Atodiad 1. Chi a'ch beic

Gwybodaeth a rheolau amdanoch chi a'ch beic.

Chi a’ch beic

Sicrhewch eich bod yn teimlo’n hyderus o’ch gallu i reidio’n ddiogel ar y ffordd. Sicrhewch fod

  • gennych y maint a’r math cywir o deiar er mwyn eich cysur a’ch diogelwch

  • y goleuadau a’r adlewyrchwyr yn cael eu cadw’n lân ac yn gweithio’n iawn

  • y teiars mewn cyflwr da ac wedi’u chwyddo i’r pwysedd a ddangosir ar y teiar

  • y teiars yn troelli’n rhydd

  • y gerau’n gweithio’n gywir

  • y gadwyn wedi’i haddasu a’i hiro’n gywir

  • y cyfrwy a’r cyrn beic wedi’u haddasu i’r uchder cywir..

Dylech osod cloch i’ch beic.

Mae’n RHAID i chi

  • sicrhau bod eich breciau’n effeithlon

  • cael goleuadau gwyn blaen ac ôl coch wrth seiclo yn y nos.

Deddfau PCUR regs 6 & 10 & RVLR reg 18

Hyfforddiant seiclo: Os ydych chi’n seiclwr amhrofiadol neu heb reidio ers tro, ystyriwch gymryd cwrs hyfforddiant seiclo. Mae rhai cynghorau yn cynnig hyfforddiant seiclo safonol cenedlaethol megis Bikeability ac mewn ardaloedd penodol, mae hyn am ddim. Mae’n gallu helpu i adeiladu’ch hyder a’ch gallu.

Mae tair lefel i Bikeability, gan ddechrau â sylfeini cydbwysedd, stopio a chychwyn yn ddiogel, hyd at ymdopi â chyffyrdd cymhleth a phrysur. Byddwch hefyd yn dysgu am arwyddion traffig a rheolau’r ffordd, cynllunio llwybrau, safleoli ar y ffordd yn ddiogel a rhoi arwyddion (yn enwedig wrth gyffyrdd) a chynnal a chadw sylfaenol o’r beic. Am ragor o wybodaeth, gweler www.bikeability.org.uk a www.cycling.scot.