Gwneud cais am daliad ymlaen llaw neu daliad caledi Credyd Cynhwysol
Trosolwg
Efallai y byddwch yn gallu cael cymorth ariannol wedi’i dalu i chi cyn eich taliad Credyd Cynhwysol nesaf os:
- rydych yn aros am eich taliad cyntaf
- mae eich taliadau wedi’u stopio neu eu lleihau
- mae gennych gost untro annisgwyl
- rydych angen help gyda threuliau swyddi
- mae eich amgylchiadau wedi newid
Mae beth y gallwch ddefnyddio’r taliad amdano yn dibynnu ar ba fath rydych yn gymwys amdano.
Fel arfer, byddwch yn ei dalu’n ôl yn awtomatig trwy eich taliadau Credyd Cynhwysol rheolaidd.
Gallwch hefyd ddod o hyd i gymorth ariannol arall os ydych ar Gredyd Cynhwysol.