Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 68: gweithredoedd newid sy’n peri gwarediadau tir cofrestredig

Diweddarwyd 30 October 2023

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Weithiau mae angen i bartïon i weithred sy’n peri gwarediad sy’n gofyn am gofrestriad o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (megis trosglwyddiad, prydles neu arwystl cyfreithiol), ac sydd eisoes wedi’i chwblhau trwy gyflawni a dosbarthu, benderfynu bod angen newid ei effaith. Gall hyn fod oherwydd eu bod yn darganfod gwall clercio neu wall arall yn y weithred y mae angen ei gywiro. Neu efallai y byddant yn penderfynu’n ddiweddarach nad yw’r hyn gafodd ei ystyried yn weithred gywir yn cyflawni eu bwriadau gwreiddiol yn ddigonol. Unwaith eto, efallai bydd y partïon i weithred o’r fath, neu eu holynwyr, yn penderfynu bod amgylchiadau wedi newid ac felly bod angen amrywio effaith y weithred, er iddo adlewyrchu bwriadau’r partïon ar y pryd.

Yn y sefyllfaoedd trawsgludo digofrestredig cyfatebol, byddai disgwyl i’r partïon baratoi’r hyn a elwir yn weithred gywiro mewn perthynas â gwall mewn gweithred flaenorol, neu weithred amrywio, mewn perthynas â gweithred a baratowyd yn gywir y mae angen newid ei effaith yn ddiweddarach. Fodd bynnag, wrth ddelio â thir cofrestredig, mae angen i’r partïon ystyried y cyfyngiadau a osodir ar y mathau o warediadau gan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a Rheolau Cofrestru Tir 2003, lle y bo’n briodol. Yn benodol, mae llawer o sefyllfaoedd lle na fyddai gweithred gywiro neu amrywio ar ffurf sy’n briodol i drawsgludo digofrestredig yn briodol yng nghyd-destun teitlau cofrestredig, ac felly gall anawsterau difrifol godi lle y defnyddir y fath ffurfiau. Diben y cyfarwyddyd hwn yw esbonio sut y dylai partïon sy’n ceisio newid effaith y weithred a fwriedir i gyflawni gwarediad cofrestradwy, barhau.

Mae cyfeiriadau at weithred wreiddiol, trosglwyddiad gwreiddiol neu brydles wreiddiol yn y cyfarwyddyd hwn yn golygu’r weithred, y trosglwyddiad neu’r brydles a gofrestrwyd yn wreiddiol ac nid y ffaith bod y weithred yn un wreiddiol yn hytrach na chopi ardystiedig.

Nid yw’r cyfarwyddyd hwn yn ymdrin â sut i ddiwygio gweithred sydd wedi ei llofnodi â llofnodion electronig a ardystiwyd gan drawsgludwr. Ceir arweiniad interim am hynny yn adran 3.3 o gyfarwyddyd ymarfer 82: llofnodion electronig a dderbynnir gan Gofrestrfa Tir EF.

2. Cyn cofrestru’r weithred wreiddiol

2.1 Canfod gwall cyn cyflwyno’r cais i Gofrestrfa Tir EF

2.1.1 Newid y weithred wreiddiol

Os gwelir bod angen cywiro neu ddiwygio gweithred wreiddiol ar ôl ei chyflawni, ond cyn gwneud cais i’w chofrestru, y camau priodol i’w cymryd yw trefnu i’r weithred wreiddiol gael ei newid fel ei bod yn gweithredu gwir fwriadau’r partïon cyn gwneir cais ar gyfer cofrestru. Rhaid dilysu unrhyw newidiadau i’r weithred gyda llofnodau’r holl bartïon nesaf at bob newid a wnaed. Os bydd cynllun i’r weithred wreiddiol wedi’i newid, dylai’r holl bartïon ail-lofnodi’r cynllun. Os caiff y cynllun presennol ei ddisodli gan gynllun newydd, dylai’r holl bartïon lofnodi’r cynllun newydd.

2.1.2 Diogelu blaenoriaeth

Mewn rhai achosion, gall fod yn bosibl i’r partïon barhau gyda chyflwyno copi ardystiedig o’r weithred wreiddiol i’w chofrestru gyda llythyr yn egluro bod angen newid y gwreiddiol a bydd copi ardystiedig diwygiedig yn dilyn. Byddai hyn yn neilltuo blaenoriaeth ar gyfer y tir oedd wedi’i gynnwys yn wreiddiol yn y weithred, ond nid ar gyfer unrhyw dir ychwanegol ar ôl ei newid. Dylid diogelu blaenoriaeth ar gyfer unrhyw dir ychwanegol o’r fath gan chwiliad swyddogol.

Er enghraifft, efallai bydd hyn yn briodol mewn achosion lle na fydd yn ymarferol cwblhau’r broses o newid gweithred a chael llofnodion pellach y partïon o fewn cyfnod blaenoriaeth chwiliad swyddogol sy’n gwarchod y flaenoriaeth. Fodd bynnag, dylid ystyried achosion o’r fath fel eithriadau ac ni fydd yn bosibl mewn unrhyw achos os bydd y cais i gofrestru’r weithred yn sylweddol ddiffygiol wedi hynny (oherwydd yr elfen o’r weithred sydd angen ei newid neu fel arall). Mae’r enghreifftiau canlynol yn egluro’r pwynt.

2.1.3 Enghreifftiau o amgylchiadau lle y mae angen newid gweithred wreiddiol

Y weithred yn cynnwys termau gwallus

Enghraifft 1: Mae gweithred sy’n effeithio ar arwystl cyfreithiol dros deitl XY1234 er budd Cymdeithas Adeiladu Unrhyw Le wedi’i chyflawni gan y perchnogion cofrestredig fel cymerwyr benthyg, ond erbyn hyn mae’r partïon yn sylweddoli ei bod yn cyfeirio’n wallus at delerau morgais 2004 y gymdeithas yn hytrach na thelerau morgais 2008 (fel y nodir yn y cynnig morgais a roddwyd i’r cymerwyr benthyg). Gan fod yr arwystl yn achosi arwystl dilys dros y teitl (er trwy gyfeirio at y telerau morgais anghywir) gellir cyflwyno copi ardystiedig gyda llythyr yn dweud y bydd copi ardystiedig o’r arwystl wedi ei newid wedi ei lofnodi gan y cymerwyr benthyg yn cael ei ail-gyflwyno ar gyfer y cofrestriad.

Trosglwyddo llai o dir nag a fwriadwyd

Enghraifft 2: Mae perchnogion cofrestredig teitlau XY1234 ac XY4321 wedi cyflawni trosglwyddiad a fwriadwyd i drosglwyddo’r ddau deitl i Z. Yn anffodus, oherwydd gwall wrth ddrafftio’r weithred, dim ond at deitl XY1234 mae’r trosglwyddiad yn cyfeirio. Dim ond ar ôl cwblhau’r trafodiad y gwelwyd y gwall. Byddai’n bosibl i Z wneud cais i gofrestru’r trosglwyddiad heb ei gywiro, ond dim ond mewn perthynas â theitl XY1234 ac amgáu llythyr i egluro y bydd copi ardystiedig o’r trosglwyddiad wedi ei newid yn dilyn. Ni all Z wneud cais i’w chofrestru yn erbyn teitl XY4321 (ac os bydd yn ceisio gwneud hynny, caiff y cais ei wrthod neu ei ddileu am fod yn sylweddol ddiffygiol) oni bai a hyd nes y caiff y gwall yn y trosglwyddiad ei gywiro. Mae hyn oherwydd nad yw’r trosglwyddiad heb ei gywiro yn effeithio ar unrhyw warediad cofrestradwy o deitl XY4321.

Y cynllun trosglwyddo yn dangos tir y tu allan i deitl y trosglwyddai

Enghraifft 3: Mae’r tir yn nheitl XY1234 (perchennog cofrestredig A) yn ffinio â’r tir yn nheitl XY98765 (perchennog cofrestredig B). Mae A a B wedi cytuno i addasu’r ffin rhyngddynt trwy gyflawni trosglwyddiad o ran o rywfaint o dir yn eu teitlau nesaf at y ffin yn gyfnewid am drosglwyddiad o ran rhywfaint o’r tir yn nheitl y llall sydd nesaf at y ffin hefyd. Yn anffodus, oherwydd gwall ar yr adeg y bras-gopïwyd y trosglwyddiadau i’w cyflawni, cyfnewidiwyd y cynlluniau trosglwyddo fel bod y trosglwyddiad o ran a gyflawnwyd sy’n cyfeirio at deitl XY1234 yn cynnwys cynllun sy’n dangos rhan o’r tir yn nheitl XY98765 gydag ymyl coch, ac i’r gwrthwyneb. Ni ellir gwneud cais i gofrestru’r naill drosglwyddiad (hyd nes y byddant wedi’u diwygio’n ffurfiol neu wedi’u disodli) gan fod yn naill a’r llall yn sylweddol ddiffygiol wrth geisio trosglwyddo tir lle nad y trosglwyddai yw’r perchennog cofrestredig.

