Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 34: ansolfedd personol

Diweddarwyd 23 August 2021

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn egluro’r materion a threfnau cofrestru tir pryd bynnag y bydd achos methdaliad gan neu yn erbyn unigolyn. Mae’n disgrifio’r cofnodion a wnawn pan fo’r dyledwr yn unig neu gydberchennog cofrestredig. Mae’n egluro natur ac effaith rhybudd methdaliad, cyfyngiad methdaliad a chyfyngiad Ffurf J a’r dystiolaeth sydd ei hangen i ddileu’r cofnodion hynny. Mae’n egluro sefyllfa’r Derbynnydd Swyddogol ac ymddiriedolwr mewn methdaliad. Mae’n rhoi cyfarwyddyd byr ar eiddo ôl-gaffaeledig, ymwadiad ag eiddo beichus a phynciau cysylltiedig eraill. Yn olaf, mae’n rhoi cyfarwyddyd ar gofnodion a chwiliadau yn yr Adran Pridiannau Tir.

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn trafod achos methdaliad a ddechreuwyd ar neu ar ôl 29 Rhagfyr 1986 (y dyddiad y daeth Deddf Ansolfedd 1986 a Rheolau Ansolfedd 1986 i rym) a cheisiadau methdaliad dyledwr newydd a wnaed ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016 (pan ddaeth adran 71 ac Atodlenni 18 a 19 i Ddeddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013 ac Ansolfedd (Newidiad) 2016 i rym). Yn weithredol o 6 Ebrill 2017, mae Rheolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016 (fel y’u newidiwyd gan Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2017 yn diddymu ac yn disodli Rheolau Ansolfedd 1986, ac ymgorfforir y darpariaethau’n ymwneud â methdaliad unigol yn Rhan 10 ac Atodlenni 7 ac 8 o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016. Mae darpariaethau trosiannol yn gymwys (gweler rheol 4 ac Atodlen 2 i Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016.

Gweler hefyd cyfarwyddyd ymarfer 35: ansolfedd corfforaethol, cyfarwyddyd ymarfer 36: gweinyddiad a derbynyddiaeth a chyfarwyddyd ymarfer 36A: gwarediadau a gyflawnir gan dderbynyddion Deddf Cyfraith Eiddo i gael rhagor o wybodaeth am y pynciau hynny.

1.1 Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau

Fel rheol, mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol dim os yw eich cais am gofrestriad cyntaf. Gall trawsgludwr, fodd bynnag, wneud cais am gofrestriad cyntaf ar sail copïau ardystiedig o weithredoedd a dogfennau yn unig. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf – Ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr – derbyn copïau ardystiedig o weithredoedd am wybodaeth am hyn.

Os nad yw eich cais am gofrestriad cyntaf, dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ddychwelyd unrhyw gopïau gwreiddiol o dystysgrifau marwolaeth neu grantiau profiant atoch.

2. Achos methdaliad lle mai’r dyledwr yw’r unig berchennog cofrestredig

2.1 Cyffredinol

Mae’r broses methdaliad yn amrywio yn dibynnu ar b’un ai y gwneir y cais am fethdaliad gan y dyledwr neu a wneir deiseb am fethdaliad gan gredydwr.

Cyn 6 Ebrill 2016, gwnaed pob deiseb am fethdaliad (a wnaed naill ai gan ddyledwyr eu hunain, neu gan gredydwyr yn erbyn dyledwyr) i’r llys.

Ar 6 Ebrill 2016, cyflwynodd adran 71 o Ddeddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013 drefn newydd i ddyledwr wneud cais am ei fethdaliad ei hun yng Nghymru a Lloegr. Rhaid gwneud deiseb credydwr ar gyfer methdaliad dyledwr mewn llys o hyd, a’i bennu gan farnwr. Gwnaeth Deddf Menter a Diwygio Rheoleiddio (Diwygiadau Canlyniadol) (Methdaliad) 2013 a Rheoliadau Deddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 y diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol ac eilaidd, gan gynnwys Deddf Credydau Amaethyddol 1928, Deddf Pridiannau Tir 1972, Deddf Cofrestru Tir 2002, Rheolau Pridiannau Tir 1974, Rheolau Cofrestru Tir 2003 a Rheolau Cofrestru Tir (Mynediad i’r Rhwydwaith) 2008.

I grynhoi:

  • lle bydd dyledwr yn gwneud cais am ei fethdaliad ei hun ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016, gwneir y cais ar-lein (trwy GOV.UK) at ‘ddyfarnwr’ yn y Gwasanaeth Ansolfedd. Mae’r dyfarnwr yn penderfynu a ddylid gwneud gorchymyn methdaliad.
  • ar ôl i’r dyfarnwr wneud gorchymyn methdaliad, rhaid i’r dyledwr wneud cais i’r llys o hyd am benderfyniad ar faterion eraill, megis amrywiad, rhyddhad, neu ddirymiad y gorchymyn.

Roedd Rheolau Ansolfedd (Newidiad) 2016 yn cynnwys manylion am y broses methdaliad dyledwr newydd ac maent yn newid Rheolau Ansolfedd 1986. Mae Rheolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016 yn disodli’r 2 set hon o reolau o 6 Ebrill 2017.

Y ddau gam yn y broses methdaliad yw:

  • cais methdaliad y dyledwr i’r dyfarnwr, neu ddeiseb methdaliad credydwr i’r llys, am orchymyn methdaliad.
  • y gorchymyn methdaliad a wneir wedi hynny gan y dyfarnwr neu’r llys

Ar ôl gwneud y gorchymyn methdaliad, caiff ymddiriedolwr mewn methdaliad ei benodi. Naill ai ymarferydd ansolfedd awdurdodedig (adrannau 388-398 o Ddeddf Ansolfedd 1986) neu’r Derbynnydd Swyddogol fydd yr ymddiriedolwr.

Pan ddaw penodiad yr ymddiriedolwr mewn methdaliad yn effeithiol, bydd ystad y methdalwr (a ddiffinnir yn adran 283 o Ddeddf Ansolfedd 1986) yn breinio yn yr ymddiriedolwr yn awtomatig heb unrhyw drosglwyddiad (adran 306 o Ddeddf Ansolfedd 1986). Mae’r ystad honno’n cynnwys unrhyw eiddo cofrestredig neu arwystlon cofrestredig y mae’r methdalwr yn ei berchen er ei fudd ei hun. Eithrir eiddo sy’n cael ei ddal ar ymddiried ar ran unrhyw un arall (er enghraifft, lle y mae’r methdalwr yn gydberchennog eiddo) ac nad yw’n breinio yn yr ymddiriedolwr mewn methdaliad (adran 283(3)(a) o Ddeddf Ansolfedd 1986).

2.2 Gwneud cofnodion methdaliad

Fel yr eglurir yn Cofrestru a dileu cofnodion methdaliad a chwiliadau swyddogol yn yr Adran Pridiannau Tir, bydd ceisiadau/deisebau methdaliad a gorchmynion methdaliad yn cael eu cofrestru yn yr Adran Pridiannau Tir. Mae hyn yn digwydd pa un ai yw’n hysbys fod y dyledwr yn berchennog eiddo neu beidio a pha un ai yw’n berchennog eiddo cofrestredig neu arwystlon cofrestredig neu beidio.

Rhaid i’r cofrestrydd, mor fuan ag y bo’n ymarferol ar ôl cofrestru deiseb methdaliad yn yr Adran Pridiannau Tir, gofnodi rhybudd methdaliad ar gyfer teitl unig berchennog unrhyw eiddo neu arwystl cofrestredig sy’n ymddangos yr effeithir arno (adran 86(2) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Yn yr un modd, rhaid i’r cofrestrydd, mor fuan ag y bo’n ymarferol ar ôl cofrestru gorchymyn methdaliad yn yr Adran Pridiannau Tir, gofnodi cyfyngiad methdaliad yn erbyn teitl unig berchennog unrhyw eiddo neu arwystl cofrestredig sy’n ymddangos yr effeithir arno (adran 86(4) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Lle y mae’r dyledwr yn gydberchennog, ni fydd rhybuddion methdaliad a chyfyngiadau methdaliad fyth yn cael eu cofnodi – gweler Achos methdaliad lle y mae’r dyledwr yn gydberchennog

Pan fo deiseb methdaliad neu orchymyn methdaliad wedi ei gofrestru yn yr Adran Pridiannau Tir, bydd yr adran yn rhoi’r canlynol i Uned Methdaliad Cofrestrfa Tir EF:

  • manylion yr achos methdaliad, sy’n cynnwys enw’r dyledwr a manylion y cais/deiseb methdaliad neu’r gorchymyn methdaliad
  • rhestr o rifau teitl yr effeithir arnynt o bosibl
    • daw’r rhestr o’r mynegai enwau perchnogion, y mae’n ofynnol i’r cofrestrydd ei gadw o dan reol 11 o Reolau Cofrestru Tir 2003
    • mae’r rhestr yn dangos enwau perchnogion yr eiddo ac unrhyw arwystl cofrestredig ynghyd â rhif y teitl o ran cofrestr pob teitl ymhob achos

Mae Uned Methdaliad Cofrestrfa Tir EF yn

Seaton Court
2 William Prance Road
Plymouth PL6 5WS

Ar sail yr wybodaeth sydd ar gael, mae Cofrestrfa Tir EF yn penderfynu ai’r dyledwr a enwyd yn yr achos methdaliad yw’r un person â pherchennog cofrestredig yr eiddo neu berchennog unrhyw arwystlon ar y teitlau a ddadlennwyd. Os yw’n amlwg nad y dyledwr yw’r perchennog cofrestredig, ni fyddwn yn cymryd unrhyw gamau pellach. Os bydd yn ymddangos mai’r dyledwr yw’r perchennog cofrestredig, byddwn yn gwneud cofnod priodol yng nghofrestr y teitl o dan sylw ac yn hysbysu’r perchennog cofrestredig.

Mewn rhai achosion, ni allwn benderfynu os mai’r dyledwr yw’r perchennog cofrestredig. Mewn achosion o’r fath, byddwn yn holi’r perchennog cofrestredig o dan reol 167(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn y cyfeiriad ar gyfer gohebu (ac i gyfeiriad yr eiddo, os yw’n wahanol) ai ef neu hi yw’r person y cyfeiriwyd ato/ati yn yr achos methdaliad. Os bydd y perchennog cofrestredig yn llofnodi’r datganiad nad ef neu hi yw’r person y cyfeiriwyd ato/ati ac yn dychwelyd y ffurflen, yna ni chaiff camau pellach eu cymryd oni bai bod amgylchiadau neilltuol yn bodoli. Os bydd y perchennog cofrestredig yn datgan mai ef neu hi yw’r dyledwr, yna byddwn yn gwneud cofnod. Fel arfer, bydd Cofrestrfa Tir EF yn gwneud cofnod methdaliad yn y gofrestr os ydym yn gofyn i rywun a yw’n destun cais methdaliad ac yn derbyn dim ymateb ganddo/ganddi.

2.3 Ffurf ac effaith rhybudd methdaliad

Mae rheol 165(1B) o Reolau Cofrestru Tir 2003 fel y’u newidiwyd yn pennu ffurf rhybudd methdaliad. Lle yr effeithir ar eiddo cofrestredig, byddwn yn cofnodi’r ffurf rhybudd canlynol yn y gofrestr perchnogaeth (wedi ei addasu’n briodol yn dibynnu ar b’un ai y gwnaed y cais neu ddeiseb am fethdaliad i’r dyfarnwr neu’r llys – mae’r enghraifft a geir yma ar gyfer cais dyledwr i’r dyfarnwr).

