Help gyda gofal plant wrth i chi astudio

Ysgol neu chweched dosbarth

Gallech gael taliadau wythnosol drwy Gofal i Ddysgu (yn Saesneg) os ydych o dan 20 oed ar ddechrau cwrs sy’n cael ei ariannu gan arian cyhoeddus, er enghraifft yn yr ysgol neu’r chweched dosbarth.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Addysg bellach

Gallwch wneud cais am Cymorth i Ddysgwyr (yn Saesneg) i dalu am ofal plant os ydych yn 20 oed neu’n hŷn ac mewn addysg bellach, er enghraifft, os ydych yn astudio ar gyfer NVQ, BTEC neu TAR.

Gallech hefyd gael taliadau wythnosol drwy Gofal i Ddysgu (yn Saesneg).

Addysg uwch amser llawn

Gallwch wneud cais am Grant Gofal Plant (yn Saesneg) os ydych mewn addysg uwch amser llawn i dalu am gostau gofal plant i blant:

  • o dan 15 oed

  • o dan 17 oed os oes ganddynt anghenion arbennig