2.1.4 Llythyr yn ein hysbysu bod y gwreiddiol yn cael ei newid

Mewn achosion o’r fath, bydd Cofrestrfa Tir EF yn anfon ymholiad yn gofyn iddo gael ei newid, i’r newid/newidiadau gael eu llofnodi gan y partïon perthnasol ac i gopi ardystiedig gael ei ailgyflwyno o fewn y cyfnod arferol ar gyfer cydymffurfio ag ymholiadau. Bydd methu â chydymffurfio â’r ymholiad o fewn y cyfnod a ganiateir (gan gynnwys unrhyw estyniad o’r cyfnod a gytunir) yn arwain at ddilead yn y modd arferol.

3. Tra bo’r weithred yn cael ei chofrestru

Efallai bydd yr angen i gywiro neu newid gweithred wreiddiol yn cael ei darganfod ar ôl i’r cais cofrestru gael ei gyflwyno i Gofrestrfa Tir EF. Trafodir y gwahanol amgylchiadau lle y gall hyn godi yn adrannau 4.1, 4.2 a 4.3.

3.1 Gweithred ddiffygiol: gwrthod y cais

Nodir manylion yr achosion lle bydd Cofrestrfa Tir EF yn gwrthod cais fel rheol yng nghyfarwyddyd ymarfer 49: dychwelyd a gwrthod ceisiadau i gofrestru. Enghraifft o achos lle y gellir defnyddio’r polisi lle bo’r diffyg yn wall mewn gweithred sydd angen ei gywiro fyddai cais i gofrestru gweithred grant sy’n cynnwys grant hawl tramwy “ar draws y tir wedi’i liwio’n frown ar y cynllun” ond lle nad oes lliw brown ar y cynllun. Mewn achosion o’r fath, bydd angen i’r ceisydd drefnu i’r weithred gael ei chywiro’n briodol, llofnodi’r newid gan y partïon perthnasol a chyflwyno cais newydd i gofrestru unwaith i’r uchod gael ei gyflawni.

Sylwer: Mae’n bwysig felly bod copïau ardystiedig o weithredoedd yn cael eu hanfon gyda cheisiadau er mwyn sicrhau bod y gwreiddiol ar gael i chi ei newid o hyd – gweler gweithred ddiffygiol: y ceisydd yn gofyn iddi gael ei dychwelyd ynghylch cadw dogfennau a anfonir atom.

3.2 Gweithred ddiffygiol: gwneud ymholiad

Nodir manylion yr achosion lle y gallai Cofrestrfa Tir EF wneud ymholiad yng nghyfarwyddyd ymarfer 50: trefnau ymholi a dileu. Enghraifft o achos o’r fath sy’n ymwneud â diffyg mewn gweithred a gyflwynwyd i’w chofrestru fyddai lle y gadwyd bwlch gwag mewn gweithred wedi’i chwblhau fel arall, lle y dylai bod y bwlch wedi’i lenwi gyda llawysgrif gyda’r manylion priodol cyn cyflawni’r weithred. Mewn achosion o’r fath, bydd angen i’r ceisydd gydymffurfio ag unrhyw ymholiad cyn y daw’r dyddiad dileu a nodir yn yr ymholiad i ben (neu unrhyw estyniad a gytunwyd) trwy drefnu i’r weithred wreiddiol gael ei llenwi neu ei newid yn briodol, llofnodi’r cwblhad neu’r newid gan y partïon priodol ac ailgyflwyno’r weithred wreiddiol neu gopi ardystiedig ohoni i Gofrestrfa Tir EF.

Gweler y nodyn i Gweithred ddiffygiol: gwrthod y cais.

3.3 Gweithred ddiffygiol: y ceisydd yn gofyn iddi gael ei dychwelyd

Os yw eich cais yn un am gofrestriad cyntaf, mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol fel rheol.

Gall trawsgludwr, fodd bynnag, wneud cais am gofrestriad cyntaf ar sail copïau ardystiedig o weithredoedd a dogfennau yn unig. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf – Ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr – derbyn copïau ardystiedig o weithredoedd am wybodaeth am hyn.

Os nad yw eich cais am gofrestriad cyntaf, dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ddychwelyd unrhyw gopïau gwreiddiol o dystysgrifau marwolaeth neu grantiau profiant atoch.

Mae’n annhebygol y bydd gennym weithred wreiddiol i’w dychwelyd, sy’n un o’r rhesymau ei bod yn bwysig eich bod yn anfon copïau ardystiedig ar gyfer cofrestru, fel bod y gwreiddiol ar gael i chi o hyd.

Nid yw newid bob amser yn briodol, er enghraifft, lle y mae datblygwr wedi trosglwyddo’r llain anghywir mewn datblygiad ar gam i drosglwyddai penodol. Efallai bydd y trosglwyddiad yn gwbl gofrestradwy, ond os yw’r trosglwyddai yn meddu ar lain wahanol ac nid yw’r trosglwyddiad yn peri’r cytundeb gwerthu blaenorol, yr unig ddewis fydd tynnu’r cais i gofrestru’r trosglwyddiad yn ôl yn llwyr a threfnu i drosglwyddiad newydd o’r llain gywir i’r trosglwyddai. Mae hyn oherwydd nad yw’r trosglwyddiad wedi gwaredu’r llain gywir, fel nad yw cais yn bosibl yn erbyn y llain a hyd nes y caiff y trosglwyddiad ei gywiro.

4. Lle cofrestrwyd y weithred

4.1 Egwyddorion cyffredinol

Rhaid cwblhau gweithredoedd sy’n peri gwarediadau cofrestradwy, megis trosglwyddiadau, prydlesi ac arwystlon cyfreithiol teitlau cofrestredig, trwy gofrestriad os yw’r ystad neu fudd cyfreithiol i gael ei freinio yn y person o blaid yr hwn y mae’r weithred yn dod i rym. Hyd nes y gwneir cais i gofrestru’r gwarediad a hyd nes y caiff y cais ei gwblhau fel y gwneir y cofnodion perthnasol yn y gofrestr, ar y mwyaf mae’r weithred yn rhoi budd ecwitïol yn y tir. Unwaith i’r gofrestr gael ei newid i roi grym cyfreithiol i warediad cyfreithiol ac adlewyrchu’r wybodaeth yn y weithred, mae’n cofnodi presenoldeb yr ystadau cofrestredig, arwystlon a buddion perthnasol sy’n bodoli a hunaniaeth yr unigolion y mae’r ystadau a’r arwystlon wedi’u breinio ynddynt fel perchnogion cofrestredig. Mae’n dilyn felly bod angen cyflawni hyn trwy weithred gofrestradwy bellach os oes angen gwarediad pellach o’r tir mewn teitl cofrestredig. Mae’r egwyddor hon yr un mor berthnasol i’r achos lle y mae angen gwarediad pellach i gywiro gwall mewn gweithred sydd eisoes wedi’i chofrestru ag y mae i drafodion annibynnol pellach.

Yn ogystal, mae adran 25 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn nodi:

“Dim ond os yw’n cydymffurfio ag anghenion megis ffurf a chynnwys y mae rheolau yn eu darparu y mae gwarediad cofrestradwy ystad neu arwystl cofrestredig mewn grym.”

At ddiben y cyfarwyddyd hwn, pwysigrwydd y ddarpariaeth hon yw, os oes angen gwarediad cofrestradwy er mwyn cyflawni’r cywiriad neu’r newid o weithred sydd eisoes wedi’i chofrestru, rhaid i warediad cofrestradwy pellach gydymffurfio ag unrhyw ofynion perthnasol Rheolau Cofrestru Tir 2003 sy’n ymwneud â ffurf a chynnwys y gwarediad. Gweler Trosglwyddiadau – trosglwyddo stent anghywir a Trosglwyddiadau – trosglwyddo’r stent cywir ond mae angen newid darpariaethau eraill yn y trosglwyddiad, o ran canlyniadau hyn mewn perthynas â throsglwyddiadau sydd angen eu cywiro neu eu newid a Prydlesi – prydlesu’r stent neu’r cyfnod anghywir a Prydlesi – stent a chyfnod cywir wedi’u prydlesu ond mae angen newid darpariaethau eraill o ran canlyniadau mewn perthynas â phrydlesi y mae angen eu cywiro neu eu newid.

