Canllawiau

Taliadau ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol

Os nad oes gennych ddigon i fyw arno tra rydych yn disgwyl am eich taliad cyntaf, efallai y gallwch gael taliad ymlaen llaw o'ch taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.

Pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol am y tro cyntaf byddwch fel arfer yn cael eich taliad cyntaf 7 diwrnod ar ôl diwedd eich cyfnod asesu cyntaf. Yna cewch eich talu’n fisol ar yr un dyddiad, oni bai bod eich dyddiad talu yn disgyn ar benwythnos neu Ŵyl y Banc.

Gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw o’ch Credyd Cynhwysol os ydych mewn caledi ariannol tra rydych yn disgwyl am eich taliad cyntaf, er enghraifft, os na allwch fforddio talu’ch rhent neu brynu bwyd.

Bydd angen i chi dalu’n ôl eich taliad ymlaen llaw ychydig ar y tro o’ch taliadau Credyd Cynhwysol yn y dyfodol, neu drwy ddulliau eraill os na fyddwch bellach yn cael Credyd Cynhwysol, er enghraifft, o’ch cyflog neu fudd-dal arall y gallech fod yn ei gael.

Os ydych eisoes yn cael Credyd Cynhwysol efallai y byddwch hefyd yn gallu cael Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw i helpu i dalu am costau i’r cartref mewn argyfwng, er enghraifft, prynu popty newydd neu i gael help i gael swydd neu aros yn y gwaith.

Sut i wneud cais am daliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol

Gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol:

  • cyn i chi gael eich taliad cyntaf
  • os ydych eisoes yn cael Credyd Cynhwysol a’ch bod wedi dweud wrthym am newid yn eich amgylchiadau sy’n golygu y byddwch yn cael mwy o Gredyd Cynhwysol ond nid yw’r swm mwy wedi cael ei dalu i chi eto

I wneud cais am daliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol gallwch:

Gwneud cais trwy eich cyfrif ar-lein

Dewiswch yr adran ‘gwneud cais am daliad ymlaen llaw’ i wneud cais am daliad ymlaen llaw ar-lein trwy eich cyfrif.

Gallwch ond gwneud cais am daliad ymlaen llaw ar-lein os ydych o fewn eich cyfnod asesu Credyd Cynhwysol cyntaf ac rydych wedi cael cyfweliad yn y ganolfan gwaith. Os ydych wedi pasio’ch cyfnod asesu cyntaf bydd angen i chi wneud cais trwy ffonio’r llinell gymorth.

Pan fyddwch yn gwneud cais am daliad ymlaen llaw ar-lein, dangosir y swm y gallwch ei gael ar y sgrin.

Os ydych yn rhan o gwpl, gofynnir i chi hefyd a yw’ch partner yn cytuno i’r taliad ymlaen llaw.

Gwneud cais trwy eich anogwr gwaith neu’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Os ydych yn gwneud cais am daliad ymlaen llaw trwy siarad â’ch anogwr gwaith neu drwy ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol, bydd angen i chi (a’ch partner os oes gennych un):

  • esbonio pam eich bod angen taliad ymlaen llaw
  • darparu manylion cyfrif banc lle dylid talu’r taliad ymlaen llaw (siaradwch â’ch anogwr gwaith os na allwch agor cyfrif)
  • wedi cael eich hunaniaeth wedi’i wirio mewn canolfan gwaith

Pryd fyddwch yn cael penderfyniad

Byddwch yn cael penderfyniad cyflym ar eich cais am daliad ymlaen llaw. Fel arfer byddwn yn dweud y canlyniad wrthych ar yr un diwrnod.

Faint y gallwch ei gael

Efallai y gallwch chi gael hyd at 100% o’ch taliad Credyd Cynhwysol amcangyfrifedig.

Bydd angen i chi ad-dalu taliad ymlaen llaw o daliadau Credyd Cynhwysol yn y dyfodol neu drwy ddulliau eraill os na fyddwch bellach yn cael Credyd Cynhwysol, fel o gyflog neu fudd-daliadau eraill y gallech fod yn eu cael.

Cost ad-daliadau

Os ydych yn gwneud cais am daliad ymlaen llaw ar-lein, fe ddangosir i chi ar y sgrin beth yw’r symiau ad-dalu ar gyfer gwahanol gyfnodau ad-dalu.

