Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig

Diweddarwyd 6 February 2023

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Mae Rheolau Cofrestru Tir 2003 (fel y’u newidiwyd gan Reolau Cofrestru Tir (Newidiad) (Rhif 2) 2005) yn ei wneud yn ofynnol i’r rhan fwyaf o brydlesi sy’n:

  • warediadau o ystad gofrestredig mewn tir, ac
  • ac mae angen eu cwblhau trwy gofrestru

i gynnwys casgliad safonol o gymalau sy’n gorfod ymddangos ar ddechrau pob prydles o’r fath. Bydd Cofrestrfa Tir EF yn paratoi’r cofnodion cofrestr i gwblhau cofrestriad y brydles o’r wybodaeth a ddarparwyd yn y cymalau felly mae’n bwysig eu bod yn cael eu cwblhau’n gywir.

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn rhoi gwybodaeth fanwl ynghylch cofrestru prydlesi cymalau penodedig a phrydlesi eraill lle caiff y cymalau penodedig eu defnyddio. Bydd o gymorth wrth i chi gwblhau prydles cymalau penodedig er mwyn ateb gofynion Cofrestrfa Tir EF. Mae’r cyfarwyddyd hefyd yn datgan canlyniadau naill ai cwblhau’r cymalau penodedig yn anghywir, neu fethu â’u cwblhau, pan fo angen.

2. Ceisiadau sy’n cael eu heffeithio gan y newidiadau

Dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau a anfonir gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF y bydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

2.1 Prydlesi sy’n gorfod cynnwys y cymalau penodedig

Heblaw fel y crybwyllwyd yn Eithriadau i’r gofyniad cyffredinol, rhaid i brydlesi er 19 Mehefin 2006 gynnwys y cymalau penodedig lle bo’r brydles yn warediad o ystad gofrestredig mewn tir sy’n rhaid ei chwblhau trwy gofrestru o dan adran 27(2)(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (rheol 58A(4) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Mae hyn yn cynnwys rhoi prydles allan o ystad ddigofrestredig mewn tir lle’r oedd dyletswydd ar berchennog yr ystad rifersiwn i wneud cais i gofrestru’r ystad o dan adran 6 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 pan roddwyd y brydles (rheol 38 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Sylwer: Ni allwch wneud cais i gofrestru prydles a roddwyd allan o ystad ddigofrestredig mewn tir yr oedd dyletswydd ar rywun i wneud cais i’w chofrestru nes bydd cais i gofrestru’r ystad uwch honno’n cael ei wneud. I gael rhagor o fanylion, gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf.

2.2 Eithriadau i’r gofyniad cyffredinol

2.2.1 Prydlesi nad ydynt yn gorfod cynnwys cymalau penodedig

O dan nifer cyfyngedig o amgylchiadau, nid yw prydles allan o ystad gofrestredig mewn tir ac sydd angen ei chwblhau trwy gofrestru, yn gorfod cynnwys y cymalau penodedig (rheol 58A(4)(c) a (d) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Nid yw prydles yn gorfod cynnwys y cymalau penodedig pan gaiff ei rhoi ar ffurf sy’n ofynnol yn benodol naill ai:

  • trwy gytundeb a wnaed cyn 19 Mehefin 2006 (fel arfer, bydd cytundeb ysgrifenedig ar gyfer prydles yn cynnwys copi cyflawn o ffurf y brydles ei hun a gytunwyd)
  • trwy orchymyn y llys
  • trwy (neu dan) ddeddfiad (ond gweler Sylwer 1), neu
  • trwy gydsyniad gofynnol neu drwydded i roi’r brydles a roddwyd cyn 19 Mehefin 2006 (er enghraifft, gan landlord uwch neu arwystlai’r landlord)

Yn ogystal, nid yw gweithred amrywio prydles sydd ag effaith ildio ac ail-roi’r ystad brydlesol yn gorfod bod yn brydles cymalau penodedig (ond gweler Sylwer 2). Mae’r eithriad hwn yn berthnasol pa un ai oedd y brydles wreiddiol yn brydles cymalau penodedig ai peidio.

Sylwer 1: I hawlio esemptiad o dan ddeddfiad, rhaid bod y brydles wedi cael ei llunio ar ffurf sy’n ofynnol yn benodol o dan Ddeddf, ac nid wedi ei rhoi yn unig yn unol â’r Ddeddf honno, neu’n cynnwys darpariaethau neilltuol (megis hawddfreintiau) a nodwyd gan y Ddeddf honno.

