Aros a pharcio (238 i 252)

Rheolau ar gyfer aros a pharcio, gan gynnwys rheolau am barcio yn y nos a gorfodaeth parcio cyfreithlon.

Cyffredinol (rheol 238)

Rheol 238

Mae’n RHAID I CHI BEIDIO ag aros na pharcio ar linellau melyn yn ystod y cyfnod gweithredu a ddangosir ar blatiau amser gerllaw (neu arwydd mynediad parth os mewn Parth Parcio a Reolir) – gweler ‘Arwyddion traffig’ a ‘Marciau ffyrdd’. Mae llinellau melyn dwbl yn nodi gwahardd aros ar unrhyw adeg hyd yn oed os nad oes arwyddion unionsyth. Mae’n RHAID I CHI BEIDIO ag aros neu barcio, na stopio i ollwng a chasglu teithwyr, ar farciau mynediad i’r ysgol (gweler ‘Marciau fyrdd’) pan fydd arwyddion unionsyth yn dangos gwaharddiad stopio.

Y ddeddf RTRA sects 5 a 8

Parcio (rheol 239 i 247)

Rheol 239

Defnyddiwch fannau parcio oddi ar y stryd, neu gilfachau wedi’u marcio â llinellau gwyn ar y ffordd fel mannau parcio, lle bynnag y bo modd. Os bydd rhaid i chi stopio ar ochr y ffordd:

  • peidiwch â pharcio yn wynebu’r llif traffig

  • stopiwch mor agos ag y gallwch at yr ochr

  • peidiwch â stopio’n rhy agos at gerbyd sy’n arddangos Bathodyn Glas: cofiwch, efallai y bydd angen mwy o le ar y meddiannydd i fynd i mewn neu allan o’r cerbyd

  • mae’n RHAID i chi ddiffodd y peiriant, prif oleuadau a goleuadau niwl

  • mae’n RHAID i chi ddefnyddio’r brêc llaw cyn gadael y cerbyd

  • mae’n RHAID i chi sicrhau nad ydych yn taro neb pan fyddwch yn agor eich drws. Gwyliwch am feicwyr neu draffig arall

  • lle rydych yn gallu gwneud hynny, dylech agor y drws gan ddefnyddio’ch llaw ar yr ochr gyferbyn â’r drws rydych yn ei agor, er enghraifft, defnyddiwch eich llaw chwith i agor drws ar eich ochr dde. Bydd hyn yn gwneud i chi droi eich pen dros eich ysgwydd. Rydych wedyn yn fwy tebygol o osgoi achosi anaf i seiclwyr neu feicwyr modur sy’n mynd heibio i chi ar y ffordd, neu i bobl ar y palmant

  • mae’n fwy diogel i’ch teithwyr (yn enwedig plant) fynd allan o’r cerbyd ar yr ochr wrth ymyl y cwrb

  • rhowch yr holl bethau gwerthfawr o’r golwg a gwnewch yn siŵr fod eich cerbyd yn ddiogel

  • clowch eich cerbyd.

Cyn defnyddio dyfais llaw i’ch helpu i barcio, mae’n RHAID i chi wneud yn siŵr ei bod yn ddiogel gwneud hynny. Yna, dylech symud y cerbyd i mewn i’r lle parcio yn y ffordd fwyaf diogel, ac yn ôl y llwybr byrraf posibl.

Pan fyddwch yn defnyddio dyfais llaw i’ch helpu i barcio, mae’n RHAID i chi reoli’r cerbyd bob amser. Peidiwch â defnyddio’r ddyfais llaw ar gyfer unrhyw beth arall pan fyddwch yn ei ddefnyddio i’ch helpu i barcio, a pheidiwch â rhoi unrhyw un mewn perygl. Defnyddiwch y ddyfais llaw yn ôl cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr.

Wrth ddefnyddio man gwefru cerbyd trydan, dylech barcio’n agos at y man gwefru ac osgoi creu perygl baglu i gerddwyr o geblau sydd yn eu ffordd. Arddangoswch arwydd rhybudd os gallwch chi. Ar ôl defnyddio’r man gwefru, dylech ddychwelyd ceblau a chysylltwyr gwefru yn daclus i leihau’r perygl i gerddwyr ac osgoi creu rhwystr i ddefnyddwyr eraill y ffordd.

