Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 28: estyn prydlesi

Diweddarwyd 11 December 2023

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Mae modd estyn prydles trwy roi prydles newydd i’r tenant presennol, naill ai:

  • i fod yn weithredol ar unwaith, neu
  • i ddechrau ar ryw ddyddiad yn y dyfodol

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn eithrio prydlesi a roddwyd dan y ddeddfwriaeth diwygio cyfraith lesddaliad (sy’n golygu Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967 neu Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993). Gweler cyfarwyddyd ymarfer 27: y ddeddfwriaeth diwygio cyfraith lesddaliad i gael rhagor o fanylion ar ddelio â’r rhain.

1.1 Lle daw’r brydles newydd yn weithredol ar unwaith

Yn yr achos hwn, ystyrir yn ôl y gyfraith bod y tenantiaid wedi ildio eu prydles wreiddiol (‘yr hen brydles’) yn union cyn i’r un newydd ddechrau. Seiliwyd y rheol hon ar athrawiaeth estopel. Oherwydd bod y brydles newydd yn anghyson â’r hen brydles mae’r tenantiaid o dan estopel rhag gwadu bod yr hen brydles wedi dod i ben.

Mae’r rheol yn berthnasol heb ystyried bwriad y partïon.

Rhaid nodi ildio’r hen brydles yn y gofrestr a chofrestru’r brydles newydd yn ei lle. Gweler Sut i gymhwyso’r rheolau a gwneud ceisiadau safonol i Gofrestrfa Tir EF – prydles newydd yn weithredol ar unwaith.

Os yw teitl prydlesol presennol y ceiswyr wedi ei gofrestru, dylent wneud cais i gau’r teitl hwnnw. Gweler Cau teitl prydlesol presennol.

Os nad yw’r hen brydles wedi ei chofrestru ond wedi ei nodi ar deitl y landlord, dylent wneud cais i ddileu’r rhybudd. Gweler Dileu rhybudd o brydles ddigofrestredig ar deitl y landlord.

Fe all fod achlysuron lle daw’r brydles newydd yn weithredol yn ddarostyngedig i’r brydles gyfredol a’r teitl prydlesol presennol heb ei gau. Gweler Gwneud prydles newydd yn ddarostyngedig i hen brydles.

1.1.1 Defnyddio gweithredoedd amrywio

Mae’n glir yn y gyfraith nad oes modd estyn cyfnod prydles trwy weithred. Yn lle hynny, lle bo gweithred yn ceisio naill ai:

  • amrywio hyd prydles gofrestredig trwy estyn y tymor, neu
  • ychwanegu tir newydd at y stent a brydleswyd trwy brydles gofrestredig

caiff ei thrin yn y gyfraith ei bod yn peri ildiad y brydles sy’n bodoli trwy weithredu’r gyfraith a rhoi prydles newydd ar unwaith o’r holl anheddau a brydleswyd, gan gynnwys unrhyw dir ychwanegol. Felly, os bydd y weithred yn peri hyn (i unioni’r brydles wreiddiol neu i’w hamrywio wedi hynny) bydd yn rhaid ei thrin fel pe bai’n gweithredu yn y ffordd hon. Gweler Defnyddio gweithredoedd amrywio ar gyfer y drefn.

1.2 Lle bo’r brydles newydd yn dechrau ar ryw ddyddiad yn y dyfodol

Gall y brydles newydd ddechrau ar unrhyw adeg hyd at 21 mlynedd o ddyddiad ei rhoi, gweler adran 149(3), Deddf Cyfraith Eiddo 1925. Felly, os oes llai nag 21 mlynedd o’r hen brydles ar ôl, mae modd rhoi’r brydles newydd i ddechrau pan ddaw i ben, neu ar ryw bwynt yn y dyfodol, cyn iddo ddod i ben.

Os oes dros 21 mlynedd o’r hen brydles ar ôl, bydd raid ei thalfyrru, naill ai:

  • trwy weithred amrywio ar wahân, neu
  • eiriad addas yn y brydles newydd, fel ei bod yn terfynu yn union cyn dechrau’r brydles newydd

Gweler Sut i gymhwyso’r rheolau a gwneud ceisiadau safonol i Gofrestrfa Tir EF – prydles newydd yn dechrau ar ryw ddyddiad yn y dyfodol.