Sylwer 2: Mae’r esemptiad yn gymwys dim ond i weithred amrywio sy’n peri amrywiad o’r brydles trwy estyn tymor neu hyd y brydles sy’n bodoli ac felly’n ‘ildiad tybiedig ac ailroddiad’. Nid yw’r esemptiad yn gymwys lle, er bod gweithred wedi ei phenodi’n weithred amrywio, mae ei thelerau yn darparu ar gyfer ildiad penodol y brydles sy’n bodoli a rhoddiad prydles newydd yn ei lle. Am wybodaeth bellach, gweler cyfarwyddyd ymarfer 28: estyn prydlesi.

Nid oedd yn rhaid i brydles a roddwyd cyn 19 Mehefin 2006 gynnwys y cymalau penodedig ond gallai prydles a roddwyd rhwng 9 Ionawr 2006 a 18 Mehefin 2006 gynnwys y cymalau penodedig yn wirfoddol os oedd y partïon yn cytuno ar hynny.

2.2.2 Tystysgrif sydd ei hangen wrth hawlio eithriad

Os ydych yn hawlio bod un o’r eithriadau sy’n cael eu rhestru yn Prydlesi nad ydynt yn gorfod cynnwys cymalau penodedig, yn berthnasol i’ch prydles rhaid i chi gynnwys tystysgrif trawsgludwr (neu ryw dystiolaeth foddhaol arall) gyda’ch cais yn dangos pam yr ydych yn hawlio nad yw’r brydles yn brydles cymalau penodedig (rheol 58A(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Os nad ydych yn gwneud hyn, ni fydd modd inni dderbyn eich cais (gweler Ceisiadau diffygiol).

Mae’n bwysig eich bod yn gwneud yr hawliad hwn ac yn cyflwyno’r dystiolaeth briodol pan fo’ch prydles yn syrthio o fewn un o’r eithriadau, er mwyn i Gofrestrfa Tir EF fod yn ymwybodol o hyn. Yn ogystal, lle bo prydles eithriedig yn cynnwys y cymalau penodedig, bydd yn rhaid i Gofrestrfa Tir EF ystyried y cais i gofrestru’r brydles ar y sail a nodir yn Trin prydlesi eithriedig sy’n cynnwys cymalau penodedig.

2.2.3 Trin prydlesi eithriedig sy’n cynnwys cymalau penodedig

Os byddwch yn defnyddio cymalau penodedig mewn prydles sy’n dod o fewn un o’r eithriadau a restrwyd yn Prydlesi nad ydynt yn gorfod cynnwys cymalau penodedig, ni fyddwn yn dibynnu ar y cymalau hynny’n unig i gwblhau cofrestru. Mae hyn oherwydd bod rheol 72A(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn rhwymo Cofrestrfa Tir EF, wrth gwblhau cofrestru prydles eithriedig, i wneud cofnodion ar y gofrestr o ran materion sydd o’r natur y cyfeiriwyd atynt yng nghymalau LR9, LR10, LR11 a LR12, pan fo hynny’n briodol. Yn yr achosion hyn byddwn hefyd yn edrych ar y brydles i weld a oes unrhyw waharddiad neu gyfyngiad ar waredu’r brydles a gwneud cofnod yn ôl gofynion rheol 6(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003.

Yn yr achosion hyn gallwch barhau i ddefnyddio cymal LR13 i wneud cais i gofrestru ffurf safonol o gyfyngiad.

Fodd bynnag, nid ydym yn gorfod gwneud unrhyw gofnodion o ran materion sydd o’r natur y cyfeiriwyd atynt yng nghymalau LR9, LR10 neu LR11 neu gyfyngiad y cyfeiriwyd ato yng nghymal LR13 a all effeithio ar deitlau cofrestredig heblaw’r hyn sy’n berthnasol i’r tir a brydleswyd neu allan o’r hwn y caiff y brydles ei rhoi oni bai y rhoddir y rhifau(au) teitl ym mhanel 12 y ffurflen AP1 neu y gwneir cais penodol ffurflen AP1, ffurflen RX1, ffurflen AN1 neu ffurflen UN1 fel y bo’n briodol) (rheol 72A(4)(b) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

2.3 Defnyddio cymalau penodedig yn wirfoddol mewn ceisiadau am gofrestriad cyntaf

Gallwch baratoi prydles newydd sy’n destun cofrestriad cyntaf gan ddefnyddio’r cymalau penodedig. Fodd bynnag, nid yw hyn yn orfodol.

