Talebau gofal plant a chynlluniau cyflogwyr eraill

Mae’r cynlluniau canlynol wedi’u cau i ymgeiswyr newydd:

  • talebau gofal plant

  • gofal plant y mae eich cyflogwr yn ei drefnu gyda darparwr (a elwir yn ‘ofal plant sydd wedi’i gontractio’n uniongyrchol’)

Os gwnaethoch ymuno ag un o’r cynlluniau hyn ar 4 Hydref 2018 neu cyn hynny, efallai y byddwch yn gallu parhau i gael talebau neu ofal plant wedi’i gontractio’n uniongyrchol.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Os gwnaethoch ymuno â chynllun talebau gofal plant neu gynllun gofal plant sydd wedi’i gontractio’n uniongyrchol ar neu cyn 4 Hydref 2018

Gallwch barhau i gael talebau neu ofal plant wedi’i gontractio’n uniongyrchol ar yr amod:

  • bod eich cyflog wedi cael ei addasu ar 4 Hydref 2018 neu cyn hynny

  • eich bod yn aros gyda’r un cyflogwr a’i fod yn parhau i redeg y cynllun

  • nad ydych yn cymryd seibiant gyrfa di-dâl o fwy na blwyddyn

Gallwch gymryd hyd at £55 yr wythnos o’ch cyflog, ac ni fyddwch yn talu treth nac Yswiriant Gwladol arno.

Bydd y swm y gallwch ei gymryd yn dibynnu ar faint rydych yn ei ennill a phryd y gwnaethoch ymuno â’r cynllun.

Os bydd y busnes rydych yn gweithio iddo yn newid perchennog, bydd eich hawliau fel cyflogai yn cael eu diogelu fel arfer (yn Saesneg). Holwch eich cyflogwr newydd a fyddwch yn dal i allu cael talebau neu ofal plant wedi’i gontractio’n uniongyrchol.

Os ydych yn cael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth

Ni chewch barhau i hawlio talebau gofal plant na gofal plant sydd wedi’i gontractio’n uniongyrchol os byddwch yn gwneud cais llwyddiannus am Ofal Plant sy’n Rhydd o Dreth.

Mae’r cynllun sydd o’r budd mwyaf i chi yn dibynnu ar eich sefyllfa. Defnyddiwch y gyfrifiannell gofal plant i benderfynu pa fath o gymorth sydd orau i chi.

Mae’n rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr o fewn 90 diwrnod os ydych yn cael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth. Yna, bydd yn rhoi’r gorau i roi talebau newydd i chi neu ofal plant wedi’i gontractio’n uniongyrchol.

Gallwch barhau i ddefnyddio unrhyw dalebau sydd gennych yn barod, gan gynnwys i wneud taliad ar y cyd am ofal plant gyda Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth. Does dim dyddiad cau ar gyfer defnyddio eich talebau na gofal plant sydd wedi’i gontractio’n uniongyrchol.

Unwaith y byddwch wedi dweud wrth eich cyflogwr eich bod yn cael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, ni allwch ailymuno â’i gynllun talebau na’i gynllun gofal plant sydd wedi’i gontractio’n uniongyrchol.

Cynlluniau gofal plant cyflogwyr a threth

Nid oes rhaid i chi dalu treth ac Yswiriant Gwladol ar y canlynol:

  • talebau gofal plant, os gwnaethoch ymuno â chynllun a bod eich cyflogau wedi cael eu haddasu ar 4 Hydref 2018 neu cyn hynny

  • gofal plant wedi’i gontractio’n uniongyrchol, os gwnaethoch ymuno â chynllun a bod eich cyflogau wedi cael eu haddasu ar 4 Hydref 2018 neu cyn hynny

  • meithrinfeydd yn y gweithle

Mae’n rhaid i chi dalu treth ac Yswiriant Gwladol ar y canlynol:

  • arian y mae eich cyflogwr yn ei roi i chi i dalu am ofal plant

  • ffioedd darparwr gofal plant y mae eich cyflogwr yn eu talu

  • ffioedd ysgol y mae eich cyflogwr yn eu talu