Cael taliad ymlaen llaw am gostau annisgwyl

Os ydych eisoes yn cael Credyd Cynhwysol ac angen help i dalu am gost untro, efallai y byddwch yn gallu cael taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw.

Beth allwch chi ddefnyddio Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw ar ei gyfer

Gallwch ddefnyddio’r taliad hwn i dalu cost untro ar gyfer pethau fel:

  • dodrefn
  • eitemau cartref fel popty, peiriant golchi neu sugnwr llwch
  • eitemau hanfodol i’ch teulu fel cymhorthion symudedd neu gynhyrchion diogelwch plant
  • teledu, mewn rhai amgylchiadau
  • dillad neu esgidiau
  • atgyweiriadau neu ddiogelwch ar gyfer eich cartref
  • treuliau angladd
  • blaendal rhent (tenantiaeth) neu gostau symud, os ydych yn symud tŷ

Gallwch hefyd wirio gyda’ch cyngor lleol os gallwch gael help i dalu blaendal ar gyfer tai.

Beth na allwch ddefnyddio Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw ar gyfer

Ni allwch ddefnyddio Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw ar gyfer:

  • costau parhaus fel bwyd
  • biliau’r cartref fel nwy neu drydan
  • rhent
  • talu dyledion

Beth allwch chi ei gael

Bydd yr hyn a gewch yn dibynnu ar faint rydych ei angen. Y swm lleiaf y gallwch ei fenthyg yw £100. Gallwch gael hyd at:

  • £348 os ydych yn sengl
  • £464 os ydych yn rhan o gwpl
  • £812 os oes gennych blant

Cymhwysedd

I gael Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw, byddwch angen naill ai:

  • wedi bod yn cael Credyd Cynhwysol, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth am 6 mis neu fwy
  • angen yr arian i’ch helpu chi i ddechrau swydd newydd neu aros yn y gwaith

Ni fyddwch yn gymwys os naill ai:

  • rydych wedi ennill mwy na £2,600 (£3,600 gyda’ch gilydd i gyplau) yn ystod y 6 mis diwethaf
  • nad ydych wedi talu unrhyw fenthyciadau Taliadau Cyllidebu Ymlaen Llaw blaenorol (gallwch ond cael un ar y tro)

Sut i wneud cais

I wneud cais, gallwch wneud unrhyw un o’r canlynol:

  • diweddaru eich dyddlyfr yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol
  • gofyn i gyswllt Credyd Cynhwysol yn eich canolfan gwaith leol neu’ch anogwr gwaith
  • ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
Relay UK (os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 328 5644
Gwasanaeth ‘video relay’ Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur - darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Talu’n ôl eich taliad ymlaen llaw

Byddwch yn talu’n ôl eich taliad ymlaen llaw trwy eich taliadau Credyd Cynhwysol. Byddwch fel arfer yn ei dalu’n ôl dros 24 mis, gan ddechrau o’ch taliad Credyd Cynhwysol nesaf.

Enghraifft

Rydych yn cael taliad ymlaen llaw o £240. Rydych yn talu hyn yn ôl dros 24 mis, felly mae £10 yn cael ei dynnu oddi ar eich taliad bob mis.

Os ydych yn cael trafferth ad-dalu taliad ymlaen llaw

Os na allwch fforddio eich ad-daliadau taliad ymlaen llaw, gallwch ofyn i’r swm rydych yn ei dalu i gael ei newid. I wneud hyn, gallwch:

  • ddiweddaru eich dyddlyfr yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol
  • gofyn i gyswllt Credyd Cynhwysol yn eich canolfan gwaith leol neu’ch anogwr gwaith
  • ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Ad-dalu os nad ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol mwyach

Os nad ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol mwyach, bydd angen i chi dalu eich taliad ymlaen llaw yn ôl.

Os ydych yn symud i fudd-dal arall, bydd y didyniadau fel arfer yn parhau o’ch taliadau.

Os ydych yn symud oddi ar fudd-daliadau, byddwch yn cael llythyr gan Rheoli Dyled DWP yn esbonio sut i ad-dalu a rheoli arian sy’n ddyledus gennych. Os ydych am drafod eich ad-daliadau, gallwch ffonio Rheoli Dyled y DWP.