Wrth gwblhau cais am gofrestriad cyntaf, rhaid i Gofrestrfa Tir EF archwilio’r teitl digofrestredig a chofnodi rhybudd ar y gofrestr o faich unrhyw fudd yr ymddengys o’r archwiliad hwn ei fod yn effeithio ar yr ystad gofrestredig (rheol 35(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003), gan gynnwys materion perthnasol mewn prydles. Felly, byddwn yn dal i archwilio cynnwys prydles o’r fath, fel arfer, yn hytrach na dibynnu ar gynnwys y cymalau penodedig yn unig.

Os ydych yn gwneud cais am gofrestriad cyntaf gan ddefnyddio’r cymalau penodedig, byddwn yn derbyn cais i gofnodi cyfyngiad safonol a wnaed yng nghymal LR13, ac nid oes angen RX1 o dan yr amgylchiadau hyn (gweler LR13).

2.4 Lle y dylai’r cymalau penodedig ymddangos mewn prydles

Rhaid i’r cymalau penodedig ymddangos ar flaen y brydles. Pan fo’r brydles yn cynnwys dalen flaen, gall y cymalau penodedig ymddangos yn union ar ôl y ddalen flaen honno.

Mae Rheol 58A(4) o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn diffinio ‘dalen flaen’ fel ‘dalen glawr blaen, neu ddalen gynnwys os yw ar ddechrau’r brydles, neu ddalen glawr blaen a dalen gynnwys lle bo’r ddalen gynnwys yn union ar ôl y ddalen glawr blaen, a lle bo ‘dalen gynnwys’ yn golygu dalen gynnwys neu ddalen mynegai (ymhob achos, sut bynnag y’i disgrifiwyd) neu’r 2’.

3. Pwyntiau cyffredinol ar gwblhau cymalau penodedig

3.1 Nid oes angen dogfen ar wahân ar gyfer cymalau penodedig

Mae’r cymalau penodedig yn Atodlen 1A o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn rhan annatod o’r ddogfen a rhaid iddynt ffurfio rhan o’r brydles rwymedig a chyflawnedig. Rhaid i’r brydles wrthrannol gynnwys y cymalau penodedig hefyd.

3.2 Nid ffurflen gais Cofrestrfa Tir EF yw’r cymalau penodedig

Fel y crybwyllwyd yn Nid oes angen dogfen ar wahân ar gyfer cymalau penodedig mae’r cymalau penodedig yn rhan annatod o’r brydles. Fodd bynnag, cewch ddefnyddio cymal LR13 i ofyn am gofnodi ffurf safonol o gyfyngiad. Yn ogystal, pan fo’n briodol, byddwn yn gwneud cofnodion ar y gofrestr o’r materion sydd yn neu y cyfeiriwyd atynt yng nghymalau LR8, LR9, LR10, LR11, LR12 ac LR14 y byddai angen cais ar wahân ar eu cyfer mewn rhai achosion fel arall. Byddwch yn dal i orfod cyflwyno naill ai ffurflen FR1 neu ffurflen AP1, fel y bo’n briodol, i gofrestru prydlesi cymalau penodedig.

Nid yw prydles cymalau penodedig yn un o ffurflenni cais Cofrestrfa Tir EF sy’n cael eu rhestru yn Atodlen 1 i Reolau Cofrestru Tir 2003 ac, felly, nid oes gofynion arni o ran ffont, llinellu a maint pwynt fel y pennwyd yn rheolau 210 a 211 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Fodd bynnag, byddem yn disgwyl bod y cymalau penodedig mor ddarllenadwy â rhannau eraill y brydles.

3.3 Sut y dylid cyflwyno’r cymalau penodedig

Er bod Atodlen 1A i Reolau Cofrestru Tir 2003 yn cyflwyno’r cymalau penodedig ar ffurf tabl, yr unig ofyniad arnoch yw cynnwys testun y cymalau mewn prydles cymalau penodedig. Cewch hepgor unrhyw un neu bob un o’r llinellau er mwyn gwneud i’r wybodaeth benodedig gyd-fynd yn well â chynllun gweddill y brydles. Mae’n dderbyniol i benawdau ar yr ochr yn y tabl ymddangos fel penawdau arferol os dewiswch gyflwyno’r wybodaeth heb linellau tabl.