Os ydych yn gwneud cais dros y ffôn mae’r ymgynghorydd llinell gymorth Credyd Cynhwysol yn asesu a allwch fforddio ad-dalu’r taliad ymlaen llaw. Os ydynt yn cytuno i’r taliad ymlaen llaw, byddant yn dweud wrthych dros y ffôn:

  • faint y gallwch ei gael
  • faint sydd i’w ad-dalu bob mis
  • pryd mae’r ad-daliad cyntaf yn ddyledus

Sut mae’r taliad ymlaen llaw yn cael ei ad-dalu

Mae didyniadau yn cael eu gwneud allan o’ch taliad Credyd Cynhwysol misol. Mae’r didyniad cyntaf yn cael ei wneud ar y diwrnod cewch eich taliad cyntaf. Fel arfer mae’n rhaid i chi dalu’r taliad ymlaen llaw yn ôl o fewn:

  • 24 mis os gwnewch gais am y taliad ymlaen llaw ar neu ar ôl 12 Ebrill 2021 oherwydd gwnaethoch gais newydd am Gredyd Cynhwysol
  • 12 mis os gwnaethoch gais am y taliad ymlaen llaw cyn 12 Ebrill 2021 oherwydd gwnaethoch gais newydd am Gredyd Cynhwysol
  • 6 mis os gwnewch gais am y taliad ymlaen llaw oherwydd newid mewn amgylchiadau

Gallwch ofyn am ohirio’ch ad-daliadau os na allwch eu fforddio. Gellir gohirio ad-daliadau am:

  • 3 mis os yw’r taliad ymlaen llaw am gais newydd
  • 1 mis os yw’r taliad ymlaen llaw am newid mewn amgylchiadau

Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y caniateir hyn.

Os gwrthodir taliad ymlaen llaw i chi

Efallai bydd taliad ymlaen llaw yn cael ei wrthod os:

  • nad ydych wedi cael eich hunaniaeth wedi’i wirio yn y Ganolfan Gwaith
  • oes gennych ddigon o arian i barhau hyd nes bydd eich Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu
  • rydych yn byw gyda rhieni, perthnasau neu ffrindiau
  • oes gennych unrhyw enillion terfynol neu daliadau diswyddo
  • oes gennych unrhyw gynilion ar gael

Gallwch ofyn i’r penderfyniad gael ei ailystyried ond nid oes hawl gennych i apelio.

Os nad ydych bellach yn cael Credyd Cynhwysol ac nid ydych wedi talu eich taliad ymlaen llaw yn ôl

Bydd angen i chi barhau i dalu’ch taliad ymlaen llaw yn ôl, hyd yn oed os byddwch yn stopio cael Credyd Cynhwysol.

Os byddwch yn symud o Gredyd Cynhwysol i fudd-dal arall, bydd y didyniadau fel arfer yn parhau o’ch taliadau nes bydd y taliad ymlaen llaw wedi cael ei dalu’n ôl.

Os byddwch yn symud oddi ar fudd-daliadau byddwch yn cael llythyr yn dweud wrthych faint sy’n ddyledus gennych. Bydd y llythyr yn gofyn i chi gysylltu â Chanolfan Gyswllt Rheoli Dyled DWP i drefnu’ch ad-daliadau. Mae’n bwysig nad ydych yn anwybyddu’r llythyr hwn.

Os na wnewch drefniadau i dalu, gall yr Adran Gwaith a Phensiynau adennill y swm sy’n ddyledus gennych naill ai:

  • trwy gysylltu â’ch cyflogwr (lle mae gennych un) i drefnu i ddidyniadau gael eu gwneud o’ch enillion
  • gofyn i asiantaeth casglu dyledion annibynnol gasglu’r arian hwn ar ein rhan (dylech ddelio’n uniongyrchol â’r casglwr dyledion annibynnol i drefnu ad-daliad)

Os nad ydych bellach yn cael Credyd Cynhwysol ac na allwch dalu eich taliad ymlaen llaw yn ôl

Gallwch gysylltu â chanolfan gyswllt Rheoli Dyled DWP os na allwch fforddio talu’r swm sy’n ddyledus gennych yn ôl.

Gallant eich helpu i ddod i drefniant fforddiadwy i dalu eich taliad ymlaen llaw yn ôl yn ogystal â darparu:

  • cymorth gyda sefydlu ad-daliadau misol trwy Ddebyd Uniongyrchol
  • slipiau talu i mewn ar gyfer siec neu daliadau arian parod

Canolfan gyswllt Rheoli Dyled DWP

Ffôn: 0800 916 0647
Relay UK – os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn: 18001 yna 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 916 0651
Ffonio o dramor: +44 (0)161 904 1233
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 7.30pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Gwasanaeth cyfnewid fideo ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) - gwiriwch os gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm

Cael Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw

Efallai gallwch gael Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw i helpu gyda:

  • costau i’r cartref mewn argyfwng fel prynu popty newydd yn lle un sydd wedi torri
  • cael swydd neu aros yn y gwaith
  • costau angladd

Benthyciad yw Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw, a bydd angen i chi ei ad-dalu trwy’ch taliadau Credyd Cynhwysol rheolaidd – bydd eich taliadau yn is nes y byddwch wedi’i dalu yn ôl.