‘Cofnodwyd RHYBUDD METHDALIAD o dan adran 86(2) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 o ran achos arfaethedig, gan ei bod yn ymddangos fod cais methdaliad a wnaed gan [enw’r dyledwr], (cyfeirnod) (Cyfeir-rif Pridiannau Tir AP_____ ) yn effeithio ar deitl perchennog yr ystad gofrestredig.’

Lle yr effeithir ar arwystl cofrestredig, byddwn yn cofnodi’r ffurf rhybudd canlynol yn y gofrestr arwystlon (wedi ei addasu’n briodol yn dibynnu ar b’un ai y gwnaed y cais neu ddeiseb am fethdaliad i’r dyfarnwr neu’r llys).

‘Cofnodwyd RHYBUDD METHDALIAD o dan adran 86(2) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 o ran achos arfaethedig, gan ei bod yn ymddangos fod cais methdaliad a wnaed gan [enw’r dyledwr], (cyfeirnod) (Cyfeir-rif Pridiannau Tir AP_____ ) yn effeithio ar deitl perchennog yr arwystl dyddiedig [dyddiad] y cyfeirir ato uchod.’

Bydd cofnod a wneir yn y gofrestr o ran deiseb mewn methdaliad a gyhoeddir cyn 6 Ebrill 2016 yn debyg i’r rhai a nodir uchod ond bydd yn cyfeirio at ‘ddeiseb’ mewn methdaliad ac i’r llys.

Oni bai i’r cofrestrydd ei ddileu (gweler Tynnu cofnodion methdaliad (rhybuddion a chyfyngiadau methdaliad ymaith), bydd rhybudd methdaliad yn aros mewn grym nes bydd cyfyngiad methdaliad wedi ei gofrestru, neu nes bydd yr ymddiriedolwr mewn methdaliad (adran 86(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) neu brynwr gan yr ymddiriedolwr mewn methdaliad wedi ei gofrestru.

Os derbyniwn gais oddi wrth berchennog cofrestredig yr eiddo i gofrestru trosglwyddiad, arwystl neu brydles ar ôl cofnodi rhybudd methdaliad ar gyfer yr eiddo cofrestredig, gwneir y cofrestriad yn ddarostyngedig i’r rhybudd methdaliad. Felly y bydd oni bai ei bod yn amlwg bod blaenoriaeth i fudd y trosglwyddai, arwystlai neu brydlesai dros yr achos methdaliad. Byddwn yn gwneud hyn trwy wneud cofnod yn y gofrestr. Yn achos trosglwyddiad, caiff y nodyn canlynol ei gofnodi.

‘Mae cofrestriad y perchennog yn ddarostyngedig i hawliau’r holl gredydwyr [enw’r trosglwyddwr] (perchennog blaenorol) a warchodwyd trwy’r Rhybudd(ion) Methdaliad y cyfeiriwyd ato/atynt uchod.’

Caiff geiriad y nodyn hwn ei addasu’n briodol ar gyfer trosglwyddiadau o ran, arwystlon o’r cyfan neu o ran a phrydlesi o’r cyfan neu o ran. Bydd y nodyn yn cael ei ddileu os caiff y rhybudd methdaliad sy’n ei beri ei ddileu.

Os cofnodwyd cyfyngiad methdaliad yn ogystal â’r rhybudd methdaliad yna, fel arfer, nid oes modd cofrestru deliadau o’r fath (gweler Ffurf ac effaith cyfyngiad methdaliad a Gwarchod prynwyr.

2.4 Ffurf ac effaith cyfyngiad methdaliad

Mae Rheol 166(1B) o Reolau Cofrestru Tir 2003 fel y’u newidiwyd yn pennu ffurf cyfyngiad methdaliad. Lle yr effeithir ar eiddo cofrestredig caiff y ffurf cyfyngiad canlynol ei chofnodi yn y gofrestr perchnogaeth (wedi ei addasu’n briodol yn dibynnu ar b’un ai y gwnaed y cais neu ddeiseb am fethdaliad i’r dyfarnwr neu’r llys – mae’r enghraifft a geir yma ar gyfer cais dyledwr i’r dyfarnwr).

‘’Cofnodwyd CYFYNGIAD METHDALIAD o dan adran 86(4) Deddf Cofrestru Tir 2002, gan ei bod yn ymddangos fod gorchymyn methdaliad a wnaed gan y dyfarnwr (cyfeirnod) yn erbyn [enw’r dyledwr] (Cyfeir-rif Pridiannau Tir WO_____ ) yn effeithio ar deitl perchennog yr ystad gofrestredig.

Nid oes gwarediad o’r ystad gofrestredig i’w gofrestru nes bydd ymddiriedolwr mewn methdaliad eiddo’r methdalwr wedi ei gofrestru fel perchennog yr ystad gofrestredig.’

Lle yr effeithir ar arwystl cofrestredig caiff y ffurf cyfyngiad canlynol ei gofnodi yn y gofrestr arwystlon.

‘Cofnodwyd CYFYNGIAD METHDALIAD o dan adran 86(4) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, gan ei bod yn ymddangos fod gorchymyn methdaliad a wnaed gan y dyfarnwr (cyfeirnod) yn erbyn [enw’r dyledwr] (Cyfeir-rif Pridiannau Tir WO_____ ) yn effeithio ar deitl perchennog yr arwystl dyddiedig y cyfeiriwyd ato uchod.

Nid oes gwarediad o’r arwystl i’w gofrestru nes bydd ymddiriedolwr mewn methdaliad eiddo’r methdalwr wedi ei gofrestru fel perchennog yr arwystl.’

Bydd cofnod a wneir yn y gofrestr o ran deiseb mewn methdaliad a gyhoeddir cyn 6 Ebrill 2016 yn debyg i’r rhai a nodir uchod ond bydd bob amser yn cyfeirio at orchymyn y llys.

Effaith y cyfyngiad methdaliad yw na ellir cwblhau trwy gofrestriad gwarediad (ac eithrio cofrestriad yr ymddiriedolwr mewn methdaliad) sy’n effeithio ar yr eiddo neu arwystl o ran yr hyn y cofnodwyd y cyfyngiad hyd nes i’r cyfyngiad gan ei ddileu o ran yr eiddo neu arwystl cyfan neu ran ohonynt. Yn ogystal, efallai y bydd gan y cyfyngiad hwn yr effaith o atal cofnodi rhybuddion i warchod buddion trydydd parti penodol.

Nid yw cofnodi cyfyngiad methdaliad yn niweidio deliadau gyda, neu yn ôl hawl, buddion neu arwystlon sydd â blaenoriaeth dros arwystl neu ystad y methdalwr. Felly, er enghraifft, gallai perchennog arwystl cofrestredig, a gofrestrwyd cyn i gyfyngiad methdaliad (ac unrhyw rybudd methdaliad) gael ei gofnodi o ran yr eiddo cofrestredig, ymarfer eu pŵer gwerthu, ar waethaf cofnodi’r cyfyngiad methdaliad yn y gofrestr perchnogaeth. Fodd bynnag, byddai angen ystyried y cyfyngiad ar adeg gwarediad gan dderbynnydd a benodwyd gan yr arwystlai oherwydd bod y derbynnydd yn asiant yr arwystlwr yn hytrach na’r arwystlai.

2.4.1 Ffurf ac effaith cyfyngiad methdaliad – yng nghyd-destun unig berchennog

Ni all ymddiriedolwr mewn methdaliad olynol wneud cais am gofnod cyfyngiad pellach (fel cyfyngiad Ffurf J) os:

  • mai unig berchennog cofrestredig, heb unrhyw gofnod ar y gofrestr (fel cyfyngiad Ffurf A) i nodi ei fod yn dal yr ystad gyfreithiol ar ymddiried, yw’r unigolyn neu sefydliad sy’n fethdalwr
  • oes rhybudd methdaliad neu gofnod cyfyngiad methdaliad eisoes ar y gofrestr i adlewyrchu bodolaeth cais neu ddeiseb methdaliad neu orchymyn methdaliad

Nid yw’r rhain yn cael eu hystyried yn ‘angenrheidiol neu’n ddymunol’ at ddibenion adran 42(1)(a) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Y dull cywir o warchod yw’r rhybudd neu gyfyngiad methdaliad sy’n bodoli.

2.5 Gwarchod prynwyr

Mae adran 86(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn darparu, lle bo perchennog ystad neu arwystl cofrestredig yn cael ei ddyfarnu’n fethdalwr, bod teitl eu hymddiriedolwr mewn methdaliad yn ddi-rym yn erbyn rhywun sy’n derbyn gwarediad cofrestradwy o’r ystad neu arwystl os yw’r canlynol yn wir:

  • bod y gwarediad yn cael ei wneud am gydnabyddiaeth â gwerth iddi
  • bod y person sy’n derbyn y gwarediad yn gweithredu’n ddiffuant
  • ar adeg y gwarediad na chofrestrwyd unrhyw rybudd methdaliad na chyfyngiad methdaliad yn erbyn yr ystad neu arwystl cofrestredig
    • Lle bo cais i gofnodi rhybudd methdaliad neu gyfyngiad methdaliad yn cael ei wneud yn ystod cyfnod blaenoriaeth chwiliad swyddogol a wnaed gan brynwr a’r prynwr yn cyflwyno eu cais o fewn y cyfnod hwnnw bydd unrhyw gofnod o’r rhybudd neu gyfyngiad yn cael ei ohirio hyd y pryniant (rheolau 147-154 o Reolau Cofrestru Tir 2003)
  • ar adeg y gwarediad, nad oes gan bwy bynnag sy’n derbyn y gwarediad unrhyw rybudd o ddeiseb neu ddyfarniad y methdaliad

Nid oes angen i rywun sy’n derbyn gwarediad cofrestradwy wneud unrhyw chwiliad o dan Ddeddf Pridiannau Tir 1972 (adran 86(7) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

3. Tynnu cofnodion methdaliad (rhybuddion a chyfyngiadau methdaliad) ymaith

3.1 Tynnu ymaith lle nad yw’r achos methdaliad yn gysylltiedig â’r perchennog cofrestredig

Bydd achlysuron pan fyddwn yn gwneud cofnod methdaliad (h.y. rhybudd neu gyfyngiad methdaliad) oherwydd ei bod yn ymddangos yr effeithir ar y teitl pan nad yw, mewn gwirionedd. Fel arfer, bydd hwn oherwydd bod enw, cyfeiriad neu alwedigaeth y dyledwr a’r perchennog cofrestredig yn debyg neu’r un fath, neu lle gwnaed cofnod oherwydd diffyg unrhyw ymateb i rybudd (rheol 167(1)(c) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Gweler Gwneud cofnodion methdaliad.

Os byddwn wedi gwneud cofnod methdaliad yn erbyn teitl eiddo, neu arwystl, rhywun nad yw’r achos methdaliad yn effeithio arno, dylent (neu eu cynghorydd cyfreithiol) gysylltu â ni ar unwaith. Os byddwn wedi gwneud y cofnod yn ddiweddar, fel arfer, byddwn yn ei dynnu ymaith pan fydd yr unigolyn yn llofnodi ac yn dychwelyd ymwadiad (i’w ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF) nad oedd yr achos methdaliad yn berthnasol. Mewn rhai achosion, yn arbennig lle gwnaed y cofnod rhai blynyddoedd yn ôl, efallai y bydd gofyn iddynt ddarparu datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd i’r un perwyl.