1.3 Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau

Os yw eich cais am gofrestriad cyntaf, mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol fel rheol.

Fel rheol, mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol dim ond os yw eich cais am gofrestriad cyntaf. Gall trawsgludwr, fodd bynnag, wneud cais am gofrestriad cyntaf ar sail copïau ardystiedig o weithredoedd a dogfennau yn unig. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf – Ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr – derbyn copïau ardystiedig o weithredoedd am wybodaeth am hyn.

Os nad yw eich cais am gofrestriad cyntaf, dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ddychwelyd unrhyw gopïau gwreiddiol o dystysgrifau marwolaeth neu grantiau profiant atoch.

2. Sut i gymhwyso’r rheolau a gwneud ceisiadau safonol i Gofrestrfa Tir EF – prydles newydd yn weithredol ar unwaith

Yn yr achos hwn bydd angen i chi gyflwyno ceisiadau i gofrestru’r brydles newydd a naill ai:

  • cau teitl prydlesol cofrestredig presennol, neu
  • ddileu rhybudd o brydles ddigofrestredig, a nodwyd ar deitl y landlord

2.1 Cofrestru’r brydles newydd

Mae angen i chi gyflwyno’r cais ar naill ai:

  • ffurflen FR1, gyda ffurflen DL, yn ddyblyg, os yw’r cais am gofrestriad cyntaf (rheolau 23 a 24(1)(d) o Reolau Cofrestru Tir 2003), neu
  • ffurflen AP1, os yw’r brydles allan o deitl cofrestredig (rheol 13 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Sylwer: Os rhoddwyd ar neu ar ôl 19 Mehefin 2006 rhaid i brydles allan o deitl cofrestredig fod yn brydles cymalau penodedig. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig i gael rhagor o wybodaeth.

Bydd angen i chi gyflwyno, fel y bo’n briodol:

  • copi ardystiedig o’r brydles newydd
  • y dystysgrif Treth Dir y Dreth Stamp (TDDS) neu Ddeddf Trafodiadau Tir (LTT) briodol

Sylwer: Os oes angen cyngor arnoch ynghylch pa dystiolaeth TDDS neu LTT sy’n briodol:

  • ar gyfer TDDS ffoniwch linell gymorth Treth Stampiau Cyllid a Thollau EF (HMRC) ar 0300 200 3510 rhwng 8.30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau banc, neu gallwch fynd i wefan Treth Stampiau Cyllid a Thollau EF

  • ar gyfer LTT ffoniwch ganolfan gwasanaeth cwsmeriaid Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) ar 03000 254 000 rhwng 9.30am a 5.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau banc, neu gallwch fynd i wefan ACC

  • caniatâd morgeisai’r landlord, os oes ei angen

Sylwer: Os na chyflwynir y caniatâd, byddwn yn gwneud y cofnod canlynol yng nghofrestr eiddo’r teitl newydd:

“Yn ystod bodolaeth yr arwystl dyddiedig … o blaid … sy’n effeithio ar deitl y landlord (ac, i’r graddau y mae’r gyfraith yn caniatáu hynny, unrhyw arwystl sy’n disodli neu yn amrywio’r arwystl hwn neu unrhyw arwystl pellach o ran y swm cyfan neu ran o’r swm a warantwyd gan yr arwystl hwn), mae teitl i’r brydles yn ddarostyngedig i unrhyw hawliau a all fod wedi codi o ganlyniad i absenoldeb caniatâd arwystlai, oni bai fod y brydles wedi’i hawdurdodi gan adran 99 Deddf Cyfraith Eiddo 1925.”

Ni fyddwn yn gwneud y cofnod hwn os ydych yn cyflwyno copi o’r weithred morgais a chadarnhau bod telerau’r morgais wedi caniatáu rhoi’r brydles (trwy gyfeirio at y cymal perthnasol yn y weithred) ac nad oedd angen caniatâd y morgeisai.

Bydd angen caniatâd bob amser lle caiff arwystl ar deitl y landlord ei warchod gan gyfyngiad yn atal cofrestru prydles neu warediad.

