Help i dalu am ofal plant
Addysg a gofal plant yn rhad ac am ddim i blant 2 oed os ydych yn hawlio rhai budd-daliadau
Gall eich plentyn 2 oed gael gofal plant yn rhad ac am ddim os ydych yn byw yn Lloegr ac yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol:
- Cymhorthdal Incwm
 - Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) ar sail incwm
 - Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn ymwneud ag incwm
 - Credyd Cynhwysol, a bod incwm eich aelwyd yn £15,400 y flwyddyn neu lai ar ôl treth, heb gynnwys budd-daliadau
 - elfen warantedig y Credyd Pensiwn
 
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Gall plant 2 oed hefyd gael gofal plant yn rhad ac am ddim os yw’r canlynol yn wir:
- maen nhw’n cael gofal gan awdurdod lleol
 - mae ganddynt gynllun addysg, iechyd a gofal (EHC)
 - maen nhw’n cael Lwfans Byw i’r Anabl
 - maen nhw wedi gadael gofal o dan orchymyn mabwysiadu, gorchymyn gwarcheidwadaeth arbennig neu orchymyn trefniadau plentyn
 
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am gostau ychwanegol megis:
- prydau bwyd
 - cewynnau
 - oriau ychwanegol
 - gweithgareddau ychwanegol, megis teithiau
 
Holwch eich darparwr pa gostau ychwanegol bydd yn rhaid i chi eu talu.
Cysylltwch â’ch darparwr gofal plant neu eich cyngor lleol (yn agor tudalen Saesneg) i gael gwybod mwy.
Os nad ydych yn gymwys ar gyfer addysg a gofal plant sy’n rhad ac am ddim ar gyfer rhieni sy’n cael budd-daliadau
Mae’n bosibl y gallwch gael gofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio o dan gynllun gwahanol.
Os ydych yn gymwys ar gyfer y ddau gynllun
Gallwch gael help o un o’r canlynol yn unig:
- addysg a gofal plant sy’n rhad ac am ddim ar gyfer rheini sy’n cael budd-daliadau
 - gofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio
 
Os ydych yn gymwys ar gyfer y ddau, mae’n rhaid i chi wneud cais drwy’r cynllun addysg a gofal plant sy’n rhad ac am ddim ar gyfer rheini sy’n cael budd-daliadau.
Os nad ydych yn ddinesydd y DU ac nad ydych yn cael hawlio budd-daliadau
Os yw’ch statws mewnfudo’n dweud bod gennych ‘ddim hawl i arian cyhoeddus’, efallai y byddwch yn dal i gael gofal plant am ddim i’ch plentyn 2 oed. Mae’n rhaid i chi fyw yn Lloegr ac ni all incwm eich aelwyd ar ôl treth fod yn fwy na:
- £26,500 i deuluoedd y tu allan i Lundain gydag un plentyn
 - £34,500 i deuluoedd yn Llundain gydag un plentyn
 - £30,600 i deuluoedd y tu allan i Lundain gyda dau neu fwy o blant
 - £38,600 i deuluoedd yn Llundain gyda dau neu fwy o blant
 
Ni allwch fod â mwy na £16,000 mewn cynilion neu fuddsoddiadau.
Cysylltwch â’ch darparwr gofal plant neu gwiriwch gyda’ch cyngor lleol (yn agor tudalen Saesneg) os nad ydych yn siŵr a ydych yn gallu cael gofal plant yn rhad ac am ddim.