Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 50: trefnau ar gyfer ymholiadau a dileu

Diweddarwyd 19 December 2023

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn rhoi cyngor ar sut i osgoi ceisiadau am wybodaeth (ymholiadau) ar geisiadau a’n trefnau lle bo angen eu gwneud, gan gynnwys y ffordd yr ydym yn cymhwyso rheol 16(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003 o dan yr hyn y gall y cofrestrydd estyn y cyfnod i ateb ymholiad neu ddileu cais am beidio â chydymffurfio. Mae Rhestr adolygu ceisiadau: osgoi ymholiadau yn rhoi enghreifftiau o bwyntiau’n ymwneud ag ymholiadau cyffredin ac awgrymiadau ar sut i’w hosgoi. Mae’r awgrymiadau hefyd yn cynnwys gwybodaeth pan fo ymholiad yn anochel.

Mae’r diffygion mewn rhai ceisiadau yn golygu na allwn ddechrau gweithio arnynt cyn datrys y materion sy’n galw am sylw. Lle ystyriwn fod cais mor ddiffygiol, byddwn yn gwrthod neu’n dileu’r cais cyfan o dan reol 16(3) o Reolau Cofrestru Tir 2002 yn hytrach na gwneud ymholiad. Mae cyfarwyddyd ymarfer 49: gwrthod a dychwelyd ceisiadau i gofrestru yn cynnwys awgrymiadau i gynorthwyo cwsmeriaid i gyflwyno ceisiadau’n gywir ac osgoi eu gwrthod neu eu dileu am eu bod yn ddiffygiol.

Mae’r ffurflenni a bennir gan Reolau Cofrestru Tir 2003 i’w defnyddio gyda cheisiadau a dderbyniwn. Amcan y cyfarwyddyd hwn yw eich helpu i ddefnyddio’r ffurflen gywir. Gweler holl ffurflenni Cofrestrfa Tir EF.

2. Ymholiadau ac amser i ateb

Efallai codir ymholiadau trwy ebost neu dros y ffôn yn y lle cyntaf os ydynt yn ymwneud â phwynt ymholiad y gellir delio ag ef yn gyflym a hawdd. Caiff yr ymholiadau hyn eu cadw am gyfanswm o dri diwrnod gwaith ac os na dderbynnir unrhyw ymateb, anfonir ymholiad ffurfiol, naill ai ar ffurf papur, trwy ebost neu ddull electronig amgen o gyflenwi, megis Business Gateway. Ar gyfer pob cais a gyflwynir gan ddefnyddio porthol Cofrestrfa Tir EF, byddwn yn defnyddio’r cyfeiriad ebost a ddarperir wrth gyflwyno, oni bai y cawn gais penodol i ddefnyddio cyfeiriadau eraill neu ychwanegol. Os yw’r cyfeiriad ebost a ddarperir wrth gyflwyno yn wahanol i’r cyfeiriad ebost ar ffurflen gais, byddwn yn defnyddio’r cyfeiriad ebost a ddarperir wrth gyflwyno. Rydym yn deall y gall amgylchiadau newid felly os hoffech inni ddefnyddio cyfeiriad ebost arall wrth ichi aros i gais gael ei brosesu, rhowch wybod inni, gan ddefnyddio’r swyddogaeth ‘reply to requisition’ yn y porthol.

Byddwn yn sicrhau bod cwsmeriaid yn ymwybodol o’r ymholiadau sy’n effeithio ar eu cais a phryd caiff y cais ei ddileu os na fyddwn yn cael ateb llawn. Bydd yr ymholiad ffurfiol a wnawn yn:

  • egluro’r hyn sydd arnom ei angen
  • gofyn ichi ateb cyn gynted â phosibl

Os na fydd ateb llawn i’n cais wedi dod i law, byddwn yn anfon nodyn atgoffa cyn disgwylir i’r cais gael ei ddileu, ar yr amod:

  • mai aelod o’r cyhoedd yw’r cwsmer, neu
  • lle nad yw’r cwsmer yn aelod o’r cyhoedd, bod cyfeiriad ebost wedi ei ddarparu (ar y pwynt cyflwyno ar gyfer cais gan ddefnyddio porthol Cofrestrfa Tir EF neu yn y manylion cyswllt ar y ffurflen gais, neu ceir dull electronig amgen o gyflenwi, megis Business Gateway

ac

  • nad yw’r cais yn rhwystro cais i gyflymu, lle mae amser yn hanfodol ac felly ni fydd nodyn atgoffa yn cael ei anfon fel arfer

At ddibenion rheol 16(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003, y cyfnod penodedig ar gyfer cydymffurfio â’r ymholiadau yw 20 niwrnod gwaith o ddyddiad yr ymholiad, ond ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau, rydym yn caniatáu cyfnod hirach o 60 niwrnod gwaith. Fel rheol, anfonir y rhybudd o ddileu ar ôl 40 niwrnod gwaith ac mae’n egluro sut y gallwch ofyn am estyniad amser os nad oes modd ichi ateb yn llawn o hyd yn yr amser hwnnw.

O dan rai amgylchiadau, er enghraifft pan fydd cais diweddarach yn cael ei gyflymu, gallwn anfon nodyn atgoffa ar unrhyw adeg y mae’r ymholiad yn parhau heb ei dalu a nodi cyfnod o 20 niwrnod gwaith y mae’n rhaid cydymffurfio ag ef.

Os ydych yn gwsmer e-wasanaethau Busnes, cofiwch y gallwch, yn y rhan fwyaf o achosion, arbed amser trwy anfon eich ateb yn electronig trwy borthol neu Business Gateway Cofrestrfa Tir EF, fel sy’n gymwys. Gweler Porthol Cofrestrfa Tir EF: ‘Reply to requisition’. Fel arall, gallwch ateb ymholiadau gan ddefnyddio’r swyddogaeth ‘View Applications’.

Os nad ydych yn gwsmer e-wasanaethau Busnes ac mae angen ichi anfon dogfen gyda’ch ateb, rhaid ichi anfon y ddogfen atom gan ddefnyddio’r cyfeiriad safonol priodol – gweler ein canllawiau Cyfeiriad Cofrestrfa Tir EF ar gyfer ceisiadau.

Byddwn yn dileu’r cais yn ei gyfanrwydd os na dderbyniwn ateb llawn ac os na wneir cais llwyddiannus am estyniad amser ar gyfer ateb. Fodd bynnag, os yw’r cais yn cynnwys rhyddhad arwystl cofrestredig yn ogystal ag unrhyw drafodion eraill a bod tystiolaeth o’r rhyddhad wedi ei chyflwyno, byddwn yn cwblhau’r rhyddhad. Byddwn hefyd yn cwblhau, cyhyd ag sy’n bosibl, y trafodion a anfonwyd gyda’r cais. Felly, os derbynnir cais i ryddhau arwystl cofrestredig a chofrestru trosglwyddiad ac arwystl newydd ond bod problem na ellir ei datrys o ran cofrestru’r arwystl newydd, byddwn yn cwblhau’r rhyddhad ac yn cofrestru’r trosglwyddiad newydd ond yn dileu’r cais cyn belled ag y bo’n berthnasol i’r arwystl. Ar y llaw arall, os oes problem gyda’r trosglwyddiad na ellir ei datrys, ni fyddwn yn cofrestru’r arwystl.

