl wrth droi (gweler Rheol 67).

Rheol 77

Ffyrdd prysur. Wrth groesi prif ffyrdd cyflymach neu brysur, gallwch ei chael yn ddiogelach ac yn haws i

  • ddod oddi ar eich beic a’i wthio ar draws

  • aros am fwlch diogel yn y traffig cyn gwneud hynny, yn enwedig ar ffyrdd cyflymach a ffyrdd deuol

  • gwneud defnydd o ynysoedd traffig neu leiniau canol i’ch helpu lle’n briodol.

Cylchfannau (rheol 78 i 80)

Rheol 78

Mae manylion llawn am y weithdrefn gywir wrth gylchfannau heb gyfleusterau beiciau wedi’u cynnwys yn Rheolau 184 i 190.

Gwyliwch am gerbydau sy’n croesi’ch llwybr i adael neu i ymuno â’r gylchfan, gan gofio nad yw gyrwyr yn gallu’ch gweld yn hawdd.

Rheol 79

Os ydych chi’n troi i’r dde, gallwch reidio yn y lonydd ochr chwith neu dde a symud i’r chwith wrth agosáu at eich allanfa. Safleolwch eich hun yng nghanol eich lôn os yw’n ddiogel i wneud hynny (gweler Rheol 72) a rhowch arwydd i’r dde i ddangos nad ydych yn gadael y gylchfan. Fel arall, gallwch deimlo’n ddiogelach yn cerdded eich beic o gwmpas ar y palmant neu ymyl.

Os ydych chi’n penderfynu reidio o gwmpas gan gadw i’r lôn chwith dylech chi

  • fod yn ymwybodol nad yw gyrwyr o bosibl yn eich gweld yn hawdd

  • cymerwch ofal ychwanegol wrth seiclo ar draws allanfeydd. Dylech chi roi arwydd i’r dde i ddangos nad ydych yn gadael y gylchfan

  • gwyliwch am gerbydau sy’n croesi’ch llwybr i adael neu i ymuno â’r gylchfan.

Lle mae gan gylchfan gyfleusterau beiciau ar wahân, dylech ddefnyddio’r cyfleusterau hyn lle maen nhw’n gwneud eich taith yn ddiogelach ac yn haws er nad oes rhaid i chi eu defnyddio. Bydd hyn yn dibynnu ar eich profiad a’ch sgiliau a’r sefyllfa ar y pryd.

Rheol 80

Rhowch ddigon o le i gerbydau hir ar y gylchfan gan fod angen mwy o ofod arnynt i symud. Peidiwch â reidio i mewn i’r gofod sydd ei angen arnynt i fynd o gwmpas y gylchfan. Gall fod yn ddiogelach i aros hyd eu bod wedi mynd trwy’r gylchfan.

Croesi’r ffordd (rheol 81 i 82)

Rheol 81

Peidiwch â reidio ar draws croesfannau ceffylau, gan eu bod ar gyfer marchogion yn unig. Peidiwch â reidio ar draws croesfan pelican, pâl na sebra. Dewch oddi ar eich beic a’i wthio ar draws.

Rheol 82

Croesfannau. Mae croesfannau twcan yn groesfannau wedi’u rheoli’n ysgafn sy’n caniatáu i seiclwyr a cherddwyr rannu gofod croesi a chroesi ar yr un pryd. Maen nhw’n cael eu gweithredu trwy bwyso botwm. Bydd cerddwyr a seiclwyr yn gweld yr arwydd gwyrdd gyda’i gilydd. Caniateir i seiclwyr reidio ar draws.

Gall traciau seiclo ar ochrau ffordd cyferbyn â’i gilydd gael eu cysylltu gan groesfannau ag arwyddion i feiciau yn unig. Gallwch reidio ar draws ond mae’n RHAID I CHI BEIDIO â chroesi hyd bod symbol y beic gwyrdd yn dangos.

Mae croesfannau traciau seiclo yn gallu bod mewn amgylcheddau â digon o le i gerddwyr. Dylai seiclwyr gadw golwg a bod yn barod i stopio i gerddwyr sy’n croesi’r trac yn anffurfiol yn ogystal â’r mannau dynodedig hyn.

Cymerwch ofal ychwanegol wrth groesi croesfannau gwastad a thramffyrdd (gweler Rheol 306). Dylech ddod oddi ar eich beic wrth groesfannau gwastad lle mae arwydd ‘seiclwr yn dod oddi ar feic’ yn cael ei arddangos.

Y ddeddf TSRGD Schedule 14 part 1