Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth

Gallwch gael hyd at £500 bob 3 mis (hyd at £2,000 y flwyddyn) ar gyfer pob un o’ch plant, i helpu gyda chostau gofal plant. Mae hyn yn codi i £1,000 bob 3 mis os yw plentyn yn anabl (hyd at £4,000 y flwyddyn).

Os ydych wedi cofrestru’n barod, gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif gofal plant.

Os ydych yn cael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, byddwch yn creu cyfrif gofal plant ar-lein ar gyfer eich plentyn. Am bob £8 y byddwch yn ei dalu i’r cyfrif hwn, bydd y llywodraeth yn ychwanegu £2 i’w ddefnyddio i dalu’ch darparwr.

Gallwch gael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ar yr un pryd â 15 neu 30 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim os ydych yn gymwys i gael y ddau.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Beth allwch ddefnyddio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ar ei gyfer

Gallwch ei ddefnyddio i dalu am ofal plant cymeradwy, er enghraifft:

  • gwarchodwyr plant, meithrinfeydd a nanis

  • clybiau ar ôl ysgol a chynlluniau chwarae

Mae’n rhaid i’ch darparwr gofal plant gofrestru ar gyfer y cynllun cyn y gallwch ei dalu ac elwa o Ofal Plant sy’n Rhydd o Dreth.

Gwiriwch gyda’ch darparwr i weld a yw wedi cofrestru.

Os yw’ch plentyn yn anabl

Gallwch ddefnyddio’r arian Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ychwanegol a gewch i helpu i dalu am oriau ychwanegol o ofal plant. Gallwch hefyd ei ddefnyddio i helpu i dalu’ch darparwr gofal plant fel y gallant gael offer arbenigol ar gyfer eich plentyn fel cymhorthion symud. Siaradwch â nhw am ba offer y gall eich plentyn ei gael.

Os yw’ch darparwr gofal plant mewn gwlad yn yr AEE

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu defnyddio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth i dalu darparwr sydd wedi’i leoli mewn gwlad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) (yn agor tudalen Saesneg). Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF) i wirio.

Cymhwystra

Mae eich cymhwystra yn dibynnu ar y canlynol:

  • p’un a ydych yn gweithio (yn gyflogedig, yn hunangyflogedig, neu’n gyfarwyddwr)

  • eich incwm (ac incwm eich partner, os oes gennych un)

  • oed eich plentyn a’i amgylchiadau

  • eich statws mewnfudo

Os ydych yn gweithio

Fel arfer, gallwch gael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth os ydych chi (a’ch partner, os oes gennych un):

  • mewn gwaith

  • ar absenoldeb salwch neu wyliau blynyddol

  • ar absenoldeb ar y cyd i rieni, absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu a byddwch yn mynd yn ôl i’r gwaith cyn pen 31 diwrnod i’r dyddiad y gwnaethoch gais am y tro cyntaf

Os nad ydych yn gweithio ar hyn o bryd

Gallwch fod yn gymwys o hyd os yw’ch partner yn gweithio a’ch bod yn cael unrhyw un o’r canlynol:

  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Lwfans Gofalwr neu (dim ond yn yr Alban) Daliad Cymorth Gofalwr
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail cyfraniadau

Gallwch wneud cais os ydych yn dechrau neu’n ailddechrau gweithio yn ystod y 31 diwrnod nesaf.

Eich incwm

Dros y 3 mis nesaf mae’n rhaid i chi a’ch partner (os oes gennych un) ddisgwyl ennill o leiaf:

  • £2,379 os ydych yn 21 oed neu’n hŷn
  • £1,788 os ydych yn 18 i 20 oed
  • £1,331 os ydych o dan 18 neu’n brentis

Dyma’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol am 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd.

Gallwch ddefnyddio cyfartaledd o faint rydych yn disgwyl ei ennill dros y flwyddyn dreth bresennol os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych yn gweithio drwy’r flwyddyn ond nid ydych yn cael eich talu’n rheolaidd

  • rydych yn hunangyflogedig a ddim yn disgwyl ennill digon yn ystod y 3 mis nesaf

Enghraifft

Rydych yn gymwys os ydych yn 21 oed neu’n hŷn ac heb incwm rheolaidd ond yn ennill £9,518 y flwyddyn. Mae hyn yr un fath ag ennill £2,379 bob 3 mis ar gyfartaledd.

Os ydych yn hunangyflogedig ac wedi dechrau’ch busnes llai na 12 mis yn ôl, gallwch ennill llai a dal i fod yn gymwys i gael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth.

Os oes gennych fwy nag un swydd, gallwch ddefnyddio cyfanswm eich enillion i gyfrifo a ydych yn cyrraedd y trothwy. Mae hyn yn cynnwys:

  • enillion o unrhyw gyflogaeth

  • enillion o unrhyw hunangyflogaeth

Os ydych yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig, os hoffech, gallwch ddefnyddio’ch incwm o hunangyflogaeth yn unig os byddai hynny’n eich gwneud chi’n gymwys. Er enghraifft, os ydych yn disgwyl y bydd eich enillion hunangyflogedig cyfartalog dros y flwyddyn dreth yn uwch na’r hyn y byddwch yn ei gael yn ystod y 3 mis nesaf fel cyflogai.