Nid yw cyflwyno chwiliad pridiannau tir clir, yn dangos nad yw cofrestriad deiseb a/neu orchymyn y methdaliad perthnasol o dan Ddeddf Pridiannau Tir 1972 yn bodoli mwyach, yn ddigonol heb ragor o dystiolaeth. Mae hyn oherwydd bod cofrestriadau o’r fath yn dod i ben 5 mlynedd ar ôl y dyddiad cofrestru (oni chânt eu hadnewyddu) (adran 8 o Ddeddf Pridiannau Tir 1972). Ar ben hynny, hyd yn oed lle nad yw’r cyfnod 5 mlynedd wedi dod i ben, gall y cofnodion fod wedi eu tynnu ymaith yn unol â gorchymyn o dan adran 1(6) o Ddeddf Pridiannau Tir 1972. Fodd bynnag, nid yw naill ai terfyn na gorchymyn o dan adran 1(6) yn ailfreinio unrhyw eiddo, sydd wedi breinio yn yr ymddiriedolwr mewn methdaliad, yn y methdalwr neu fethdalwr blaenorol.

3.2 Tynnu rhybudd methdaliad ymaith lle y mae deiseb y methdaliad yn cael ei gwrthod neu ei thynnu’n ôl trwy ganiatâd y llys, neu mae’r dyfarnwr yn gwrthod gwneud gorchymyn methdaliad

Lle y mae deiseb methdaliad (a roddir gan fethdalwr neu gredydwr cyn 6 Ebrill 2016, neu ddeiseb credydwr a roddir ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016) wedi cael ei gwrthod neu ei thynnu’n ôl trwy ganiatâd y dyfarnwr neu’r llys, rhaid gwneud cais i ddileu rhybudd methdaliad ar Ffurflen AP1 Cofrestrfa Tir EF ynghyd â chopi swyddogol o’r gorchymyn llys perthnasol a wneir o dan reol 10.30(4) o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016 (cyn 6 Ebrill 2017) ar ffurflen 6.22 (yn Atodlen 4 i Reolau Ansolfedd 1986). Rhaid i’r gorchymyn awdurdodi ddileu’r achos tir arfaethedig yn benodol yn yr Adran Pridiannau Tir o dan y cyfeir-rif yn y rhybudd methdaliad. Nid oes dim i’w dalu. Ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016, lle mae’r dyfarnwr yn gwrthod gwneud gorchymyn methdaliad, bydd yn anfon llythyr i’r perwyl hwn at y dyledwr. Nid oes gan y dyfarnwr unrhyw rym i orchymyn dileu achos tir arfaethedig yn yr Adran Pridiannau Tir, ond, ar yr amod bod llythyr gwrthod y dyfarnwr yn cynnwys enw’r dyledwr, cyfeir-rif unigryw’r dyfarnwr ar gyfer y cais methdaliad a chyfeir-rif cofrestru arwystlon tir ar gyfer y cais methdaliad, a bod y cyfeir-rif cofrestru pridiannau tir a ddangosir yn y gofrestr teitl yn cyfateb â’r hyn a ddangosir yn y gofrestr teitl, gellir dileu cofnod y rhybudd, pan wneir cais ar ffurflen K11(ADJ). Nid oes ffi yn daladwy.

3.3 Tynnu cofnodion methdaliad (rhybuddion a chyfyngiadau methdaliad) ymaith lle y mae’r gorchymyn methdaliad yn cael ei ddirymu neu ei ddadwneud

Lle cafodd gorchymyn methdaliad (a wnaed gan y llys neu ddyfarnwr) ei ddirymu neu ei ddadwneud gan y llys, rhaid gwneud cais i ddileu rhybudd methdaliad a/neu gyfyngiad methdaliad ar ffurflen AP1 Cofrestrfa Tir EF ynghyd â chopi swyddogol o’r:

  • gorchymyn dirymu perthnasol a wneir o dan reol adran 261 neu 282 o Ddeddf Ansolfedd 1986 (rheolau 8.34(1) neu 10.137 o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016) (cyn hynny ffurflen 6.71 (yn Atodlen 4 i Reolau Ansolfedd 1986), neu’r
  • gorchymyn dadwneud o dan adran 375 o Ddeddf Ansolfedd 1986

Rhaid i’r gorchymyn llys awdurdodi i ddileu cofrestriad y cais neu ddeiseb methdaliad fel achos tir arfaethedig a/neu’r gorchymyn methdaliad yn benodol yng nghofrestr gwritiau a gorchmynion sy’n effeithio ar dir yn yr Adran Pridiannau Tir o dan y cyfeir-rifau yn y rhybudd methdaliad a/neu gyfyngiad methdaliad. Nid oes dim i’w dalu.

3.4 Rhyddhau o fethdaliad

Nid yw rhyddhau o fethdaliad yn rhoi hawl i ddyledwr ddileu unrhyw gofnodion methdaliad am nad yw rhyddhau yn ailfreinio eiddo yn y dyledwr. O ganlyniad, nid yw caniatâd yr ymddiriedolwr mewn methdaliad i dynnu unrhyw gofnodion methdaliad yn ddigonol.

Bydd yr eiddo neu arwystl cofrestredig wedi breinio yn yr ymddiriedolwr mewn methdaliad hyd yn oed os nad yw wedi’i gofrestru fel perchennog. Heblaw fel y crybwyllwyd yn Ailfreinio cartref y methdalwr, bydd angen trosglwyddiad gan yr ymddiriedolwr mewn methdaliad cyn bod modd ailfreinio’r tir neu arwystl yn y methdalwr blaenorol. Os na chofrestrwyd yr ymddiriedolwr mewn methdaliad fel perchennog rhaid cefnogi’r trosglwyddiad gyda thystiolaeth methdaliad (ar sail y disgrifiad yn Cofrestru’r Derbynnydd Swyddogol neu’r ymddiriedolwr mewn methdaliad fel perchennog).

Weithiau bydd dyledwr yn cael gorchymyn, o dan adran 1(6) o Ddeddf Pridiannau Tir 1972, yn mynnu dirymu cofrestriad deiseb methdaliad (dan adran 5 o Ddeddf Pridiannau Tir 1972) a/neu orchymyn methdaliad (dan adran 6 o Ddeddf Pridiannau Tir 1972). O gyflwyno cais priodol ar ffurflen K11 ynghyd â’r taliad penodedig i Adran Pridiannau Tir, bydd y cofnod neu gofnodion yn cael eu dirymu. Fodd bynnag, yn wahanol i orchymyn sy’n dirymu neu’n dadwneud gorchymyn methdaliad, nid yw gorchymyn o’r fath yn ailfreinio eiddo yn y methdalwr. Bydd unrhyw eiddo neu arwystl (boed gofrestredig neu ddigofrestredig) sydd wedi breinio yn yr ymddiriedolwr mewn methdaliad yn aros wedi’i freinio felly. Felly, ni fydd rhybudd methdaliad neu gyfyngiad methdaliad yn cael ei dynnu o deitl cofrestredig os caiff gorchymyn o’r fath ei gyflwyno.

Ni fydd cofnodion methdaliad fyth yn cael eu dileu yn unig ar sail chwiliad pridiannau tir clir ar gyfer y dyledwr – gweler Tynnu ymaith lle nad yw’r achos methdaliad yn gysylltiedig â’r perchennog cofrestredig.

3.5 Ailfreinio cartref y methdalwr

Mae adran 283A o Ddeddf Ansolfedd 1986 (a fewnosodwyd gan Ddeddf Menter 2002 mewn grym o 1 Ebrill 2004 ymlaen) yn cynnwys darpariaethau sy’n berthnasol lle bo ystad y methdalwr yn cynnwys budd mewn tŷ annedd oedd, ar ddyddiad y gorchymyn methdaliad, yn unig neu brif breswylfan naill ai:

  • y methdalwr
  • priod neu bartner sifil y methdalwr
  • priod blaenorol neu bartner sifil blaenorol y methdalwr

Bydd y budd yn ailfreinio’n awtomatig yn y dyledwr (heb unrhyw drosglwyddiad, aseiniad neu drawsgludiad) 3 blynedd ar ôl dyddiad y gorchymyn methdaliad, oni bai bod yr ymddiriedolwr mewn methdaliad yn gweithredu i ddelio â’r budd yn y cyfamser, er enghraifft trwy ei werthu neu wneud cais am orchymyn meddiant.

Fodd bynnag, os gwnaed y gorchymyn methdaliad cyn 1 Ebrill 2004 y cyfnod yw 3 blynedd o 1 Ebrill 2004 ymlaen.

Mae modd ymestyn y cyfnod 3 blynedd trwy orchymyn y llys, neu os nad yw’r dyledwr yn hysbysu’r ymddiriedolwr mewn methdaliad neu’r derbynnydd swyddogol o’i fudd yn yr eiddo. Mae modd byrhau’r cyfnod 3 blynedd hefyd o dan rai amgylchiadau. Os yw’r ymddiriedolwr mewn methdaliad yn ystyried:

  • bod parhau i freinio’r eiddo yn ystad y methdalwr o ddim budd i’r credydwyr
  • bydd yr ail-freinio i’r methdalwr yn hwyluso gweinyddiad mwy effeithlon o ystad y methdalwr gall yr ymddiriedolwr anfon rhybudd i’r perwyl hwnnw at y methdalwr

Lle bydd ailfreinio’n digwydd o ran ystad neu arwystl cofrestredig oedd wedi breinio yn yr ymddiriedolwr mewn methdaliad oherwydd bod y dyledwr yn unig berchennog, rhaid i’r ymddiriedolwr mewn methdaliad, cyn pen 7 diwrnod, wneud pa gais bynnag i Gofrestrfa Tir EF sy’n angenrheidiol i adlewyrchu’r ailfreinio yn y gofrestr (rheol 10.168 o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016).

Cais fydd hwn fel arfer i ddileu’r cyfyngiad (neu waharddiad) methdaliad. Y dogfennau sydd eu hangen yw:

Nid oes dim i’w dalu.

Byddwn hefyd yn dileu unrhyw rybudd methdaliad sy’n berthnasol i’r ddeiseb y gwnaed y gorchymyn methdaliad oddi tani. Ni fyddwn yn dileu unrhyw rybudd methdaliad arall heb y dystiolaeth a bennwyd yn Tynnu ymaith lle nad yw’r achos methdaliad yn gysylltiedig â’r perchennog cofrestredig, Tynnu rhybudd methdaliad ymaith lle caiff deiseb y methdaliad ei gwrthod neu ei thynnu’n ôl trwy ganiatâd y llys a Tynnu cofnodion methdaliad (rhybuddion a chyfyngiadau methdaliad) ymaith lle caiff y gorchymyn methdaliad ei ddirymu neu ei ddadwneud.

Os bydd ailfreinio’n digwydd mewn achos lle cofrestrwyd yr ymddiriedolwr mewn methdaliad fel perchennog, y cais priodol yw un ar ffurflen AP1 yn gofyn am newid y gofrestr o dan baragraff 5(b) Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002, ynghyd â thystysgrif yr ymddiriedolwr fel yr uchod. Nid oes dim i’w dalu.