4.2 Trosglwyddiadau – trosglwyddo stent anghywir

Gall y partïon i drosglwyddiad benderfynu ar ôl ei gofrestru:

  • iddo gynnwys tir na ddylid fod wedi’i gynnwys
  • iddo fethu â chynnwys tir y dylid fod wedi’i gynnwys
  • iddo wneud y ddau (er enghraifft lle y dylai’r ffin rhwng y tir a drosglwyddwyd a’r tir a gadwyd fod wedi dangos aliniad gwahanol mewn trosglwyddiad o ran)

4.2.1 Defnyddio ffurflenni penodedig ac enghreifftiau o amgylchiadau lle y mae angen newid y weithred wreiddiol

Os, o ganlyniad, mae’r partïon yn penderfynu y dylid cywiro neu newid effaith cofrestriad y trosglwyddiad trwy drefnu i’r tir sydd wedi’i freinio yn un ohonynt ar hyn o bryd gael ei freinio yn y llall a/neu fel arall, rhaid peri’r cywiriad neu’r newid gan un neu ragor o drosglwyddiadau yn y ffurf benodedig. Bydd hyn yn drosglwyddiad ar ffurflen TR1, os effeithir ar un neu ragor o deitlau, neu ar ffurflen TP1 os effeithir ar ran o’r tir mewn teitl (p’un ai yr effeithir ar un neu ragor o deitlau hefyd ai peidio). Mae hyn oherwydd mai trosglwyddiad yn y ffurf benodedig, wedi’i ddilyn gan gofrestru’r trosglwyddiad, yw’r unig ddull awdurdodedig i dir sydd wedi’i freinio mewn perchennog cofrestredig penodol i gael ei freinio mewn person arall. Ni fydd y defnydd o unrhyw ffurf arall (megis y ffurflenni ar gyfer gweithred gywiro neu weithred amrywio a allai fod yn briodol ar gyfer delio â thir cofrestredig) yn dderbyniol ar gyfer cofrestru ac ni fyddant o effaith o dan adran 25 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

4.2.1.1 Cynllun trosglwyddo yn wahanol i’r stent wedi ei ffensio

Enghraifft 4: Mae datblygwr D yn berchennog cofrestredig ystad sy’n cael ei datblygu ac mae’n cwblhau gwerthiant o lain 16 ar yr ystad i brynwr B trwy drosglwyddiad sy’n dangos y llain ag ymyl coch ar y cynllun trosglwyddo (gweler cynllun 1 isod).

Ar ôl cofrestru’r trosglwyddiad sylwir bod is-gontractwr ffensio’r datblygwr wedi codi ffens sy’n gwahanu llain 16 o lain 17 ar y tir mewn safle gwahanol i’r safle bwriadedig (gweler cynllun 2 isod).

Mae’r partïon yn cytuno, yn hytrach na symud y ffensys (er enghraifft oherwydd i’r ffens gael ei osod i osgoi coeden a ddiogelir gan orchymyn cadw), y byddant yn cywiro’r cofrestriad yn unol â’r hyn sydd ar y ddaear trwy amrywio effaith y trosglwyddiad gwreiddiol mewn perthynas â’r tir a drosglwyddwyd. Er mwyn cyflawni hyn, bydd angen trefnu i D drosglwyddo’r tir glas ar gynllun 2 i B gan ddefnyddio ffurflen TP1 ac i B drosglwyddo’r tir brown ar gynllun 2 i D gan ddefnyddio ffurflen TP1 ar wahân (er, heb amheuaeth, y bydd y ffurflenni’n cyfeirio at y llall fel cydnabyddiaeth am y trosglwyddiad y mae’n effeithio arno). Mewn gwirionedd, bydd B a D yn trefnu cyfnewid tir trwy drosglwyddiadau cilyddol yn y ffurflen benodedig (gweler cyfarwyddyd ymarfer 21: defnyddio ffurflenni trosglwyddo ar gyfer trafodion cymhlethach.

Dylid paratoi’r ffurflenni trosglwyddo yn y modd arferol a dylent nodi’r tir i’w drosglwyddo’n amlwg, lle bo’r angen trwy gyfeirio at gynllun priodol. Mae angen gofal wrth benderfynu sut y dylid cyflawni’r cywiriad neu’r newid a ddymunwyd orau, yn arbennig lle y cafwyd trafodion eraill sy’n effeithio ar y sefyllfa, er enghraifft, fel bydd yn digwydd yn aml ar ystad sy’n cael ei datblygu.

4.2.1.2 Y cynllun trosglwyddo’n darlunio’r tir a drosglwyddir yn anghywir

Enghraifft 5: Mae’r datblygwr yn Enghraifft 4 wedi trosglwyddo lleiniau 24, 25, 26 a 27 ar yr ystad, sy’n eiddo mewn parau ar y naill ochr a’r llall o cul-de-sac byr oddi ar brif ffordd yr ystad. Oherwydd gwall clercio, roedd y cynllun a ddefnyddiwyd wrth drosglwyddo’r lleiniau yn fersiwn gynharach o gynllun y datblygiad a oedd yn dangos y ffordd sy’n ffurfio’r cul-de-sac mewn safle 1.5 metr yn agosach at leiniau 24 a 25 a’r pellter ymhellach o leiniau 26 a 27. Er mwyn cywiro’r gwall, mae’r datblygwr yn cynnig trosglwyddo stribyn 1.5 metr o dir priodol i berchnogion cofrestredig lleiniau 24 a 25 a chael trosglwyddiadau o stribynnau tua 1.5 metr gan berchnogion cofrestredig lleiniau 26 a 27 o’u teitlau priodol (gan dalu iawndal priodol iddynt). Fodd bynnag, os rhoddwyd hawliau tramwy dros ffyrdd yr ystad i drosglwyddeion lleiniau eraill, gan gynnwys y cul-de-sac, sydd wedi’u nodi ar eu cynlluniau trosglwyddo trwy gyfeirio at yr un cynllun anghywir, bydd y tir a drosglwyddwyd i berchnogion cofrestredig lleiniau 24 a 25 yn ddarostyngedig i’r hawliau tramwy hyn o hyd oni bai bod y partïon hefyd yn ymrwymo i weithredoedd amrywio priodol gyda pherchnogion cofrestredig y lleiniau eraill sydd â budd yr hawliau.

4.2.1.3 Effaith ar hawddfreintiau

Yn y trosglwyddiad gwreiddiol, mae’n bosibl i’r trosglwyddai:

  • fod wedi rhoi hawddfreintiau dros dir a gadwyd er budd y tir a drosglwyddwyd
  • fod wedi cadw hawddfreintiau dros dir a drosglwyddwyd er budd tir a gadwyd
  • fod wedi gosod cyfamodau cyfyngu ar y trosglwyddai mewn perthynas â’r defnydd o’r tir a drosglwyddwyd
  • fod wedi cynnwys darpariaethau eraill yn effeithio ar berchnogion o bryd i’w gilydd y tir a drosglwyddwyd neu’r tir a gadwyd neu’r ddau (er enghraifft datganiadau o wahanol fathau a chynlluniau sy’n llywodraethu ar gyfraniad y trosglwyddai tuag at gost cynnal y rhannau cyffredin)

Mewn achosion o’r fath, bydd yn agored i’r partïon, os ydynt yn dymuno hynny, i gynnwys y fath ddarpariaethau wrth addasu’r trosglwyddiad(au) a fydd yn golygu bod y darpariaethau gwreiddiol yn gweithredu fel pe bai’r trosglwyddiad gwreiddiol wedi cynnwys y tir a dim ond y tir y bydd y trosglwyddai yn ei ddal ar ôl i’r trosglwyddiad(au) addasu gael ei gofrestru/eu cofrestru. Mae’r canlynol yn enghreifftiau o gymalau o’r fath (sy’n tybio i’r ymadrodd ‘Trosglwyddiad Gwreiddiol’ fod wedi’i ddiffinio’n briodol mewn man arall yn y trosglwyddiad):

“Mae’r Trosglwyddwr a’r Trosglwyddai yn cytuno i roi, cadw a rhyddhau hawddfreintiau ag sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau y bydd y tir y bydd y Trosglwyddai yn dod yn berchennog cofrestredig arno yn syth ar ôl cofrestru’r trosglwyddiad hwn [a throsglwyddiad cydamserol gan y Trosglwyddai i’r Trosglwyddwr o ran o’r tir yn nheitl [rhif]] yn cael budd a bod yn ddarostyngedig i’r un hawddfreintiau fel pe bai’r holl dir hwnnw a dim ond y tir hwnnw wedi’i drosglwyddo gan y Trosglwyddiad Gwreiddiol.”

“Mae’r Trosglwyddai yn cyfamodi gyda’r Trosglwyddwr [ac mae’r Trosglwyddwr yn rhyddhau’r Trosglwyddai o’r cyfamodau y cyfeirir atynt yng nghymal [rhif] y Trosglwyddiad Gwreiddiol] i’r graddau angenrheidiol er mwyn sicrhau mai’r tir y daw’r Trosglwyddai yn berchennog cofrestredig ohono yn syth ar ôl cofrestru’r trosglwyddiad hwn [a throsglwyddiad cydamserol gan y Trosglwyddai i’r Trosglwyddwr o ran o’r tir yn nheitl [rhif]] a dim ond y tir hwnnw fydd yn ddarostyngedig i’r cyfamodau o dan sylw.”

4.2.1.4 Gofynion cofrestru

Bydd angen cwblhau trosglwyddiadau o’r fath gan geisiadau i’w cofrestru ar ffurflen AP1 gyda’r ffi briodol yn y ffurf arferol. Yn ogystal, lle bo trosglwyddiad neu drosglwyddiadau trwy fodd cywiriad neu newid, efallai bydd y ceisydd am wneud cais i’w cyfuno â theitl presennol fel bod y cofrestriadau terfynol yn cyfateb mor agos â phosibl i’r safle pe nad oedd angen cywiro neu newid y trosglwyddiad gwreiddiol.

