Rhoi gwybod am newidiadau sy’n effeithio ar eich credydau treth
Daeth credydau treth i ben ar 5 Ebrill 2025. Ni fydd taliadau’n cael eu gwneud ar ôl hynny. Byddwch wedi cael llythyr ei anfon atoch os ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol neu Gredyd Pensiwn yn lle credydau treth.
Gallai’ch credydau treth godi, gostwng neu ddod i ben os oes newidiadau yn eich bywyd teuluol neu’ch bywyd gwaith.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau.
Gwnewch hyn cyn gynted â phosibl er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y swm cywir o gredydau treth. Bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r arian os ydych wedi cael gordaliad.
Os bydd eich credydau treth yn dod i ben, ni allwch hawlio credydau treth eto.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Newidiadau y mae’n rhaid i chi roi gwybod amdanynt
Rhowch wybod i CThEF ar unwaith os yw’r canlynol yn wir:
-
mae’ch amgylchiadau byw yn newid, er enghraifft, rydych yn dechrau perthynas neu’n dod â pherthynas i ben, yn symud i mewn gyda phartner newydd, yn priodi neu’n ffurfio partneriaeth sifil, yn gwahanu’n barhaol neu’n ysgaru
-
mae’ch plentyn neu’ch partner yn marw (does dim rhaid i chi roi gwybod i CThEF os ydych wedi defnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith)
-
mae’ch plentyn yn stopio mynd i ofal plant am 4 wythnos neu fwy pan fyddai fel arfer yn mynd
-
mae’ch costau gofal plant yn dod i ben, yn gostwng £10 neu fwy yr wythnos, neu rydych yn dechrau cael cymorth gyda nhw
-
mae’ch plentyn yn gadael y cartref, er enghraifft mae’n symud allan neu’n cael ei roi dan ofal
-
mae’ch plentyn yn cael ei roi yn y ddalfa
-
mae’ch plentyn sydd dros 16 oed yn gadael addysg neu hyfforddiant cymeradwy, neu wasanaeth gyrfaoedd (yn agor tudalen Saesneg)
-
nid yw’ch darparwr gofal plant yn gofrestredig neu’n gymeradwy mwyach (yn agor tudalen Saesneg)
-
mae’ch oriau gwaith yn disgyn o dan 30 awr yr wythnos (wedi’u cyfuno os ydych yn gwpl gyda phlant)
-
mae’ch oriau gwaith yn disgyn neu’n mynd dros yr isafswm sydd ei angen i fod yn gymwys (yn agor tudalen Saesneg)
Mae’n rhaid i chi hefyd roi gwybod i CThEF ar unwaith os yw’r canlynol yn berthnasol i chi:
-
rydych yn mynd dramor am 8 wythnos neu fwy
-
rydych yn gadael y DU yn barhaol neu’n colli’r hawl i breswylio yn y DU
-
rydych yn dechrau gweithio llai nag 16 awr yr wythnos wrth hawlio costau gofal plant – heblaw am rai amgylchiadau
-
rydych wedi bod ar streic am fwy na 10 diwrnod yn olynol
Os ydych yn cael credydau treth nad oes gennych hawl iddynt, bydd angen i chi ad-dalu’r arian (yn agor tudalen Saesneg). Efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd dalu cosb.
Dyddiad cau ar gyfer rhoi gwybod
Mae’n rhaid i chi roi gwybod am y newidiadau hyn cyn pen 1 mis. Os byddwch yn rhoi gwybod am newidiadau ar unwaith, mae’n llai tebygol y bydd y swm anghywir yn cael ei dalu i chi.
Gallech gael dirwy o hyd at £300 os nad ydych yn rhoi gwybod am rai newidiadau cyn pen mis, a dirwy o hyd at £3,000 os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir.
Os gwnaethoch amcangyfrif eich incwm pan wnaethoch cwblhau’ch credydau treth (yn agor tudalen Saesneg) – er enghraifft oherwydd eich bod yn hunangyflogedig – rhowch wybod i CThEF beth yw’ch incwm gwirioneddol erbyn 31 Hydref 2025.