  • caniatâd unrhyw landlord uwch, os oes angen caniatâd o’r fath ar y brydles uwch

Sylwer: Os na chyflwynir caniatâd y landlord uwch, byddwn yn gwneud y cofnod canlynol yng nghofrestr eiddo’r teitl newydd:

“Nid yw’r cofrestrydd wedi gweld unrhyw ganiatâd i roi’r is-brydles hon y gallai fod ei angen yn ôl yr uwch brydles y rhoddwyd yr is-brydles ohoni.”

  • unrhyw ganiatâd sydd ei angen trwy gyfyngiad neu rybuddiad yn effeithio ar deitl y landlord
  • unrhyw arwystlon neu weithredoedd arwystl amnewidiol, gweler Gweithredoedd arwystl amnewidiol
  • ffurflen gais RX1 ar gyfer unrhyw gyfyngiad sy’n cael ei geisio, heblaw cyfyngiad Ffurf A, gweler rheol 92 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Fodd bynnag, gallwch wneud cais am ffurf safonol o gyfyngiad yng nghymal LR13 prydles cymalau penodedig. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 19A: cyfyngiadau ac eiddo prydlesol am gyngor ar ddrafftio cyfyngiadau’n ymwneud â chyfamodau mewn prydlesi
  • lle bo teitl y landlord yn ddigofrestredig, crynodeb archwiliedig neu dalfyriad o deitl y landlord ac unrhyw uwch-deitlau, os oes angen teitl prydlesol llwyr
  • contract ar gyfer gwerthu neu roi’r brydles newydd

Sylwer: Efallai y bydd angen i chi gyflwyno hyn os yw’r brydles newydd yn cael ei rhoi i’r prynwr ar achlysur gwerthu eiddo prydlesol cofrestredig, gan y bydd yr hen brydles yn dal i fod yn gofrestredig yn enw’r gwerthwr. Yn yr achos hwn rhaid i’r prynwr gyflwyno tystiolaeth bod y perchennog presennol wedi cytuno i roi’r brydles.

  • copi ardystiedig o’r brydles a ildiwyd, sydd heb ei chofrestru na’i nodi, ynghyd â theitl iddi. Gall y copi ardystiedig o’r brydles fod yn gopi naill ai o’r brydles wreiddiol neu o’r brydles wrthran. Os na allwch ddarparu copi o’r brydles yn y naill ffurf na’r llall, rhowch gyfrif am ei absenoldeb

Sylwer: Rhaid rhyddhau neu ollwng unrhyw forgeisi, neu lyffetheiriau eraill, sy’n effeithio ar yr ystad brydlesol ddigofrestredig. Gweler Gweithredoedd arwystl amnewidiol.

  • copi ardystiedig o’r brydles a ildiwyd, os lluniwyd y brydles newydd trwy gyfeirio at delerau’r brydles a ildiwyd.

Sylwer 1: Lle bo’r brydles newydd yn cynnwys telerau o’r brydles a ildiwyd, rhaid i’r telerau a gynhwyswyd fod yng nghymalau LR8, LR9, LR10 neu LR11 prydles cymalau penodedig, neu ni wneir cofnodion yn y gofrestr, hyd yn oed pe bai’n ymddangos bod angen cofnod o’r fath ar y telerau a gynhwyswyd. I gael arweiniad ar gwblhau’r cymalau penodedig hyn, gweler adran 5 o gyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig.

Sylwer 2: Lle bo’r brydles newydd yn cyfeirio at y brydles a ildiwyd, byddwn yn ychwanegu nodyn esboniadol at fanylion byr y brydles newydd yn y gofrestr. Lle bo’r brydles newydd yn brydles cymalau penodedig, dim ond pan gyfeirir at y brydles a ildiwyd yn y cymalau penodedig, neu yn rhan o gorff y brydles y cyfeirir ati yn y cymalau penodedig, y bydd nodyn esboniadol yn cael ei ychwanegu. Bydd geiriad y nodyn yn amrywio yn dibynnu ar b’un ai y cofrestrwyd y brydles a ildiwyd a ph’un ai y mae gweithred amrywio yn effeithio ar yr estyniad.