3.4 Yr hyn y gellir ei hepgor o’r cymalau penodedig

Yn gyffredinol, cewch hepgor neu ddileu:

  • holl eiriau mewn llythrennau italaidd, neu wynebddu ac italaidd (er enghraifft, ‘Rhif(au) teitl y rhoddwyd y brydles hon allan ohonynt. Gadewch yn wag os nad ydynt yn gofrestredig.”)
  • geiriau amherthnasol lle bo cymal yn rhoi mwy nag un dewis (er enghraifft, ‘Nid yw’r brydles hon yn cynnwys darpariaeth sy’n gwahardd neu’n cyfyngu ar warediadau.”)

Rhaid i chi beidio â hepgor naill ai:

  • y penawdau a rifwyd (er enghraifft, ‘LR9. HAWLIAU CAFFAEL NEU DERFYNU’), neu
  • is-benawdau (er enghraifft, ‘LR9.2 Cyfamod tenant i ildio’r brydles (neu gynnig ei hildio)’ o’ch prydles, hyd yn oed lle nad yw gweddill y brydles yn cynnwys unrhyw wybodaeth fyddai’n gofyn eich bod yn eu cwblhau

Os nad oes gennych unrhyw wybodaeth i roi mewn cymal penodedig, cewch naill ai:

  • ysgrifennu ‘Dim’, neu
  • ei adael yn wag

3.5 Lle y gellir hepgor cymal penodedig pan nad yw’n berthnasol

Gallwch hepgor neu ddileu:

  • cymal LR13 i gyd (lle nad ydych yn gwneud cais i gofrestru cyfyngiad safonol)
  • cymal LR14 i gyd (lle mai un person yw’r tenant neu lle y mae’r tenant yn fwy nag un person, caiff ffurflen JO wedi ei llenwi a’i harwyddo ei chyflwyno gyda’r cais i gofrestru’r brydles)

Sylwer: Os byddwch yn hepgor cymal LR13 ond yn cynnwys cymal LR14, peidiwch ag ail-rifo cymal LR14. Gall fod yn haws i chi gynnwys y 2 gymal ac ysgrifennu ‘Dim’.

3.6 Sut i osod y wybodaeth angenrheidiol

3.6.1 Cyfarwyddyd cyffredinol

Mae pob cymal penodedig yn cynnwys cyfarwyddyd mewn testun italaidd sy’n nodi sut y dylech gwblhau’r wybodaeth angenrheidiol.

Ar gyfer rhai cymalau penodedig, rhaid ichi wneud un datganiad o nifer o opsiynau (er enghraifft, cymal LR14). Yn yr achos hwn gallwch hepgor neu ddileu’r geiriad amhriodol.

Ar gyfer cymalau penodedig eraill rhaid ichi roi gwybodaeth am gynnwys y brydles. Yn yr achos hwn, fel rheol gallwch naill ai:

  • osod y wybodaeth yn llawn, neu
  • groesgyfeirio at gymal, atodlen neu baragraff perthnasol atodlen corff y brydles sy’n cynnwys y wybodaeth

Sylwer 1: Mae rhai cymalau penodedig yn nodi union ddull cwblhau. Yn yr achosion hyn bydd y cyfarwyddiadau mewn italig yn dweud wrthych sut i’w cwblhau. Ceir gwybodaeth fanwl ar sut i gwblhau pob cymal penodedig yn Y cymalau penodedig.

Sylwer 2: Ni ddylech gyfuno gwahanol ddulliau o gwblhau cymal penodedig. Er enghraifft, yng nghymal LR4, dylech naill ai osod disgrifiad llawn o’r eiddo a brydlesir neu gyfeirio at ran berthnasol corff y brydles sy’n cynnwys y disgrifiad – ni ddylech osod disgrifiad rhannol o’r eiddo yng nghymal LR4 ac yna croesgyfeirio at ran o gorff y brydles sy’n cynnwys disgrifiad pellach. Fodd bynnag, bydd cyfeiriad syml at y cyfeiriad eiddo yng nghymal LR4 ynghyd â chyfeiriad at ddisgrifiad manylach yn rhan berthnasol corff y brydles yn dderbyniol.

Sylwer 3: Ni ddylech newid penawdau’r cymalau penodedig, hyd yn oes os defnyddir gwahanol dermau neu ddiffiniadau yng ngweddill y brydles – yn yr achos hwn gallwch gynnwys croesgyfeiriad at y term neu ddiffiniad a ddefnyddir yng ngweddill y brydles, os bydd hyn yn osgoi dryswch.

Sylwer 4: Lle defnyddir geiriau neu ymadroddion ‘diffiniedig’ yn y cymalau penodedig, dylid gwneud hyn yn amlwg neu dylid cynnwys cyfeiriad at y cymal diffiniedig perthnasol yng nghorff y brydles o fewn y cymalau penodedig.