Lle bydd ailfreinio’n digwydd o ran tir digofrestredig, rhaid i’r ymddiriedolwr mewn methdaliad roi Tystysgrif Breinio a gwblhawyd yn unol â rheol 10.169 o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016 (cyn 6 Ebrill 2017) ar ffurflen 6.84 (a bennir gan Reolau Ansolfedd 1986) i’r methdalwr. Mae’r dystysgrif hon yn dystiolaeth bendant bod y budd wedi ailfreinio yn y methdalwr. Ni fydd y cofnodion methdaliad yn y Gofrestr Pridiannau Tir yn cael eu dileu oherwydd y gallant ddal i effeithio ar dir arall.

Lle y mae’r ailfreinio’n digwydd o ran budd dyledwr sy’n gydberchennog, gweler Ailfreinio budd llesiannol y dyledwr.

4. Yr ymddiriedolwr mewn methdaliad ac eiddo cofrestredig

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

4.1 Y dyledwr wedi ei gofrestru fel unig berchennog

Lle y mae unigolyn sydd wedi ei gofrestru’n unig berchennog eiddo neu arwystl er eu budd eu hun, yn cael ei wneud yn fethdalwr, bydd yr eiddo neu arwystl yn ffurfio rhan o ystad y methdalwr (ar sail y diffiniad yn adran 283 o Ddeddf Ansolfedd1986) a bydd yn breinio yn y Derbynnydd Swyddogol fel ymddiriedolwr mewn methdaliad (adrannau 287 a 291A o Ddeddf Ansolfedd 1986), neu pan fydd penodi ymddiriedolwr mewn methdaliad yn dod yn effeithiol, ymddiriedolwr dilynol (adran 306 o Ddeddf Ansolfedd 1986). Bydd y breinio hwn yn digwydd yn awtomatig heb yr angen am unrhyw drosglwyddiad ffurfiol. (Yn weithredol o 6 Ebrill 2017 nid “derbynnydd a rheolwr” ystad y methdalwr fydd y Derbynnydd Swyddogol ond daw’n ymddiriedolwr mewn methdaliad wrth greu’r gorchymyn methdaliad, oni bai neu hyd nes y caiff ei dynnu ymaith o dan adran 298 o Ddeddf Ansolfedd 1986).

Gall yr ymddiriedolwr wneud cais i’w gofrestru fel perchennog neu drosglwyddo’r eiddo neu arwystl heb ddod yn gofrestredig (gweler Cofrestru’r Derbynnydd Swyddogol neu’r ymddiriedolwr mewn methdaliad fel perchennog a Y Derbynnydd Swyddogol neu’r ymddiriedolwr mewn methdaliad yn trosglwyddo lle nad yw’r ymddiriedolwr wedi ei gofrestru fel perchennog).

4.2 Cofrestru’r Derbynnydd Swyddogol neu’r ymddiriedolwr mewn methdaliad fel perchennog

Pan fo ystad perchennog methdalus wedi breinio yn y Derbynnydd Swyddogol fel ymddiriedolwr neu wedi ei breinio mewn ymarferydd ansolfedd awdurdodedig fel ymddiriedolwr y dyledwr, gallant wneud cais i’w gofrestru yn lle’r dyledwr (rheol 168(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Rhaid gwneud y cais ar ffurflen AP1 Cofrestrfa Tir EF ynghyd â’r canlynol

At ddibenion cofrestru tir (rheol 168(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003), mae tystiolaeth y methdaliad yn cynnwys

  • copi swyddfa neu gopi ardystiedig o’r gorchymyn methdaliad (gweler Sylwer isod)
  • tystysgrif, wedi ei llofnodi gan yr ymddiriedolwr, bod yr ystad neu arwystl cofrestredig yn gynwysedig yn ystad y methdalwr
  • lle y mae’r Derbynnydd Swyddogol yn ymddiriedolwr, tystysgrif y Derbynnydd Swyddogol i’r perwyl hwnnw

(Sylwer: Bydd Cofrestrfa Tir EF nawr yn derbyn copi o orchymyn electronig a anfonwyd gan y llys i swyddfa’r Derbynnydd Swyddogol, ar yr amod bod y copi o’r gorchymyn wedi ei ardystio gan y Gwasanaeth Ansolfedd.)

Lle nad y Derbynnydd Swyddogol yw’r ymddiriedolwr, un o’r canlynol

  • copi ardystiedig o’r dystysgrif penodiad ymddiriedolwr gan gyfarfod credydwyr y methdalwr
  • tystysgrif penodiad ymddiriedolwr gan yr Ysgrifennydd Gwladol
  • copi swyddfa neu gopi ardystiedig o’r gorchymyn y llys yn gwneud y penodiad

Os cychwynnodd yr achos methdaliad cyn 29 Rhagfyr 1986, mae angen tystysgrif o benodiad yr ymddiriedolwr mewn methdaliad gan yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau (neu gan yr Adran Masnach a Diwydiant, os yw’r dystysgrif wedi ei dyddio cyn 12 Rhagfyr 2007) yn lle un o’r tystysgrifau uchod neu orchymyn llys.

Bydd cofrestru’n cael ei gwblhau yn enw’r Derbynnydd Swyddogol neu ymddiriedolwr arall fydd yn cael ei ddisgrifio fel:

  • “Derbynnydd Swyddogol ac ymddiriedolwr mewn methdaliad [enw’r methdalwr]”
  • “Ymddiriedolwr mewn methdaliad [enw’r methdalwr]’ (rheol 170 o Reolau Cofrestru Tir 2003)

Pan fo’r ymddiriedolwr mewn methdaliad neu’r Derbynnydd Swyddogol wedi ei gofrestru’n berchennog, caiff unrhyw rybudd methdaliad neu gyfyngiad sy’n effeithio eu dileu.

4.3 Y Derbynnydd Swyddogol neu’r ymddiriedolwr mewn methdaliad yn trosglwyddo lle nad yw’r ymddiriedolwr wedi ei gofrestru fel perchennog

Lle y mae’r Derbynnydd Swyddogol neu ymddiriedolwr mewn methdaliad yn gwerthu’r eiddo neu arwystl heb gael ei gofrestru’n gyntaf fel y perchennog, rhaid i’r prynwr gyflwyno i Gofrestrfa Tir EF yn y cyfeiriad a nodir yng Nghyfarwyddyd y Cofrestrydd (gweler cyfeiriad Cofrestrfa Tir EF ar gyfer cofrestru), y dystiolaeth methdaliad, a ddiffiniwyd yn Cofrestru’r Derbynnydd Swyddogol neu’r ymddiriedolwr mewn methdaliad fel perchennog, yn ogystal â’r trosglwyddiad a thaliad Cofrestrfa Tir EF.

Lle ceir penodiad ar y cyd ac yn unigol, ond nad yw’r penodwyr wedi eu cofrestru fel perchnogion, nid oes angen i’r holl benodwyr ymuno mewn gwarediad (er os ydynt wedi eu cofrestru fel perchnogion, bydd angen iddynt wneud hynny). Fodd bynnag, os enwir mwy nag un ohonynt yn y gwarediad fel y gwaredwr (megis trosglwyddwr, prydleswr neu grantwr), dylai pawb a enwir ei gyflawni.

4.4 Eiddo ôl-gaffaeledig

Ar ôl i orchymyn methdaliad gael ei wneud, rhaid i’r dyledwr, cyn pen 21 diwrnod o ddod yn ymwybodol o’r ffeithiau perthnasol, rybuddio’r ymddiriedolwr o unrhyw eiddo y byddant yn ei gaffael neu sy’n disgyn arnynt (adran 333 o Ddeddf Ansolfedd 1986 a rheol 10.125(1) o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr 2016). Rhaid i’r dyledwr beidio â gwaredu’r eiddo hwn, heb ganiatâd yr ymddiriedolwr, cyn pen 42 diwrnod wedi dyddiad y rhybudd (rheol 10.125(2) o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr 2016). O fewn y cyfnod hwnnw gall yr ymddiriedolwr hawlio eiddo o’r fath trwy rybudd ysgrifenedig i’r dyledwr. Nid yw hyn yn berthnasol i eiddo sydd wedi ei eithrio o ystad methdalwr, nac i eiddo wedi ei gaffael ar ôl rhyddhau.

Ar gyflwyno rhybudd yr ymddiriedolwr mae’r eiddo yn breinio yn yr ymddiriedolwr sydd â’i deitl yn perthyn yn ôl i’r dyddiad pan oedd yn breinio yn y dyledwr (adran 307(3) o Ddeddf Ansolfedd 1986).

Os bydd dyledwr yn gwaredu eiddo gan dorri’r darpariaethau hyn gall yr ymddiriedolwr hawlio’r eiddo oddi ar y gwaredai. Fodd bynnag, nid oes modd gweithredu felly yn erbyn gwaredai sy’n caffael yn ddiffuant am werth a heb rybudd o’r methdaliad.

Weithiau gall cofnodion methdaliad beidio ag ymddangos ar gofrestr eiddo ôl-gaffaeledig. Mae hyn oherwydd, er y cofrestrwyd dyledwr fel perchennog ar ôl eu caffaeliad, nad oeddynt wedi ei gofrestru felly pan gofrestrwyd deiseb a gorchymyn y methdaliad yn yr Adran Pridiannau Tir. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd gwaredai am gydnabyddiaeth â gwerth iddi yn cael ei warchod ar yr amod eu bod yn gweithredu’n ddiffuant, nad oes ganddo unrhyw rybudd o’r methdaliad a’i fod yn cwblhau cofrestru eu gwarediad yn y ffordd arferol (adran 86(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

4.5 Ymwadiad gan yr ymddiriedolwr mewn methdaliad

4.5.1 Pŵer i ymwadu ag eiddo beichus

Trwy roi’r rhybudd penodedig, gall ymddiriedolwr mewn methdaliad ymwadu ag eiddo beichus (adran 315 o Ddeddf Ansolfedd 1986). Rhaid peidio â rhoi rhybudd o’r fath o ran eiddo ôl-gaffaeledig heb ganiatâd y llys (gweler Tynnu rhybudd methdaliad ymaith lle bo deiseb y methdaliad yn cael ei gwrthod neu ei thynnu’n ôl trwy ganiatâd y llys) nac mewn achosion lle bo’r ymddiriedolwr heb ddewis ymwadu cyn pen 28 diwrnod ar ôl cais gan rywun sydd â budd (adran 316 o Ddeddf Ansolfedd 1986). Mae’r rhybudd yn gweithredu i benderfynu hawliau, buddion a chyfrifoldebau’r dyledwr a’u hystad o ran yr eiddo. Nid yw’n effeithio ar hawliau neu gyfrifoldebau neb arall (adran 315(3) o Ddeddf Ansolfedd 1986).

4.5.2 Hysbysu Cofrestrfa Tir EF heb gais ffurfiol

O dan reol 19.2 o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr 2016), rhaid i’r ymddiriedolwr mewn methdaliad anfon copi o rybudd ymwadiad ystad gofrestredig neu arwystl cofrestredig cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol ar ôl iddo gael ei ddilysu (hy arwyddo) a’i ddyddio gan yr ymddiriedolwr. Gall hwn fod yn gopi plaen. Nid oes angen cais ffurfiol ar ffurflen AP1 ar yr adeg hon ac nid oes ffi i’w thalu. Byddwn yn gwneud nodyn yn debyg i hyn yn y gofrestr.