Sylwer 3: Lle bo’r brydles a ildiwyd wedi ei hamrywio gynt, bydd cofrestr y teitl prydlesol newydd dim ond yn cyfeirio at weithredoedd amrywio o’r fath fel y cyfeirir atynt yn benodol yn nhelerau’r brydles newydd neu yng nghymalau penodedig prydles cymalau penodedig.

Os yw’r brydles allan o deitl cofrestredig ac yn cael ei rhoi ar neu ar ôl 19 Mehefin 2006, gydag eithriadau arbennig, rhaid i’r brydles fod yn brydles cymalau penodedig (rheol 58A o Reolau Cofrestru Tir 2003). Gweler cyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig i gael rhagor o wybodaeth.

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

2.1.1 Ffïoedd

Mae’r taliad i’w wneud yn ôl y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru

2.2 Defnyddio gweithredoedd amrywio

Caiff gweithred amrywio sy’n estyn y cyfnod ei hystyried bob tro ei bod yn peri ildiad y brydles bresennol (trwy weithredu’r gyfraith) a rhoi prydles newydd yn union wedi hynny. Nid oes yn rhaid i weithred sy’n dod i rym yn y ffordd hon fod yn brydles cymalau penodedig, hyd yn oed os yw’r brydles sy’n cael ei hamrywio’n brydles cymalau penodedig ei hunan. Fodd bynnag, nid yw’r eithriad hwn yn briodol os yw telerau’r amrywiad yn darparu’n benodol ar gyfer ildio’r brydles bresennol neu roi un newydd. I gael rhagor o wybodaeth, gweler cyfarwyddyd ymarfer 68: Gweithredoedd newid sy’n peri gwarediadau tir cofrestredig – adran 4.4.3. Prydlesi cymalau penodedig.

Mae angen i chi gyflwyno’r cais ar naill ai:

  • ffurflen FR1, gyda ffurflen DL, yn ddyblyg, os yw’r cais am gofrestriad cyntaf (rheolau 23 a 24(1)(d )o Reolau Cofrestru Tir 2003), neu
  • ffurflen AP1, os yw allan o deitl cofrestredig (rheol 13 o Reolau Cofrestru Tir 2003

Yn ogystal â’r dogfennau sy’n cael eu rhestru yn Cofrestru’r brydles newydd, bydd angen i chi gyflwyno’r canlynol hefyd:

  • copi ardystiedig o’r weithred amrywio newydd

Sylwer: Caiff unrhyw weithred wreiddiol sy’n cael ei chyflwyno gyda’ch cais ei chadw a’i dinistrio ar ôl gwneud copi wedi’i sganio ohoni (rheol 203 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

  • y dystysgrif TDDS neu LTT briodol.

Sylwer: Os oes angen cyngor arnoch ynghylch pa dystiolaeth TDDS neu LTT sy’n briodol:

  • ar gyfer TDDS ffoniwch linell gymorth Treth Stampiau Cyllid a Thollau EF (HMRC) ar 0300 200 3510 rhwng 8.30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau banc, neu gallwch fynd i wefan Treth Stampiau Cyllid a Thollau EF

  • ar gyfer LTT ffoniwch ganolfan gwasanaeth cwsmeriaid Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) ar 03000 254 000 rhwng 9.30am a 5.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau banc, neu gallwch fynd i wefan ACC

Gan y bydd y weithred yn gweithredu fel ildio’r brydles gyfredol a rhoi un newydd, rhaid i chi ystyried unrhyw arwystlon yn erbyn y teitl prydlesol presennol. Gweler Gweithredoedd arwystl amnewidiol. Gweler Ffïoedd o ran taliadau.

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

2.3 Cau teitl prydlesol presennol

Rhaid gwneud hyn ar ffurflen AP1 (rheol 13 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Rhaid i chi ystyried unrhyw lyffetheiriau ar y teitl a, lle bo’n briodol, cyflwyno tystiolaeth i gefnogi eu gollwng, tynnu’n ôl neu ddileu er mwyn gallu cau’r teitl.

O ran unrhyw arwystl sy’n effeithio ar y teitl prydlesol sy’n cau, dylech gyflwyno ffurflen DS1 neu drefnu i’r rhoddwr benthyg gyflwyno ffurflen e-DS1 neu ryddhad electronig (ED).