3.6.2 Croesgyfeirio at rannau eraill o’r brydles neu at ddogfennau a ymgorfforwyd

Lle bo’r dewis gennych i groesgyfeirio at gymalau o fewn y brydles, rhaid ichi sicrhau eich bod yn cyfeirio’n union at yr holl gymalau perthnasol. Peidiwch â chyfeirio’n gyffredinol naill ai at:

  • ‘Bob mater o’r fath yn y brydles’, neu
  • holl gynnwys tudalen wedi ei rhifo (oni bai nad oes unrhyw ddisgrifiad arall yn briodol)

Lle bo’r brydles yn cynnwys 2 neu ragor o ddarpariaethau sy’n berthnasol i’r cymalau penodedig, dylech gynnwys croesgyfeiriad at yr holl ddarpariaethau perthnasol yn y cymalau penodedig.

Lle bo’n bosibl, dylech osgoi defnyddio ‘cadwyni’ hir o groesgyfeiriadau wrth gwblhau’r cymalau penodedig, oni bai bod hyn yn angenrheidiol o ran eglurder neu i leihau’r posibilrwydd o gamddehongli’r brydles. Er enghraifft, os yw cymal penodedig yn cyfeirio at ddarpariaeth benodol yng nghorff y brydles a bod y ddarpariaeth honno, yn ei thro, yn cyfeirio at ddarpariaethau eraill yn y brydles, ni ddylid fod yn rhaid fel rheol cyfeirio’n benodol at y darpariaethau eraill yn y cymal penodedig.

Gallwch, os oes rhaid, gyfeirio mewn prydles cymalau penodedig at ddarpariaethau sydd wedi eu cynnwys mewn dogfen a ymgorfforwyd. Gall hyn fod yn wir, er enghraifft, pan roddir telerau’r brydles trwy gyfeirio at delerau prydles sy’n bodoli eisoes yr eiddo; neu lle bo isbrydles yn corffori telerau’r brif brydles trwy gyfeirio. Yn yr achos hwn:

  • yn ddelfrydol dylid atodi copi ardystiedig o’r ddogfen a ymgorfforwyd i’r brydles neu ei gyflwyno gyda’r cais ar gyfer cofrestriad
  • rhaid gwneud yn eglur yn y cymalau penodedig pa ddogfen y cyfeirir ati
  • os yw’r brydles a’r ddogfen a ymgorfforwyd yn cynnwys darpariaethau y mae’n rhaid eu cynnwys yn y cymalau penodedig, dylech gyfeirio at y 2 yn y cymalau hynny

3.7 Beth sy’n digwydd os byddaf yn gwneud camgymeriad wrth gwblhau cymal penodedig?

Mae’n hanfodol bwysig eich bod yn ofalus wrth gwblhau’r cymalau penodedig. Bydd Cofrestrfa Tir EF yn cwblhau cofrestru prydles cymalau penodedig ar sail y wybodaeth a ddarparwyd ynddynt yn unig.

Caiff canlyniadau rhoi gwybodaeth anghywir neu anghyflawn ynghylch cynnwys y brydles eu hystyried yn fwy manwl yn Y cymalau penodedig. Yn ogystal, mae Hepgoriadau o brydlesi cymalau penodedig a newidiadau iddynt yn nodi ein gofynion lle’r ydym wedi cwblhau cais ar sail gwybodaeth sydd naill ai’n anghywir neu’n anghyflawn mewn cymal penodedig.

3.8 Beth os wyf yn ansicr a ddylai darpariaeth ymddangos mewn cymal penodedig?

Os ydych yn ansicr a ddylid cynnwys un o ddarpariaethau prydles mewn cymal penodedig ai peidio, dylech ei chynnwys.

Byddwn yn archwilio darpariaethau’r brydles y cyfeiriwch atynt yn y cymalau ac yn gwneud cofnodion pan fo hynny’n briodol yn unig. Ni fydd unrhyw faterion y cyfeiriwyd atynt neu a gyflwynwyd yn y cymalau penodedig yn ymddangos ar y gofrestr os nad oes modd eu cofrestru neu eu nodi.

4. Ceisiadau diffygiol

Mae cyfarwyddyd ymarfer 49: dychwelyd a gwrthod ceisiadau i gofrestru yn cyflwyno’r meini prawf cyffredinol y bydd Cofrestrfa Tir EF yn eu defnyddio i wrthod ceisiadau i gofrestru sy’n sylweddol ddiffygiol (rheol 16(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Mae’r gofynion yn y cyfarwyddyd hwnnw yr un mor berthnasol i brydlesi cymalau penodedig.