Efallai bydd angen inni ofyn ichi gyflwyno dogfennau neu dystiolaeth ychwanegol cyn inni allu bwrw ymlaen â’ch cais neu ei gwblhau. Ni allwn bob amser ragweld pa ddogfennau neu dystiolaeth ychwanegol y gallai fod eu hangen arnom felly cofiwch drin y canllawiau yn hyn a’n cyfarwyddiadau ymarfer eraill fel rhai sy’n nodi’n gofynion arferol yn unig. Weithiau, mae’n bosibl bydd angen cydweithrediad rhywun arall arnoch i fodloni’n gofynion, megis yr unigolyn a wnaeth y gwarediad rydych yn gwneud cais i’w gofrestru. Mae’r warant teitl llawn neu gyfyngedig mae gwerthwr yn ei darparu fel arfer wrth drosglwyddo tir neu eiddo yn cynnwys addewid i helpu prynwr i fodloni’n gofynion.

3. Gwneud cais i estyn yr amser

Ymdrinnir â’r rhan fwyaf o ymholiadau a godir gennym mewn ychydig wythnosau. Byddem yn hoffi cael ateb llawn cyn gynted â phosibl, ond rydym yn cydnabod na fyddwch, efallai, yn gallu ateb yn gyflym bob tro. Os byddwn yn anfon llythyr rhybudd am ddileu atoch (gweler Ymholiadau ac amser i ateb nid oes angen ichi gysylltu â ni i ofyn am estyniad amser nes ichi gael y llythyr hwnnw.

Mae Rhyddhau arwystlon yn egluro na fyddwn fel rheol yn gwneud ymholiad am dystiolaeth rhyddhau arwystl cofrestredig pan nad yw hyn yn cael ei chyflwyno gyda chais ac felly ni fyddwn yn estyn y cyfnod i ganiatáu i’r dystiolaeth hon gael ei chyflwyno. Mae’r adran hefyd yn egluro beth a wnawn os ydym yn gwneud ymholiad am dystiolaeth rhyddhau arwystl cofrestredig ac y gwneir cais am estyniad amser ar ôl hynny.

Ar gyfer ymholiadau heb law am dystiolaeth rhyddhau arwystl cofrestredig, byddwn yn caniatáu estyniad lle bo’r oedi o ran ymateb yn cael ei egluro yn ysgrifenedig, ar yr amod bod y cais yn rhesymol, eich bod yn ein bodloni eich bod yn mynd ar drywydd y mater a bod gwir bosibilrwydd datrys y broblem o fewn amser rhesymol. Byddwn fel rheol yn dileu cais oni wneir hyn.

Os nad ydych yn gwsmer e-wasanaethau Busnes a bod angen ichi anfon dogfen gyda’ch ateb, rhaid ichi anfon y ddogfen atom gan ddefnyddio’r cyfeiriad safonol priodol – gweler Cyfeiriad Cofrestrfa Tir EF ar gyfer ceisiadau

Os nad ydych yn gwsmer e-wasanaethau Busnes, gallwch gysylltu â ni.

Pan fydd angen estyniad arnoch, rhaid i’ch cais:

  • beidio â chael ei wneud yn gynt na 10 niwrnod gwaith cyn y dyddiad dileu
  • fod yn ysgrifenedig
  • nodi’r rheswm dros yr oedi
  • egluro pa gamau rydych wedi eu cymryd i ddatrys materion a phryd
  • darparu tystiolaeth ddogfennol sy’n dangos eich bod wedi mynd ar drywydd y mater gydol cyfnod yr ymholiad pan fydd yr oedi gyda thrydydd parti
  • dweud pryd byddwch yn disgwyl gallu anfon ateb llawn i’r ymholiad

Fel arfer, byddwn yn estyn 10 niwrnod gwaith ar yr amser i ateb. Byddwn yn ystyried ceisiadau am estyniadau hwy yn ôl eu teilyngdod.

Pan gaiff yr amser ei estyn, byddwn bob amser yn cadarnhau hyn yn ysgrifenedig ac yn cadarnhau’r dyddiad dileu newydd os na fyddwch yn ateb.

Gweler Rhesymau dros oedi i weld enghreifftiau o’r adegau y byddwn yn rhoi neu’n gwrthod estyniad fel arfer. Enghreifftiau yw’r rhain yn hytrach na rheolau penodol. Byddwn yn trin pob cais yn ôl ei rinweddau ei hun.

4. Rhyddhau arwystlon

Lle bo cais i ryddhau arwystl cofrestredig yn dod gyda cheisiadau eraill, er enghraifft i gofrestru trosglwyddiadau ac arwystl newydd, ac ni cheir tystiolaeth o fodlonrwydd o’r arwystl cyn, neu ar y pryd, ni fyddwn fel rheol yn gwneud ymholiad am hyn ond byddwn yn cofrestru’r ceisiadau eraill ac yn gadael y cofnodion yn ymwneud â’r arwystl yn y gofrestr. ‘Cwblhad cynnar’ yw’r enw ar hyn, a cheir rhagor o fanylion amdano yng nghyfarwyddyd ymarfer 31: rhyddhau arwystlon.

Os yw ymholiadau hefyd yn codi o ran y ceisiadau eraill, byddwn yn cynnwys nodyn atgoffa nad oes tystiolaeth o ryddhau wedi ei chyflwyno. Os cydymffurfir â’r ymholiadau sy’n ymwneud â’r ceisiadau eraill ond ni chyflwynir tystiolaeth o’r rhyddhau, byddwn yn cwblhau’r cais, gan adael y cofnodion yn ymwneud â’r arwystl yn y gofrestr. Ar ôl cydymffurfio â’r ymholiadau eraill, ni fyddwn yn estyn y cyfnod ar gyfer cyflwyno tystiolaeth o ryddhau ymhellach.

Os oes cyfyngiad o blaid yr arwystlai presennol sy’n dal y ceisiadau eraill a gafodd eu cynnwys, byddwn yn gwneud ymholiad naill ai am dystiolaeth o ryddhau’r arwystl neu gydymffurfio â thelerau’r cyfyngiad. Yn y sefyllfa hon byddwn yn ystyried cais am estyniad amser.

Wrth wneud cais am estyniad dylech:

  • ofyn am hyn yn ysgrifenedig
  • dangos eich bod yn mynd ar drywydd y mater
  • dangos mai’r rhoddwr benthyg sy’n achosi’r oedi

Bydd yr estyniad am 10 niwrnod gwaith arall.

5. Rhesymau dros oedi

Enghreifftiau yw’r canlynol o’r adegau y byddem fel arfer yn caniatáu neu’n gwrthod estyniad. Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei deilyngdod.

