Canllawiau

Cael eich diswyddo: dod o hyd i waith, gwneud cais am fudd-daliadau a rheoli dyledion

Canllaw ar ddod o hyd i waith, gwneud cais am fudd-daliadau, rheoli dyledion a phensiynau os ydych yn cael eich diswyddo.

Help i ddod o hyd i waith a hyfforddiant

Gwasanaeth Ymateb Cyflym y Ganolfan Gwaith

Gallwch gael help gan Wasanaeth Ymateb Cyflym y Ganolfan Byd Gwaith:

  • os ydych yn amau y byddwch yn cael eich diswyddo
  • yn ystod eich cyfnod rhybudd
  • hyd at 13 wythnos ar ôl i chi gael eich diswyddo

Gall y gwasanaeth eich helpu i:

  • ysgrifennu CV a dod o hyd i swyddi
  • dod o hyd i wybodaeth am fudd-daliadau
  • dod o hyd i’r hyfforddiant cywir a dysgu sgiliau newydd
  • trefnu treialon gwaith (os ydych yn gymwys)
  • cael unrhyw gymorth ychwanegol yn y gwaith os ydych yn anabl, er enghraifft Mynediad at Waith
  • gwneud cais am arian os ydych yn gymwys i helpu i dalu costau teithio, gofal plant, teclynau neu offer

Cysylltwch â’r Gwasanaeth Ymateb Cyflym trwy e-bostio rrs.enquiries@dwp.gov.uk. Cofiwch gynnwys eich cod post yn eich e-bost.

Gallwch hefyd gael help gan:

Mae gwasanaeth gwahanol os ydych yng Ngogledd Iwerddon

Dod o hyd i waith

Gallwch:

  • dysgu am chwilio am swydd a chyfweliadau ar wefan HelpSwyddi
  • defnyddio gwasanaeth Dod o hyd i swydd i chwilio a gwneud ceisiadau am swyddi
  • chwilio ar wefannau swyddi a chyfryngau cymdeithasol eraill
  • darganfod sut i [ddod yn brentis] (https://www.gov.uk/become-apprentice)
  • darganfod sut i [sefydlu eich busnes eich hun] (https://www.gov.uk/set-up-business)

Sgiliau a hyfforddi

Darganfyddwch fwy am:

Budd-daliadau y gallech eu cael

Os ydych wedi colli’ch swydd, gan gynnwys trwy ddiswyddo gwirfoddol, efallai y gallwch gael:

  • Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) Dull Newydd os ydych chi o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, yn ddi-waith neu’n gweithio llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd, ac wedi gwneud digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol, fel arfer dros y 2 i 3 blynedd ddiwethaf - ni fydd incwm a chynilion chi a’ch partner yn effeithio ar faint rydych chi’n ei gael
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) Dull Newydd os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, bod gennych anabledd neu gyflwr iechyd sy’n effeithio ar faint y gallwch weithio, ac wedi gwneud digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol, fel arfer dros y 2 i 3 blynedd diwethaf – ni fydd eich cynilion ac incwm eich partner yn effeithio ar faint rydych yn ei gael
  • Credyd Cynhwysol os ydych chi neu’ch partner o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth a bod gennych gynilion o £16,000 neu lai - efallai y gallwch ei gael ar yr un amser â JSA Dull Newydd neu ESA Dull Newydd
  • Credyd Pensiwn os ydych chi a’ch partner wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu os yw un ohonoch yn cael Budd-dal Tai i bobl dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Efallai y gallwch gael cymorth pellach os ydych yn anabl, yn gofalu am rywun neu’n gofalu am deulu.

Help i ddod o hyd i fudd-daliadau a gwneud cais amdanynt

Cyngor

Gallwch gael help i ddod o hyd i a deall gwybodaeth am fudd-daliadau:

Gallech hefyd ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau gan sefydliad annibynnol.