“NODYN 1: Datganodd rhybudd dyddiedig […] gan ymddiriedolwr mewn methdaliad […] fod yr [ystad gofrestredig yn y teitl hwn] [arwystl cofrestredig dyddiedig […] y cyfeirir ato uchod] yn cael ei ymwadu o dan adran 315 o Ddeddf Ansolfedd 1986.

NODYN 2: Copi yn y ffeil.”

Er nad oes angen i ymddiriedolwr mewn methdaliad anfon copi o rybudd ymwadiad o fudd llesiannol neu fudd a nodwyd, byddwn yn gwneud nodyn tebyg os yw’r rhybudd yn ymwneud â budd a nodwyd. Fodd bynnag, ni fyddwn yn gwneud unrhyw gofnod os yw’r rhybudd ymwadiad yn ymwneud â budd llesiannol yn unig.

4.5.3 Ymwadiad â les-ddaliadau

Nid yw ymwadiad ag eiddo prydlesol yn dod i rym nes bydd:

  • copi o’r ymwadiad wedi cael ei gyflwyno i unrhyw isbrydlesai neu forgeiseion
    • os yw’r eiddo yn dŷ preswyl rhaid cyflwyno copi i bob person sy’n meddiannu neu sy’n mynnu hawl i feddiannu’r tŷ
  • a naill ai
    • bod 14 diwrnod wedi mynd heibio ers y diwrnod y cyflwynwyd y rhybudd diwethaf heb fod cais am orchymyn breinio wedi cael ei wneud i’r llys
    • bod y llys wedi gorchymyn bod yr ymwadiad i ddod i rym (adran 317 o Ddeddf Ansolfedd 1986).
    • gall ymddiriedolwr mewn methdaliad sydd wedi ymwadu â phrydles gofrestredig wneud cais i rybudd o’r ymwadiad gael ei gofnodi yn y gofrestr gyda neu heb gais i gau’r teitl o dan reol 79 o Reolau Cofrestru Tir 2003 a/neu ddileu rhybudd o brydles ddigofrestredig yn nheitl y landlord

4.5.3.1 Cais i gofnodi rhybudd ymwadiad a/neu gau’r ystad brydlesol gofrestredig o dan reol 79 o Reolau Cofrestru Tir 2003

Rhaid i’r cais fod ar ffurflen AP1 a rhaid cyflwyno’r canlynol hefyd:

Os ydych yn gwneud cais i gau’r teitl prydlesol cofrestredig, rhaid ichi hefyd gyflwyno:

  • copi ardystiedig o’r brydles wreiddiol (neu eglurhad digonol pam na all gael ei chyflwyno)
  • tystiolaeth o ddisgyniad teitl os nad y prydlesai gwreiddiol yw’r methdalwr

Os nad oes tystiolaeth o unrhyw arwystl cofrestredig neu arwystl a nodwyd, is-brydles neu hawliau trydydd parti eraill yn effeithio ar y teitl prydlesol a ymwadwyd, neu gallwch ddarparu tystiolaeth ddigonol bod pob budd hefyd wedi dod i ben, byddwn yn cau’r teitl prydlesol ac yn dileu unrhyw rybudd o’r brydles ar deitl cofrestredig y landlord.

Fodd bynnag, am nad yw terfynu prydles trwy ymwadiad yn effeithio ar yr hawliau a rhwymedigaethau a gafwyd cyn yr ymwadiad gan bobl heblaw’r tenant, ni fyddwn yn cau’r teitl prydlesol cofrestredig os oes arwystl cofrestredig neu arwystl a nodwyd yn y teitl prydlesol a ymwadwyd oni bai eich bod hefyd yn cyflwyno:

  • cais i ryddhau’r arwystl cofrestredig neu i ddileu cofnod yr arwystl a nodwyd
  • tystiolaeth bod cais yr arwystlai am orchymyn breinio wedi ei wrthod (fel bod yr arwystlai’n cael ei eithrio o bob budd yn yr eiddo o dan adran 321(4) o Ddeddf Ansolfedd 1986)
  • tystiolaeth o fforffedu’r brydles

Os na allwn gau’r teitl prydlesol oherwydd bod tystiolaeth o arwystl cofrestredig neu arwystl a nodwyd sy’n parhau, byddwn yn gwneud y cofnodion canlynol yn y teitl ar gyfer y brydles a ymwadwyd.

Yn y gofrestr eiddo:

“Ymwadwyd â’r brydles hon gan ymddiriedolwr mewn methdaliad y perchennog cofrestredig ar [dyddiad] yn unol ag adran 315 o Ddeddf Ansolfedd 1986.

NODYN: Copi o’r ymwadiad yn y ffeil”.

Yn y gofrestr perchnogaeth:

“CYFYNGIAD: Nid oes gwarediad o’r ystad gofrestredig i’w gwblhau trwy gofrestriad.”

Byddwn hefyd yn ychwanegu’r nodyn canlynol i’r rhybudd ymwadiad yn nheitl rhydd-ddaliol neu uwch y landlord:

“Ymwadwyd â’r brydles hon gan ymddiriedolwr mewn methdaliad y perchennog cofrestredig ar [dyddiad]. Nid yw’r teitl prydlesol cofrestredig wedi ei gau oherwydd bod arwystl [cofrestredig] neu [wedi ei nodi] yn bodoli o blaid [enw] dyddiedig [dyddiad].

NODYN 1: Copi o’r ymwadiad wedi ei ffeilio o dan [rhif teitl prydlesol].”

Gellir cau’r teitl prydlesol ar gyfer prydles a ymwadwyd os nad oes arwystl cofrestredig neu arwystl wedi ei nodi ond bod is-brydles gofrestredig neu hawliau trydydd parti eraill wedi eu nodi yn y teitl – os felly, gwneir y cofnodion canlynol:

Yng nghofrestr eiddo unrhyw isbrydles gofrestredig a nodwyd:

“Cofrestrwyd teitl y prydleswr ond ymwadwyd â’r brydles gan ymddiriedolwr mewn methdaliad y perchennog cofrestredig ar [dyddiad].

NODYN: Copi o’r ymwadiad yn y ffeil o dan [rhif teitl prydlesol].”

Yng nghofrestr arwystlon neu Atodlen L teitl y landlord:

“Ymwadwyd â’r brydles hon gan ymddiriedolwr mewn methdaliad y perchennog cofrestredig ar [dyddiad]. Mae’r teitl prydlesol cofrestredig wedi ei gau. Mae budd [isbrydlesol neu fanylion hawl(iau) eraill sydd wedi goroesi] yn bodoli o dan y brydles hon.

NODYN 1: Copi o’r ymwadiad wedi ei ffeilio o dan [rhif teitl prydlesol].”

4.5.3.2 Cais i ddileu rhybudd o brydles ddigofrestredig

Rhaid i’r cais fod ar ffurflen CN1 a rhaid cyflwyno’r canlynol hefyd:

  • copi ardystiedig o’r brydles wreiddiol (neu eglurhad digonol pam na all gael ei chyflwyno)
  • tystiolaeth o ddisgyniad teitl os nad y prydlesai gwreiddiol yw’r methdalwr
  • y ffi a aseswyd ar y gwerth hwnnw yn ôl y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru

Os nad oes tystiolaeth o unrhyw arwystl, is-brydles neu hawliau trydydd parti eraill yn effeithio ar y brydles a nodwyd a ymwadwyd, gellir dileu rhybudd o’r brydles ar deitl cofrestredig y landlord.

Os oes tystiolaeth o unrhyw arwystl sy’n parhau, is-brydles neu hawliau trydydd parti eraill yn effeithio ar y brydles a nodwyd a ymwadwyd, ni ellir dileu rhybudd o’r brydles, ond gwneir y cofnodion canlynol:

Yng nghofrestr eiddo unrhyw isbrydles gofrestredig sy’n bodoli a roddwyd o’r brydles ddigofrestredig:

“NODYN 1: Ymwadwyd â phrydles y prydlesai gan yr ymddiriedolwr mewn methdaliad ar [dyddiad].

NODYN 2: Copi o’r ymwadiad wedi ei ffeilio o dan [rhif teitl prydlesol rhydd-ddaliol/uwch].”

ac yn y cofnod sy’n bodoli ar gyfer y brydles yn y gofrestr arwystlon neu Atodlen L teitl prydlesol y landlord:

“NODYN 1: “Ymwadwyd â’r brydles hon gan yr ymddiriedolwr mewn methdaliad ar [dyddiad]. Mae budd [isbrydlesol neu fanylion hawl(iau) eraill sydd wedi goroesi] yn bodoli o dan y brydles hon.

NODYN 2: Copi o’r ymwadiad wedi ei ffeilio.”

4.5.4 Ymwadiad â rhydd-ddaliadau

Er yn fwy anghyffredin, mae modd cael ymwadiad â theitl rhydd-ddaliol cofrestredig. Os nad yw’r llys yn gwneud gorchymyn breinio, mae’r ystad rydd-ddaliol yn terfynu ac mae’r eiddo’n asiedu i’r Goron neu i un o Ddugiaethau Brenhinol Cernyw neu Gaerhirfryn. Fodd bynnag, nid ydym yn cau’r teitl cofrestredig oni bai a hyd nes i ni gofrestru naill ai grant ystad rydd-ddaliol newydd o’r Goron neu drosglwyddiad o un o’r Dugiaethau Brenhinol.

4.5.4.1 Hysbysu Cofrestrfa Tir EF am yr ymwadiad heb gais ffurfiol

Mae’r gofynion wedi eu nodi yn Hysbysu Cofrestrfa Tir EF heb gais ffurfiol.

4.5.4.2 Cais am rybudd ffurfiol ymwadiad i’w gofnodi yn y gofrestr o dan reol 79 a 173 o Reolau Cofrestru Tir 2003

Mae’r gofynion wedi eu nodi yn Cais i gofnodi rhybudd ffurfiol ymwadiad/a neu gau’r ystad brydlesol gofrestredig o dan reol 79 o Reolau Cofrestru Tir 2003.

Byddwn yn gwneud y cofnod canlynol yn y gofrestr eiddo:

“Mae’r ystad gofrestredig yn y teitl hwn wedi terfynu ar ymwadiad gan yr ymddiriedolwr mewn methdaliad ar [dyddiad] yn unol ag adran 315 o Ddeddf Ansolfedd 1985.

NODYN: Copi o’r ymwadiad yn y ffeil.”

Os yw’r teitl a asiedwyd yn ddarostyngedig i unrhyw brydles(i) cofrestredig, byddwn hefyd yn gwneud y cofnod canlynol yn y gofrestr eiddo ar gyfer y teitl prydlesol:

“Mae ystad gofrestredig y [prydleswr (neu yn ôl fel y digwydd)] wedi terfynu ar ymwadiad gan yr ymddiriedolwr mewn methdaliad ar [dyddiad] yn unol ag adran 315 o Ddeddf Ansolfedd 1986 ond mae’r cofnodion yn ymwneud â’r ystad i barhau yn y gofrestr.

NODYN: Copi o’r ymwadiad wedi ei ffeilio o dan [rhif teitl rhydd-ddaliol a ymwadwyd].”

