Ad-dalu a rheoli arian budd-dal sy’n ddyledus gennych

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i:

  • wirio faint sy’n ddyledus gennych,
  • darganfod pam fod angen i chi ad-dalu arian
  • gweld hanes eich taliadau
  • ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych yn llawn neu wneud taliad untro
  • cael cymorth a chefnogaeth am yr arian sy’n ddyledus gennych

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol

Caiff eich budd-daliadau eu lleihau nes eich bod wedi ad-dalu’r arian.

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i wirio pryd y byddwch wedi ad-dalu’r arian.

Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i reoli arian sy’n ddyledus gennych o daliad ymlaen llaw sydd gennych ar eich cais Credyd Cynhwysol presennol. Cysylltwch â Chredyd Cynhwysol yn lle.

Os ydych wedi rhoi’r gorau i gael budd-daliadau

Byddwch yn cael llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn dweud wrthych y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, bydd y llythyr yn dod gan y Department for Communities (DfC).

Ar ôl i chi dderbyn y llythyr, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth i sefydlu neu reoli Debyd Uniongyrchol neu gynllun talu hyblyg.

Mewngofnodwch i’r gwasanaeth

Gallwch fewngofnodi gyda’r cod diogelwch yn eich llythyr gan DWP neu DfC. Gallwch hefyd mewngofnodi gyda GOV.UK One Login. Gallwch greu GOV.UK One Login os nad oes gennych un eisoes.

Dechreuwch nawr

Ffyrdd eraill i dalu os nad ydych yn cael budd-daliadau mwyach

Os nad ydych yn cael budd-daliadau mwyach, mae ffyrdd eraill i ad-dalu’r arian.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon gallwch dalu gan gysylltu â’r Department for Communities.

Talu gan ddefnyddio bancio ar-lein

Os ydych yn talu o gyfrif banc yn y DU, defnyddiwch y manylion canlynol.

  • enw’r cyfrif - Rheoli Dyled DWP
  • cod didoli - 60 70 80
  • rhif cyfrif - 10025634
  • cyfeirnod talu - y cyfeirnod ar eich llythyr gan DWP neu’ch rhif Yswiriant Gwladol

Os ydych yn talu o gyfrif tramor, defnyddiwch y manylion canlynol.

  • enw’r cyfrif - Rheoli Dyled DWP
  • rhif cyfrif (IBAN) - GB30NWBK60708010025634
  • Cod Adnabod y Busnes (BIC) - NWBKGB2L
  • cyfeirnod talu - y cyfeirnod ar eich llythyr gan DWP neu’ch rhif Yswiriant Gwladol

Talu gan ddefnyddio Debyd Uniongyrchol, cerdyn debyd, sieciau, neu arian parod

Cysylltwch â DWP i:

  • sefydlu ad-daliadau misol trwy Ddebyd Uniongyrchol
  • gwneud taliad gan ddefnyddio cerdyn debyd
  • gofyn am slip talu i mewn am siec neu daliadau arian parod

Cael help gyda’ch ad-daliadau

Cysylltwch â Rheoli Dyled DWP os oes angen help arnoch i reoli eich ad-daliadau. Gallant drafod eich opsiynau, gan gynnwys yr hyn y gallwch fforddio ei dalu.

Cysylltwch â Rheoli Dyled DWP

Ffôn: 0800 916 0647
Ffôn testun: 0800 916 0651
Gwasanaeth text relay NGT (os na allwch glywed na siarad ar y ffôn): 18001 yna 0800 916 0647
Gwasanaeth video relay ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) - gwiriwch a allwch ddefnyddio’r gwasanaeth
Ffonio o dramor: +44 (0)161 904 1233
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 7:30pm
Darganfyddwch am gostau galwadau