Fel arall, gallwch gyflwyno copi ardystiedig o weithred arwystl amnewidiol. Gweler Gweithredoedd arwystl amnewidiol.

O ran unrhyw gyfyngiad, dylech gyflwyno naill ai:

Fodd bynnag, os yw’r cyfyngiad ar Ffurf A, ni fydd yn atal cau’r teitl prydlesol os yw’r ildiad gan ddau neu ragor o berchnogion neu, lle y mae’r ildiad gan berchennog unigol, os nad oes arian cyfalaf wedi ei dalu gan y landlord i’r tenant.

O ran unrhyw rybudd hawliau cartref, dylech gyflwyno ffurflen HR4, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth gefnogol angenrheidiol. I gael rhagor o wybodaeth, gweler cyfarwyddyd ymarfer 20: ceisiadau o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996.

O ran unrhyw rybuddion eraill a fyddai’n atal terfynu’r teitl prydlesol presennol, dylech gyflwyno naill ai:

  • ffurflen UN2 i dynnu rhybudd unochrog ymaith
  • ffurflen UN4 i ddileu rhybudd unochrog, neu
  • ffurflen CN1 i ddileu rhybudd heblaw rhybudd unochrog, gan gynnwys arwystlon ecwitïol a rhai a nodwyd

Sylwer 1: Caiff unrhyw rybudd na fyddai’n atal terfyniad ei gario ymlaen i’r teitl prydlesol newydd, oni bai bod cais i’w dynnu ymaith neu ei ddileu yn cael ei gynnwys.

Sylwer 2: Efallai y bydd angen tystiolaeth ychwanegol i gefnogi unrhyw gais i ddileu, tynnu’n ôl neu dynnu ymaith cyfyngiad neu rybudd. I gael rhagor o wybodaeth, gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr.

Lle y mae’r teitl prydlesol presennol yn cynnwys hawddfreintiau gwrthwynebus neu gyfamodau cyfyngu nad ydynt wedi eu hailadrodd yn nheitl y landlord, gellir cario’r rhain ymlaen i’r teitl prydlesol newydd.

Dylech hefyd gyflwyno tystiolaeth o hawl y ceiswyr i wneud cais os nad hwy yw’r perchnogion cofrestredig. Gweler Cofrestru’r brydles newydd.

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

2.3.1 Ffïoedd

Mae’r taliad i’w wneud yn ôl y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol.

2.4 Dileu rhybudd o brydles ddigofrestredig ar deitl y landlord

Rhaid gwneud hyn ar ffurflen CN1, (rheol 87(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Bydd angen i chi gyflwyno hefyd:

  • copi ardystiedig o’r brydles a ildiwyd
  • teitl y ceisydd iddi
  • chwiliad pridiannau tir yn erbyn y tenantiaid presennol, ynghyd â thystiolaeth i gyfrif am unrhyw gofnodion a ddatgelir

Rhaid tynnu’n ôl neu ollwng holl lyffetheiriau, a rhaid rhyddhau unrhyw forgeisi sy’n effeithio ar yr ystad brydlesol ddigofrestredig. Fel arall, mae modd cyflwyno gweithred arwystl amnewidiol. Gweler Gweithredoedd arwystl amnewidiol.

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

2.4.1 Ffïoedd

Mae’r taliad i’w wneud yn ôl y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

Sylwer: Nid oes awdurdod i ildio’r ffi am y cais CN1, beth bynnag fo natur unrhyw geisiadau eraill a gyflwynir ar yr un pryd.

2.5 Gweithredoedd arwystl amnewidiol

Sylwer os rhoddir y brydles newydd o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 bod y ddeddfwriaeth yn darparu y bydd unrhyw arwystlon ar y brydles a ildiwyd yn trosglwyddo’n awtomatig felly nid oes angen i Gofrestrfa Tir EF gyflwyno gweithred warant amnewidiol.

Cyn cwblhau’r brydles newydd, dylai’r tenantiaid gysylltu ag arwystleion yr hen brydles i weld beth yw eu gofynion.

