Credydau treth a gofal plant

Os ydych eisoes yn hawlio credydau treth, gallwch ychwanegu swm ychwanegol o Gredyd Treth Gwaith (yn Saesneg) i helpu i dalu am gostau gofal plant.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Mae’n rhaid i’r naill a’r llall o’r canlynol fod yn berthnasol:

  • mae eich plentyn mewn gofal plant cymeradwy

  • mae’r gofal plant yn cael ei ddarparu wyneb yn wyneb, nid ar-lein

Os oes gennych blentyn a’ch bod eisoes yn hawlio Credyd Treth Gwaith, gallwch hefyd hawlio Credyd Treth Plant (yn Saesneg).

Diweddaru’ch hawliad credyd treth i gael help gyda gofal plant

Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF) i ddiweddaru eich hawliad credyd treth - does dim angen ffurflen hawlio arnoch.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF am newidiadau i’ch amgylchiadau, er enghraifft bod eich costau gofal plant yn dod i ben neu’n newid o £10 neu fwy yr wythnos ar gyfartaledd.

Mae’n rhaid i chi adnewyddu eich hawliad bob blwyddyn. Cewch nodyn i’ch atgoffa.