Canllawiau

Apelio i’r Tribiwnlys Rhestrau Iechyd Sylfaenol

Sut i apelio os nad ydych wedi’ch cynnwys ar restr o ddarparwyr GIG, megis rhestri cyflawnwyr meddygol, deintyddol neu offthalmig, neu’r rhestr fferyllol. Mae’n disodli Arweiniad PHL.

Applies to England and Wales

Mae’n cynnwys gwybodaeth o’r Arweiniad PHL a dynnwyd yn ôl.

Beth allwch chi apelio yn ei erbyn?

Gallwch apelio i Dribiwnlys Haen Gyntaf Rhestrau Iechyd Sylfaenol os yw Bwrdd Comisiynu’r GIG (GIG):

  • yn gwrthod eich ychwanegu at restr o gyflawnwyr
  • yn eich tynnu oddi ar y rhestr
  • yn cadw, yn newid neu’n ychwanegu at yr amodau o safbwynt eich cynnwys chi ar y rhestr

Mae’r tribiwnlys yn annibynnol o’r llywodraeth a bydd yn gwrando ar y ddau barti cyn gwneud penderfyniad.

Yr amser sydd gennych i apelio

Gan amlaf, bydd rhaid ichi apelio o fewn 28 diwrnod i chi gael penderfyniad y GIG.

30 diwrnod yw’r cyfnod hwn ar gyfer rhai apeliadau fferyllol.

Os byddwch yn methu’r terfyn amser gallwch ofyn am ragor o amser i apelio, ond bydd rhaid ichi egluro’n fanwl pam eich bod eisiau estyniad.

Dylech hefyd anfon copi o’ch cais at yr atebydd er mwyn iddo/i allu dweud wrth y barnwr p’un a yw’n rhoi ei sêl bendith i’r cais.

Bydd y tribiwnlys yn penderfynu p’un a all barhau â’ch achos.

Sut i apelio

Llenwch y ffurflen apêl a’i hanfon i primaryhealthlists@justice.gov.uk neu:

Tribiwnlys Haen Gyntaf Rhestrau Iechyd Sylfaenol
Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM
Llys Ynadon Darlington
Parkgate
Darlington
DL1 1RU

Rhif ffôn: 01325 289 350
Ffacs: 01264 785 013

Dylech hefyd anfon at y tribiwnlys gopi o’r llythyr penderfyniad sy’n rhoi caniatâd ichi apelio.

Gall y tribiwnlys eich helpu i lenwi’r ffurflen, ond ni all roi cyngor cyfreithiol i chi.

Mae’n bosib y gallwch gael cyngor gan eich cymdeithas broffesiynol neu drwy eich yswiriwr.

Gallwch ofyn i’r tribiwnlys:

  • gynnal y gwrandawiad yn Gymraeg (os ydych yn byw yng Nghymru)
  • trefnu bod yna gyfieithydd neu ddehonglydd iaith arwyddion yn y gwrandawiad ar eich cyfer chi neu dyst ar gyfer ieithoedd eraill yng Nghymru a Lloegr.

Sut fydd y tribiwnlys yn penderfynu ar eich achos

Bydd y tribiwnlys yn trefnu cynhadledd dros y ffôn gyda chi, y barnwr a’r GIG. Bydd hwn yn gyfle ichi drafod beth sydd angen ichi ei wneud cyn y gwrandawiad ac fe’i elwir yn wrandawiad rheoli achos dros y ffôn. Bydd y tribiwnlys yn anfon cyfarwyddiadau atoch ynghylch sut i baratoi ar gyfer y gwrandawiad dros y ffôn a sut i ymuno ag ef.

Yn ystod yr alwad byddwch gan amlaf yn penderfynu pryd i:

  • gyfnewid dogfennau a datganiadau tyst
  • coladu’r papurau ar gyfer y gwrandawiad (y ‘bwndel’)

Bydd y tribiwnlys yn anfon arweiniad atoch ar ddatganiadau a bwndeli.

Bydd y barnwr yn pennu amser a dyddiad ar gyfer y gwrandawiad. Fe ychwanegir y manylion at y rhestr o wrandawiadau.

Gallwch hefyd ofyn cwestiynau am y broses i’r barnwr, neu beth ddylech ei ddisgwyl yn y gwrandawiad.

Gofyn am ddogfennau a thystion

Gallwch ofyn i’r tribiwnlys:

  • godi gwŷs tyst (os ydych eisiau i dyst ddod i’r gwrandawiad, ond eu bod wedi gwrthod)
  • gwneud gorchymyn i’r grŵp comisiynu clinigol roi i chi ddogfennau perthnasol sy’n cefnogi eich achos

Rhaid rhoi rhybudd o 14 diwrnod i’r rhai hynny sy’n cael gwŷs i fynychu’r gwrandawiad. Efallai y byddant yn gwrthwynebu’r wŷs.

Os byddwch yn gofyn i dyst gael gwŷs a’u bod yn gofyn ichi dalu eu costau i fynychu’r gwrandawiad, yna bydd rhaid i chi dalu’r costau hyn.

Gallwch ofyn i’r barnwr godi gwŷs tyst neu orchymyn:

  • yn ystod y gwrandawiad dros y ffôn
  • drwy anfon cais ysgrifenedig

Gall y tribiwnlys orchymyn nad yw’r partïon yn dadlennu gwybodaeth os:

  • byddai gwneud hynny yn golygu bod modd adnabod rhywun ddylai aros yn anhysbys
  • byddai’n debygol o achosi niwed difrifol

Gofyn am ragor o amser neu i newid dogfen

Gallwch ddefnyddio Ffurflen T109 i ofyn i farnwr:

  • roi caniatâd i chi addasu dogfen yr ydych eisoes wedi’i darparu
  • caniatáu rhagor o amser i chi ffeilio datganiad
  • gohirio’r gwrandawiad
  • atal y gwrandawiad dros dro

Dylech nodi ar y ffurflen paham yr ydych yn gofyn am y newid.