5.1 Estyniadau a roddir fel arfer

Fel arfer, byddwn yn caniatáu estyniad dechreuol o 10 niwrnod gwaith o dan yr amgylchiadau canlynol.

Y sefyllfa: Angen ailgyflawni gweithredoedd a’r partïon yn anodd cael gafael arnynt neu heb fod ar gael oherwydd salwch.

Ein barn: Gall hyn arwain at oedi a byddem fel arfer yn caniatáu estyniad.

Y sefyllfa: Angen cydsyniad cyfyngwr a’r partïon yn anodd cael gafael arnynt neu heb fod ar gael oherwydd salwch.

Ein barn: Gall hyn arwain at oedi a byddem fel arfer yn caniatáu estyniad.

Y sefyllfa: Mae gweithred gyda Chyllid a Thollau EF neu Awdurdod Cyllid Cymru i’w dyfarnu o hyd.

Ein barn: Rydym yn gwybod y gall rhai achosion dyfarnu gymryd peth amser i’w cwblhau. Byddwn yn caniatáu estyniad. Gallwn ofyn am gopïau o’r ohebiaeth ddiweddaraf gyda’r awdurdod cyllid perthnasol.

Y sefyllfa: Collwyd gweithred.

Ein barn: Eglurwch y sefyllfa yn llawn a dweud a ydych yn disgwyl gallu llunio a chyflawni gweithred ddyblyg neu ddarparu tystiolaeth fel datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd (gweler cyfarwyddyd ymarfer 73: datganiadau o wirionedd).

Y sefyllfa: Mae ymarferydd newydd etifeddu ffeiliau o bractis a fethodd neu yr ymyrrwyd ynddo.

Ein barn: Bydd angen amser ychwanegol ar yr ymarferydd i ddod yn gyfarwydd â’r achos.

Bydd ceisiadau am estyniadau pellach yn cael eu hystyried dim ond ichi ddarparu manylion diweddaraf y camau a gymerwyd.

Y sefyllfa: Mae’r oedi’n cael ei achosi gan drydydd parti nad yw wedi ymateb neu nad yw’n gallu delio â’r mater cyn y dyddiad dileu.

Ein barn: Rydym yn gwybod bod yr oedi y tu hwnt i’ch rheolaeth weithiau. Byddwn fel arfer yn caniatáu estyniad os ydych yn darparu tystiolaeth ddogfennol o’r camau rydych wedi eu cymryd a phryd y gwnaed hyn. Rhaid i’r dystiolaeth ddangos bod yr oedi wrth ddatrys y mater wedi ei achosi gan drydydd parti a’ch bod wedi mynd ar drywydd y trydydd parti. Rydym yn disgwyl eich bod wedi mynd ar drywydd y trydydd parti sawl gwaith cyn cael ein llythyr a anfonir ar ddiwrnod 40 yn eich rhybuddio am y dileu ac yn ystod y cyfnod yn arwain at ddileu ar ddiwrnod 60.

Efallai eich bod yn pryderu y byddech chi’n trosglwyddo gwybodaeth bersonol trwy ddarparu’r dystiolaeth hon. Mae cyfraith diogelu data yn caniatáu inni ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol at ein dibenion swyddogol a bydd unrhyw wybodaeth bersonol a ddarperir yn cael ei thrin yn unol â’n Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Caiff ceisiadau pellach am estyniadau eu hystyried ar yr amod eich bod yn darparu manylion wedi eu diweddaru o’r camau a gymerwyd.

5.2 Estyniadau sy’n cael eu gwrthod fel arfer

Gyda’r rhesymau hyn, byddwn fel arfer yn gwrthod estyniad a bydd y cais yn cael ei ddileu ar y dyddiad a roddwyd yn ein llythyr diwethaf.

Y sefyllfa: Anfonwyd gweithred dramor ac ni chafodd ei dychwelyd.

Ein barn: O ystyried dulliau postio heddiw, ystyriwn fod yr 60 niwrnod gwaith a roddwyd yn wreiddiol yn ddigonol os ydych yn mynd ar drywydd y mater. Fodd bynnag, byddwn fel arfer yn caniatáu estyniad os oes rhyw fath o gyfraith dramor o dan sylw, er enghraifft atwrneiaeth neu farn bargyfreithiwr a dyna beth sy’n achosi’r oedi.

Y sefyllfa: Ni anfonwyd Chwiliad Pridiannau Tir.

Ein barn: Rydym yn dychwelyd chwiliadau Pridiannau Tir yn gyflym. Mae’r 60 niwrnod gwaith a roddwyd yn wreiddiol yn ddigonol os ydych yn mynd ar drywydd y mater.

Y sefyllfa: Mae pwy bynnag sy’n delio â’r mater yn absennol o’r swyddfa.

Ein barn: Fel arfer, byddem yn disgwyl bod rhywun wrth gefn ar gyfer yr absenoldeb i ganiatáu i faterion fynd ymlaen, oni bai iddo fod yr unig ymarferydd mewn cwmni ac na all ysgrifennydd neu debyg gydymffurfio. Lle bydd rhywun wedi marw neu wedi gadael yn annisgwyl byddem fel arfer yn rhoi estyniad byr i ganiatáu i rywun arall ddod yn gyfarwydd â’r mater.

6. Rhestr adolygu ceisiadau: osgoi ymholiadau

6.1 Ffurflenni cais

Ymholiad

Heb gwblhau pob panel perthnasol o ffurflen gais.

Argymhellion

Fel arfer, bydd ein cyfres o gyfarwyddiadau ar drafodion arbenigol yn nodi’r ffurflenni cais sydd eu hangen, er enghraifft cyfarwyddyd ymarfer 21: ffurflenni trosglwyddo ar gyfer trafodion cymhlethach.

Mae ein holl ffurflenni a chyfarwyddiadau ymarfer ar gael yn ddi-dâl.

I gael gwybodaeth am atgynhyrchu ffurflenni mewn dull electronig cysylltwch â’n Huned Ffurflenni ym Mhrif Swyddfa Cofrestrfa Tir EF, Trafalgar House, 1 Bedford park, Croydon CR0 2AQ neu DX 8888 Croydon 3; ffôn: 0300 006 7405; ebost: vince.mitchell@landregistry.gov.uk

Mae ffurflen DL ar gael ar gyfer llunio rhestr o ddogfennau

Defnyddiwch ffurflen CS ar gyfer taflenni parhau wrth ddefnyddio rhestr o ddogfennau

Ymholiad

Ceisiadau sydd heb eu gwneud ar y ffurflen gais gywir yn ôl y rhestr isod:

  • cofrestriadau cyntaf (gan gynnwys cofrestru prydlesi lle bo’r rifersiwn cyfan neu ran ohono’n ddigofrestredig) heb eu cyflwyno ar ffurflen FR1 ynghyd â rhestr o ddogfennau
  • prydlesi lle y mae’r rifersiwn cyfan wedi ei gofrestru ond heb eu cyflwyno ar ffurflen AP1
  • rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf heb ei gyflwyno ar ffurflen CT1
  • dileu rhybuddiad yn erbyn delio heb ei gyflwyno ar ffurflen CCD
  • dileu rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf heb ei gyflwyno ar ffurflen CCT
  • tynnu rhybuddiad yn ôl heb fod ar ffurflen WCT
  • rhyddhau arwystl cyfan fel unig gais heb ei gyflwyno ar ffurflen DS2, ffurflen DS2E neu ffurflen AP1
  • gweithred amrywio prydles heb ei chyflwyno ar ffurflen AN1 oni bai ei bod yn gweithredu fel ildio ac ail-roi (rhaid cyflwyno’r ceisiadau hyn ar ffurflen AP1)

Argymhelliad

I gael manylion ynghylch pryd y bydd Gweithred Amrywio yn gweithredu fel ildio ac ail-roi, gweler Gweithredoedd amrywio prydles

  • rhybudd Unochrog heb ei gyflwyno ar ffurflen UN1
  • dileu rhybudd unochrog heb ei gyflwyno ar ffurflen UN2
  • cais i gofrestru fel buddiolwr rhybudd unochrog presennol heb ei gyflwyno ar ffurflen UN3
  • dileu rhybudd unochrog heb ei gyflwyno ar ffurflen UN4
  • dileu rhybudd (heblaw rhybudd unochrog) heb ei gyflwyno ar ffurflen CN1
  • rhybudd a gytunwyd heb ei gyflwyno ar ffurflen AN1
  • rhybudd hawliau cartref heb ei gyflwyno ar ffurflen HR1
  • adnewyddiad cofrestru rhybudd neu rybuddiad o ran hawliau cartref heb ei gyflwyno ar ffurflen HR2
  • cofrestru rhywun mewn meddiant gwrthgefn o dan Atodlen 6 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 heb ei gyflwyno ar ffurflen ADV1
  • cofrestru rhywun mewn meddiant gwrthgefn o dan Atodlen 12 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 heb ei gyflwyno ar ffurflen AP1
  • cofrestriad fel rhywun i’w hysbysu o gais am feddiant gwrthgefn heb ei gyflwyno ar ffurflen ADV2
  • cais i gofnodi ymrwymiad i roi blaensymiau ychwanegol heb ei gyflwyno ar ffurflen CH2 oni bai bod cais amdano, naill ai
    • ym mhanel 8 ffurflen CH1 neu ar ffurf arwystl sy’n gymeradwy i’n Hadran Trefniadau Masnachol ym Mhrif Swyddfa Cofrestrfa Tir EF
  • cais i nodi swm uchaf y warant a gytunwyd heb ei gyflwyno ar ffurflen CH3
  • cais i benderfynu union linell derfyn heb ei gyflwyno ar ffurflen DB
  • cais i gofnodi cyfyngiad heb fod ar ffurflen RX1 neu ffurflen SEV oni bai mai ffurf cyfyngiad safonol y gwnaed cais amdano naill ai:
    • ym mhanel darpariaethau ychwanegol ffurflen drosglwyddo neu gydsynio benodedig, neu ym mhanel 8 ffurflen CH1
    • ar ffurf arwystl sy’n gymeradwy i’n Hadran Trefniadau Masnachol ym Mhrif Swyddfa Cofrestrfa Tir EF
    • ac o 9 Ionawr 2006 ymlaen a geisiwyd yng nghymal LR13 o brydles yn cynnwys cymalau LR1 – LR14 Atodlen 1A i Reolau Cofrestru Tir 2003)
    • os yw llys yn gorchymyn cofnodi cyfyngiad o dan adran 46 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, rhaid gwneud ceisiadau ar ffurflen AP1
  • cais am orchymyn bod cyfyngiad yn cael ei ddatgymhwyso neu ei addasu heb ei gyflwyno ar ffurflen RX2
  • cais i newid y gofrestr o dan Atodlen 4 paragraff 5(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, heb ei gyflwyno ar ffurflen AP1 (gall y ceisiadau hyn beri newid cyfyngiad ac ni ddylid cymysgu rhyngddynt â cheisiadau ar ffurflen RX2)
  • dileu cyfyngiad heb ei gyflwyno ar ffurflen RX3
  • tynnu cyfyngiad yn ôl heb ei gyflwyno ar ffurflen RX4
  • nodi blaenoriaeth or-redol arwystl statudol heb ei gyflwyno ar ffurflen SC
  • uwchraddio teitl heb ei gyflwyno ar ffurflen UT1
  • os na phennwyd unrhyw ffurflen gais arall ar gyfer cais i gofrestru trosglwyddiad, cydsyniad neu arwystl neu drafodiad arall (o ran neu’r cyfan) dylid ei gyflwyno ar ffurflen AP1 ac eithrio:
    • cais i dynnu enw cydberchennog ymadawedig o’r gofrestr
    • ceisiadau electronig a wneir o dan reol 14 o Reolau Cofrestru Tir 2003
    • ceisiadau amlinellol

6.2 Treth tir toll stamp a Threth Trafodiadau Tir

Mae Treth Tir Toll Stamp yn berthnasol i’r rhan fwyaf o drafodion yn ymwneud â thir yn Lloegr a thrafodion yn ymwneud â thir yng Nghymru a gwblhawyd cyn 1 Ebrill 2018. Mae Treth Trafodiadau Tir yn berthnasol i’r rhan fwyaf o drafodion yn ymwneud â thir yng Nghymru a gwblhawyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2018.

Pan fo tir yn disgyn yn rhannol yn Lloegr ac yn rhannol yng Nghymru, bydd y trafodiad yn cael ei drin fel pe bai dau drafodiad a bod y gydnabyddiaeth i’w rhannu rhwng y ddau drafodiad. Os bydd y gydnabyddiaeth ar gyfer pob trafodiad yn gofyn am hysbysu Cyllid a Thollau EF ac Awdurdod Cyllid Cymru, bydd y ddau awdurdod yn cyhoeddi tystysgrif ffurflen trafodiad tir.

Bydd achosion lle bydd y trafodiad trawsffiniol yn cynnwys tir yng Nghymru neu Loegr nad yw’n hysbysadwy i naill ai Cyllid a Thollau EF neu Awdurdod Cyllid Cymru (neu’r ddau o bosibl). Yn yr achosion hyn, bydd yn rhaid i’r trawsgludwr hysbysu Cofrestrfa Tir EF wrth gyflwyno’r cais mai dim ond un dystysgrif sydd (neu ddim o gwbl) oherwydd nad yw’r gydnabyddiaeth a roddir ar gyfer y tir mewn un wlad, neu yn y ddwy awdurdodaeth dreth, yn hysbysadwy i un, neu’r ddwy awdurdodaeth dreth.

Ymholiad

Cyflwyno trafodiad heb dystysgrif ffurflen trafodiad tir (SDLT5 neu dystysgrif Treth Trafodiadau Tir) neu dderbynneb cyflwyno Treth Tir Toll Stamp neu esboniad pam nad oes angen un neu’r ddau.