Os nad ydych bellach yn cael Credyd Cynhwysol bydd angen i chi ad-dalu drwy ddulliau eraill, fel o gyflog neu fudd-dal arall y gallech fod yn ei gael.

Dywedir wrthych faint bydd eich taliadau yn cael eu lleihau.

Beth fyddwch yn ei gael

Y swm lleiaf y gallwch fenthyca yw £100. Gallwch gael hyd at:

  • £348 os ydych yn sengl
  • £464 os ydych yn rhan o gwpl
  • £812 os oes gennych blant

Mae faint y gallwch ei gael yn dibynnu ar os:

  • gallwch chi dalu’r benthyciad yn ôl
  • oes gennych unrhyw gynilion dros £1,000 (byddwn yn lleihau swm y benthyciad a gynigiwn i chi o £1 am bob £1 sydd gennych mewn cynilion dros y trothwy o £1000)

Sut mae’r Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw yn cael ei ad-dalu

Gwneir didyniadau o’ch taliad Credyd Cynhwysol misol sengl. Gwneir y didyniad cyntaf ar y diwrnod y cewch eich taliad nesaf.

Bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw o fewn 12 mis.

Os byddwch yn symud o Gredyd Cynhwysol i fudd-dal arall, bydd y didyniadau fel arfer yn parhau o’ch taliadau nes bydd y taliad ymlaen llaw i gyd yn cael ei dalu’n ôl.

Os byddwch yn symud oddi ar fudd-daliadau byddwch yn cael llythyr yn dweud wrthych faint sy’n ddyledus gennych. Bydd y llythyr yn gofyn i chi gysylltu â Chanolfan Gyswllt Rheoli Dyled DWP i drefnu’ch ad-daliadau. Mae’n bwysig nad ydych yn anwybyddu’r llythyr hwn.

Os na wnewch drefniadau i dalu, gall yr Adran Gwaith a Phensiynau adennill y swm sy’n ddyledus gennych naill ai:

  • trwy gysylltu â’ch cyflogwr (lle mae gennych un) i drefnu i ddidyniadau gael eu gwneud o’ch enillion, neu
  • gofyn i asiantaeth casglu dyledion annibynnol gasglu’r arian hwn ar ein rhan (dylech ddelio’n uniongyrchol â’r casglwr dyledion annibynnol i drefnu ad-daliad)

Cymhwyster

I gael Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw, mae’n rhaid i chi fod wedi:

  • bod yn cael Credyd Cynhwysol, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth am 6 mis neu fwy, oni bai bod angen yr arian arnoch i’ch helpu i ddechrau swydd newydd neu i gadw swydd bresennol
  • ennill llai na £2,600 (£3,600 ar y cyd ar gyfer cyplau) yn ystod y 6 mis diwethaf
  • wedi talu yn ôl unrhyw Daliadau Cyllidebu Ymlaen Llaw blaenorol

Sut i wneud cais am Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw

I wneud cais am Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw, cysylltwch â’ch anogwr gwaith Canolfan Byd Gwaith lleol.

Cyhoeddwyd ar 23 October 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 October 2022 + show all updates
  1. Updated the link to the video relay service for British Sign Language (BSL) users.

  2. Changed DWP Debt Management contact centre opening times to Monday to Friday 8am to 7.30pm (from Monday to Friday 8am to 6pm).

  3. Changed DWP Debt Management centre opening hours to 8am to 6pm, Monday to Friday.

  4. DWP Debt Management contact centre opening hours changed from 9am to 5pm, to 9am to 6pm.

  5. Updated the DWP Debt Management telephone service opening hours to 9am to 5pm.

  6. Updated to explain that repayments of an advance can be delayed for 1 month if you cannot afford them and the advance was paid because of a change of circumstances.

  7. If you apply for a Universal Credit advance on or after 12 April 2021, the time you must usually pay back the advance has been extended from 12 to 24 months.

  8. Added translation

  9. Budgeting Allowance eligibility section updated to include income-related Employment and Support allowance and income-related Jobseeker's Allowance.

  10. Updated the guidance to explain that you need to have your identity checked at a jobcentre before you can apply for a Universal credit advance.

  11. Added translation

  12. Added 'help with funeral costs' to the Budgeting Advance section.

  13. Updated information about how to apply for an advance of Universal Credit.

  14. Information updated about when a claimant moves off Universal Credit and a Universal Credit advance has not been fully repaid.

  15. Amended the first payment information. The first payment will now usually be received 1 month and 7 days after a claim is submitted.

  16. Changes to advance payment amounts and repayment periods.

  17. Updated guide with new 0800 freephone numbers for Universal Credit.

  18. First published.