Amdanom ni

Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) yn gyfrifol am weinyddu’r llysoedd a thribiwnlysoedd troseddol, sifil a theulu yng Nghymru a Lloegr.


Rydym hefyd yn gyfrifol am dribiwnlysoedd sydd heb eu datganoli yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Rydym yn gweithio gyda barnwriaeth annibynnol i ddarparu system gyfiawnder deg, effeithlon ac effeithiol.

Ein llysoedd

Rydym yn gweinyddu gwaith y Llysoedd Ynadon, y Llys Sirol, y Llys Teulu, Llys y Goron a’r Llysoedd Barn Brenhinol a’r Adeilad Rolls.

Y Llysoedd Barn Brenhinol

Adeilad Rolls

Llysoedd eraill

Ein tribiwnlysoedd

Tribiwnlys Haen Gyntaf

Uwch Dribiwnlys

Pwy ydym ni?

Rydym yn cyflogi oddeutu 19,000 o staff ac yn gweithredu o leoliadau yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Ein cyfrifoldebau

Drwy’r llysoedd a thribiwnlysoedd, rydym yn rhoi mynediad at gyfiawnder i bobl a busnesau, gan gynnwys:

  • dioddefwyr a thystion troseddau
  • diffynyddion a gyhuddwyd o gyflawni troseddau
  • defnyddwyr mewn dyled neu gydag anghydfodau eraill
  • pobl sy’n ymwneud â mabwysiadu neu amddiffyn plant
  • busnesau sy’n ymwneud ag anghydfodau masnachol
  • unigolion sy’n mynnu eu hawliau cyflogaeth neu’n herio penderfyniadau cyrff y llywodraeth
  • pobl yr effeithir arnynt gan berthynas sy’n chwalu

Rydym yn dilyn cynllun cyflawni canlyniadau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau mynediad cyflym at gyfiawnder.

Rydym yn gyfrifol am:

  • ddarparu cymorth i weinyddu system llysoedd a thribiwnlysoedd deg, effeithlon a hygyrch.
  • cefnogi barnwriaeth annibynnol wrth iddi weinyddu cyfiawnder.
  • hybu gwelliant ym mhob agwedd ar weinyddu’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd.
  • cydweithio’n effeithiol â chyrff ac asiantaethau cyfiawnder eraill, gan gynnwys y proffesiynau cyfreithiol, i wella mynediad at gyfiawnder.
  • cydweithio ag adrannau ac asiantaethau’r llywodraeth i wella ansawdd ac amseroldeb eu penderfyniadau er mwyn lleihau nifer yr achosion sy’n dod gerbron llysoedd a thribiwnlysoedd.

Lansiwyd ein Rhaglen Ddiwygio yn 2016. Nawr yn ei chamau olaf, rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’r farnwriaeth, gweithwyr proffesiynol cyfreithiol a defnyddwyr ein system gyfiawnder – ac yn gwneud cynnydd sylweddol tuag at wireddu’r weledigaeth hirdymor honno.

Mae ein tudalen Rhaglen Ddiwygio yn cynnwys mwy o wybodaeth a diweddariadau o bob un o’r meysydd awdurdodaethol.

Gwybodaeth Gorfforaethol

Mynediad at ein gwybodaeth

Swyddi a Chontractau

Darllenwch am y mathau o wybodaeth yr ydym yn eu cyhoeddi yn rheolaidd yn ein Cynllun Cyhoeddi. Dysgwch am ein hymrwymiad i’r Cynllun Iaith Gymraeg. Mae ein Siarter Gwybodaeth Bersonol yn egluro sut yr ydym yn delio â’ch gwybodaeth bersonol. Darllenwch ein polisi ar ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.

Gwybodaeth gorfforaethol

Cael mynediad at ein gwybodaeth

Swyddi a chontractau

Darllenwch am y mathau o wybodaeth rydyn ni'n ei chyhoeddi'n rheolaidd yn ein Cynllun cyhoeddi. Dysgwch am ein hymrwymiad i Cynllun iaith Gymraeg. Mae ein Siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio sut rydyn ni'n ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol. Darllenwch ein polisi ar Social media use.