Gall yr arwystleion ffafrio naill ai:

  • gollwng eu harwystl presennol a chymryd arwystl newydd dros yr ystad brydlesol newydd, neu
  • ddefnyddio gweithred i amnewid yr arwystl

Byddai’n well gan Gofrestrfa Tir EF fod yr arwystl ar yr hen brydles yn cael ei ryddhau gan ddefnyddio un o’r canlynol:

ac yna cyflawni arwystl newydd dros y tir yn y brydles newydd.

Fodd bynnag, byddwn yn barod i dderbyn gweithred sy’n amnewid y brydles newydd fel gwarant am yr arwystl presennol, hy gweithred arwystl amnewidiol.

Os ydych yn defnyddio gweithred arwystl amnewidiol, rhaid dal i ollwng yr arwystl dros yr hen brydles. Gallwch gyflawni hyn trwy un o’r dulliau canlynol:

  • ffurflen DS1
  • ED neu
  • e-DS1
  • cynnwys geiriau gollwng clir yn y weithred ei hun

Rhaid i’r weithred wneud yn glir hefyd ei bod:

  • yn arwystlo’r ystad brydlesol newydd
  • ailddatgan neu fynegi darpariaethau’r arwystl gwreiddiol

Os oes cyfyngiad yn y gofrestr yn ymwneud â’r arwystl gwreiddiol neu gofnod yn ymwneud â rhwymedigaeth i wneud benthyciadau pellach, caiff y cofnodion eu cario ymlaen dim ond os cyflwynir cais newydd ar ffurflen RX1 a/neu ffurflen CH2, oni bai mai ffurf arwystl cymeradwy yw’r weithred arwystl amnewidiol sy’n cynnwys cais am ffurf safonol o gyfyngiad a/neu rwymedigaeth benthyciadau pellach.

Os yw’r cymerwr benthyg yn gwmni, efallai bydd angen cofrestru’r weithred arwystl amnewidiol yn Nhŷ’r Cwmnïau. Os na chyflwynir tystysgrif cofrestru gyda’r cais, byddwn yn gwneud nodyn i’r cofnod yn y gofrestr yn datgan efallai bydd yr arwystl yn erbyn yr ystad newydd yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 859H o Ddeddf Cwmnïau 2006 (rheol 111 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Am ragor o wybodaeth, gweler adran 4 o Gyfarwyddyd Ymarfer 29: cofrestru arwystlon cyfreithiol a gweithredoedd amrywio arwystl.

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

2.6 Gwneud prydles newydd yn ddarostyngedig i hen brydles

Os yw’r brydles newydd yn cael ei gwneud yn ddarostyngedig yn benodol ar yr hen brydles derbyniwn nad yw ildio’r hen brydles yn digwydd.

Yn y fath achos nid yw’r brydles newydd, fel prydles o fudd rifersiwn y landlord, yn anghyson â’r hen brydles.

Ni fyddwn yn cau’r teitl prydlesol presennol.

Er y gall fod manteision i’r agwedd hon, gall bodolaeth prydlesi cydredol, gyda’r un perchennog, wedi eu cofrestru o dan rifau teitl ar wahân fod yn ddryslyd i’r rhai fydd yn delio â’r teitl ar ôl hynny.

Os caiff trawsgludwyr newydd eu cyflogi ar werthiant a’r sefyllfa heb ei hegluro iddynt, gall anawsterau godi’n aml. Gall fod yn anodd egluro’r sefyllfa i brynwr hefyd.

Wrth gofrestru prydles newydd o’r fath, byddwn yn ystyried y posibilrwydd bod budd yn y brydles newydd gan berchnogion unrhyw arwystl sy’n effeithio ar yr hen brydles. Gallant fod â budd o’r fath o dan naill ai:

  • delerau eu harwystl, neu
  • y gyfraith gyffredinol

Wrth wneud cais i gofrestru prydles newydd o’r fath, bydd yn rhaid i chi wneud datganiad penodol yng nghymal LR4 y brydles newydd, cyflwyno unrhyw arwystlon sy’n effeithio ar yr hen brydles neu eu rhestru ym mhanel 10 ffurflen FR1 neu banel 10 ffurflen AP1. Dylai’r datganiad fod yn debyg i hyn:

“Mae’r brydles hon yn weithredol yn ddarostyngedig i ond gyda budd y brydles sy’n bodoli dyddiedig…”.

