Gweithdrefn gwyno

Sut i wneud cwyn ynghylch Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF.


Gwneud cwyn

Os nad ydych yn hapus â’n gwasanaeth

Efallai y byddwch chi eisiau gwneud cwyn. Mae ein proses gwneud cwyn yn edrych ar sut y cafodd eich achos ei drin gan ein staff. Nid ydym yn gallu newid y penderfyniad yn eich achos chi nac ymchwilio i sut y gweithredodd barnwr neu ynad tuag atoch.

I gwyno am ein gwasanaeth:

  • llenwch ein ffurflen gwynion ar-lein

  • siaradwch ag aelod o staff yn ein hadeiladau a byddwn yn cofnodi eich adborth

  • cysylltwch â’n llysoedd neu ein tribiwnlysoedd drwy e-bost, ffôn neu yn ysgrifenedig

Ein nod yw ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith.

Adolygu

Os nad ydych yn hapus gyda’r ymateb i’ch cwyn, gallwch ofyn i uwch reolwr yn y swyddfa gynnal adolygiad. Dylech esbonio pam nad ydych chi’n hapus. Bydd y rheolwr yn anelu at ymateb i chi o fewn 10 diwrnod gwaith.

Apêl

Os nad ydych yn fodlon gydag adolygiad yr uwch reolwr o’ch cwyn, gallwch apelio i’r Tîm Ymchwiliadau Cwsmeriaid. Bydd y rheolwr a adolygodd eich cwyn yn rhoi ei fanylion cyswllt i chi. Bydd y Tîm Ymchwiliadau Cwsmeriaid yn edrych o’r newydd ar y ffordd y mae eich cwyn wedi cael ei thrin. Ei nod fydd ymateb i chi o fewn 15 diwrnod gwaith.

Os ydych yn parhau i fod yn anfodlon ar ddiwedd proses gwynion GLlTEF, gallwch hefyd ofyn i’ch aelod Seneddol gyfeirio eich achos at yr Yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd.

Os ydych yn anfodlon â sut mae barnwr neu ynad wedi gweithredu

Nid yw barnwyr, ynadon ac aelodau’r tribiwnlys yn gweithio i GLlTEF. Ni allwn ymchwilio i gwynion am eu hymddygiad na chymryd unrhyw gamau.

Os ydych yn anhapus â’r ffordd mae barnwr neu aelod o’r tribiwnlys wedi ymddwyn, gallwch wneud cwyn i Lywydd y Tribiwnlys perthnasol. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut i gysylltu â’r Llywydd ar wefan y Swyddfa Ymchwiliadau i Ymddygiad Barnwrol

Os ydych yn anfodlon â’r ffordd y gwnaeth ynad ymddwyn gallwch gyflwyno cwyn i’r Pwyllgor Ymgynghorol ar Ymddygiad lleol.

Ni fydd yr un o’r ddau gorff yn derbyn cwynion am benderfyniad barnwr neu ynad na’r ffordd mae wedi rheoli’r achos.

Os ydych yn anhapus â chanlyniad eich achos

Nid yw barnwyr, ynadon ac aelodau’r tribiwnlys yn gweithio i ni. Ni allwn ymchwilio i gwynion sy’n herio penderfyniad maen nhw wedi ei wneud.

Os ydych yn anhapus â chanlyniad eich achos, gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad, er enghraifft os ydych yn credu bod y penderfyniad yn anghywir. Efallai y byddwch chi eisiau gofyn am gyngor cyfreithiol os byddwch chi’n penderfynu gwneud hyn. Gallwch ganfod sut i apelio yn erbyn penderfyniad gyda’r farnwriaeth ar GOV.UK neu drwy eich cynrychiolydd cyfreithiol.

Rhoi adborth

I ddweud wrthym sut y gallwn wella:

Ni fyddwn yn gallu ysgrifennu’n ôl atoch chi, ond rydyn ni eisiau clywed os allwn ni wella.

Dweud diolch

I ddweud wrthym ein bod wedi gwneud rhywbeth yn dda:

  • llenwch ein ffurflen diolch ar-lein

  • siaradwch ag aelod o staff yn ein hadeiladau a byddwn yn cofnodi eich adborth

  • cysylltwch â’n llysoedd neu dribiwnlysoedd yn uniongyrchol drwy e-bost, ffôn neu yn ysgrifenedig

Ni fyddwn yn ysgrifennu’n ôl atoch chi, ond rydyn ni eisiau gwybod a ydyn ni wedi gwneud rhywbeth yn dda. Gallwn sicrhau ei fod yn dal i ddigwydd a dysgu o’ch adborth.