Gallwn gymhwyso’r cofnodion uchod lle ceir amheuaeth a yw asiedu wedi digwydd.

4.6 Hawliau meddiannaeth

Mae’r hawliau canlynol yn ffurfio arwystl ar yr ystad neu fudd a freiniwyd yn yr ymddiriedolwr mewn methdaliad:

  • lle bo hawliau cartref priod neu bartner sifil o dan Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 yn arwystl ar ystad neu fudd y priod sydd wedyn yn mynd yn fethdalwr (adran 336(2) o Ddeddf Ansolfedd 1986)
  • lle bo rhywun, yn rhinwedd ystad neu fudd llesiannol, yn meddiannu tŷ preswyl ac yn cael ei ddyfarnu’n fethdalwr a, phan gyflwynwyd y ddeiseb a phan wnaed y gorchymyn methdaliad, bod cartref rhywun o dan 18 oed gyda’r methdalwr, (adran 337(2) o Ddeddf Ansolfedd 1986)

Bydd angen cais i’r llys i alluogi’r ymddiriedolwr mewn methdaliad i drin yr eiddo yn rhydd o hawliau meddiannaeth o’r fath (adrannau 336(3) a 337(2), DA1986)

Os caiff y cais ei wneud fwy na blwyddyn ar ôl breinio’r ystad neu fudd yn yr ymddiriedolwr, mae’r llys yn rhwym i dybio, heblaw o dan amgylchiadau neilltuol, bod buddion y credydwr yn gorbwyso ystyriaethau eraill (adrannau 335(6) a 337(6) o Ddeddf Ansolfedd 1986).

4.7 Arwystlai blaenorol yn gwerthu

Os cofrestrwyd arwystl eisoes cyn cofrestru rhybudd methdaliad neu gyfyngiad methdaliad, mae gan fudd yr arwystlai flaenoriaeth dros ystad y methdalwr.

Os bydd darpar arwystlai yn cael tystysgrif glir mewn ymateb i chwiliad swyddogol i ddiogelu arwystl arfaethedig, ac yn cyflwyno’r cais i gofrestru’r arwystl i Gofrestrfa Tir EF yn y cyfeiriad a nodir yng Nghyfarwyddyd y Cyfarwyddwr (gweler cyfeiriadau Cofrestrfa Tir EF ar gyfer ceisiadau) o fewn cyfnod blaenoriaeth y chwiliad, yna, eto, mae gan fudd yr arwystlai flaenoriaeth dros ystad y methdalwr. (Dyma fel y mae hyd yn oed os caiff yr wybodaeth yn ymwneud â’r achos methdaliad ei darparu i Uned Methdaliad Cofrestrfa Tir EF cyn gwneud y cais oherwydd bod canlyniad y chwiliad swyddogol yn rhoi blaenoriaeth i’r arwystlai sy’n gwneud y cais.)

Yn y naill sefyllfa neu’r llall uchod, ar wneud cais i gofrestru gwerthiant gan yr arwystlai yn ymarfer pŵer gwerthu statudol yr arwystlai, bydd y trosglwyddai yn cael ei gofrestru a’r cofnodion methdaliad yn cael eu dileu. (Fodd bynnag, mae’r sefyllfa’n wahanol o ran gwerthiant gan dderbynnydd a benodwyd gan yr arwystlai.

Asiant yr arwystlwr yw derbynnydd o’r fath ac nid yw’n ymarfer pŵer gwerthu statudol yr arwystlai.)

Mae arwystl yn goroesi ymwadiad gan yr ymddiriedolwr mewn methdaliad fel y mae pŵer gwerthu’r arwystlai (SCMLLA Properties Ltd v Eiddo Gesso [1995] BCC 793, 802-806, gan ddibynnu ar adran 104 (2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925). Nid yw’n berthnasol a gododd y pŵer cyn neu ar ôl yr ymwadiad.

5. Achos methdaliad lle bo’r dyledwr yn gydberchennog

5.1 Cyffredinol

Lle bo 2 neu fwy o gydberchnogion teitl cofrestredig, maent yn dal yr ystad gyfreithiol fel ymddiriedolwyr. Gall y cydberchnogion, fel unigolion, fod yn fuddiolwyr hefyd o dan yr ymddiried (er enghraifft, cyd-denantiaid llesiannol neu denantiaid cydradd).

Os bydd un o’r cydberchnogion hynny yn mynd yn fethdalwr mae’r canlyniadau fel a ganlyn:

  • mae unrhyw fudd llesiannol sydd gan y dyledwr yn yr ymddiried sy’n dal yr eiddo, neu mewn derbyniadau gwerthiant o dan ymddiried o’r fath, yn rhan o ystad y methdalwr ac, felly, mae’n breinio yn yr ymddiriedolwr mewn methdaliad (adran 306 o Ddeddf Ansolfedd 1986)
    • ni fydd manylion y breinio yn cael eu cofnodi yn y gofrestr
  • os yw’r dyledwr yn gyd-denant llesiannol, caiff y gyd-denantiaeth lesiannol ei thorri’n awtomatig
  • nid oes unrhyw newid yn yr ystad gyfreithiol, sy’n aros wedi ei breinio yn y cydberchnogion (gan gynnwys y dyledwr). Nid oes modd torri’r gyd-denantiaeth gyfreithiol (adrannau 36(2) a (3) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925). Nid yw’r ystad gyfreithiol yn ffurfio rhan o ystad y methdalwr (adran 283(3) o Ddeddf Ansolfedd 1986). Ni fydd unrhyw rybudd methdaliad na chyfyngiad methdaliad yn cael ei gofnodi yn y gofrestr. Ar unrhyw warediad, y cydberchnogion (gan gynnwys y dyledwr) sy’n dal i orfod cyflawni’r weithred berthnasol

5.2 Cofnodi cyfyngiad Ffurf J o blaid yr ymddiriedolwr mewn methdaliad a/neu gyfyngiad Ffurf A

Gall y Derbynnydd Swyddogol neu ymddiriedolwr mewn methdaliad cydberchennog methdalus wneud cais am gyfyngiad Ffurf J sy’n datgan:

‘Nid oes gwarediad o’r

[dewiswch y cymal bwled sy’n briodol]

  • ystad gofrestredig, ac eithrio gwarediad gan berchennog unrhyw arwystl cofrestredig a gofrestrwyd cyn cofnodi’r cyfyngiad hwn
  • arwystl cofrestredig dyddiedig [dyddiad] y cyfeirir ato uchod, ac eithrio gwarediad gan berchennog unrhyw is-arwystl cofrestredig o’r arwystl hwnnw a gofrestrwyd cyn cofnodi’r cyfyngiad hwn

i’w gofrestru heb dystysgrif wedi ei llofnodi gan y ceisydd i gofrestru neu eu trawsgludwr y rhoddwyd rhybudd ysgrifenedig o’r gwarediad i [enw’r ymddiriedolwr mewn methdaliad] (ymddiriedolwr mewn methdaliad [enw’r methdalwr]) yn [cyfeiriad ar gyfer gohebu].’

Os nad oes cyfyngiad Ffurf A yn y gofrestr perchnogaeth eisoes bydd y Derbynnydd Swyddogol neu ymddiriedolwr mewn methdaliad yn gallu gwneud cais i gofnodi un. Mae hyn oherwydd y bydd y methdaliad wedi torri’r gyd-denantiaeth lesiannol. Mae cyfyngiad Ffurf A yn datgan:

‘Nid oes gwarediad gan unig berchennog yr ystad gofrestredig (ac eithrio corfforaeth ymddiried) o dan yr hyn y mae arian cyfalaf yn codi i’w gofrestru oni bai yr awdurdodir hynny gan orchymyn y llys.’

Fodd bynnag, lle mae’r gofrestr eisoes yn cynnwys cyfyngiad ffurf J o blaid y Derbynnydd Swyddogol, gweler Cofnodi cyfyngiad Ffurf J pellach.

Ni fydd cyfyngiad Ffurf J neu A yn atal cofrestru gwarediad lle mae adran 27 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (talu arian cyfalaf i ddau ymddiriedolwr o leiaf) yn berthnasol. Felly, er enghraifft.

Mae’r dyledwr a’u priod yn gydberchnogion ac yn dal yr eiddo fel cyd-denantiaid llesiannol (cyn y methdaliad). Mae ymddiriedolwr y dyledwr mewn methdaliad yn gwneud cais i gofrestru cyfyngiadau Ffurf J a Ffurf A.

Mae rhywun, yn ddiffuant, yn prynu’r tir neu’n talu o flaen llaw ar warant arwystl cyfreithiol. Mae’n rhoi rhybudd yn ôl gofynion Ffurf J. Maent yn cydymffurfio â Ffurf A trwy gael derbynneb am arian cyfalaf oddi wrth ddau ymddiriedolwr. Mae’n rhydd o fudd yr ymddiriedolwr mewn methdaliad yn y budd llesiannol oedd gynt ym meddiant y dyledwr.

Yn achos y pryniant bydd y trosglwyddai yn cael ei gofrestru fel perchennog a’r cyfyngiadau’n cael eu dileu; yn achos yr arwystl, caiff ei gofrestru ond bydd y cyfyngiadau’n aros yn y gofrestr perchnogaeth.

Bydd yr ymddiriedolwr mewn methdaliad yn methu gwrthwynebu’r cofrestriad a bydd angen iddo ofyn i’r perchnogion cofrestredig roi cyfrif iddo am unrhyw elw clir.

5.2.1 Cofnodi cyfyngiad Ffurf J pellach

Byddwn yn gwrthod ceisiadau gan ymddiriedolwr olynol mewn methdaliad am gyfyngiad Ffurf J pellach os yw’r gofrestr deitl eisoes yn cynnwys cyfyngiad Ffurf J o blaid y Derbynnydd Swyddogol. Mae hyn oherwydd nad yw cofnodi cyfyngiad pellach o’r fath yn cael ei ystyried yn “angenrheidiol neu’n ddymunol” at un o’r dibenion a restrir yn adran 42(1)(a) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 y gellir nodi cyfyngiad ar ei gyfer.

Gallai’r ymddiriedolwr olynol wneud un o’r canlynol:

  • gofyn i’r Derbynnydd Swyddogol:

    • gwneud cais ar ffurflen RX4 i dynnu’r cyfyngiad Ffurf J presennol yn ôl (nid oes ffi yn daladwy) fel y gall yr ymddiriedolwr olynol wneud cais ar ffurflen RX1 (gyda’r ffi ragnodedig a thystiolaeth o benodiad) am gyfyngiad Ffurf J newydd, neu

    • darparu ffurflen RX4 wedi ei llenwi i’r ymddiriedolwr olynol ei chyflwyno ynghyd â’i gais am gyfyngiad Ffurf J newydd, neu

  • gwneud cais ar ffurflen AP1 (gyda’r ffi ragnodedig a thystiolaeth o’i benodiad) i newid y gofrestr i ddiweddaru’r cofnod cyfyngiad trwy amnewid enw a manylion cyfeiriad yr ymddiriedolwr olynol yn lle’r Derbynnydd Swyddogol

5.3 Y dyledwr a chydberchnogion eraill neu (ar ôl marwolaeth dyledwr) gweddill y cydberchnogion yn trosglwyddo

Bydd y dyledwr a’r cydberchnogion eraill neu, ar ôl marwolaeth y methdalwr, y perchnogion sydd wedi goroesi (ynghyd ag unrhyw ymddiriedolwr newydd, os bydd angen) yn gallu gwerthu neu arwystlo’r tir. Ar yr amod y cydymffurfir ag unrhyw gyfyngiad Ffurf A neu Ffurf J, nid yw’r methdaliad yn effeithio ar y prynwr neu arwystlai – gweler Cofnodi cyfyngiad Ffurf J o blaid yr ymddiriedolwr mewn methdaliad a/neu gyfyngiad Ffurf A.