Ychwanegir rhybudd am y brydles sy’n bodoli at deitl y brydles newydd ac ychwanegir rhybudd am y brydles gydamserol at deitl y landlord.

Pan fo’n briodol, gwneir cofnod tebyg i’r canlynol yn y gofrestr arwystlon hefyd:

“Mae’r tir yn ddarostyngedig i’r fath hawliau a all fodoli o blaid y rhai â budd mewn arwystl dyddiedig (dyddiad) a wnaed rhwng (partïon) i’r brydles ddyddiedig (dyddiad) y cyfeiriwyd ati yn yr Atodlen prydlesi i hyn”.

Sylwer: Mae’r drefn hon yn berthnasol dim ond i brydlesi sy’n dod yn weithredol ar unwaith.

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

3. Sut i gymhwyso’r rheolau a gwneud ceisiadau safonol i Gofrestrfa Tir EF – prydles newydd yn dechrau ar ryw ddyddiad yn y dyfodol

Mae angen i chi gyflwyno’r cais ar un o’r ffurflenni canlynol:

  • ffurflen FR1, gyda ffurflen DL, yn ddyblyg, os yw’r cais am gofrestriad cyntaf (rheolau 23 a 24(1)(d) o Reolau Cofrestru Tir 2003), neu
  • ffurflen AP1, os yw’r brydles allan o deitl cofrestredig (rheol 13 o Reolau Cofrestru Tir 2003

Sylwer: Os rhoddwyd ar neu ar ôl 19 Mehefin 2006 rhaid i brydles allan o deitl cofrestredig fod yn brydles cymalau penodedig. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig i gael rhagor o wybodaeth.

Bydd angen i chi gyflwyno, fel y bo’n briodol, y dogfennau canlynol:

  • copi ardystiedig o’r brydles newydd

Sylwer: Os ydych yn cyflwyno gweithred wreiddiol gyda’ch cais, caiff ei chadw a’i dinistrio ar ôl gwneud copi wedi’i sganio ohoni (rheol 203 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

  • y dystysgrif TDDS neu LTT briodol.

Sylwer: Os oes angen cyngor arnoch ynghylch pa dystiolaeth TDDS neu LTT sy’n briodol:

  • ar gyfer TDDS ffoniwch linell gymorth Treth Stampiau Cyllid a Thollau EF (HMRC) ar 0300 200 3510 rhwng 8.30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau banc, neu gallwch fynd i wefan Treth Stampiau Cyllid a Thollau EF

  • ar gyfer LTT ffoniwch ganolfan gwasanaeth cwsmeriaid Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) ar 03000 254 000 rhwng 9.30am a 5.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau banc, neu gallwch fynd i wefan ACC

  • caniatâd morgeisai’r landlord, os oes ei angen

Sylwer: Os na chyflwynir y caniatâd, byddwn yn gwneud y cofnod canlynol yng nghofrestr eiddo’r teitl newydd:

“Yn ystod bodolaeth yr arwystl dyddiedig … o blaid … sy’n effeithio ar deitl y landlord (ac, i’r graddau y mae’r gyfraith yn caniatáu hynny, unrhyw arwystl sy’n disodli neu yn amrywio’r arwystl hwn neu unrhyw arwystl pellach o ran y swm cyfan neu ran o’r swm a warantwyd gan yr arwystl hwn), mae teitl i’r brydles yn ddarostyngedig i unrhyw hawliau a all fod wedi codi o ganlyniad i absenoldeb caniatâd arwystlai, oni bai fod y brydles wedi’i hawdurdodi gan adran 99 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925.”

Ni fyddwn yn gwneud y cofnod hwn os ydych yn cyflwyno copi o’r weithred morgais, a chadarnhau bod telerau’r morgais wedi caniatáu rhoi’r brydles (trwy gyfeirio at y cymal perthnasol yn y weithred) ac nad oedd angen y caniatâd.

Bydd angen caniatâd bob amser lle bo cyfyngiad o blaid morgeisai’r landlord ar deitl y landlord.