Argymhellion

Nid oes angen tystysgrif SDLT 5 neu dderbynneb gyflwyno neu dystysgrif Treth Trafodiadau Tir o ran:

  • arwystl cyfreithiol neu ecwitïol, rhyddhad neu unrhyw weithred sy’n effeithio’n unig ar arwystl neu flaenoriaeth arwystlon
  • trosglwyddiad o dan yr hyn does dim budd llesiannol yn digwydd, gan gynnwys trosglwyddiadau:
    • peri penodiad ymddiriedolwyr newydd
    • mewn perthynas ag ymddeoliad ymddiriedolwr
    • gan enwebai (megis ymddiriedolwr noeth) i fuddiolwr

Nid oes angen tystysgrif SDLT 5 neu dderbynneb gyflwyno ar gyfer y trafodion canlynol ar yr amod y cawsant eu llenwi ar neu ar ôl 12 Mawrth 2008:

  • caffaeliad (heblaw grant, aseiniad neu ildiad prydles) lle bo’r ystyriaeth am dâl ar gyfer y caffaeliad (ynghyd ag unrhyw drafodiad cysylltiedig) yn llai na £40,000. Mae enghreifftiau’n cynnwys trosglwyddiadau tir rhydd-ddaliol a gweithredoedd rhodd

  • rhoi prydles am 7 mlynedd neu ragor lle mae’r premiwm yn llai na £40,000 (ar gyfer prydlesi wedi eu dyddio cyn 1 Ebrill 2016, roedd yn rhaid i’r rhent blynyddol fod yn llai na £1,000 er mwyn peidio â gorfod hysbysu Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi)

  • trosglwyddiad, aseiniad neu ildiad prydles lle:

    • rhoddwyd y brydles yn wreiddiol am gyfnod o saith mlynedd neu ragor, ac
    • mae’r gydnabyddiaeth ar gyfer yr aseiniad neu ildiad, heblaw unrhyw rent, yn llai na £40,000.
  • grant, aseiniad neu ildio prydles am dymor o lai na 7 mlynedd lle nad yw’r premiwm yn fwy na’r trothwy cyfradd sero

Nid oes angen tystysgrif Treth Trafodiadau Tir ar gyfer y trafodion canlynol:

  • caffael (heblaw am grant, aseiniad neu ildio prydles) lle mae’r gydnabyddiaeth y gellir ei chodi am y caffaeliad hwnnw (ynghyd ag unrhyw drafodiad cysylltiedig) yn llai na £40,000. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, trosglwyddiadau tir rhydd-ddaliol, gweithredoedd rhodd a gweithredoedd rhoi hawddfreintiau. Mae hyn yn cynnwys nodi buddion yn ogystal â’u cofrestriad sylweddol

  • rhoi prydles am 7 mlynedd neu ragor lle bo’r:
    • gydnabyddiaeth y gellir ei chodi ac eithrio rhent yn llai na £40,000 a lle bo’r
    • rhent blynyddol (neu’r gyfran y gellir ei chodi o’r rhent blynyddol) yn llai na £1,000
  • aseiniad neu ildio prydles lle:

    • y rhoddwyd y brydles yn wreiddiol am gyfnod o 7 mlynedd neu ragor, ac
    • mae’r gydnabyddiaeth y gellir ei chodi am yr aseiniad neu’r ildio, ac eithrio unrhyw rent, yn llai na £40,000
  • grant, aseiniad neu ildio prydles am dymor o lai na 7 mlynedd lle nad yw’r gydnabyddiaeth y gellir ei chodi am y grant, yr aseiniad neu’r ildio yn fwy na’r trothwy cyfradd sero

Os cytunwyd ar gontract sy’n effeithio ar dir yng Nghymru cyn 17 Rhagfyr 2014 ond cwblhawyd ar ôl 1 Ebrill 2018, bydd angen tystiolaeth Treth Tir Toll Stamp, os yw’n berthnasol, ar yr amod nad yw’n drafodiad a eithrir gan adran 16(6) o Ddeddf Cymru 2014.

Ymholiad

Trafodiad sy’n ymwneud ag eiddo lluosog heb atodlen tystysgrif Ffurflen Trafodiad Tir.

Argymhelliad

Gallwn dderbyn llungopi o’r atodlen tystysgrif Ffurflen Trafodiad Tir.

6.3 Rhyddhau

Ymholiad

Rhyddhau ar y ffurflen anghywir.

Argymhellion

I ryddhau arwystl o deitl cyfan defnyddiwch ffurflen DS1

Lle bo’r rhoddwr benthyg yn anfon END atom, nodwch ar eich ffurflen gais ‘Rhyddhau trwy END’ neu ‘Rhyddhau (END)’ yn y panel ‘Cais, Blaenoriaeth a Ffïoedd’

I ollwng rhan o deitl o arwystl cofrestredig defnyddiwch ffurflen DS3

Os ydym wedi rhoi llythyr cyfleuster i’r rhoddwr benthyg yn cynnwys cyflawni, rhaid dyfynnu ei ddyddiad yn y panel priodol ar ffurflen DS1 neu ffurflen DS3

Ymholiad

Cyflawniad ffurflen DS1 heb fod yn safonol.

Argymhelliad

Lle nad yw’r cyflawni yn safonol ac nad yw llythyr cyfleuster yn berthnasol, rhowch dystiolaeth i roi cyfrif am hyn, er enghraifft, copi ardystiedig o atwrneiaeth.

Ymholiad

Ffurflen DS3 heb nodi pa ran o’r tir sy’n cael ei ollwng.

Argymhelliad

Rhaid i’r tir sy’n cael ei ollwng fod wedi ei ddynodi’n eglur naill ai ar gynllun cysylltiedig neu trwy gyfeirio at liwio ar y cynllun a ffeiliwyd.

Ymholiad

Ffurflen DS3 wedi ei chyflwyno fel cydsyniad â rhoi prydles o ran.

Argymhelliad

Os yw arwystlai yn cydsynio â rhoi prydles o ran mae cydsyniad yn fwy priodol na ffurflen DS3 fel arfer.

Gweler cyfarwyddyd ymarfer 31: rhyddhau arwystlon i gael rhagor o wybodaeth.

6.4 Gweithredoedd a gollwyd

Ymholiad

Disgyniad teitl heb ei gyflwyno.

Argymhelliad

Sicrhewch fod dogfennau yn cael eu cyflwyno i ddangos y gadwyn deitl rhwng y bobl yn y gofrestr a’r trafodiad rydych yn gwneud cais i’w gofrestru, er enghraifft gweithred benodi ymddiriedolwr newydd neu dystiolaeth o farwolaeth.

Ymholiad

Gweithred wedi ei hepgor o gais.

Argymhelliad

Os ydych yn methu cyflwyno gweithred dros dro, eglurwch pam a darparwch gopi ardystiedig.

Ymholiad

Gweithred wedi ei cholli neu wedi ei dinistrio.