4.2.1.5 Arwystlon cofrestredig presennol

Os yw teitl y mae tir sy’n rhan ohono i’w drosglwyddo yn y modd hwn yn ddarostyngedig i arwystl cofrestredig, bydd angen gwneud trefniadau i ryddhau’r arwystl i’r graddau y caiff y tir ei dynnu ymaith o deitl yr arwystlwr gan y trosglwyddiad cywiro/newid hefyd. Fel rheol bydd hyn ar ffurflen DS3 a weithredir gan yr arwystlai lle mai dim ond rhan o’r tir yn y teitl perthnasol sy’n cael ei drosglwyddo. Lle y dylid trosglwyddo un teitl cyfan neu ragor, bydd yn rhaid i’r rhyddhad fod ar ffurflen DS1 neu gael ei gyflawni gan e-DS1 neu ryddhad electronig (ED) lle y mae’r arwystlai fel rheol yn rhyddhau ei arwystlon yn y modd hwn.

Yn yr un modd, os prif deitl a ddelir gan y trosglwyddai o dan y trosglwyddiad gwreiddiol yw testun yr arwystl cofrestru, mae’n debygol y bydd angen i berchennog yr arwystl geisio trosglwyddo unrhyw dir i’r trosglwyddai gael ei wneud yn ddarostyngedig i’r arwystl hefyd. Bydd hyn yn gofyn am gyflawni arwystl cyfreithiol pellach gan y trosglwyddai mewn perthynas â’r tir ychwanegol a drosglwyddwyd neu ryddhau’r arwystl presennol a chyflawni arwystl newydd sy’n cynnwys y tir sy’n weddill a freinir yn y trosglwyddai o dan y trosglwyddiad gwreiddiol a’r tir ychwanegol a drosglwyddir i’r trosglwyddai.

4.2.1.6 Cydymffurfio â chyfyngiadau a chofnodion eraill yn y gofrestr

Bydd angen i’r partïon ystyried unrhyw gofnodion eraill yn y cofrestri teitl yr effeithir arnynt hefyd. Er enghraifft, os cofrestrir cyfyngiad yn erbyn teitl o’r fath, bydd angen i’r cyfyngiad gydymffurfio â’r cyfyngiad i’r graddau y mae’n cyfyngu gwarediadau trwy drosglwyddiad.

4.3 Trosglwyddiadau – trosglwyddo’r stent cywir ond mae angen newid darpariaethau eraill yn y trosglwyddiad

4.3.1 Ffurf offeryn

Lle nad oes angen trosglwyddo tir, gall y cywiriad neu’r newid o unrhyw elfennau eraill o drosglwyddiad gwreiddiol sydd eisoes wedi’i gofrestru gael eu peri gan weithred amrywio. Nid oes ffurflen benodedig ar gyfer hyn, felly gall y weithred gymryd unrhyw ffurf y mae’r partïon o’r farn sy’n briodol i gyflawni’r cywiriad neu newid a ddymunir.

Pan nad yw’r weithred yn nodi’n benodol pa rannau o’r weithred wreiddiol sy’n cael eu hamrywio, dylech anfon eglurhad er mwyn cymryd y camau cywir yn y gofrestr.

4.3.2 Amrywio hawddfreintiau

Mewn perthynas â’r cywiriad neu’r newid o ddarpariaeth yn y trosglwyddiad gwreiddiol sy’n rhoi neu’n cadw hawddfreintiau, mae rhoi neu gadw hawddfraint yn warediad cofrestradwy y bydd yn rhaid ei gwblhau trwy gofrestriad er mwyn dod i rym cyfreithiol. Fodd bynnag, nid oes ffurflen benodedig ar gyfer gwarediad o’r fath felly gall gweithred amrywio ddilyn yr un ffurf ag a ddefnyddir i amrywio darpariaethau cyfatebol mewn trawsgludiad o dir digofrestredig, ar yr amod bod geiriau rhoi (lle bo angen rhoi hawddfreintiau ychwanegol) neu gadw (lle bo angen cadw hawddfreintiau ychwanegol) priodol. I’r graddau ag y mae’r trosglwyddiad gwreiddiol yn cynnwys hawddfreintiau y mae’r partïon yn cytuno na ddylid fod wedi’u rhoi, gallai’r cywiriad fod ar ffurf rhyddhau’r hawddfreintiau diangen gan y parti neu’r partïon perthnasol. Os cafodd unrhyw dir sy’n cael budd o’r hawddfraint ei drosglwyddo i’r unigolion eraill, bydd angen i’r unigolion hynny ymuno mewn unrhyw ryddhad hefyd er mwyn i’r rhyddhad fod yn effeithiol.

4.3.3 Amrywio cyfamodau cyfyngu

Mewn perthynas â’r cywiriad neu’r newid i ddarpariaethau yn y trosglwyddiad gwreiddiol fyddai’n gosod cyfamodau cyfyngu, unwaith eto gall gweithred amrywio gymryd yr un ffurf ag a ddefnyddir i amrywio darpariaethau cyfatebol mewn trawsgludiad o dir digofrestredig. I’r graddau ag y byddai’r trosglwyddiad gwreiddiol wedi hepgor cyfamodau a ddylent fod wedi’u cynnwys, dylai’r weithred gynnwys geiriau cyfamod gan y cyfamodwr perthnasol mewn perthynas â’r cyfamod(au) ychwanegol er mwyn cyflawni’r cywiriad neu’r newid. Pe cafodd cyfamodau eu cynnwys yn y trosglwyddiad gwreiddiol na ddylent fod wedi’u cynnwys, dylai’r weithred ryddhau’r cyfamod(au) presennol i’r graddau angenrheidiol. Fel arall, gall y weithred amrywio geiriad cyfamod presennol yn syml sydd wedi’i fynegi’n anghywir. Yn y naill achos a’r llall, os yw unrhyw dir o blaid y cyfamod i gael ei ryddhau neu ei amrywio wedi’i drosglwyddo i unigolion eraill, bydd angen i’r bobl hynny ymuno yn y weithred er mwyn i’r rhyddhad neu’r amrywiad fod yn effeithiol.

4.3.4 Gofynion cofrestru

Er mwyn cael effaith cyfreithiol, rhaid i gais i addasu neu amrywio hawddfreintiau gael ei wneud yn erbyn y teitlau trech a’r teitlau caeth gan ddefnyddio ffurflen AP1. P’un ai yw’r naill deitl neu’r llall yn ddigofrestredig, rhaid cyflwyno tystiolaeth ddogfennol o deitl yn y ffordd arferol. Os yw’r tir caeth yn gofrestredig a’r tir trech yn ddigofrestredig, gellir gwneud cais i addasu’r hawddfraint a nodir ar y teitl caeth ar ffurflen AP1 neu AN1 ar ôl 6 Ebrill 2018, ond dim ond os cofrestrwyd yr hawddfraint yn erbyn y teitl caeth gan ddefnyddio ffurflen AP1 cyn 6 Ebrill 2018 (rheol 90 o Reolau Cofrestru Tir 2003, fel y’u haddaswyd). Fel arall, gellir gwneud cais i nodi’r amrywiad gan ddefnyddio ffurflen AN1 neu ffurflen UN1.

Dylid gwneud cais gan berson sy’n hawlio perchnogaeth y tir sy’n cael budd ar gyfer nodi rhybudd mewn perthynas ag addasiad neu amrywiad cyfamod cyfyngu gael ei wneud ar ffurflen AN1 neu UN1. Rhaid gwneud cais gan y perchennog cofrestredig gan ddefnyddio ffurflen AP1. Os yw’r cais i ddileu cyfamodau cyfyngu, dylid defnyddio ffurflen CN1. Os gwneir cais ar gyfer cofnod mewn perthynas â gweithred ryddhau (nad yw’n creu cyfamodau newydd hefyd) dylid defnyddio ffurflen AP1.

Os yw’r amrywiad neu’r addasiad yn ymwneud â materion yn y trosglwyddiad heblaw’r stent a drosglwyddir, neu hawddfreintiau, neu gyfamodau cyfyngu, gall perchennog cofrestredig y teitl yr effeithir arno wneud cais i nodi’r weithred gan ddefnyddio ffurflen AP1 (neu gall y parti arall i’r weithred wneud cais ar ffurflen AN1 neu UN1). Mewn achosion o’r fath dim ond cofnod ‘heb ei warantu’, yn debyg i’r canlynol, y byddwn yn ei wneud:

‘Mynegir bod gweithred [gywiro/amrywio/addasu] sy’n ddyddiedig [dyddiad] a wnaed rhwng [partïon] yn atodol i’r Trosglwyddiad dyddiedig [dyddiad y trosglwyddiad] y cyfeirir ato uchod.’