  • caniatâd unrhyw landlord uwch, os oes angen caniatâd o’r fath ar y brydles uwch

Sylwer: Os na chyflwynir caniatâd y landlord uwch byddwn yn gwneud y cofnod canlynol yng nghofrestr eiddo’r teitl newydd:

“Nid yw’r cofrestrydd wedi gweld unrhyw ganiatâd i roi’r is-brydles hon y gallai fod ei angen yn ôl yr uwch brydles y rhoddwyd yr is-brydles ohoni.”

  • unrhyw ganiatâd sydd ei angen trwy gyfyngiad neu rybuddiad yn effeithio ar deitl y landlord
  • copïau ardystiedig o unrhyw arwystlon newydd, sy’n arwystlo’r brydles newydd fel gwarant ychwanegol
  • ffurflen gais RX1 ar gyfer unrhyw gyfyngiad sy’n cael ei geisio, heblaw cyfyngiad ffurf A, gweler rheol 92 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Fodd bynnag, gallwch wneud cais am ffurf safonol o gyfyngiad yng nghymal LR13 prydles cymalau penodedig. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 19A: cyfyngiadau ac eiddo prydlesol am gyngor ar ddrafftio cyfyngiadau’n ymwneud â chyfamodau mewn prydlesi
  • lle bo teitl y landlord yn ddigofrestredig, crynodeb archwiliedig neu dalfyriad o deitl y landlord ac unrhyw uwch-deitlau, os oes angen teitl prydlesol llwyr
  • copi ardystiedig o weithred amrywio, os oes dros 21 mlynedd o gyfnod yr hen brydles ar ôl

Sylwer: Nid yw gweithred sy’n amrywio prydles sy’n dod i rym fel ildio ac ail-roi’r ystad brydlesol yn gorfod bod yn brydles cymalau penodedig. Mae’r eithriad hwn yn berthnasol pa un ai oedd y brydles wreiddiol yn brydles cymalau penodedig neu beidio.

  • copi ardystiedig o’r brydles gyfredol, os lluniwyd y brydles newydd trwy gyfeirio at delerau’r brydles gyfredol. Gall y copi ardystiedig o’r brydles fod yn gopi naill ai o’r brydles wreiddiol neu o’r brydles wrthran. Os na allwch ddarparu copi o’r brydles yn y naill ffurf na’r llall, rhowch gyfrif am ei absenoldeb

Os yw’r brydles allan o deitl cofrestredig ac yn cael ei rhoi ar neu ar ôl 19 Mehefin 2006, gydag eithriadau arbennig, rhaid i’r brydles fod yn brydles cymalau penodedig (rheol 58A o Reolau Cofrestru Tir 2003). Gweler cyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig i gael rhagor o wybodaeth.

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

3.1 Ffïoedd

Mae’r taliad i’w wneud yn ôl y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru

4. Pethau i’w cofio

Gwnewch yn siwr eich bod:

  • wedi amgáu’r taliad(au) cywir
  • wedi defnyddio a llofnodi’r ffurflen(ni) gais gywir
  • wedi cyflwyno’r dystysgrif TDDS gywir
  • wedi cyflwyno copi ardystiedig o’r brydles neu weithred amrywio
  • wedi amgáu tystiolaeth o ryddhau unrhyw forgais (DS1, ED neu e-DS1) neu wedi dangos ar y ffurflen gais bod y rhain ‘i ddilyn’
  • wedi dangos a ydynt yn gyd-denantiaid llesiannol neu’n denantiaid cydradd lle bo’r brydles i gydberchnogion
  • wedi darparu cyfeiriad ar gyfer gohebu perchennog newydd y tir i’w gofnodi ar y gofrestr
  • wedi cyflwyno ffurflen RX1 os ydych yn gwneud cais am unrhyw gyfyngiadau, heblaw cyfyngiad Ffurf A
  • wedi sicrhau bod yr holl lyffetheiriau ar yr ystad brydlesol a ildiwyd wedi cael eu rhyddhau, eu tynnu’n ôl neu eu dileu yn addas a’ch bod wedi cyflwyno tystiolaeth ddogfennol briodol gyda’ch cais i roi cyfrif am hyn
  • wedi amgáu unrhyw ganiatâd sydd ei angen oherwydd y cyfyngiad(au) a gofnodwyd ar gofrestri perchnogaeth/arwystlon teitl y landlord

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.