5.4 Ailfreinio budd llesiannol y dyledwr

Gweler Ailfreinio cartref y methdalwyr o dan ba amgylchiadau y bydd budd llesiannol y dyledwr yn eu cartref yn ailfreinio yn y dyledwr.

Lle bydd ailfreinio’n digwydd o ran budd llesiannol y dyledwr mewn eiddo mewn cydberchnogaeth, rhaid i’r ymddiriedolwr mewn methdaliad, cyn pen 7 diwrnod, wneud pa gais bynnag i Gofrestrfa Tir EF sy’n angenrheidiol i adlewyrchu’r ailfreinio yn y gofrestr (rheol 10.168(2) o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016).

Cais fydd hwn fel arfer i dynnu’n ôl cyfyngiad ffurf J. Y dogfennau sydd eu hangen yw:

  • ffurflen RX4
  • tystysgrif yr ymddiriedolwr yn dweud bod y budd wedi breinio yn y methdalwr o dan adran 283A(2) neu 283A(4) o Ddeddf Ansolfedd 1986 neu adran 261(8) o Ddeddf Menter 2002

os nad yr ymddiriedolwr a enwyd yn y cyfyngiad ffurf J, neu’r Derbynnydd Swyddogol, yw’r ceisydd, tystiolaeth o’u penodiad. Gweler Cofrestru’r Derbynnydd Swyddogol neu’r ymddiriedolwr mewn methdaliad fel perchennog o ran y dystiolaeth sydd ei hangen.

Nid oes dim i’w dalu.

Weithiau bydd y cais i dynnu’n ôl rhybuddiad yn erbyn delio o blaid yr ymddiriedolwr mewn methdaliad. Y dogfennau sydd eu hangen yw:

  • ffurflen WCT
  • tystysgrif yr ymddiriedolwr yn dweud bod y budd wedi breinio yn y methdalwr o dan adran 283A(2) neu 283A(4) o Ddeddf Ansolfedd 1986 neu adran 261(8) o Ddeddf Menter 2002

os nad yw’r rhybuddiad o blaid y ceisydd, neu’r Derbynnydd Swyddogol yw’r ceisydd, tystiolaeth o’u penodiad. Gweler Cofrestru’r Derbynnydd Swyddogol neu’r ymddiriedolwr mewn methdaliad fel perchennog o ran y dystiolaeth sydd ei hangen.

Nid oes dim i’w dalu.

Mae methdaliad cydberchennog sydd hefyd yn gyd-denant llesiannol yn torri’r cyd-denantiaeth ecwitïol. Gall yr ymddiriedolwr mewn methdaliad fod wedi cofrestru cyfyngiad Ffurf A (neu ffurf 62) i adlewyrchu hyn.

Nid yw ailfreinio’n dadwneud y toriad. Ni all yr ymddiriedolwr mewn methdaliad wneud cais i dynnu’n ôl y cyfyngiad Ffurf A. Os yw’n briodol, gall y perchnogion cofrestredig wneud cais i’w ddileu.

6. Gorchymyn tâl o blaid y Derbynnydd Swyddogol neu’r ymddiriedolwr mewn methdaliad

Lle bo:

  • budd mewn tŷ preswyl yn ffurfio rhan o ystad y methdalwr
  • bod y tŷ yn cael ei feddiannu gan y methdalwr, priod neu briod blaenorol y methdalwr
  • bod yr ymddiriedolwr mewn methdaliad yn methu sylweddu’r budd, am ba reswm bynnag yna gall yr ymddiriedolwr wneud cais am orchymyn tâl dros y budd hwnnw er lles ystad y methdalwr (adran 313(1) o Ddeddf Ansolfedd 1986 a rheol 10.171 o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016).

Rhaid i orchymyn o dan adran 313 o Ddeddf Ansolfedd 1986 ddarparu bod yr eiddo yn peidio â bod yn rhan o ystad y methdalwr a breinio’r budd yn y methdalwr yn ddarostyngedig i’r gorchymyn tâl ac unrhyw arwystlon blaenorol.

Lle’r oedd budd y dyledwr yn fudd llesiannol mewn ymddiried tir, bydd y gorchymyn o dan adran 313 o Ddeddf Ansolfedd 1986 yn dod i rym fel arwystl ecwitïol dros fudd y dyledwr o dan yr ymddiried hwnnw neu mewn derbyniadau gwerthiant. Os yw’r eiddo’n gofrestredig, bydd yr ymddiriedolwr mewn methdaliad yn gallu gwneud cais am gyfyngiad Ffurf K, sy’n datgan:

‘Nid oes gwarediad o’r

[dewiswch y cymal bwled sy’n briodol]

  • ystad gofrestredig, ac eithrio gwarediad gan berchennog unrhyw arwystl cofrestredig a gofrestrwyd cyn cofnodi’r cyfyngiad hwn
  • arwystl cofrestredig dyddiedig [dyddiad] y cyfeirir ato uchod, ac eithrio gwarediad gan berchennog unrhyw is-arwystl cofrestredig o’r arwystl hwnnw a gofrestrwyd cyn cofnodi’r cyfyngiad hwn
  • i’w gofrestru heb dystysgrif wedi ei llofnodi gan y ceisydd i gofrestru neu eu trawsgludwr y rhoddwyd rhybudd ysgrifenedig o’r gwarediad i [enw’r ymddiriedolwr mewn methdaliad] yn [cyfeiriad ar gyfer gohebu], sef y person sydd â budd gorchymyn tâl [dros dro neu derfynol] ar fudd llesiannol [enw’r dyledwr dyfarniad] a wnaed gan [enw’r llys] ar [dyddiad] (Cyfeir-rif y llys [rhowch y cyfeir-rif])’

Lle bo’r dyledwr yn unig berchennog ac nad yw’n dal fel ymddiriedolwr (hynny yw, mae’n dal er eu lles eu hunain yn unig) bydd y gorchymyn o dan adran 313 o Ddeddf Ansolfedd 1986 yn dod i rym fel arwystl ecwitïol o’r ystad gyfreithiol. Os yw’r tir yn gofrestredig, bydd yr ymddiriedolwr mewn methdaliad yn gallu gwneud cais am gofnodi rhybudd o’r gorchymyn yn y gofrestr arwystlon trwy gyflwyno ffurflen AN1 neu ffurflen UN1 (fel y bo’n briodol) a chopi ardystiedig o’r gorchymyn tâl.

Os yw rhybudd methdaliad a chyfyngiad methdaliad eisoes yn y gofrestr, (fel y byddant fel arfer) dylai’r ymddiriedolwr wneud cais i gael dileu’r rhain wrth wneud cais i gofnodi’r gorchymyn tâl.

7. Trefniadau gwirfoddol

7.1 Cyffredinol

Mae trefniant gwirfoddol gyda chredydwyr yn cynnwys naill ai gompownd i dalu dyledion neu gynllun rhoi trefn ar faterion. Yn y naill achos neu’r llall rhaid i gyfarfod credydwyr ei gymeradwyo (gweler Rhan VII o Ddeddf Ansolfedd 1986).

Rhywun yn dwyn yr enw goruchwyliwr y trefniant gwirfoddol sy’n gweithredu’r trefniant.

Mae effaith trefniant gwirfoddol, os oes un, ar eiddo’r dyledwr yn dibynnu ar ei delerau. Bydd holl eiddo’r dyledwr yn y trefniant, os na chafodd ei eithrio’n benodol – rheol 8.2 neu 8.3 o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016.

Felly, os nad yw’r trefniant gwirfoddol yn ddim mwy na chytundeb i dalu symiau rheolaidd i’r goruchwyliwr, yna ni fydd effaith ar unrhyw ystad neu fudd cofrestredig perthnasol i’r dyledwr ac ni fyddai modd gwneud cais am rybudd na chyfyngiad o ran y trefniant chwaith.

Lle bo gan y dyledwr ystad gofrestredig neu fudd arall mewn ystad gofrestredig, bydd hawl y goruchwyliwr i wneud cais i gofnod gael ei wneud mewn teitl cofrestredig yn dibynnu a yw’r trefniant gwirfoddol yn darparu ar gyfer trosglwyddo, neu’n creu budd yn, ystad neu fudd y dyledwr ac, os felly, natur y budd hwnnw?

Mae Rhybuddion – unochrog ac a gytunwyd a Cyfyngiadau yn delio â’r dulliau o warchod rhai o’r buddion mwy cyffredin.

7.2 Rhybuddion – unochrog ac a gytunwyd

Os mai’r dyledwr yw unig berchennog ystad gofrestredig y mae’n ei dal i’w lles eu hunain, a’r trefniant yn creu arwystl ecwitïol, contract i werthu, opsiwn, neu hawl ragbrynu o blaid y goruchwyliwr sy’n effeithio ar yr ystad gofrestredig honno, mae modd gwneud cais i gofnodi rhybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog ar ffurflen AN1 neu ffurflen UN1, o ran y budd a grëwyd.

Os oes gan ddyledwr fudd llesiannol o dan ymddiried o dir ystad gofrestredig, a’r trefniant yn creu arwystl ecwitïol, contract i werthu, opsiwn, neu hawl ragbrynu o blaid y goruchwyliwr sy’n effeithio ar y budd hwnnw, nid oes modd gwarchod y budd a grëwyd trwy rybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog. Mae adran 33 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn darparu nad oes modd cofnodi unrhyw rybudd yn y gofrestr o ran budd o dan ymddiried o dir. Dull gwarchod budd sy’n cael ei ddal o dan ymddiried o dir yw trwy gyfyngiad.

7.3 Cyfyngiadau

Os mai effaith y trefniant yw creu ymddiried (naill ai’n benodol neu oherwydd, er enghraifft, bod datganiad bod eiddo’n cael ei ddal er lles y credydwyr (Parthed NT Gallagher & Son Ltd [2002] 1 W.L.R 2380 yn 2396)) a’i fod yn effeithio ar ystad neu fudd cofrestredig, yna gall fod yn bosibl i warchod yr ymddiried trwy gofnodi cyfyngiad.

Rhaid i unrhyw gais am gyfyngiad fod ar ffurflen RX1 a rhaid iddo ddod (heblaw cais gan neu gyda chaniatâd pob un o’r perchnogion cofrestredig) gyda chopi o’r trefniant. Mae hyn yn dangos bod ymddiried ar yr ystad gofrestredig a bod gan y goruchwyliwr fudd digonol mewn cofnodi’r cyfyngiad sy’n cael ei geisio (adran 43(1)(c) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002); ac i gynorthwyo’r cofrestrydd penderfynu a yw’n ymddangos bod y cyfyngiad yn angenrheidiol neu ddewisol o ran un neu fwy o’r dibenion yn adran 42(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Oni bai bod pob un o’r perchnogion cofrestredig yn gwneud cais am y cyfyngiad sy’n cael ei geisio neu’n cydsynio i’w gofnodi, bydd rhybudd o’r cais yn cael ei roi i’r perchnogion (adran 45(3)(a) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) a bydd angen ystyried unrhyw wrthwynebiad o dan adran 73 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ac, os nad yw’n ddi-sail, ei gyfeirio at is-adran Cofrestru Tir y Siambr Eiddo, Tribiwnlys yr Haen Gyntaf.