Yn ogystal, bydd ceisiadau i gofrestru prydlesi cymalau penodedig (sef y rheiny y cyfeiriwyd atynt yn Prydlesi sy’n gorfod cynnwys y cymalau penodedig) a roddwyd ar neu ar ôl 19 Mehefin 2006 yn cael eu gwrthod naill ai:

  • lle na chawsant eu llunio yn y ffordd gywir
  • lle na chwblhawyd cymal LR4

Sylwer 1: Nid yw’r meini prawf gwrthod uchod sy’n berthnasol i brydlesi cymalau penodedig yn benodol yn berthnasol i unrhyw brydles lle nad yw’n orfodol defnyddio’r cymalau penodedig.

Sylwer 2: Gweler Ceisiadau sy’n cael eu heffeithio gan y newidiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau. Mae hyn yn golygu os yw eich cais yn cael ei ddychwelyd, copïau o’r dogfennau wedi eu sganio a anfonir yn ôl atoch.

Yn ogystal, caiff ceisiadau i gofrestru prydlesi nad ydynt yn gorfod cynnwys y cymalau penodedig (sef y rheiny y cyfeirir atynt yn Prydlesi nad ydynt yn gorfod cynnwys cymalau penodedig) eu gwrthod lle na chyflwynir tystysgrif neu dystiolaeth foddhaol arall y cyfeirir atynt yn Tystysgrif sydd ei hangen wrth hawlio eithriad).

5. Y cymalau penodedig

5.1 LR1 – Dyddiad y brydles

Dylid cwblhau cymal LR1 gyda dyddiad y brydles. Byddai’n ddefnyddiol pe byddech yn gwneud hynny ar ffurf ‘25 Mehefin 2006’, er enghraifft, gan mai dyma sut y bydd Cofrestrfa Tir EF yn cofnodi dyddiadau o’r fath.

5.2 LR2 – Rhi(au) teitl

5.2.1 LR2.1

Dylid cwblhau cymal LR2.1 gyda rhif(au) teitl eiddo’r landlord y caiff y brydles ei rhoi ohonynt.

Os caiff y brydles cymalau penodedig ei rhoi rhwng peri cofrestriad cyntaf y rifersiwn a’i gyflwyno, nid oes angen rhif(au) teitl (rheol 38 (1) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Mae’r un peth yn berthnasol i brydles sy’n defnyddio’r cymalau penodedig a gyflwynwyd fel rhan o gais am gofrestriad cyntaf.

5.2.2 LR2.2

Dylech gwblhau cymal LR2.2 gydag unrhyw rifau teitl (heblaw teitl(au) y landlord a roddwyd eisoes yn LR2.1) yr ydych yn gwneud cais i gofnodi materion y cyfeiriwyd atynt yng nghymalau LR9, LR10, LR11 a LR13 ar eu cyfer.

Os nad ydych yn cwblhau’r panel hwn yn gywir, nid ydym yn gorfod gwneud cofnod o faterion sydd yn neu y cyfeiriwyd atynt yn y cymalau hynny oni bai eich bod yn gwneud cais ar wahân ar eu cyfer (rheol 72A(4) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Lle bo’r cais ar wahân yn cael ei wneud ar ffurflen AP1 ac yn rhoi neu’n neilltuo hawddfraint, rhaid i chi nodi’r cymal, atodlen neu baragraff atodlen arbennig yn y brydles sy’n cynnwys yr hawddfraint (rheol 72A(5) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

5.3 LR3 – Partïon i’r brydles hon

Dylid cwblhau cymal LR3 gydag enwau a chyfeiriadau llawn y landlord, y tenant a (phan fo hynny’n berthnasol) unrhyw bartïon eraill i’r brydles. Rhaid i chi fanylu ar y partïon yn llawn yn y cymal hwn. Peidiwch â chyfeirio at ddisgrifiadau yn rhywle arall yn y brydles.

Peidiwch â newid y penawdau ‘Landlord’ a ‘Tenant’, hyd yn oed os nad fel hyn y caiff y partïon eu disgrifio yng ngweddill y brydles – yn yr achos hwn gallwch gynnwys croesgyfeiriad at y disgrifid yng ngweddill y brydles, os bydd hyn yn osgoi dryswch.

