Credyd Cynhwysol a chostau gofal plant
Credyd Cynhwysol a chostau gofal plant
Efallai y gallwch wneud cais i gael hyd at 85% o’ch costau gofal plant yn ôl os ydych yn cael Credyd Cynhwysol
Gallwch wneud cais ar gyfer yr holl blant rydych yn gyfrifol amdanynt, tan 31 Awst ar ôl eu pen-blwydd yn 16 oed.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Yr hyn y gallwch ei gael
Yr uchafswm ar gyfer pob cyfnod asesu misol yw:
- £1,071.09 ar gyfer un plentyn
- £1,836.16 ar gyfer 2 neu fwy o blant
Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i weld faint y gallech ei gael.
Ni allwch gael Gofal Plant Di-dreth ar yr un pryd â hawlio Credyd Cynhwysol.
Cymhwysedd
Mae angen i chi a’ch partner (os oes gennych un) naill ai:
-
fod mewn gwaith cyflogedig
-
dechrau swydd yn ystod y mis nesaf
Efallai y byddwch yn gymwys os ydych ar absenoldeb salwch neu absenoldeb rhiant.
Os na allwch chi neu’ch partner weithio
Gallwch wneud cais am eich costau gofal plant os yw un ohonoch yn gweithio a bod y llall:
-
â chyflwr iechyd neu anabledd sy’n golygu bod gennych allu cyfyngedig i weithio (LCW) neu allu cyfyngedig i weithio a gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith (LCWRA)
-
yn gymwys i gael Lwfans Gofalwr
-
yn gorfod bod oddi cartref dros dro, er enghraifft yn yr ysbyty
Yr hyn y gallwch wneud cais amdano
Gallwch wneud cais am ofal plant fel meithrinfeydd, gwarchodwyr plant, nanis a chlybiau ar ôl ysgol neu glybiau gwyliau. Fel arfer, rhaid i’ch darparwr gofal plant fod wedi cofrestru ag Ofsted, y Care Inspectorate yn yr Alban neu Arolygiaeth Gofal Cymru.
Help i fynd i mewn i waith
Efallai y gallwch hefyd wneud cais i gael rhai costau gofal plant yn ôl sy’n eich helpu i weithio neu fynd i mewn i waith. Gallai hynny gynnwys:
-
‘cyfnod ymgartrefu’ cyn i chi ddechrau gweithio, fel y gall eich plentyn ddod i’r arfer â bod mewn gofal plant
-
os ydych yn newid eich patrwm gwaith
Sut i wneud cais
-
Rydych yn talu eich costau gofal plant eich hun (oni bai eich bod yn gwneud cais am help gyda chostau ymlaen llaw).
-
Yna, rydych yn rhoi gwybod am eich costau i Gredyd Cynhwysol drwy eich cyfrif ar-lein.
-
Yna, mae Credyd Cynhwysol yn talu rhywfaint o’r arian yn ôl yn eich taliad arferol.
Pryd i roi gwybod am eich costau
Rhowch wybod am eich costau cyn gynted â phosibl. Gallwch wneud cais am ofal plant:
- y talwyd amdano yn eich cyfnod asesu presennol
- y talwyd amdano yn y cyfnod asesu blaenorol
- sy’n digwydd yn ystod y 3 chyfnod asesu nesaf (os gwnaethoch dalu ymlaen llaw)
Os gwnaethoch dalu am ofal plant ymlaen llaw, byddwch yn cael yr arian yn ôl yn y cyfnod asesu pan fydd y gofal plant yn digwydd.
Tystiolaeth o’ch costau gofal plant
Rhaid i chi ddarparu prawf o’ch darparwr gofal plant a’ch taliadau. Gallwch uwchlwytho anfoneb wedi’i thalu, neu gyfuniad o gyfriflenni banc a derbynebau.
Prawf o’ch darparwr
Darparwch gontract, anfoneb neu lythyr sy’n dangos:
- enw, cyfeiriad, rhif ffôn a rhif cofrestru eich darparwr
- enwau eich plant sydd yn eu gofal
- y math o ofal plant (er enghraifft, meithrinfa neu ofal ar ôl ysgol)
Prawf o daliad
Darparwch dystiolaeth sy’n dangos:
- dyddiadau’r gofal plant y gwnaethoch dalu amdano
- faint y gwnaethoch ei dalu
- y dyddiad y gwnaethoch y taliad
Cael help gyda chost gofal plant ymlaen llaw
Efallai y gallwch gael help gyda chostau gofal plant ymlaen llaw pan fyddwch yn:
- dechrau swydd newydd
- cynyddu eich oriau
- dychwelyd o absenoldeb rhiant
I wneud cais am help cyn i chi dalu, naill ai:
- anfonwch neges yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol
- siaradwch â’ch anogwr gwaith yn eich canolfan waith leol
Efallai y byddwch yn gymwys i gael cost eich mis cyntaf wedi’i thalu. Bydd yr arian yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’ch darparwr gofal plant. Ni fydd yn rhaid i chi ei dalu’n ôl.
Cysylltu â Chredyd Cynhwysol
Os oes angen help arnoch i wirio a ydych yn gymwys i gael costau gofal plant, gallwch:
-
gofyn mewn canolfan gwaith