Help i dalu am ofal plant
Gofal plant y gallwch gael help i dalu amdano
Gallwch gael help i dalu am ofal plant os yw’n cael ei ddarparu gan un o’r canlynol:
-
gwarchodwr plant cofrestredig, nani, cynllun chwarae, meithrinfa neu glwb
-
gwarchodwr plant neu nani gydag asiantaeth gwarchodwyr plant cofrestredig neu asiantaeth gofal plant
-
ysgol gofrestredig
-
gweithiwr gofal cartref sy’n gweithio i asiantaeth gofal cartref gofrestredig
Mae hyn yn cael ei alw’n ‘ofal plant cymeradwy’.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Mae’r rheolau ynghylch sut mae darparwyr gofal plant yn cael eu cymeradwyo’n amrywio’n ôl ble rydych yn byw.
Gallwch wirio a yw darparwr gofal plant wedi’i gymeradwyo, neu chwilio am un:
-
yn Lloegr - drwy Ofsted (yn Saesneg) neu’r rhestr o asiantaethau gwarchodwyr plant cofrestredig (yn agor tudalen Saesneg)
-
yn yr Alban - drwy Arolygiaeth Gofal yr Alban (yn agor tudalen Saesneg)
-
yng Ngogledd Iwerddon - drwy gofrestr y tîm blynyddoedd cynnar lleol (yn agor tudalen Saesneg)
Os ydych am hawlio gofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio yn Lloegr, bydd angen i’r darparwr hefyd fod ar Gofrestr Blynyddoedd Cynnar gydag Ofsted neu gydag asiantaeth gwarchodwyr plant blynyddoedd cynnar cofrestredig – holwch eich darparwr am hyn.
Mewngofnodi i’ch cyfrif gofal plant
Mewngofnodwch i’ch cyfrif gofal plant os ydych chi eisoes yn cael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth neu ofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio.
Gofal plant yn yr ysgol
Dim ond help i dalu am ofal y tu allan i oriau ysgol y gallwch ei gael, er enghraifft clybiau ar ôl ysgol neu glybiau brecwast.
Ni allwch gael help i dalu am y canlynol:
-
addysg orfodol eich plentyn
-
gwersi preifat yn ystod amser ysgol (er enghraifft, gwersi cerddoriaeth preifat yn ystod oriau ysgol)
Os nad yw eich plentyn wedi dechrau yn yr ysgol gynradd, gallwch gael help i dalu am ofal plant sy’n cael ei ddarparu gan ysgol. Mae hyn yn cynnwys ffioedd ysgolion meithrin.
Gofal plant a ddarperir gan berthnasau
Os ydych yn byw yn Lloegr neu’r Alban
Dim ond os yw perthynas (er enghraifft, nain neu daid) yn warchodwr plant cofrestredig ac yn gofalu am eich plentyn y tu allan i’ch cartref y gallwch gael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth i helpu i dalu am ofal plant sy’n cael ei ddarparu gan y perthynas hwnnw.
Ni allwch hawlio gofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio ar gyfer gofal plant a ddarperir gan berthynas (er enghraifft, nain neu daid).
Ni allwch gael help ar gyfer gofal plant sy’n cael ei ddarparu gan eich partner. Nid yw hyn yn cael ei dderbyn fel ‘gofal plant cymeradwy’.
Os ydych yn byw yn Lloegr ac yn cael gofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gweithio, gallwch dalu’r darparwr gofal plant gan ddefnyddio Credyd Cynhwysol, credydau treth, talebau gofal plant neu Ofal Plant sy’n Rhydd o Dreth.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon
Dim ond os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol y gallwch gael help i dalu am ofal plant sy’n cael ei ddarparu gan berthynas:
-
mae mewn cynllun cymeradwyo gofal plant yng Ngogledd Iwerddon (yn agor tudalen Saesneg)
-
mae’n gofalu am eich plentyn y tu allan i’ch cartref
-
mae’n gofalu am o leiaf un plentyn arall nad yw’n berthynas i chi
Os ydych yn byw yng Nghymru
Dim ond os yw’n warchodwr plant cofrestredig a’i bod yn gofalu am eich plentyn y tu allan i’ch cartref y gallwch gael help i dalu am ofal plant sy’n cael ei ddarparu gan berthynas.
Gofalwyr maeth
Dim ond os yw gofalwr maeth wedi’i gofrestru fel darparwr gofal plant y mae gofal plant sy’n cael ei ddarparu gan ofalwr maeth yn Lloegr yn cyfrif. Gallwch chwilio am ddarparwr gofal plant cofrestredig trwy Ofsted (yn Saesneg).
Efallai y byddwch yn gallu hawlio os yw gofalwr maeth yn darparu gofal plant yng Nghymru (yn Saesneg), yn darparu gofal plant yn yr Alban (yn Saesneg) neu yn darparu gofal plant yng Ngogledd Iwerddon (yn Saesneg).