Os yw gweithred o’r fath yn cyd-fynd â chais safonol ond ni cheir cyfeiriad ati yn y ffurflen gais (neu caiff ei chyflwyno gyda, neu ceir cyfeiriad ati, mewn llythyr eglurhaol yn unig), ni chymerir unrhyw gamau gennym felly ni wneir unrhyw gofnod yn y gofrestr.

Os yw unrhyw un o’r teitlau perthnasol yn ddarostyngedig i’r arwystl cofrestredig, bydd angen cyflwyno cydsyniad perchennog yr arwystl hefyd lle bo baich y ddarpariaeth yn y trosglwyddiad gwreiddiol sy’n cael ei gywiro neu ei newid yn cynyddu neu’n newid. Ni fydd angen cydsyniad o’r fath lle gall y ceisydd ddangos bod y cywiriad neu’r newid er budd y teitl sy’n ddarostyngedig i’r arwystl yn unig (er enghraifft lle mai’r unig newid i’r trosglwyddiad gwreiddiol yw rhoi hawddfreintiau er budd y teitl yn unig).

4.4 Prydlesi – prydlesu’r stent neu’r cyfnod anghywir

Fel gyda throsglwyddiadau, ar ôl ei gofrestru gall y partïon i brydles benderfynu:

  • iddo gynnwys tir na ddylid fod wedi’i gynnwys
  • iddo fethu â chynnwys tir y dylid fod wedi’i gynnwys
  • iddo wneud y ddau (er enghraifft lle bo’r ffin rhwng yr eiddo a brydleswyd a thir arall a gedwir gan y landlord fod wedi’i ddangos mewn aliniad gwahanol)

Fodd bynnag, bydd cofrestru’r brydles wedi creu ystad brydlesol ar wahân, gyda’r stent wedi’i ddiffinio gan y brydles ei bod yn gofrestredig. Os yw’r partïon yn penderfynu bod angen cywiro neu newid y brydles trwy dynnu tir ymaith, neu trwy ychwanegu tir, at yr eiddo a brydleswyd, bydd angen iddynt ystyried hyn wrth baratoi’r weithred briodol, fel y trafodir yn y paragraffau canlynol.

4.4.1 Lleihau’r stent a brydleswyd

Bydd gweithred sy’n lleihau faint o dir sydd wedi’i gynnwys mewn prydles yn weithred ildio o’r rhan na chaiff ei chynnwys mwyach yn y brydles (yn wir, fel rheol bydd yn fuddiol i ddealltwriaeth gywir o’r hyn a fwriedir os yw’r weithred yn disgrifio’i hun felly).

Lle bo gweithred amrywio prydles yn rhoi rhan o’r eiddo a brydleswyd trwy brydles wreiddiol i’w thrin fel nad yw mwyach yn ddarostyngedig i’r brydles, p’un ai yw’r weithred yn disgrifio’i hun fel gweithred ildio neu beidio, bydd angen ei thrin felly at ddibenion cofrestru. Yn benodol:

  • os yw teitl prydlesol y tenant yn ddarostyngedig i arwystl cofrestredig, bydd angen i berchennog yr arwystl ryddhau’r arwystl i’r rhan o’r tir yn y teitl sy’n cael ei ildio gan ddefnyddio ffurflen DS3
  • os yw teitl prydlesol tenant yn ddarostyngedig i gyfyngiad yn erbyn gwarediadau o’r tir, bydd angen cydymffurfio â’r cyfyngiad

Gweler cyfarwyddyd ymarfer 26: prydlesi, terfynu

4.4.2 Ymestyn y stent a brydleswyd

Ni ellir ymestyn ystad brydlesol ar ôl ei chreu i dir nad oedd wedi’i gynnwys yn y brydles pan gafodd ei chreu. O ganlyniad, ystyrir bod gweithred sy’n honni ychwanegu tir at yr eiddo a brydleswyd trwy brydles sydd eisoes wedi’i chofrestru yn peri ildiad trwy weithredu’r gyfraith y brydles bresennol (fel bod yr ystad brydlesol bresennol yn dod i ben) ac fel rhoi prydles newydd y tir yn y brydles wreiddiol a’r tir sy’n cael ei ychwanegu at yr eiddo a brydleswyd (fel bod ystad brydlesol newydd yn cael ei chreu – pan gaiff y weithred ei chofrestru). Ceir rhagor o fanylion yng nghyfarwyddyd ymarfer 28: ymestyn prydlesi.

Lle bo’r partïon i brydles yn dymuno ei hamrywio fel ei bod yn cynnwys tir ychwanegol yn yr eiddo a brydleswyd, mae’n agored iddynt gyflawni hyn yn y ffyrdd canlynol.

Prydles newydd o dir ychwanegol

Gadael y brydles bresennol heb ei chyffwrdd trwy roi prydles newydd o’r eiddo ychwanegol yn unig, i gynnwys y fath delerau y mae’r partïon yn ystyried yn briodol at ddibenion cymhwyso telerau’r brydles wreiddiol i’r tir ychwanegol fel pe bai wedi’i gynnwys yn y brydles wreiddiol. Gweler Cymalau penodedig o ran ffurf prydles o’r fath. Sylwer nad yw’n bosibl creu prydles yn dechrau mwy na 21 mlynedd ar ôl dyddiad y grant (adran 149(3) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925). Bydd angen cyflwyno cais i gofrestru’r brydles newydd i Gofrestrfa Tir EF yn y ffordd arferol, ar yr amod ei fod am gyfnod o 7 mlynedd neu ragor o ddyddiad y brydles (os nad yw, ni ellir cofrestru’r brydles ond gall cais i nodi’r brydles yn erbyn teitl y landlord fod yn bosibl). Yn ogystal, os caiff arwystl ei gofrestru yn erbyn teitl prydlesol presennol, efallai bydd y partïon am drefnu i’r arwystl gael ei ymestyn yn effeithiol i’r teitl prydlesol ychwanegol a fydd yn arwain at drefnu i’r tenant gyflawni arwystl cyfreithiol newydd o dan delerau priodol mewn perthynas â’r tir ychwanegol, neu trwy drefnu i’r arwystl presennol gael ei ryddhau a chyflawni arwystl cyfreithiol newydd gan y tenant mewn perthynas â’r teitl prydlesol presennol a’r brydles newydd.

Gweithred amrywio a ystyrir fel ildiad ac ail-grant

Bydd peri gweithred amrywio, fel y trafodwyd eisoes, yn gweithredu’n gyfreithiol fel ildiad trwy weithredu’r gyfraith o’r brydles wreiddiol a rhoi prydles newydd ar gyfer yr eiddo estynedig cyfun. Gweler Cymalau penodedig ar gyfer ffurf gweithred o’r fath. Bydd angen dilyn hyn gyda cheisiadau ar ffurflen AP1 i gau’r teitl prydlesol presennol ar ildiad gan y tenant, ac, ar yr amod y caiff y brydles newydd ei chreu gan y weithred sy’n fwy na saith mlynedd o ddyddiad y weithred, cofrestru’r brydles newydd a grëwyd gan y weithred. Os nad yw cyfnod y brydles newydd yn fwy na saith mlynedd o ddyddiad y weithred, dim ond cofrestriad safonol fydd yn bosibl gan y weithred mewn perthynas ag ildio’r brydles bresennol, er gellir gwneud cais i nodi’r brydles newydd yn erbyn teitl y landlord. Lle bo’r teitl prydlesol presennol yn ddarostyngedig i arwystl cofrestredig, bydd angen rhyddhad ar ffurflen DS1 (neu trwy fodd e-DS1 neu ryddhau electronig os yw’r rhoddwr benthyg yn rhyddhau yn y dull hwn fel rheol) gyda’r cais i gofrestru’r weithred. Ar yr un pryd, os yw’n ddymunol trefnu i sicrwydd y rhoddwr benthyg gael ei drosglwyddo i’r brydles newydd, bydd yn rhaid i’r tenant gyflawni arwystl newydd o blaid y rhoddwr benthyg dros y brydles a rhoddwyd gan y weithred. Os yw teitl y landlord yn ddarostyngedig i arwystl cofrestredig, bydd angen cydsyniad ysgrifenedig perchennog yr arwystl gydag unrhyw gais i gofrestru’r brydles newydd a grëwyd gan y weithred.

Gweithred ildio a phrydles newydd am gyfnod estynedig

Effaith ildiad datganedig o’r brydles bresennol a phrydles newydd ar wahân yr eiddo estynedig cyfun. Gweler Cymalau penodedig ar gyfer ffurf y brydles newydd. Yna bydd angen cofrestru’r weithred ildio ar ffurflen AP1 ac, ar yr amod bod telerau’r brydles newydd yn fwy na saith mlynedd o ddyddiad y weithred, i gofrestru’r brydles newydd yn y modd arferol. Os nad yw cyfnod y brydles newydd yn fwy na saith mlynedd o ddyddiad ei gweithredu, ni fydd modd cael cofrestriad safonol, er bod cais i’w nodi yn erbyn teitl cofrestredig y landlord yn bosibl. Lle bo teitl prydlesol presennol yn ddarostyngedig i arwystl cofrestredig, bydd angen rhyddhad ar ffurflen DS1 (neu trwy fodd e-DS1 neu ryddhau electronig os yw’r rhoddwr benthyg yn rhyddhau arwystlon yn y modd hwn fel rheol) gyda’r cais i gofrestru’r ildiad. Ar yr un pryd, os yw’n ddymunol trefnu i sicrwydd y rhoddwr benthyg gael ei drosglwyddo i’r brydles newydd, bydd angen i’r tenant gyflawni arwystl newydd o blaid y rhoddwr benthyg dros y brydles newydd. Os yw teitl y landlord yn ddarostyngedig i arwystl cofrestredig, bydd angen cydsyniad ysgrifenedig perchennog yr arwystl gydag unrhyw gais i gofrestru’r brydles newydd.