Os yw unrhyw un o’r partïon yn gwmni neu’n bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, rhowch y rhif cofrestredig a/neu’r diriogaeth lle cawsant eu corffori yn ôl y cyfarwyddyd yn y testun italaidd.

Os oes partïon eraill (fel cwmni rheoli neu warantwr), rhowch eu henwau llawn, cyfeiriadau, eu swyddogaeth fel parti i’r brydles a manylion cofrestru’r cwmni (fel yr uchod) o dan y pennawd ‘Partïon eraill’. Os mai’r unig bartïon i’r brydles yw’r landlord a’r tenant, cewch hepgor neu ddileu’r pennawd ‘Partïon eraill’.

5.4 LR4 – Eiddo

5.4.1 Pwyntiau cyffredinol o ran cwblhau cymal LR4

Dylid cwblhau cymal LR4 gyda naill ai:

  • disgrifiad llawn o’r eiddo a brydleswyd, neu
  • gyfeiriad at y cymal, atodlen neu baragraff atodlen yng nghorff y brydles sy’n disgrifio’r tir a brydleswyd

Pan fydd y disgrifiad eiddo wedi ei nodi yng nghymal LR4, dylai’r disgrifiad gynnwys y cyfeiriad post llawn pan fydd ar gael (gan gynnwys y cod post). Dylai’r disgrifiad hefyd gyfeirio at unrhyw gynllun sydd ynghlwm wrth y brydles.

Os oes unrhyw wrthdaro rhwng y manylion a roddwyd yn y cymal hwn a’r rhai y cyfeiriwyd atynt yn rhywle arall yn y brydles, byddwn yn cwblhau cofrestru’r brydles ar sail y wybodaeth a ddarparwyd yng nghymal LR4 yn unig.

Os nad ydych yn cwblhau’r panel hwn, byddwn yn methu â derbyn eich cais pan fo’n orfodol defnyddio’r cymalau penodedig (gweler (gweler Ceisiadau diffygiol).

Sylwer: Mae’r angen am gynllun mewn unrhyw brydles cymalau penodedig sy’n effeithio ar ran o’r tir mewn teitl cofrestredig yn newid i’r amgylchiadau cyffredinol lle mae’n rhaid i brydles gynnwys cynllun yn dangos y tir a brydlesir. Am fanylion pellach, gweler cyfarwyddyd ymarfer 40: cynlluniau Cofrestrfa Tir EF. Cofiwch hefyd os yw’r cynllun a atodir i’r brydles yn annigonol, ni fydd modd inni dderbyn eich cais – gweler cyfarwyddyd ymarfer 49: dychwelyd a gwrthod ceisiadau i gofrestru.

5.4.2 Eithriadau o’r tir a brydlesir

Weithiau bydd prydles yn cynnwys eithriad materol o fuddion arbennig o’r ystad a brydleswyd. Enghreifftiau o fuddion all gael eu heithrio fel hyn yw:

  • mwyngloddiau a mwynau
  • pren a choed
  • eitemau o ddiddordeb archeolegol neu hanesyddol
  • ffynhonnau mwynol neu ddŵr poeth
  • gwelyau nentydd
  • ffyrdd
  • ffyrdd marchogaeth

Gall prydles hefyd gynnwys darpariaeth i’r perwyl bod budd hawddfraint sy’n bodoli sy’n berthynol i deitl y landlord wedi ei eithrio o’r brydles. Gweler adran 10 o gyfarwyddyd ymarfer 62: hawddfreintiau, i gael rhagor o wybodaeth am ddarpariaethau sy’n atal pasio hawddfreintiau wrth roi prydles.

Cwblhewch gymal LR4 i gynnwys naill ai manylion unrhyw eiddo corfforol neu anghorfforol sydd wedi eu heithrio o’r tir a brydlesir neu gyfeiriad at y ddarpariaeth berthnasol yn y brydles. (Gellir defnyddio LR11 yn lle, ond mae’n well delio â hi yn LR4).

5.4.3 Estyniad prydles sy’n bodoli

Os yw’r brydles newydd sy’n cael ei rhoi yn estyniad prydles sy’n bodoli, mae angen datganiad yn LR4 yn debyg i hyn:

“Mae’r brydles hon yn weithredol yn ddarostyngedig i ond gyda budd y brydles sy’n bodoli dyddiedig ……”

Nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys i estyniadau wedi eu cynnwys mewn gweithredoedd amrywio.