Os mai’r dyledwr yw’r unig berchennog cofrestredig, oedd yn dal yr eiddo cyn y trefniant gwirfoddol i’w lles eu hunain ac sy’n dal ar ymddiried ar ran y credydwyr o dan y trefniant gwirfoddol

O dan yr amgylchiadau hyn, y farn yw bod modd gwneud cais am gyfyngiad ar ffurf safonol A neu ar ffurf safonol II6 (sydd angen cyflwyno tystysgrif ar unrhyw gais i gofrestru gwarediad y rhoddwyd hysbysiad ysgrifenedig o’r gwarediad i’r goruchwyliwr. O ran geiriad y cyfyngiadau ar ffurf safonol – gweler rheol 91 o Reolau Cofrestru Tir 2003 ac Atodlen 4 i Reolau Cofrestru Tir 2003 a Rheolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2005.

Gall fod modd gwneud cais i gofnodi cyfyngiad ar ffurf safonol N neu L hefyd (yn ogystal â Ffurf A os gwnaed cais amdano) os yw’r trefniant gwirfoddol yn cynnwys darpariaeth na fydd y dyledwr yn trosglwyddo, arwystlo nac yn delio fel arall â’r eiddo heb gydsyniad y goruchwyliwr.

Cydberchnogion cofrestredig (y gall un ohonynt fod y dyledwr) oedd yn dal ar ymddiried ar ran y dyledwr ac eraill cyn y trefniant gwirfoddol

Os yw’r trefniant yn cynnwys arwystl neu aseiniad o fudd y dyledwr neu’n creu ymddiried o blaid y goruchwyliwr, mae modd gwneud cais i gofnodi cyfyngiad ar Ffurf safonol A, os na chofnodwyd cyfyngiad Ffurf A yn y gofrestr eisoes.

Os yw’r trefniant gwirfoddol yn cynnwys aseiniad o fudd llesiannol y dyledwr, y farn yw y gall y goruchwyliwr hefyd wneud cais am gyfyngiad ar Ffurf safonol II, gan mai’r goruchwyliwr yn hytrach na’r dyledwr fydd perchennog budd yr ymddiried.

Os yw’r budd yn cael ei ddal ar ymddiried gan y dyledwr ar ran y credydwyr neu ar arwystl i’r goruchwyliwr, y farn yw nad oes modd gwneud cais am unrhyw ffurf o gyfyngiad, heblaw Ffurf A (os na chofnodwyd eisoes), oni bai bod y perchnogion cofrestredig i gyd yn cydsynio â’r cyfyngiad. Mae hyn oherwydd y bydd budd y goruchwyliwr neu’r credydwyr yn ddeilliadol. (Tra byddai’n ymddangos bod budd y dyledwr yn hawl neu hawliad o ran ystad gofrestredig (o fewn adran 42(1)(c) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002), mae rhywfaint o bellter rhwng yr arwystl ar fudd y dyledwr, neu fuddion llesiannol ynddo, â’r ystad gofrestredig ac, felly, ni chânt eu hystyried fel hawliau neu hawliadau o fewn adran 42(1)(c).)

Os yw’r dyledwr yn dal eu budd llesiannol ar ymddiried noeth ar ran y goruchwyliwr, y farn yw bod modd gwneud cais am gyfyngiad ar Ffurf safonol II. Oherwydd nad oes pellter rhwng budd y goruchwyliwr â’r ystad gofrestredig, gall y goruchwyliwr gymryd lle’r dyledwr. Mae cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr yn cynnwys rhagor o wybodaeth ynghylch gwneud cais i gofnodi rhybuddion a gytunwyd a rhybuddion unochrog a chyfyngiadau.

8. Cofrestru a dileu cofnodion methdaliad a chwiliadau swyddogol yn yr Adran Pridiannau Tir

Mae’r Prif Gofrestrydd Tir yn cynnal 5 cofrestr o faterion sy’n effeithio ar dir digofrestredig yng Nghymru a Lloegr, o dan Ddeddf Pridiannau Tir 1972 a Rheoliadau Pridiannau Tir 1974.

Caiff ceisiadau methdaliad, deisebau methdaliad a gorchmynion methdaliad eu cofrestru yng nghofrestr achosion arfaethedig a chofrestr gwritiau a gorchmynion yn ôl eu trefn. Gwneir hyn heb ystyried a yw’n hysbys bod y dyledwr yn berchennog eiddo neu beidio.

Bydd prynwr diffuant ystad gyfreithiol (mewn tir digofrestredig) am arian neu werth arian yn rhydd o unrhyw hawl gan yr ymddiriedolwr mewn methdaliad os, ar ddyddiad cwblhau’r pryniant, na chofnodwyd unrhyw fethdaliad yn yr Adran Pridiannau Tir (adrannau 5(8), 6(5) a 6(6) o Ddeddf Pridiannau Tir 1972). Bydd prynwr hefyd yn rhydd o hawl o’r fath os nad yw chwiliad swyddogol yn dadlennu cofnod methdaliad pan ddylai (adran 10(4) o Ddeddf Pridiannau Tir 1972); neu os caiff cofnod methdaliad ei wneud yn ystod cyfnod blaenoriaeth chwiliad swyddogol a’r pryniant yn cael ei gwblhau yn ystod y cyfnod hwnnw (adran 11(5) o Ddeddf Pridiannau Tir 1972).

Pan wneir cais methdaliad i’r dyfarnwr neu pan ffeilir deiseb methdaliad gyda’r llys, rhaid i’r dyfarnwr neu’r llys wneud cais i’r Prif Gofrestrydd Tir yn yr Adran Pridiannau Tir bod rhybudd o’r cais neu ddeiseb i’w gofrestru yn y gofrestr achosion arfaethedig a gedwir o dan adran 5 o Ddeddf Pridiannau Tir 1972 (rheol 10.13 o Reolau Methdaliad (Cymru a Lloegr) 2016 (yn achos deiseb credydwr) a rheol 10.37 o Reolau Methdaliad (Cymru a Lloegr) 2016 (yn achos cais dyledwr).

Pan fydd y dyfarnwr neu’r llys yn gwneud gorchymyn methdaliad, rhaid anfon o leiaf ddau gopi o dan sêl at y Derbynnydd Swyddogol. O’i dderbyn, rhaid i’r Derbynnydd Swyddogol anfon rhybudd o wneud y gorchymyn at y Prif Gofrestrydd Tir yn yr Adran Pridiannau Tir i’w gofrestru yng nghofrestr gwritiau a gorchmynion sy’n effeithio ar dir a gedwir o dan adran 6 o Ddeddf Pridiannau Tir 1972 (rheol 10.33 o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016 (yn achos deiseb credydwr) a rheol 10.46 o Reolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016 (yn achos cais dyledwr)).

I gael rhagor o wybodaeth gweler practice guide 63: land charges: registration, official search, office copy and cancellation.

Nodyn 1

Oni bai iddo gael ei adnewyddu, daw cofrestriad deiseb neu orchymyn methdaliad i ben yn awtomatig ar ddiwedd cyfnod 5 mlynedd wedi dyddiad ei wneud (adran 8 o Ddeddf Pridiannau Tir 1972).

Nodyn 2

Pan fydd cofrestriad deiseb neu orchymyn methdaliad yn cael ei ddileu (er enghraifft, ar wrthod deiseb neu ddirymu gorchymyn neu’r dyfarnwr yn gwrthod gwneud gorchymyn methdaliad) yn yr Adran Pridiannau Tir neu y daw ei amser i ben, ni fydd y rhybudd methdaliad neu gyfyngiad methdaliad a gofnodwyd ar gyfer teitl cofrestredig yn cael ei ddileu oni bai bod cais penodol (llwyddiannus) yn cael ei wneud i Gofrestrfa Tir EF.

Nodyn 3

Pan gaiff methdalwr ei ryddhau o’i fethdaliad, ni fydd cofrestriad cais neu ddeiseb neu orchymyn methdaliad yn cael ei ddileu oni bai bod gorchymyn llys penodol i ddileu (er enghraifft, o dan adran 1(6) o Ddeddf Pridiannau Tir 1972) (neu lle y mae’r dyfarnwr yn gwrthod gwneud gorchymyn methdaliad, llythyr gwrthod sy’n cynnwys y wybodaeth a nodir yn Tynnu rhybudd methdaliad ymaith lle y mae deiseb y methdaliad yn cael ei gwrthod neu ei thynnu’n ôl trwy ganiatâd y llys, neu mae’r dyfarnwr yn gwrthod gwneud gorchymyn methdaliad.

Nodyn 4

Os yw methdalwr a ryddhawyd yn cael gorchymyn, o dan adran 1(6) o Ddeddf Pridiannau Tir 1972, bod cofrestriad deiseb methdaliad a/neu orchymyn methdaliad i gael ei ddirymu (dan adran 5 o Ddeddf Pridiannau Tir 1972) neu lythyr gwrthod o’r dyfarnwr, o gyflwyno cais priodol yn Adran Pridiannau Tir, bydd y cofnod (neu gofnodion) yn cael ei ddirymu. Fodd bynnag, nid oes gan orchymyn o’r fath unrhyw effaith ar freinio eiddo, yn wahanol i orchymyn yn dirymu neu’n dadwneud gorchymyn methdaliad. O ganlyniad, bydd unrhyw dir neu arwystl (cofrestredig neu heb ei gofrestru) sydd wedi breinio yn yr ymddiriedolwr mewn methdaliad yn aros wedi ei freinio felly ac ni fydd yn ailfreinio yn y methdalwr a ryddhawyd. Felly, ni chaiff rhybudd methdaliad neu gyfyngiad methdaliad ei ddileu o deitl cofrestredig os caiff gorchymyn o’r fath (neu lythyr gwrthod) ei gyflwyno.

Nodyn 5

I ddileu’r cofrestriadau yn yr Adran Pridiannau Tir rhaid gwneud ceisiadau i’r adran honno gan ddefnyddio ffurflen K11 neu K11(ADJ) Pridiannau Tir ar wahân ar gyfer pob dilead sydd ei angen ac amgáu copi swyddogol o’r gorchymyn (neu lythyr gwrthod y dyfarnwr) a’r taliad penodedig. Ni fydd dileu achos arfaethedig mewn methdaliad a/neu orchymyn methdaliad yn yr Adran Pridiannau Tir yn peri i Gofrestrfa Tir EF weithredu i ddileu rhybudd methdaliad neu gyfyngiad methdaliad.

9. Pethau i’w cofio

Sylwer, efallai na fydd Cofrestrfa Tir EF yn gallu prosesu ceisiadau sy’n anghyflawn neu’n ddiffygiol, a bydd eich cais mewn perygl o golli ei flaenoriaeth os byddwn yn gorfod ei ddychwelyd atoch – gweler cyfarwyddyd ymarfer 49: dychwelyd a gwrthod ceisiadau i gofrestru am ragor o wybodaeth.

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.