Gwneud cais am Ofal Plant sy’n Rhydd o Dreth

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cais am gyfrif gofal plant.

Gallwch ddefnyddio’ch cyfrif i dalu eich darparwr gofal plant.

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gallwch dalu eich darparwr drwy arian o’ch cyfrif pan fydd yr arian hwnnw’n dangos fel ‘arian wedi’i glirio’. Dylai taliadau ymddangos yng nghyfrif eich darparwr cyn pen 24 awr, yn dibynnu ar ei fanc.

Fel rhan o’ch cais, byddwch chi’n cael gwybod a ydych chi’n gymwys i gael Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth. Os ydych chi’n byw yn Lloegr, byddwch chi hefyd yn cael gwybod a ydych chi’n gymwys i gael 15 neu 30 awr o ofal plant yn rhad ac am ddim. Efallai y byddwch chi’n cael gwybod ar unwaith, ond mae’n gallu cymryd hyd at 7 diwrnod.

Os ydych yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig

Bydd angen eich manylion arnoch (a manylion eich partner, os oes gennych un), gan gynnwys eich:

  • rhif Yswiriant Gwladol
  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), os ydych chi’n hunangyflogedig

Bydd angen y canlynol arnoch hefyd:

  • cyfeirnod tystysgrif geni DU (os oes gennych un) ar gyfer unrhyw blentyn rydych yn gwneud cais ar ei gyfer 
  • y dyddiad y gwnaethoch ddechrau gweithio, neu’r dyddiad yr ydych yn bwriadu dechrau gweithio (gall y dyddiad hwn fod yn amcangyfrif os yw’n hirach na 3 mis yn ôl)

Os ydych yn gyfarwyddwr

Bydd angen i chi ddangos eich bod yn bodloni’r gofynion o ran isafswm incwm er mwyn bod yn gymwys. Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn ceisio gwirio hyn gan ddefnyddio’ch cofnodion TWE.

Os nad ydych yn cyflwyno gwybodaeth TWE yn rheolaidd, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi roi tystiolaeth i ddangos eich bod yn gweithio ac yn disgwyl bodloni’r gofynion o ran isafswm incwm am y 3 mis nesaf. Gallai hyn gynnwys:

  • slipiau cyflog
  • cyfriflenni banc
  • datganiad gan eich cyfrifydd
  • copïau o anfonebau

Os nad ydych yn cael eich talu’n rheolaidd (er enghraifft, unwaith y flwyddyn) mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi anfon tystiolaeth arall i ddangos y byddwch yn bodloni’r gofynion o ran isafswm incwm, megis:

  • slipiau cyflog blynyddol
  • y gyflogres ar ddiwedd blwyddyn
  • llythyr gan eich asiant treth, neu’ch ymgynghorwr, yn cadarnhau bod eich cyflog wedi cael ei dalu a’i drethu

Bydd angen i chi wneud hyn pan fyddwch yn gwneud cais am y tro cyntaf, a phob tro y byddwch yn ail-gadarnhau eich bod yn gymwys.

Gwneud cais am gyfrif gofal plant

Mae’n cymryd 20 munud i wneud cais.

Dechrau nawr