4.4.3 Cymalau penodedig

Pryd y mae eu hangen
  • lle y rhoddir prydles am gyfnod o fwy na saith mlynedd o ddyddiad rhoi’r teitl cofrestredig, neu mewn amgylchiadau lle bo’r tir yn ddigofrestredig ond ei bod yn orfodol i’r landlord wneud cais am gofrestriad cyntaf ei deitl
  • lle bo gweithred amrywio yn cynnwys ildiad datganedig y brydles newydd a’r brydles newydd
Pryd nad oes angen

Lle nad yw gweithred amrywio yn cynnwys ildiad datganedig a rhoi prydles newydd, ond yn ymestyn cyfnod neu stent y brydles bresennol trwy amrywio cymalau’r brydles bresennol. Er hynny, caiff hyn ei drin yn y gyfraith fel peri ildiad y brydles bresennol trwy weithredu’r gyfraith a rhoi prydles newydd ar unwaith.

4.4.4 Ymestyn y cyfnod

Lle bo’r partïon i brydles yn dymuno ei hamrywio er mwyn ymestyn y cyfnod, gallent wneud hynny yn y ffyrdd canlynol.

4.4.5 Gweithred amrywio

Gan fod hyd ystad brydlesol wedi’i diffinio gan y brydles greu (ar ôl cofrestru lle bo’r brydles ar gyfer tir cofrestredig), gall gweithred amrywio sy’n honni ei bod yn ymestyn cyfnod prydles bresennol hefyd ddod i rym yn y gyfraith trwy ildiad tybiedig trwy weithredu’r gyfraith y brydles bresennol a rhoi prydles newydd ar gyfer y cyfnod estynedig. Yn unol â hynny, lle bo gweithred amrywio prydles yn darparu i gyfnod y brydles wreiddiol gael ei ymestyn y tu hwnt i’r cyfnod a roddwyd yn y brydles wreiddiol, yna, waeth a yw’r weithred yn disgrifio’i hun fel gweithred ildio ac ail-roi neu beidio, bydd angen ei thrin felly at ddibenion cofrestru. Ni ddaw’r ildiad i rym yn gyfreithiol hyd nes y bydd y weithred wedi cael ei chofrestru ac y bydd y teitl prydlesol presennol wedi’i gau mewn perthynas â’r rhan o dir sydd wedi’i gynnwys yn yr ildiad. Os yw teitl prydlesol y tenant yn ddarostyngedig i arwystl cofrestredig bydd angen i berchennog yr arwystl ryddhau’r arwystl sy’n ymwneud â’r rhan o dir yn y teitl a ildir gan ddefnyddio ffurflen DS3. Os yw teitl prydlesol y tenant yn ddarostyngedig i gyfyngiad yn erbyn gwarediadau’r tir, bydd angen cydymffurfio â’r cyfyngiad.

Gweler cyfarwyddyd ymarfer 26: prydlesi: terfynu i gael rhagor o wybodaeth am gofrestru gweithredoedd ildio.

Gweler cyfarwyddyd ymarfer 28: ymestyn prydlesi i gael rhagor o wybodaeth am weithredoedd i ymestyn cyfnod prydles.

4.4.6 Prydles rifersiwn

Gadael y brydles bresennol heb ei chyffwrdd trwy roi prydles bellach o’r un eiddo am gyfnod sy’n dechrau pan ddaw’r brydles bresennol i ben ac sy’n gorffen ar ddyddiad terfynol y cyfnod estynedig. Gweler Cymalau penodedig ar gyfer ffurf prydles o’r fath. Bydd angen cyflwyno cais i gofrestru’r brydles newydd i Gofrestrfa Tir EF yn y modd arferol, ar yr amod ei bod am gyfnod sy’n dechrau mwy na thri mis ar ôl y dyddiad rhoi a/neu mae’r cyfnod am fwy na saith mlynedd o’r dyddiad rhoi. Yn ogystal, os caiff arwystl ei gofrestru yn erbyn y teitl prydlesol presennol, efallai bydd y partïon yn dymuno trefnu i’r arwystl gael ei ymestyn i’r teitl prydlesol ychwanegol a fydd yn arwain at drefnu i’r tenant gyflawni arwystl cyfreithiol newydd gyda thelerau priodol mewn perthynas â’r brydles ychwanegol, neu trwy drefnu i’r arwystl presennol gael ei ryddhau ac i arwystl cyfreithiol newydd gael ei gyflawni gan y tenant mewn perthynas â’r naill brydles a’r llall.

4.4.7 Gweithred ildio a phrydles newydd o stent cyfun

Peri ildiad datganedig y brydles bresennol a phrydles newydd ar wahân ar gyfer y cyfnod estynedig. Gweler Cymalau penodedig ar gyfer ffurf y weithred newydd. Bydd angen ceisiadau ar ffurflen AP1 er mwyn cofrestru gweithred ildio ac, ar yr amod bod cyfnod y brydles newydd yn fwy na saith mlynedd o ddyddiad y weithred, cofrestru’r brydles newydd yn y modd arferol. Os nad yw cyfnod y brydles newydd yn fwy na saith mlynedd o ddyddiad ei gweithredu, ni fydd yn bosibl ei chofrestru’n safonol er efallai bydd yn bosibl cofrestru nodyn yn erbyn teitl cofrestredig y landlord. Lle bo’r teitl prydlesol presennol yn ddarostyngedig i arwystl cofrestredig, bydd angen rhyddhad ar ffurflen DS1 (neu trwy fodd e-DS1 neu ryddhau electronig os yw’r rhoddwr benthyg yn rhyddhau arwystlon yn y modd hwn fel rheol) gyda’r cais i gofrestru’r ildiad. Ar yr un pryd, os dymunir trefnu i sicrwydd y rhoddwr benthyg gael ei drosglwyddo i’r brydles newydd, bydd angen i’r tenant gyflawni arwystl newydd o blaid y rhoddwr benthyg dros y brydles newydd. Os yw teitl y landlord yn ddarostyngedig i arwystl cofrestredig, bydd angen cydsyniad ysgrifenedig perchennog yr arwystl gydag unrhyw gais i gofrestru’r brydles newydd.

4.5 Prydlesi – stent a chyfnod cywir wedi’u prydlesu ond mae angen newid darpariaethau eraill

Mewn achosion o’r fath, gellir peri cywiro neu newid unrhyw elfennau eraill yn y brydles sydd eisoes wedi’i chofrestru gan weithred amrywio.

Os gwnaed datganiad o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Sylfaenol) 2022 naill ai gan Dribiwnlys yr Haen Gyntaf (yn Lloegr) neu’r Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau (yng Nghymru), gweler adran 8 o gyfarwyddyd ymarfer 27: y ddeddfwriaeth diwygio cyfraith lesddaliad. Nid yw datganiad o’r fath yn amrywiad ar y brydles, gan mai’r cyfan mae’r Tribiwnlys yn ei wneud yw datgan yr hyn y mae’r Ddeddf yn barnu bod y brydles wedi ei dweud ar hyd yr amser. Ni fydd hyn fel arfer yn golygu diwygio’r brydles sy’n bodoli na chwblhau unrhyw weithred newydd.

4.5.1 Ffurf offeryn

Nid oes ffurf benodedig ar gyfer hyn, felly gall y weithred gymryd unrhyw ffurf y mae’r partïon yn ei hystyried yn briodol i gyflawni’r cywiriad neu’r newid a ddymunir.

4.5.2 Newid y gofrestr i gofnodi amrywiad y brydles yn gyffredinol

Gellir cofnodi gweithred o’r fath yn y gofrestr trwy newid teitlau’r landlord a’r tenant yr effeithiwyd arnynt gan y brydles. Dylid defnyddio ffurflen AP1 ynghyd â chopi ardystiedig o’r weithred amrywio (yn dangos cyflawni gan y landlord a’r tenant) ynghyd â’r ffi angenrheidiol i wneud y cais i gofrestru’r weithred. Os yw unrhyw un o’r teitlau perthnasol yn ddarostyngedig i arwystl cofrestredig, bydd angen cyflwyno cydsyniad perchennog yr arwystl hefyd, er na fydd angen cydsyniad o’r fath lle gall y ceisydd ddangos mai er budd y teitl sy’n ddarostyngedig i’r arwystl yn unig y mae’r cywiriad neu newidiad (er enghraifft, lle mai dim ond rhoi hawddfraint ychwanegol er budd y teitl a arwystlir yw’r amrywiad). Os nad yw cydsyniad yr arwystlai’n cael ei gyflwyno pan fo’n ofynnol, caiff y canlynol ei ychwanegu at gofnod cofrestr y teitlau perthnasol:

‘NODYN: Nid oedd perchennog yr arwystl cofrestredig dyddiedig […] [o rif teitl … y landlord/tenant] yn rhan o’r weithred ac ni chyflwynwyd tystiolaeth o’i gydsyniad â’r weithred i’r cofrestrydd.’