Argymhelliad

Os cafodd gweithred ei cholli neu ei dinistrio darparwch gopi arall neu, lle nad yw hyn yn ymarferol, tystiolaeth i gefnogi ei bodolaeth wreiddiol.

Ymholiad

Tystiolaeth lawn o deitl heb ei chyflwyno ar gofrestriad cyntaf.

Argymhelliad

Rhaid i’r dogfennau a gyflwynwyd ar gofrestriad cyntaf gyfateb i’r datganiad ym mhanel 12 ffurflen FR1.

Ymholiad

Tystiolaeth adnabod heb ei darparu ar gofrestriad cyntaf lle collwyd neu lle dinistriwyd gweithredoedd.

Copïau ardystiedig o drosglwyddiadau o ran, prydlesi ac arwystlon newydd heb eu cyflwyno.

6.5 Gweithredoedd y mae’n rhaid eu newid

Ymholiad

Gweithred yn cynnwys manylion clerigol anghyflawn neu anghywir.

Argymhellion

Cofiwch sicrhau bod holl fanylion clerigol yn cael eu rhoi’n gywir.

Rhowch sylw arbennig i ddyddiadau, enwau llawn, rhifau teitl a disgrifiadau eiddo, yn enwedig mewn arwystlon.

6.6 Ffïoedd

Ymholiad

Peidio â thalu ffïoedd neu dalu rhy ychydig.

Argymhellion

Mae ffïoedd i’w cael o’r Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, sy’n cael ei gyhoeddi gan Y Llyfrfa, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru neu defnyddiwch ein cyfrifiannell ffïoedd.

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cofrestrfa Tir EF’ a sicrhau ei bod wedi ei llofnodi a’i dyddio (nid ôl-ddyddiedig)

Pan fyddwn yn derbyn cais i newid y gofrestr ac nad oes ffi wedi ei hamgáu, lle bo ffi yn daladwy o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, ar yr amod nad oes pwyntiau ymholiadau i’w gwneud, byddwn yn cysylltu â’r ceisydd dros y ffon, fel arfer ar ddiwrnod derbyn y cais, i ofyn naill ai am y ffi gywir (os na chafodd ei hanfon eisoes) neu am ganiatâd i ddefnyddio debyd uniongyrchol, os yw’n briodol. Os oes angen siec, cedwir y cais am gyfnod o bum niwrnod gwaith o’r diwrnod y gwneir y galwad ffôn (gan gynnwys y diwrnod hwnnw) i aros amdani. Fodd bynnag, os na dderbynnir y siec ar neu cyn y pumed diwrnod gwaith, caiff y cais ei wrthod)

6.7 Diffyg neu anghysondeb enw neu gyfeiriad

Ymholiad

Dim cyfeiriad ar gyfer gohebu wedi ei roi ar ffurflen gais.

Argymhellion

Rhowch hyd at dri chyfeiriad cyfredol ar gyfer gohebu (rhaid i un ohonynt fod yn gyfeiriad post ond nid oes rhaid iddo fod yn y Deyrnas Unedig) pan fo angen. Lluniwyd ein ffurflenni cais i roi lle i hyn. Os nad ydych yn nodi cyfeiriad, gallwn gofnodi cyfeiriad o ddogfen gysylltiedig, all beidio â bod yn ddiweddar. Os nad yw’r cyfeiriad post a ddarperir yn y Deyrnas Unedig, efallai y byddwch am ystyried darparu cyfeiriad dan ofal yn y Deyrnas Unedig, neu gyfeiriad ebost, oherwydd gall post gael ei ohirio weithiau wrth gael ei anfon dramor.

Sylwer: Os yw’r cyfeiriad(au) ar gyfer gohebu yn newid, cofiwch ein hysbysu. Os nad yw’r gofrestr yn dangos y cyfeiriad(au) diweddaraf ar gyfer gohebu gall rhywun fethu derbyn rhybuddion neu hysbysiadau pwysig oddi wrthym a gall fod ar ei golled o ganlyniad.

Ymholiad

Enwau heb fod yr un yn union mewn gweithredoedd a gyflwynwyd gyda’i gilydd.

Argymhelliad

Cofiwch sicrhau bod enwau llawn yn ymddangos ar holl ddogfennau a bod y sillafu yn gyson, er enghraifft bod enwau’r prynwr mewn trosglwyddiad yn cytuno â’r rhai mewn arwystl cysylltiedig.

Ymholiad

Enwau ar weithredoedd heb fod yr un yn union â’r rhai yn y gofrestr.

Argymhelliad

Lle bo anghysondeb rhwng yr enwau yn y gofrestr ac enwau mewn gweithredoedd sy’n cael eu cyflwyno, dylech naill ai:

  • newid y weithred os yw’n anghywir, neu

  • cadarnhau mai’r sawl sydd â’i enw yn y gofrestr yw’r un sydd â’i enw yn y weithred, a lle bo’r cyfryw berson i aros yn y gofrestr, cadarnhau mai’r enw, fel mae’n ymddangos yn y weithred, yw’r enw ddylai ymddangos yn y gofrestr.

Byddwch cystal â darparu tystiolaeth lle bo enw wedi newid, megis copi ardystiedig o weithred newid enw, tystysgrif geni, tystysgrif priodas neu dystysgrif marwolaeth, neu darparwch dystysgrif i gadarnhau manylion am y newid enw. Yn achos priodas neu bartneriaeth sifil, dylai tystysgrif o’r fath gynnwys enwau’r pâr, i gynnwys enw blaenorol y wraig neu bartner sifil, a dyddiad a lleoliad y briodas neu bartneriaeth sifil. Fodd bynnag, bydd angen copi ardystiedig o dystysgrif geni, priodas neu farwolaeth arnom os yw y tu allan i’r DU.

6.8 Angen cydsyniad, tystysgrif neu dynnu’n ôl

Ymholiad

Cydsyniad neu dystysgrif yn cydymffurfio â chyfyngiad heb eu cyflwyno.

Argymhellion

Edrychwch ar eich copïau swyddogol diweddar ymlaen llaw am fanylion cyfyngiadau.

Yn aml bydd trosglwyddiadau fflatiau a thai wedi eu codi i’r diben ar ystadau diffiniedig yn amodol ar gydymffurfio â chyfyngiad cwmni rheoli.

Ymholiad

Cydsyniad â chyfyngiad yn amhriodol.

Argymhelliad

Rhowch gyfrif am unrhyw newid yn enw cyfyngwr o’r hyn sydd yn y gofrestr.

Lle nad yw’n fwriad i gyfyngiad gwirfoddol aros yn y gofrestr ar ôl gwerthiant dylai gael ei dynnu’n ôl gan ddefnyddio ffurflen RX4. Nid yw cydsyniad yn ddigonol i ddileu cyfyngiad o’r fath.

6.9 Cwmnïau a chorfforaethau

Ymholiad

Tystiolaeth cyfansoddiad heb ei darparu.

