Canllawiau

Darganfyddwch am arian sydd cael ei dynnu o’ch taliad Credyd Cynhwysol

Help i ddeall dyledion a didyniadau a gymerir o daliadau Credyd Cynhwysol a gyda phwy i gysylltu am eich dyledion a'ch didyniadau os ydych yn cael trafferthion ariannol.

Applies to England, Scotland and Wales

Gall Credyd Cynhwysol dynnu arian o’ch taliad os oes gennych ddyled. Fe welwch hyn ar eich datganiad Credyd Cynhwysol.

I ddod o hyd i’ch datganiad, mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein ac ewch i ‘Taliadau’. Ar eich datganiad, edrychwch am ‘Beth rydym yn ei dynnu i ffwrdd - didyniadau’.

 phwy i gysylltu am arian a dynnwyd o’ch taliad

Mae hyn yn dibynnu ar gyfer beth mae’r didyniad. Darganfyddwch â phwy i gysylltu.

Mathau o ddyledion

Taliadau ymlaen llaw

Dyma eich ad-daliad o daliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol.

Gordaliad Credyd Cynhwysol

Dyma pryd y talwyd gormod o Gredyd Cynhwysol i chi. I ddarganfod mwy am eich gordaliad, mewngofnodwch i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein. Ewch i’ch dyddlyfr a chwiliwch am neges am ordaliadau.

Os ydych yn credu eich bod wedi cael gordaliad ond heb glywed gan Gredyd Cynhwysol, mae angen i chi gysylltu â Chredyd Cynhwysol i ddweud wrthynt am hyn.

Gordaliad credyd treth a budd-daliadau

Mae hyn pan rydych wedi cael eich talu gormod o unrhyw fudd-dal oni bai am Gredyd Cynhwysol. Mae’n cynnwys gordaliadau Credyd Treth a Budd-dal Tai.

Gall cosb gael ei ychwanegu i ordaliad budd-dal.

Os ydych wedi cael eich gordalu, yna bydd gennych neges dyddlyfr neu lythyr yn egluro ar gyfer beth mae’r gordaliad.

Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich gordalu ond nad ydych wedi clywed gan DWP, mae’n rhaid i chi roi gwybod amdano ar unwaith. Os nad ydych yn gwneud hyn efallai y gallech gael eich erlyn neu orfod talu cosb.

Taliad caledi adferiadwy

Gallwch wneud cais am daliad caledi os yw eich taliad Credyd Cynhwysol wedi cael ei leihau oherwydd cosb twyll neu sancsiwn.

Byddwch angen talu hwn yn ôl unwaith y bydd eich cosb twyll neu sancsiwn wedi dod i ben. Pan fydd y swm rydych yn ei dalu’n ôl wedi cael ei gytuno arno ni ellir ei newid.

Ad-daliad benthyciad cyllidebu a benthyciad argyfwng

Hwn yw eich ad-daliad o fenthyciad cyllidebu a benthyciad argyfwng. Mae faint y byddwch yn ei dalu’n ôl yn cael ei gytuno arno pan fyddwch yn derbyn y benthyciad.

Dyledion eraill sydd arnoch – ‘didyniadau trydydd parti’

Didyniadau trydydd parti yw pan fydd arian yn cael ei dynnu o’ch Credyd Cynhwysol i dalu eich dyledion am bethau fel:

  • cyfleustodau, fel trydan, nwy a dŵr
  • Treth Cyngor
  • cynhaliaeth plant
  • rhent
  • taliadau gwasanaeth
  • dirwyon llys

Gellir ond cymryd 3 didyniad trydydd parti ar unrhyw adeg.

Bydd Credyd Cynhwysol yn anfon neges i chi yn eich dyddlyfr ar-lein pan fydd didyniad trydydd parti yn dechrau.

Faint fydd yn cael ei gymryd o’ch taliad Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn gweithio allan y swm sy’n cael ei gymryd o’ch taliad ar ddiwedd pob cyfnod asesu (un mis calender).

Gallai’r swm sy’n cael ei dynnu i ffwrdd newid os yw eich:

  • enillion yn newid
  • budd-daliadau eraill yn newid

Nid yw’n bosib dweud wrthych faint fydd yn cael ei dynnu i ffwrdd nes bod y cyfrifiad wedi cymryd lle.

Fel arfer y mwyaf y gellir ei gymryd o’ch taliad i ad-dalu dyled yw 25% o’ch Lwfans Safonol o Gredyd Cynhwysol. Dyma’r swm sylfaenol mae gennych hawl iddo, cyn i arian am bethau fel gofal plant a chostau tai gael eu hychwanegu.

Efallai y cewch fwy na 25% o’ch Lwfans Safonol os ydych yn talu ‘didyniad dewis olaf’. Mae ‘didyniad dewis olaf’ yn helpu eich atal rhag cael eich troi allan neu cael eich cyfleustodau wedi eu torri i ffwrdd. Mae’n cael ei dalu’n uniongyrchol i’r person neu sefydliad mae arnoch arian iddynt.

Beth i’w wneud os ydych yn cael trafferth i ad-dalu eich dyled

Os ydych yn cael trafferth, gallwch ofyn am benderfyniad caledi ariannol i leihau’r swm o ddyled budd-dal rydych yn ei dalu.

Efallai y cewch eich ystyried am hyn os oes gennych arian yn cael ei gymryd o’ch Credyd Cynhwysol ar gyfer:

  • dyled budd-dal
  • ad-daliad Benthyciad Trefnu neu Fenthyciad Argyfwng
  • taliadau ymlaen llaw
  • ôl-ddyledion rhent (os ydynt yn cael eu cymryd ar gyfradd uwch na 10% or lwfans safonol)

Os yw penderfyniad yn cael ei wneud i leihau’r swm rydych yn ei dalu, bydd yn cael ei gymhwyso’n awtomatig i’ch cyfnod asesu Credyd Cynhwysol nesaf.

Darganfyddwch pwy i gysylltu â am arian sy’n cael ei dynnu o’ch taliad Credyd Cynhwysol.

Cyngor ar arian a dyled

Gallwch gael help a chyngor gan y llywodraeth, cynghorau lleol a sefydliadau eraill.

Cyhoeddwyd ar 8 October 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 April 2021 + show all updates
  1. The most that can normally be taken from your Universal Credit payment to repay a debt has changed from 30% to 25% of your Universal Credit Standard Allowance.

  2. First published.