Newidiadau eraill y dylech roi gwybod amdanynt
Mae’n llai tebygol y bydd effaith ar eich credydau treth, er enghraifft drwy gronni gordaliad, os byddwch yn rhoi gwybod i CThEF cyn gynted â’ch bod yn:
-
cael unrhyw newid mewn incwm (rhowch wybod am hyn ar unwaith os yw’n codi neu’n gostwng gan £2,500 neu fwy)
-
cynyddu eich oriau gwaith i 30 awr neu fwy yr wythnos (ar y cyd os ydych yn gwpl gyda phlant)
-
cael babi neu’n cymryd cyfrifoldeb dros blentyn arall
-
dechrau neu’n rhoi’r gorau i hawlio budd-daliadau i chi eich hun neu aelod o’r teulu, neu os yw’r budd-daliadau hynny’n newid
-
dechrau cael budd-dal anabledd (bydd angen i chi rhoi gwybod am benderfyniad budd-dal sydd wedi’i ôl-ddyddio ar gyfer oedolyn (yn agor tudalen Saesneg) neu benderfyniad budd-dal sydd wedi’i ôl-ddyddio ar gyfer plentyn (yn agor tudalen Saesneg))
-
cael llythyr sy’n cadarnhau bod eich cyfradd budd-dal anabledd wedi cynyddu
-
dechrau neu’n stopio bod ag anabledd sy’n eich rhoi dan anfantais wrth geisio am swydd
-
cael tystysgrif sy’n profi bod eich plentyn yn ddall neu fod ei dystysgrif yn dod i ben
-
dechrau talu am ofal plant cofrestredig neu gymeradwy (yn agor tudalen Saesneg)
-
stopio cael help gyda chostau gofal plant
Dylech roi gwybod am y newidiadau hyn cyn pen 1 mis er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael popeth y mae gennych hawl iddo. Fel arfer, ni ellir ôl-ddyddio taliadau ymhellach na hyn.
Does dim rhaid i chi roi gwybod i CThEF os ydych chi neu aelod o’ch teulu wedi cael eich trosglwyddo o fudd-dal anabledd sy’n bodoli eisoes i Daliad Anabledd Oedolion neu Daliad Anabledd Plant, oni bai bod swm yr arian a gewch yn newid.
Dylech hefyd roi gwybod i CThEF os ydych yn newid:
-
manylion banc – gallwch roi gwybod am hyn hyd at 30 diwrnod cyn iddo ddigwydd
-
cyfeiriad – arhoswch hyd nes eich bod wedi symud cyn rhoi gwybod i CThEF
-
darparwr gofal plant
-
eich rhywedd
Sut i roi gwybod am newidiadau
Gallwch roi gwybod dros y ffôn neu drwy’r post.
Pam mae’ch credydau treth yn newid
Bydd eich taliadau’n dod i ben os yw’r canlynol yn wir:
-
rydych chi neu’ch partner yn gwneud hawliad am Gredyd Cynhwysol (hyd yn oed os na chaiff eich hawliad ei gymeradwyo)
-
rydych chi wedi hawlio fel person sengl ac rydych chi’n dechrau byw gyda phartner
-
rydych chi wedi hawlio fel cwpl ac rydych chi’n gwahanu oddi wrth eich partner
Gall eich taliadau ostwng neu ddod i ben os yw’r canlynol yn berthnasol:
-
mae’ch incwm yn codi mwy na £2,500 – rhowch wybod am hyn ar unwaith i ostwng y swm sydd wedi’i ordalu i chi
-
nad ydych wedi cwblhau’ch hawliad (yn agor tudalen Saesneg)
-
mae’ch hysbysiad o ddyfarniad yn dangos eich bod wedi cael eich gordalu
-
rydych chi’n stopio bod yn gymwys i gael yr elfen anabledd o’ch hawliad credydau treth
-
mae’ch plentyn erbyn hyn yn 16 oed, yn 18 oed neu’n 19 oed ac nid ydych wedi rhoi gwybod i CThEF ei fod mewn addysg neu hyfforddiant cymeradwy (yn agor tudalen Saesneg)
-
mae’ch costau gofal plant yn gostwng
Gall eich taliadau godi os yw’r canlynol yn berthnasol:
-
mae’ch incwm yn gostwng mwy na £2,500
-
mae’ch budd-daliadau’n dod i ben neu’n gostwng
-
rydych chi’n dechrau bod yn gymwys i gael yr elfen anabledd o gredydau treth
-
rydych yn cael plentyn
-
mae’ch costau gofal plant yn codi