Ni fydd rhai mathau o incwm yn cyfrif tuag at yr isafswm y mae’n rhaid i chi ei ennill i fod yn gymwys.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • difidendau

  • llog

  • incwm o fuddsoddi mewn eiddo

  • taliadau pensiwn

Os oes gennych chi neu’ch partner ‘incwm net addasedig (yn agor tudalen Saesneg)’ disgwyliedig o dros £100,000 yn y flwyddyn dreth bresennol, ni fyddwch yn gymwys.

Eich plentyn

Mae’n rhaid i’ch plentyn fod yn 11 oed neu’n iau, ac fel arfer byw gyda chi. Mae plant yn stopio bod yn gymwys ar 1 Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 11 oed.

Mae plant mabwysiedig yn gymwys, ond nid yw plant maeth.

Os yw’ch plentyn yn anabl ac fel arfer yn byw gyda chi, gallech gael hyd at £4,000 y flwyddyn tan 1 Medi ar ôl ei ben-blwydd yn 16 oed. Mae’n gymwys am hyn os yw’r canlynol yn wir:

Eich statws mewnfudo

I fod yn gymwys am Ofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, mae’n rhaid i chi (neu eich partner os oes gennych un) fod â rhif Yswiriant Gwladol ac o leiaf un o’r canlynol:

Os oes gennych bartner, mae’n rhaid bod gan eich partner rif Yswiriant Gwladol hefyd.

Os ydych yn byw mewn gwlad yn yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein, efallai y byddwch chi (neu’ch partner os oes gennych un) yn dal i fod yn gymwys i gael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth os:

  • mae’ch gwaith yn y DU

  • dechreuodd y gwaith cyn 1 Ionawr 2021

  • rydych wedi gweithio yn y DU o leiaf unwaith bob 12 mis ers i chi ddechrau gweithio yma

Gelwir hyn yn ‘weithiwr ffiniol’ (yn agor tudalen Saesneg). Mae’n rhaid i chi ddangos eich trwydded Gweithiwr Ffiniol i’r Gwasanaeth Gofal Plant pan fyddwch yn gwneud cais am Ofal Plant sy’n Rhydd o Dreth.

Os ydych yn cael credydau treth, Credyd Cynhwysol, bwrsari neu grant gofal plant, neu dalebau gofal plant

Ni allwch gael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ar yr un pryd ag yr ydych yn hawlio Credyd Treth Gwaith, Credyd Treth Plant, Credyd Cynhwysol neu dalebau gofal plant.

Mae pa gynllun sydd o’r budd mwyaf i chi yn dibynnu ar eich sefyllfa. Defnyddiwch y gyfrifiannell gofal plant i benderfynu pa fath o gymorth sydd orau i chi.

Credydau treth

Os ydych yn gwneud cais llwyddiannus am Ofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, bydd eich Credyd Treth Gwaith neu Gredyd Treth Plant yn dod i ben ar unwaith. Ni allwch wneud cais amdanynt eto.

Talebau gofal plant

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cyflogwr i stopio’ch talebau gofal plant neu ofal plant sydd wedi’u contractio’n uniongyrchol, cyn pen 90 diwrnod ar ôl gwneud cais am Ofal Plant sy’n Rhydd o Dreth.

Yna, bydd yn rhoi’r gorau i roi talebau i chi neu’r gofal plant wedi’i gontractio’n uniongyrchol.

Efallai y bydd yn rhaid i chi roi tystiolaeth i CThEF o adael y cynllun talebau gofal plant. Er enghraifft, copi o’r llythyr yn rhoi gwybod i’ch cyflogwr eich bod yn gadael y cynllun talebau gofal plant.

Os oes gennych bartner sy’n cael talebau neu ofal plant wedi’u contractio’n uniongyrchol, bydd angen i’ch partner roi gwybod i’w cyflogwr i stopio hyn cyn pen 90 diwrnod hefyd.

Credyd Cynhwysol

Arhoswch nes i chi gael penderfyniad ar eich cais Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth cyn canslo’ch cais am Gredyd Cynhwysol.

Bwrsariaethau

Os ydych chi neu’ch partner yn cael bwrsari neu grant gofal plant neu’n disgwyl cael cyn pen y 3 mis nesaf, ni allwch gael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth.

Gwneud cais

Gwneud cais ar-lein am Ofal Plant sy’n Rhydd o Dreth

Os ydych yn gwneud cais am Ofal Plant sy’n Rhydd o Dreth a bod rhywun arall eisoes yn cael gofal plant sy’n rhad ac am ddim ar gyfer plentyn hwnnw, bydd ei 15 neu 30 awr yn dod i ben ar ddiwedd y tymor nesaf. Byddwch yn gymwys am 15 neu 30 awr o ofal plant sy’n rhad ac am ddim yn lle hynny.

Os oes gennych bartner

Mae’n rhaid i chi gynnwys eich partner yn eich cais os:

  • yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac yn byw gyda’ch gilydd

  • nad ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, ond rydych yn byw gyda’ch gilydd fel petaech yn gwneud hynny

Ni fydd ei gyflogaeth na’i incwm yn effeithio ar eich cymhwystra os:

  • mae neu bydd yn absennol o’ch aelwyd am fwy na 6 mis

  • mae’n garcharor

Ni allwch chi a’ch partner fod â chyfrifon ar gyfer yr un plentyn.

Os ydych wedi gwahanu

Mae angen i chi a’ch cyn-bartner benderfynu pwy ddylai wneud cais os ydych yn gyd-gyfrifol am eich plentyn.

Os na allwch chi benderfynu, bydd angen i’r ddau ohonoch wneud cais ar wahân a bydd CThEF yn penderfynu pwy fydd yn cael cyfrif gofal plant.