Dylech hefyd anfon copi o’r ffurflen at y parti arall fel y gallant roi eu safbwyntiau nhw hefyd i’r barnwr.

Y gwrandawiad

Gellir cynnal y gwrandawiad mewn adeilad llys neu dribiwnlys yn eich ardal leol chi.

Bydd eich achos yn cael ei benderfynu gan banel a fydd yn cynnwys:

  • barnwr
  • arbenigwr sydd â phrofiad proffesiynol (er enghraifft, meddyg teulu, deintydd neu offthalmolegydd)
  • unigolyn sydd â phrofiad iechyd perthnasol ond nad yw’n weithiwr iechyd proffesiynol

Hefyd yn y gwrandawiad bydd:

  • clerc neu dywysydd
  • cyfreithiwr y GIG
  • eich cyfreithiwr chi neu gynrychiolydd arall (os oes gennych un)
  • tystion ar gyfer y ddau barti

Gan amlaf bydd aelodau’r cyhoedd yn cael mynychu’r gwrandawiad.

Cewch gyfle yn y gwrandawiad i:

  • gyflwyno eich achos i’r tribiwnlys
  • galw ar dystion i roi tystiolaeth
  • tynnu sylw at unrhyw bwyntiau pwysig ar y diwedd

Bydd y tribiwnlys yn anfon copi o’i benderfyniad atoch o fewn 10 diwrnod i ddiwedd y gwrandawiad.

Os ydych chi neu eich tyst neu gynrychiolydd y tu allan i’r DU ac eisiau rhoi tystiolaeth trwy gyswllt fideo neu sain byw, cysylltwch â’r tribiwnlys i wneud cais am hyn. Dywedwch wrth y tribiwnlys ym mha wlad ydych chi, y tyst neu’r cynrychiolydd a pha fath os dystiolaeth sy’n cael ei rhoi. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn gynted â phosibl.

Os byddwch yn dod i gytundeb gyda’r parti arall

Os byddwch chi a’r grŵp comisiynu clinigol yn dod i gytundeb cyn diwedd y gwrandawiad, gallwch ofyn i’r tribiwnlys ‘derfynu’r’ apêl.

Os bydd y tribiwnlys yn derbyn eich cais yna bydd yn cyhoeddi ‘gorchymyn cydsynio’.

Os gwnaeth y tribiwnlys gamgymeriad

Gallwch herio’r penderfyniad os oedd yna gamgymeriad yn y ffordd y gwnaeth y tribiwnlys ddelio â’ch achos (er enghraifft, ni anfonwyd dogfennau pwysig atoch).

I wneud hyn, llenwch ffurflen gais i roi penderfyniad o’r naill du.

Rhaid i chi wneud y cais o fewn 28 diwrnod i chi gael y penderfyniad.

Apelio yn erbyn y penderfyniad

Os ydych yn credu bod y tribiwnlys wedi gwneud camgymeriad o ran y ffordd y gwnaeth ddehongli neu gymhwyso’r gyfraith, gallwch ofyn am ganiatâd i apelio.

Gallwch gael cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr os ydych angen cymorth.

Mae yna ragor o wybodaeth yma am apelio i’r Uwch Dribiwnlys.

Penderfyniadau blaenorol

Gallwch chwilio’r gronfa ddata penderfyniadau i ddod o hyd i wybodaeth am sut y gwnaeth y tribiwnlys benderfynu ar achosion blaenorol.

Os nad ydych eisiau i’ch enw chi neu enwau pobl eraill gael eu cyhoeddi gyda’r penderfyniad, yna gallwch ofyn i’r tribiwnlys wneud ‘gorchymyn cyfyngiadau adrodd’. Gallwch ofyn am hyn:

  • yn y gwrandawiad dros y ffôn
  • drwy ysgrifennu at y barnwr
  • drwy ofyn i’r panel yn y gwrandawiad

Dyfarnu costau

Gan amlaf bydd pob parti yn y gwrandawiad yn talu eu costau eu hunain.

Os bydd y tribiwnlys yn credu bod un parti wedi ymddwyn yn afresymol yna gall orchymyn iddynt dalu rhywfaint neu holl gostau’r parti arall.

Cwynion

I gwyno am:

  • sut y mae eich apêl yn cael ei thrin neu sut y cafodd ei thrin gan weinyddiaeth y tribiwnlys, ysgrifennwch at y Rheolwr Cyflawni
  • unrhyw aelod o’r panel apêl, ysgrifennwch at Lywydd y Siambr
  • Is-Lywydd y Siambr, ysgrifennwch at Lywydd y Siambr

Mae’r cyfeiriad yn yr adran Sut i apelio.

Rheolau a deddfwriaeth

Darllenwch y rheolau manwl am sut fydd eich apêl yn cael ei thrin yn Rheolau Trefniadaeth y Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol.

Gallwch ddod o hyd i’r hawl i apelio i’r tribiwnlys yn:

Cyhoeddwyd ar 9 January 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 June 2022 + show all updates
  1. Added paragraph about giving evidence from overseas

  2. Added a Welsh language version of the page.

  3. Add link to judicial coronavirus (COVID-19) guidance.

  4. Added information from the withdrawn PHL Guide, including asking for documents, witnesses or changes, awarding costs and how to complain.

  5. Update to phone and fax details

  6. First published.