Ymweliadau cefnogol os oes angen help arnoch i wneud cais am fudd-daliadau

Efallai y gallwch gael ymweliad cartref gan swyddog yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) os oes angen help ychwanegol arnoch i wneud cais am fudd-daliadau, er enghraifft oherwydd:

  • bod gennych anghenion cymhleth
  • eich bod yn anabl
  • eich bod yn berson ifanc bregus sy’n gwneud cais am y tro cyntaf
  • nad oes gennych neb arall i’ch cefnogi
  • na allwch wneud cais am fudd-daliadau mewn unrhyw ffordd arall

Sut i drefnu ymweliad cefnogol

Os ydych eisoes yn cael budd-daliadau

Mae rhaid i chi roi gwybod eich bod wedi colli’ch swydd, a datgan unrhyw dâl diswyddo a gewch, os ydych yn cael:

Cyngor ar ddyled, cyllidebu ac arian

Os oes arian yn ddyledus gennych, mae gwahanol ffyrdd i’w dalu’n ôl a chael cymorth, fel y cynllun Gofod Anadlu. Darganfyddwch fwy am:

Talu budd-daliadau a Threth Gyngor yn ôl

Os ydych yn talu arian yn ôl oherwydd i ormod o fudd-dal gael ei dalu i chi, os oes Treth Gyngor yn ddyledus gennych, neu os yw dyledion yn cael eu tynnu oddi ar eich taliad budd-dal, gallwch ofyn am ad-dalu llai bob wythnos neu fis.

Darganfyddwch beth i’w wneud os ydych yn cael trafferth â:

Tâl diswyddo a thâl rhybudd

Darllenwch am dâl diswyddo, cyfnodau rhybudd, tâl rhybudd ac hawliau eraill os ydych wedi’ch diswyddo.

Os yw’ch cyflogwr yn fethdalwr, gallwch wneud cais i’r llywodraeth am arian sy’n ddyledus i chi gan eich cyflogwr, gan gynnwys tâl diswyddo a thâl rhybudd. Os ydych chi’n gwneud cais am dâl rhybudd, bydd unrhyw arian a gewch (neu y gallech fod wedi’i gael) trwy hawlio budd-daliadau yn ystod eich cyfnod rhybudd yn cael ei ddidynnu o’ch taliad.

Darganfyddwch fwy am wneud cais am arian sy’n ddyledus i chi gan eich cyflogwr os oeddech chi ar furlough cyn cael eich diswyddo.

Cael ad-daliad Treth Incwm

Efallai y gallwch wneud cais i gael rhywfaint o Dreth Incwm yn ôl os:

  • ydych wedi cael eich cyflog terfynol gan eich cyflogwr
  • nad ydych yn cael pensiwn gan eich cyflogwr
  • nad ydych yn cael budd-daliadau trethadwy
  • nad ydych wedi dechrau swydd newydd

Gwiriwch a allwch wneud cais am ad-daliad treth.

Pensiynau

Os ydych wedi cyrraedd neu’n agosáu at oedran pensiwn, efallai y bydd angen cyngor arnoch ar bensiynau neu ymddeol.

Defnyddiwch y gwasanaeth Gwirio eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth i ddarganfod faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael, pryd y gallwch ei gael a sut i’w gynyddu, os gallwch. Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael Credyd Pensiwn a Budd-dal Tai.

I ddarganfod sut mae diswyddo yn effeithio ar eich pensiwn gweithle, gofynnwch i’ch cyflogwr blaenorol neu ddarparwr pensiwn.

Os ydych yn 50 oed neu’n hŷn a bod gennych [bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio] (https://www.gov.uk/pension-types) gallwch gael arweiniad pensiwn diduedd gan HelpwrArian.

Os yw’ch cyflogwr yn fethdalwr, gallwch gael gwybodaeth am sut y gallai hyn effeithio ar eich pensiwn o’r Gronfa Diogelu Pensiwn.

Ymdopi â diswyddo

Os oes angen cymorth arnoch i ymdopi â diswyddo, cysylltwch â:

Cyhoeddwyd ar 13 March 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 August 2021 + show all updates
  1. Clarified that you may be entitled to New Style Jobseeker's Allowance if you are currently working less than 16 hours a week. Clarified that any money you get (or could have got) by claiming benefits must be during your notice period for it to be deducted from your notice pay. Added link to guidance about being made redundant while on furlough.

  2. Updated the guidance and added information about what benefits you could get, how to get help claiming, help with managing debts and using the Jobcentre Plus Rapid Response Service. Removed some sign posting links as these are included through the external links still featured in the guide.

  3. Added WhatJobs to list of other job search websites.

  4. Added Reed to the list of 'other job search websites'.

  5. Added 2 videos about the advice and support that Jobcentre Plus and partners can provide for employees and employers.

  6. First published.