4.5.3 Rhybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog o amrywio’r brydles yn gyffredinol

Fel arall, gall y tenant wneud cais i rybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog o’r amrywiad gael ei gofnodi yng nghofrestr teitl y landlord. Dylid gwneud cais am rybudd a gytunwyd ar ffurflen AN1, ynghyd â chopi ardystiedig o’r weithred amrywio (yn dangos cyflawni gan y landlord) a’r ffi ofynnol. Dylid gwneud cais am rybudd unochrog ar ffurflen UN1, ynghyd â’r ffi ofynnol. Nid yw’n bosibl gwneud cais am rybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog o amrywio’r brydles ei hunan yng nghofrestr teitl y tenant.

4.5.4 Ceisiadau mewn perthynas â buddion penodol eraill

Gall rhai amrywiadau i brydlesi greu neu amrywio buddion perchnogol eraill hefyd. Yn ogystal â’r ceisiadau a grybwyllir uchod sy’n ymwneud ag amrywio’r brydles yn gyffredinol, dylai’r parti sydd â buddion o’r fath ystyried pa gais arall y gallai fod ei angen i’w warchod. Gall hynny olygu weithiau (megis mewn perthynas â hawddfreintiau) nodi unrhyw warediad cofrestradwy allan o ystad gofrestredig, sy’n gofyn am gais ar ffurflen AP1 i’w chwblhau trwy gofrestriad.

Gall buddion eraill gael eu gwarchod ar wahân trwy rybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog yn y teitl sydd â’r baich. Gall y teitl hwnnw fod yn deitl i’r brydles, i’r rifersiwn neu i dir arall sy’n cael ei ddal gan barti i’r amrywiad.

Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • hawl tenant i adnewyddu’r brydles, i gaffael rifersiwn neu brydles arall ar y tir a brydlesir, neu i gaffael budd mewn tir arall
  • cyfamod tenant i (neu i gynnig) ildio’r brydles
  • hawl landlord i gaffael y brydles

4.6 Arwystlon

4.6.1 Cynnwys tir ychwanegol yn yr arwystl

Lle y cofrestrwyd arwystl cyfreithiol yn barod, ond penderfynir y dylai fod wedi cynnwys y tir cofrestredig ychwanegol nas cyfeiriwyd ato yn y weithred wreiddiol, gall y partïon wneud un o’r canlynol.

  • Paratoi a chyflawni gweithred bellach sy’n creu arwystl cyfreithiol dros y tir ychwanegol yn y fath delerau sy’n sicrhau y caiff y tir ychwanegol ei drin fel sicrwydd ychwanegol ar gyfer y benthyg sydd eisoes wedi’i sicrhau gan yr arwystl gwreiddiol. Lle y gwneir hyn, bydd angen i’r rhoddwr benthyg wneud cais yn y modd arferol i gofrestru’r weithred bellach fel arwystl cyfreithiol yn erbyn y teitl(au) y cofrestrir y tir ychwanegol oddi tanynt, neu.

  • Disodli’r arwystl cofrestredig presennol gydag arwystl cyfreithiol newydd sy’n arwystlo’r tir a newidiwyd gan y weithred wreiddiol a’r tir ychwanegol fel sicrwydd ar gyfer y benthyg. Yn y fath achos, bydd angen i’r rhoddwr benthyg wneud cais yn y modd arferol i gofrestru’r weithred newydd fel arwystl cyfreithiol yn erbyn yr holl deitlau sydd wedi’u cynnwys ynddi, ac ar yr un pryd, gwneud cais i gofrestru’r weithred wreiddiol fel arwystl cyfreithiol gan ddefnyddio ffurflen DS1 Cofrestrfa Tir EF gyda chais ar ffurflen DS2 neu ffurflen AP1.

4.6.2 Gormod o dir wedi’i gynnwys yn yr arwystl

Lle y cofrestrwyd arwystl cyfreithiol yn barod, ond y penderfynir na ddylid fod wedi cynnwys yr arwystl oedd yn cynnwys y tir cofrestredig, dylai’r partïon wneud cais i gofrestru’r arwystl yn erbyn y tir o dan sylw. Os yw’r tir o dan sylw yn cynnwys y tir yn un neu ragor o’r teitlau cofrestredig cyfan, dylai’r cais fod ar ffurflen DS2 neu ffurflen AP1 ynghyd â ffurflen DS1 wedi’i chyflawni gan y rhoddwr benthyg. Os yw’r tir o dan sylw yn cynnwys rhan o’r tir yn y teitl cofrestredig yn unig, dylai’r cais fod ar ffurflen AP1 ynghyd â ffurflen DS3, wedi’i llunio i nodi’r tir (ar gynllun fel rheol) ac wedi’i chyflawni gan y rhoddwr benthyg.

4.6.3 Arwystlo’r tir cywir, ond mae angen cywiro neu newid telerau eraill

Mewn perthynas â’r arwystl cyfreithiol sydd eisoes wedi’i gofrestru, gall y partïon benderfynu bod angen cywiro neu newid telerau’r arwystl. Er enghraifft, efallai bod gwall clercio wedi arwain at yr arwystl yn cyfeirio at hen fersiwn o amodau morgais rhoddwr benthyg sefydliadol, fel bod angen newid telerau’r arwystl i gyfeirio at yr amodau cyfredol. Mewn achosion o’r fath gall y partïon wneud un o’r canlynol.

Disodli’r arwystl cofrestredig presennol gydag arwystl cyfreithiol newydd sy’n arwystlo’r tir sydd wedi’i gynnwys yn y weithred wreiddiol ac sy’n ymgorffori’r telerau diwygiedig y mae’r partïon am eu gweld wedi’u hymgorffori yn yr arwystl cyfreithiol. Yn yr achos hwn, bydd angen i’r rhoddwr benthyg wneud cais yn y modd arferol i gofrestru’r weithred newydd fel arwystl cyfreithiol yn erbyn y teitlau sydd wedi’u cynnwys ynddi ac, ar yr un pryd, gwneud cais i gofrestru’r weithred wreiddiol fel arwystl cofrestredig gan ddefnyddio ffurflen DS1 Cofrestrfa Tir EF gyda chais ar ffurflen DS2 neu ffurflen AP1.

Paratoi a chyflawni gweithred amrywio maent yn cytuno i ddiwygio’r weithred wreiddiol drwyddi o ran peri’r cywiriad neu newid bwriadedig. Nid oes ffurflen benodedig ar gyfer hyn, felly gall y weithred amrywio gymryd unrhyw ffurf y mae’r partïon yn ei hystyried yn briodol i gyflawni eu bwriadau. Pan nad yw’r weithred yn nodi’n benodol pa rannau o’r weithred wreiddiol sy’n cael eu hamrywio, dylech anfon eglurhad er mwyn cymryd y camau cywir yn y gofrestr.

Yn yr achos olaf, rhaid gwneud y cais i gofrestru’r weithred amrywio mewn cais AP1.

Bydd ein Hadran Trefniadau Masnachol ym Mhrif Swyddfa Cofrestrfa Tir EF yn parhau i gymeradwyo gweithredoedd amrywio. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 30: cymeradwyo dogfennau morgais i gael rhagor o wybodaeth.

4.6.4 Cyfyngiadau arwystlai a benthyciadau pellach

Nid oes modd gwneud cais am gyfyngiad nac am gofnod i ddangos bod ymrwymiad ar roddwr benthyg i roi benthyciadau pellach mewn gweithred amrywio. Os oes angen y cofnodion hyn, rhaid gwneud ceisiadau ar wahân ar ffurflen RX1 a ffurflen CH2 yn ôl eu trefn.

4.6.5 Cyflawni gweithred amrywio arwystl

Er bod yn rhaid i’r cymerwr benthyg gyflawni’r weithred amrywio, nid oes unrhyw ofyniad bod y rhoddwr benthyg yn gwneud yr un fath. Byddwn yn derbyn y bydd y rhoddwr benthyg yn rhwym o dan delerau’r amrywiad os yw naill ai’r rhoddwr benthyg neu ymarferydd yn gweithredu ar ran y rhoddwr benthyg yn cyflwyno’r weithred.

Mae rheol 113 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn ei wneud yn ofynnol i wneud cais i gofrestru gweithred amrywio gyda chaniatâd perchennog unrhyw arwystl cofrestredig (a pherchennog unrhyw is-arwystl sy’n deillio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o’r arwystl) o flaenoriaeth gyfartal neu is na’r arwystl sy’n cael ei amrywio, os yw telerau’r amrywiad yn effeithio’n niweidiol ar y rhoddwr benthyg arall, oni bai bod y perchennog hwnnw wedi cyflawni’r weithred ei hunan neu os nad oes angen y caniatâd o dan delerau ei arwystl neu is-arwystl.