Argymhelliad

Lle bo cwmni heb fod o Gymru, Lloegr neu’r Alban i gael ei gofnodi yn y gofrestr fel perchennog y tir neu arwystl, rhowch dystiolaeth cyfansoddiad oni bai y cofnodwyd hyn eisoes gyda’n Hadran Trefniadau Masnachol ym Mhrif Swyddfa Cofrestrfa Tir EF.

Ymholiad

Cyfieithiad ardystiedig o dystiolaeth cyfansoddiad a gyflwynwyd heb ei ddarparu.

Argymhelliad

Cofiwch ddarparu cyfieithiad ardystiedig wrth gyflwyno tystiolaeth cyfansoddiad cwmni sydd heb fod o Gymru, Lloegr neu’r Alban, oni bai bod y ddogfen wreiddiol yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Ymholiad

Rhif cofrestredig y cwmni heb ei ddarparu.

Argymhelliad

Lle bo cwmni o Gymru, Lloegr neu’r Alban i’w gofnodi yn y gofrestr fel perchennog y tir neu arwystl dyfynnwch rif cofrestredig y cwmni – mae panel 6 a 10 ffurflen AP1, paneli 4 a 5 ffurflen TR1 a phaneli 6 a 10 ffurflen FR1 yn darparu ar gyfer hyn.

Ymholiad

Tystiolaeth o dderbynyddiaeth neu ddatodiad heb ei chyflwyno.

Argymhelliad

Rhaid cefnogi trafodion corfforaethau mewn derbynyddiaeth neu ddatodiad gyda thystiolaeth ddogfennol oni bai bod hyn eisoes wedi cael ei gofnodi yn ein Hadran Trefniadau Masnachol ym Mhrif Swyddfa Cofrestrfa Tir EF.

Mae cyfarwyddyd ymarfer 35: ansolfedd corfforaethol yn cynnwys manylion ein gofynion.

6.10 Problemau maint

Ymholiad

Maint y llain ar gynllun gweithred heb fod yn cytuno â’r hyn sy’n cael ei ddangos ar y cynllun ystad cymeradwy.

Argymhelliad

Mae cynlluniau trefniant ystadau cymeradwy yn agored i newid; sicrhewch y seiliwyd cynllun y weithred ar y fersiwn cyfredol.

Ymholiad

Nid yw’r maint sy’n cael ei ddangos ar y cynllun yn cyd-fynd â disgrifiad yr eiddo a roddwyd yng nghymal LR4 prydles cymalau penodedig.

Argymhellion

Sicrhewch fod cymal LR4 prydles cymalau penodedig wedi’i gwblhau i gyfrif am yr holl dir yn y cais i adnabod unrhyw eithriadau a chyd-fynd â’r cynllun.

Mae cyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig yn rhoi rhagor o wybodaeth ynghylch prydlesi cymalau penodedig.

Ymholiad

Lefelau lloriau heb fod yn glir ar gynlluniau’n ymwneud â fflatiau a rhannau eraill o adeiladau.

Argymhelliad

Sicrhewch fod lefelau lloriau ar gynlluniau wedi cael eu diffinio’n eglur ac yn cyfateb i gyfeiriadau geiriol yn y weithred.

Sicrhewch nad yw unrhyw ymylon yn rhy drwchus ac nad ydynt yn cuddio unrhyw fanylion eraill ar y cynllun. Ar gynllun wrth raddfa fechan gall llinellau trwchus fod amryw fetrau ar draws yn y maes.

Ymholiad

Ar gofrestriadau cyntaf lle bo’r hyd a lled ar y cynllun:

  • heb gyfateb i fap yr Arolwg Ordnans
  • heb ei ddiffinio’n eglur, er enghraifft trwy ymylu, lliwio neu linellu
  • yn cynnwys tir a gofrestrwyd eisoes

Argymhellion

Sicrhewch nad yw unrhyw ymylon yn rhy drwchus ac nad ydynt yn cuddio unrhyw fanylion eraill ar y cynllun. Ar gynllun wrth raddfa fechan gall llinellau trwchus fod amryw fetrau ar draws yn y maes.

Edrychwch ar y maint o’i gymharu â chanlyniad eich chwiliad o’r map mynegai (ffurflen SIM).

Ymholiad

Ar gynlluniau cofrestriadau cyntaf sy’n dwyn y datganiad canlynol (neu debyg) o ymwadiad, er enghraifft:

‘Nodyn: Mae’r cynllun hwn ar gyfer cyfeirio’n unig ac, er y credir iddo fod yn gywir, nid yw ei gywirdeb wedi ei warantu mewn unrhyw ffordd ac mae wedi ei eithrio’n benodol o unrhyw gontract.’

Argymhelliad

Byddwn yn derbyn ymwadiad sy’n ymddangos ar gynlluniau gweithredoedd a grëwyd gan National Grid Gas ccc (Rhif Cofrestru Cwmni 2006000) (Transco ccc gynt) lle bo’r ymwadiad yn berthnasol i leoliad a/neu fodolaeth pibelli, offer ac ati.

Ymholiad

Ar gofrestriadau cyntaf lle gadawyd marcio neu liwio y cyfeiriwyd ato yn nhestun gweithred allan o’r cynllun.

Ar gofrestriadau cyntaf lle gostyngwyd cynlluniau o’u graddfa wreiddiol ond yn dal i ddangos y raddfa wreiddiol.

Argymhellion

Dylid paratoi unrhyw gynllun ar gyfer gweithred neu gais newydd gyda golwg ar y canllawiau canlynol. Mae rhagor o wybodaeth i’w chael yng nghyfarwyddyd ymarfer 40: Cynlluniau Cofrestrfa Tir EF – trosolwg

  • tynnu a dangos ar ei wir raddfa
  • dangos ei ogwydd (er enghraifft pwynt y gogledd)
  • defnyddio graddfeydd ffafriedig o 1/1250 – 1/500 ar gyfer eiddo trefol
  • defnyddio graddfeydd ffafriedig o 1/2500 ar gyfer eiddo gwledig (caeau a ffermydd ac ati)
  • peidio â gostwng y raddfa (gweler cyfarwyddyd ymarfer 40: Cynlluniau Cofrestrfa Tir EF – trosolwg
  • peidio â nodi na chyfeirio ato fel bod at ddiben dynodi’n unig
  • peidio â dangos datganiadau ymwadiad sy’n cael eu defnyddio o dan Ddeddf Camddisgrifiadau Eiddo 1991
  • dangos manylion digonol i’w adnabod ar fap yr Arolwg Ordnans
  • dangos ei leoliad cyffredinol trwy ddangos ffyrdd, cyffyrdd neu dirnodau eraill
  • dangos tir yr eiddo gan gynnwys tir unrhyw fodurdy neu ardd
  • dangos adeiladau yn eu lle cywir (neu arfaethedig)
  • dangos mynedfeydd neu lwybrau os ydynt yn ffurfio rhan o derfynau’r eiddo
  • dangos y tir a’r eiddo’n eglur (er enghraifft, trwy ymylu, lliwio neu linellu)
  • bod ag ymylon o drwch nad ydynt yn cuddio unrhyw fanylion eraill
  • dangos rhannau ar wahân trwy farciau addas ar y cynllun (tŷ, man parcio, lle biniau)
  • nodi gwahanol lefelau lloriau (pan fo’n briodol)
  • dangos terfynau cymhleth gyda chynllun ar raddfa fwy neu gynllun mewnosod
  • dangos mesuriadau mewn unedau metrig yn unig, i ddau le degol
  • dangos terfynau amhenodol yn gywir a, lle bo angen, trwy gyfeirio at fesuriadau
  • dangos mesuriadau sy’n cyfateb, cyn belled ag y bo modd, i fesuriadau graddedig

6.11 Gweithredoedd amrywio prydles

Ymholiad

Gweithredoedd amrywio prydles sy’n gweithredu fel ildio ac ail-roi heb eu cyflwyno ar ffurflen AP1.