Deddfau CUR regs 98, 105, 107 a 110, RVLR reg 27 a RTA 1988 sect 42

Rheol 239: Edrychwch cyn agor eich drws

Rheol 239: Edrychwch cyn agor eich drws

Rheol 240

Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â stopio na pharcio ar:

  • y gerbydffordd, ardal argyfwng neu lain galed traffordd ac eithrio mewn argyfwng (gweler Rheolau 270 a 271)

  • croesfan i gerddwyr, gan gynnwys yr ardal sydd wedi’i marcio gan y llinellau igam-ogam (gweler Rheol 191)

  • clirffordd (gweler ‘Arwyddion traffig’)

  • cilfachau tacsis fel y dangosir gan arwyddion unionsyth a marciau

  • Clirffordd Drefol o fewn ei oriau gweithredu, ac eithrio i gasglu teithwyr neu eu gollwng (gweler ‘Arwyddion traffig’

  • ffordd wedi’i marcio â llinellau gwyn dwbl, hyd yn oed pan fydd llinell wen wedi’i thorri ar eich ochr chi o’r ffordd, ac eithrio i gasglu teithwyr neu eu gollwng, neu i lwytho neu ddadlwytho nwyddau

  • lôn dramiau neu feiciau yn ystod ei gyfnod gweithredu

  • llwybr beicio

  • llinellau coch, yn achos ‘llwybrau coch’ penodol, oni nodir fel arall gan arwyddion. Caiff unrhyw gerbyd fynd i mewn i lôn fysiau i stopio, llwytho neu ddadlwytho lle nad yw hyn yn waharddedig (gweler Rheol 141).

Deddfau MT(E&W)R regs 7 a 9 fel y’u diwygiwyd gan MT(E&W)(A)(E)R, MT(S)R regs 6 a 8, RTRA sects 5, 6 a 8, TSRGD schedule 7 parts 2, 3, 4, 6 a 7, schedule 9 part 6, schedule 14 parts 1 a 5

Rheol 241

Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â pharcio mewn mannau parcio a gedwir ar gyfer defnyddwyr penodol, megis deiliaid Bathodyn Glas, trigolion neu feiciau modur, oni bai bod hawl gennych i wneud hynny.

Cyfreithiau CSDPA sect 21 a RTRA sects 5 a 8

Rheol 242

Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â gadael eich cerbyd neu’ch trelar mewn lle peryglus neu lle mae’n achosi unrhyw rwystr diangen i’r ffordd.

Deddfau RTA 1988 sect 22 a CUR reg 103

Rheol 243

PEIDIWCH â stopio na pharcio:

  • ger mynedfa ysgol

  • unrhyw le y byddech yn atal mynediad i Wasanaethau Brys

  • ar neu’n agos at safle bws neu dram neu safle tacsis

  • ar y ffordd ddynesu at groesfan gwastad/tramffordd

  • gyferbyn neu o fewn 10 metr (32 troedfedd) o gyffordd, ac eithrio mewn man parcio awdurdodedig

  • ger ael bryn neu bont groca

  • gyferbyn ag ynys draffig neu (pe byddai hyn yn achosi rhwystr) gerbyd arall wedi’i barcio

  • lle byddech yn gorfodi traffig arall i fynd i mewn i lôn tram

  • lle mae’r cwrbyn wedi’i ostwng i helpu defnyddwyr cadeiriau olwyn a cherbydau symudedd modur

  • o flaen mynedfa tŷ

  • ar droad

  • lle byddech yn rhwystro beicwyr rhag defnyddio cyfleusterau beicio

ac eithrio pan orfodir i wneud hynny oherwydd traffig llonydd.

Rheol 244

Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â pharcio yn rhannol neu’n gyfan gwbl ar y palmant yn Llundain, ac ni ddylech wneud hynny mewn man arall oni bai fod arwyddion yn caniatáu hynny. Gall parcio ar y palmant rwystro a pheri anghyfleustra difrifol i gerddwyr, pobl mewn cadeiriau olwyn neu bobl â nam ar eu golwg a phobl â phramiau neu gadeiriau gwthio.

Y ddeddf GL(GP)A sect 15

Rheol 245

Parthau parcio a reolir. Mae’r arwyddion mynediad i’r parth yn dangos yr adegau y mae’r cyfyngiadau aros o fewn y parth mewn grym. Efallai y caniateir parcio mewn rhai mannau ar adegau eraill. Fel arall, bydd parcio o fewn cilfachau sydd wedi’u harwyddo a’u marcio ar wahân.