Ein barn yw nad yw newidiadau i’r mathau canlynol yn effeithio’n niweidiol ar arwystl (a’r is-arwystl ohono) sydd â blaenoriaeth gyfartal neu is:

  • gostyngiad yn y gyfradd log
  • gostyngiad yn y ddyled gyfalaf

Fodd bynnag, ystyriwn fod unrhyw newidiadau sydd naill ai’n:

  • cynyddu’r gyfradd log
  • cynyddu’r cyfalaf
  • ymestyn cyfnod yr arwystl blaenorol
  • creu ymrwymiad i roi benthyciadau pellach, o fath all effeithio er gwaeth ar unrhyw arwystl (ac unrhyw is-arwystl ohono) gyda blaenoriaeth gyfartal neu is

O dan yr amgylchiadau hyn, rhaid i berchennog unrhyw arwystl (ac is-arwystl) sy’n cael ei effeithio’n niweidiol gyflawni’r weithred (oni bai nad oes angen eu cydsyniad o dan delerau ei arwystl neu is-arwystl); neu roi caniatâd ysgrifenedig i gofrestru’r weithred amrywio. Rhaid cyflwyno’r caniatâd, neu dystysgrif trawsgludwr ei fod yn dal y caniatâd gofynnol, gyda’r cais am weithred amrywio.

Fel arall, gall perchennog unrhyw arwystl o’r fath (neu is-arwystl) ddarparu llythyr yn cadarnhau nad yw’n ystyried bod telerau’r amrywiad yn effeithio’n niweidiol ar ei arwystl (neu is-arwystl) ac, o ganlyniad, ei fod yn teimlo nad oes angen iddo gyflawni’r weithred na chyflwyno caniatâd. Fodd bynnag, yn absenoldeb unrhyw dystiolaeth, ni fyddwn yn gwneud ymholiad. Yn hytrach, byddwn yn gwneud cofnod heb warant yn y gofrestr fel a ganlyn.

“Mae gweithred ddyddiedig ___ a wnaed rhwng _____ yn mynegi newid telerau’r Arwystl dyddiedig _______ y cyfeiriwyd ato uchod. NODYN: Copi yn y ffeil.”

5. Pwerau Cofrestrfa Tir EF i ddiwygio dogfennau

5.1 Pŵer statudol

Mae gan Gofrestrfa Tir EF bŵer disgresiwn i newid dogfennau i gywiro camgymeriad mewn cais neu unrhyw ddogfen gysylltiedig (rheol 130(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Unwaith caiff ei wneud, bydd newid o’r fath yn dod i rym fel pe bai wedi ei wneud gan y ceisydd neu barti/partïon eraill â budd:

  • yn achos gwallau clercio, ym mhob amgylchiad; ac,

  • yn achos unrhyw gamgymeriad arall, os yw’r ceisydd a phob parti arall â budd wedi gofyn am y newid neu wedi cydsynio iddo

Barnodd Bank of Scotland Plc v Greville Development Co (Midlands) Ltd [2014] EWHC 128 (Ch) fod gan wall clercio, at ddibenion rheol 130(2)(a), yr ystyr cul, sef:

[Pan] fo rhywun… yn ysgrifennu rhywbeth nad oedd yn bwriadu ei nodi neu’n hepgor rhywbeth yr oedd yn bwriadu ei nodi…”

Blackburne J yn Bell v Georgiou [2002] EWHC 1080(Ch) yn [8], a ddyfynnwyd gyda chymeradwyaeth yr Arglwydd Neuberger yn Marley v Rawlings ac un arall [2012] UKSC 2.

5.2 Pryd y byddwn yn ystyried cais i newid o dan reol 130

Os sylwch ar gamgymeriad mewn dogfen nad yw wedi’i chofrestru eto, dylech fynd ymlaen fel y nodir yn Cyn cofretru’r weithred wreiddiol.

Gall Cofrestrfa Tir EF awgrymu diwygiad o dan reol 130 pan fyddwn yn sylwi ar wall amlwg mewn dogfen wrth brosesu cais. Fodd bynnag, ni fyddwn bob amser yn gwneud hynny ac ni ddylai’r pleidiau ddibynnu ar hyn.

Os gwelwch wall mewn dogfen sy’n cael ei chofrestru, dylech wneud y canlynol:

  • rhoi gwybod i Gofrestrfa Tir EF am y gwall cyn gynted â phosibl ar ôl ichi ddod yn ymwybodol ohono

  • newid y ddogfen gan sicrhau bod unrhyw ddiwygiadau o’r fath yn cael eu cydlofnodi’n briodol, ac

  • anfon y ddogfen wedi ei chywiro atom gyda llythyr eglurhaol priodol cyn gynted â phosibl

Os nad yw’n ymarferol neu’n gymesur i’r partïon newid y ddogfen eu hunain, efallai byddwn yn ystyried cais i’w newid o dan reol 130.

Os gwelwch y gwall ar ôl inni gwblhau cofrestriad, dylech ystyried un o’r dulliau cywiro a nodir yn Lle cofrestrwyd y weithred. Os nad yw hyn yn ymarferol neu’n gymesur, efallai byddwn yn ystyried cais i newid y ddogfen o dan reol 130.

5.3 Tystiolaeth gefnogol ar gyfer cais i newid o dan reol 130

Wrth benderfynu a ddylid newid dogfen, bydd Cofrestrfa Tir EF yn ystyried:

  • a yw’r newid y gofynnwyd amdano yn dod o fewn y pŵer statudol, ac

  • os felly, a ddylem arfer y disgresiwn statudol yn yr achos hwnnw

5.3.1 A yw’r newid y gofynnwyd amdano yn dod o fewn y pŵer statudol?

Dim ond pan fo camgymeriad yn y ddogfen berthnasol bydd y pŵer i newid o dan reol 130 yn codi. Nid yw’n codi pan fydd y partïon yn newid eu meddyliau ar ôl cwblhau. Yn unol â hynny, rhaid i unrhyw gais i newid dogfen o dan reol 130 gynnwys tystiolaeth i ddangos bod camgymeriad yn y ddogfen wreiddiol. Bydd y dystiolaeth sydd ei hangen yn dibynnu ar natur y newid a geisir ond gall gynnwys datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd gan y ceisydd yn atodi tystiolaeth gefnogol arall.

Lle nad yw’r newid a geisir yn un clercio, dylech gynnwys cydsyniad yr holl bartïon perthnasol i’r newid arfaethedig hefyd.

5.3.2 A ddylai Cofrestrfa Tir EF arfer y disgresiwn statudol?

Fel yr eglurwyd uchod, yn gyffredinol, dim ond pan nad yw’n ymarferol neu’n gymesur ei newid trwy ddull arall y byddwn yn ystyried newid dogfen o dan reol 130. Gydag unrhyw gais, dylech egluro pam fod hyn yn wir a darparu copïau o unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r hawliad hwnnw.

Wrth benderfynu a ddylid newid y ddogfen, bydd Cofrestrfa Tir EF yn ystyried yr effeithiau posibl ar Gofrestrfa Tir EF (er enghraifft, pe gallai’r newid arwain at hawliad indemniad statudol) a thrydydd partïon (er enghraifft, rhywun a oedd eisoes wedi dibynnu ar gopi o’r ddogfen heb ei newid). Wrth asesu effeithiau o’r fath, efallai bydd Cofrestrfa Tir EF yn gofyn am dystiolaeth tu hwnt i’r hyn sydd ei angen i ddangos bod y newid yn dod o fewn cwmpas rheol 130. Er enghraifft, efallai bydd angen cydsyniad trydydd partïon arnom i’r hyn y gellid ei ystyried yn wall clercio.

Fel rheol gyffredinol, po hynaf yw dogfen, lleiaf tebygol yw hi y bydd Cofrestrfa Tir EF yn arfer y disgresiwn i newid. Mae hyn oherwydd bod nifer y bobl a allai fod wedi dibynnu ar y ddogfen nad yw wedi ei newid yn debygol o gynyddu dros amser.

5.3.3 Dogfennau ychwanegol

Lle bydd y newid a geisir yn arwain at ddiweddaru’r gofrestr, dylech gynnwys cais am y diweddariad hwnnw ar ffurflen AP1, a chynnwys y ffi berthnasol.

Peidiwch â darparu copi o’r ddogfen gan gynnwys y newid y gofynnwyd amdano.

5.4 Gwneud y newid

Os yw Cofrestrfa Tir EF yn arfer y disgresiwn i newid, byddwn fel rheol yn cymeradwyo’r ddogfen i’r perwyl hwn. Bydd unrhyw gopïau swyddogol yn y dyfodol a gaiff eu cynnwys gan Gofrestrfa Tir EF yn cynnwys yr ardystiad.

6. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.