Argymhellion

Bydd gweithredoedd amrywio prydles sy’n estyn cyfnod neu’n ychwanegu tir at y brydles yn gweithredu’n gyffredinol fel ildio ac ail-roi. Os nad yw hyn yn berthnasol i’ch gweithred, eglurwch pam gan ddyfynnu’r awdurdod perthnasol i’w ategu.

Os yw’r weithred amrywio’n gweithredu fel prydles newydd rhaid i chi gyflwyno’r gofynion arferol ar gyfer cofrestru prydles waredol gyntaf:

  • ffurflen AP1 wedi ei llenwi yn dyfynnu rhif teitl y prydleswr
  • y ffi am ildio ac ail-roi (os yw’n berthnasol)
  • cydsyniadau buddiolwyr rhybudd unochrog neu rybudd a gytunwyd, cyfyngwr ac ati
  • copi ardystiedig o’r brydles wreiddiol bresennol, a rhyddhau/tynnu’n ôl unrhyw lyffetheiriau ar y teitl hwnnw

Gweler cyfarwyddyd ymarfer 25: prydlesi – pryd i gofrestru.

6.12 Cyflawni gweithredoedd

Ymholiad

Llofnod heb ei dystio.

Argymhellion

Mae angen tystio pob llofnod ar wahân.

Ymholiad

Awdurdod i gyflawni heb ei ddarparu.

Argymhelliad

Lle cyflawnwyd gweithred ar ran rhywun, cofiwch ddarparu tystiolaeth awdurdod, er enghraifft:

  • grant profiant neu lythyrau gweinyddu
  • penodi Ymddiriedolwr mewn Methdaliad
  • penderfyniad arbennig y bwrdd
  • gweithred ymgorffori cwmni heb fod o Gymru, Lloegr neu’r Alban
  • atwrneiaeth neu gopi ardystiedig
  • penodi Ymddiriedolwr Cyhoeddus
  • copi o lythyr o Gofrestrfa Tir EF yn dweud bod tystiolaeth eisoes wedi ei chofnodi gyda ni ac nad oes angen ei chyflwyno

Ymholiad

Rhaid i’r rhoddwr gyflawni’r weithred lle y maent wedi penodi cydberchennog arall fel atwrnai.

Argymhelliiad

Mae rhai gofynion yn berthnasol lle bo cydberchennog yn gweithredu fel atwrnai ar ran y cydberchennog (cydberchnogion) eraill.

Gweler y canlynol hefyd:

6.13 Cydberchnogaeth

Ymholiad

Cais heb fod yn datgan os oes angen cyfyngiad tenantiaid cydradd ar ffurf A (Atodlen 4 i Reolau Cofrestru Tir 2003).

Cais yn rhoi gwybodaeth groes i’w gilydd am a oes angen cyfyngiad ffurf A.

Dim tystiolaeth o dderbyn rhybudd hollti cyd-denantiaeth.

Rhaid i’r rhoddwr gyflawni’r weithred lle y maent wedi penodi cydberchennog arall fel atwrnai.

Argymhellion

Wrth wneud cais i gofrestru cyd-denantiaid, sicrhewch fod eich cais yn datgan natur y gyd-denantiaeth. Darparwyd paneli ar gyfer hyn ar rai ffurflenni (er enghraifft, panel 10 ar ffurflen TR1, panel 9 ar ffurflen FR1, panel 10 ar ffurflen AS1 neu gymal LR14 prydles cymalau penodedig).

Sicrhewch nad yw’r wybodaeth yn y paneli hyn yn gwrthdaro ag unrhyw wybodaeth arall a roddwch. Gall cyfyngiad gael ei gofnodi heb ragor o ymgynghori os oes gwrthdaro.

Sicrhewch fod unrhyw rybudd toriad wedi ei ardystio fel wedi ei dderbyn gan y derbynnydd.

Mae rhai gofynion yn berthnasol lle bydd cydberchennog yn gweithredu fel atwrnai ar ran y cydberchennog (cydberchnogion) eraill. Mae cyfarwyddyd ymarfer 9: atwrneiaethau a thir cofrestredig yn egluro ein hymarfer.

6.14 Chwiliadau Pridiannau Tir

Ymholiad

Ni chyflwynwyd canlyniad chwiliad Pridiannau Tir llawn o ran gwerthwr neu brydleswr uniongyrchol y prynwr.

Argymhelliad

Mae angen i ni gael canlyniadau chwiliad Pridiannau Tir ar gyfer gwerthwr neu brydleswr uniongyrchol y prynwr a holl berchnogion eraill yr ystad ers y trawsgludiad diwethaf trwy werthiant. Rhaid i ganlyniadau chwiliad o’r fath:

  • gwmpasu’r cyfnod mewn blynyddoedd pryd oedd berchnogion yr ystad yn berchnogion y tir
  • fod wedi eu gwneud o ran y sir neu ranbarth gweinyddol lle mae’r tir. Lle newidiodd hyn, rhaid cynnwys enw unrhyw sir neu ranbarth blaenorol hefyd

Ymholiad

Mae angen ardystio nad yw cofnodion ar ganlyniadau chwiliad Pridiannau Tir yn effeithio.

Argymhelliad

Lle daw cofnodion i’r amlwg, ardystio nad ydynt yn effeithio ar yr eiddo sy’n cael ei gofrestru, os felly y mae.

6.15 Atwrneiaethau

Ymholiad

Ni chyflwynwyd atwrneiaeth gyda’r cais.

Argymhelliad

Ac eithrio ceisiadau a gyflwynir gan aelodau o’r cyhoedd, caiff ceisiadau lle y mae’n rhaid amgáu atwrneiaeth neu dystysgrif trawsgludwr ar ffurf 1 yn Atodlen 3 i Reolau Cofrestru Tir 2003 (fel y’u newidiwyd) eu gwrthod oni ddarperir y pŵer neu dystysgrif ar adeg cyflwyno. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 9: atwrneiaethau a thir cofrestredig ar gyfer ein gofynion.

7. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.