Rheol 246

Cerbydau nwyddau. Mae’n RHAID i gerbydau sydd â’u pwysau llwythog o dros 7.5 o dunelli (gan gynnwys unrhyw drelar) BEIDIO â chael eu parcio ar lain ymyl, palmant neu unrhyw dir rhwng cerbydffyrdd, heb ganiatâd yr heddlu. Yr unig eithriad yw pan fo parcio’n hanfodol ar gyfer llwytho a dadlwytho, ac os felly mae’n RHAID I’R CERBYD BEIDIO â chael ei adael heb neb i ofalu amdano.

Y ddeddf RTA 1988 sect 19

Rheol 247

Llwytho a dadlwytho. Peidiwch â llwytho na dadlwytho lle mae marciau melyn ar y palmant ac arwyddion unionsyth yn cynghori bod cyfyngiadau mewn grym (gweler ‘Marciau ffyrdd ‘). Gellir caniatáu hyn lle bo parcio’n gyfyngedig fel arall. Ar lwybrau coch, mae cilfachau penodol ag arwyddion a marciau yn dangos ble a phryd y caniateir llwytho a dadlwytho.

Y ddeddf RTRA sects 5 a 8

Parcio yn y nos (rheol 248 i 252)

Rheol 248

Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â pharcio ar ffordd yn y nos sy’n wynebu cyfeiriad llif y traffig oni bai ei fod mewn lle parcio cydnabyddedig.

Deddfau CUR reg 101 a RVLR reg 24

Rheol 249

Mae’n RHAID i bob cerbyd arddangos goleuadau parcio pan fyddant wedi’u parcio ar ffordd neu gilfan ar ffordd sydd â therfyn cyflymder yn fwy na 30 mya (48 km/ya).

Y ddeddf RVLR reg 24

Rheol 250

Caniateir parcio ceir, cerbydau nwyddau nad ydynt yn fwy na 2500 kg o bwysau llawn, cerbydau annilys, beiciau modur a beiciau heb oleuadau ar ffordd (neu gilfan) â therfyn cyflymder o 30 mya (48 km/ya) neu lai os byddant:

  • o leiaf 10 metr (32 troedfedd) i ffwrdd o unrhyw gyffordd, yn agos at y palmant ac yn wynebu yng nghyfeiriad llif y traffig

  • mewn lle parcio cydnabyddedig neu gilfan.

Mae’n RHAID i gerbydau a threlars eraill, a phob cerbyd â llwythi sy’n gorhongian, BEIDIO â chael eu gadael ar ffordd yn y nos heb oleuadau ymlaen.

Deddfau RVLR reg 24 a CUR reg 82(7)

Rheol 251

Parcio mewn niwl. Mae’n beryglus iawn i barcio ar y ffordd mewn niwl. Os nad oes modd osgoi hyn, gadewch eich goleuadau parcio neu oleuadau ystlys ymlaen.

Rheol 252

Parcio ar fryniau. Os byddwch yn parcio ar fryn, dylech:

  • barcio yn agos at y cwrbyn a rhoi’r brêc llaw ymlaen yn gadarn

  • dewis gêr ymlaen a throi eich olwyn lywio i ffwrdd o’r cwrbyn wrth wynebu ar i fyny

  • dewis gêr bacio a throi eich olwyn lywio tuag at y cwrbyn wrth wynebu ar i lawr

  • defnyddio gêr ‘parcio’ os oes gan eich car focs gêr awtomatig.

Rheol 252: Trowch eich olwynion i ffwrdd o'r cwrbyn wrth barcio y. Trowch yr olwynion tuag at y cwrbyn wrth barcio yn wynebu ar i lawr

Rheol 252: Trowch eich olwynion i ffwrdd o'r cwrbyn wrth barcio yn wynebu ar i fyny. Trowch yr olwynion tuag at y cwrbyn wrth barcio yn wynebu ar i lawr

Gorfodaeth Parcio wedi’i Ddad-droseddoli (DPE)

Mae DPE yn dod yn fwyfwy cyffredin wrth i ragor o awdurdodau ymgymryd â’r rôl hon. Mae’r awdurdod traffig lleol yn cymryd cyfrifoldeb am orfodi llawer o droseddau parcio yn lle’r heddlu. Ceir manylion ychwanegol am DPE ar y gwefannau canlynol:

Tribiwnlys Cosbau Traffig (tu allan i Lundain)

Tribiwnlysoedd Llundain (tu mewn i Lundain)