5.5 LR5

LR5. Datganiadau penodedig ac ati (os yw’r brydles hon yn cynnwys datganiad sy’n cael ei nodi yn LR5.1, rhowch y datganiad perthnasol o dan yr is-gymal hwnnw neu cyfeiriwch at y cymal, atodlen neu baragraff atodlen yn y brydles hon sy’n cynnwys y datganiad. Yn LR5.2, dylech hepgor neu ddileu’r Deddfau hynny nad ydynt yn gymwys i’r brydles hon) LR5.1 Datganiadau penodedig o dan reolau 179 (gwarediadau o blaid elusen), 180 (gwarediadau gan elusen) neu 196 (prydlesi o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993) o Reolau Cofrestru Tir 2003. LR5.2 Gwneir y brydles hon dan, neu wrth gyfeirio at ddarpariaethau: Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967; Deddf Tai 1985; Deddf Tai 1988; Deddf Tai 1996

5.5.1 LR5.1

Mae cymal LR5.1 yn gofyn am fanylion unrhyw ddatganiad sydd ei angen trwy statud, gyda’i union eiriad yn rheolau 179, 180 neu 196 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Mae angen manylion y datganiadau hyn yn y canlynol:

  • prydles o blaid elusen (Datganiad gofynnol o dan adran 122(8) o Ddeddf Elusennau 2011, ar y ffurf a bennwyd yn rheol 179 o Reolau Cofrestru Tir 2003)
  • prydles gan elusen (Datganiad gofynnol o dan adran 122(1) o Ddeddf Elusennau 2011, ar y ffurf a bennwyd yn rheol 180 o Reolau Cofrestru Tir 2003)
  • brydles a roddwyd yn ôl darpariaethau Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (Datganiad gofynnol o dan adran 57(11) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 sydd ei angen yn unrhyw brydles newydd a roddwyd o dan adran 56 ohoni, ar y ffurf a bennwyd yn rheol 196(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003)

Gallwch weld rhagor o fanylion o’r amgylchiadau lle bo angen rhoi’r datganiadau gofynnol (a’u ffurf) yn y canlynol:

Lle bo angen un o’r datganiadau hyn, rhaid i chi naill ai:

  • roi’r datganiad yn llawn yng nghymal LR5.1, neu
  • gyfeirio at y cymal, atodlen neu baragraff atodlen yng nghorff y brydles sy’n cynnwys y datganiad yn llawn

5.5.2 LR5.2

5.5.2.1 Pwyntiau cyffredinol o ran cwblhau cymal LR5.2

Os gwnaed prydles dan, neu trwy gyfeirio at, ddarpariaethau unrhyw un o’r Deddfau canlynol mae’n effeithio ar sut y bydd Cofrestrfa Tir EF yn gorfod delio â’r cais:

  • Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967
  • Deddf Tai 1985
  • Deddf Tai 1988
  • Deddf Tai 1996

Os na wnaed prydles dan, neu trwy gyfeirio at, ddarpariaethau un o’r Deddfau hynny, dylech hepgor neu ddileu pob un ohonynt.

Lle gwnaed prydles yn unol ag un o’r Deddfau hynny, dylid cadw’r cyfeiriad at y Ddeddf honno a hepgor neu ddileu’r rhai nad ydynt yn berthnasol. Cyfeiriwch at enw’r Ddeddf yn unig – peidiwch â chyfeirio at yr adran(nau) neu atodlen(ni) unigol sy’n berthnasol i’r brydles. Byddwn yn archwilio’r brydles i weld yn union pa rai o ddarpariaethau’r Ddeddf sy’n effeithio ar y gwarediad ac yn cymryd y camau priodol.

5.5.2.2 Gwybodaeth gefndirol

Enghraifft gyffredin o brydles a wnaed trwy, neu’n ôl telerau, un o’r Deddfau sy’n cael eu rhestru yng nghymal LR5.2 yw prydles hawl i brynu a wnaed o dan ddarpariaethau Deddf Tai 1985. Bydd prydles o’r fath yn cynnwys y materion canlynol sydd angen eu cofnodi ar y gofrestr:

  • yr hawddfreintiau statudol y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2 Atodlen 6 i Ddeddf Tai 1985 (oni bai yr eithriwyd hwy’n benodol).
  • cyfamod gan y tenant i ad-dalu’r gostyngiad a roddwyd o dan hawl i brynu os ydynt yn gwaredu’r eiddo o fewn cyfnod arbennig (caiff y cyfamod hwn ei alw’n arwystl gostyngiad ac mae’n dod i rym fel arwystl cyfreithiol ar yr eiddo)

Mae Deddf Tai 1985 yn rhwymo Cofrestrfa Tir EF i gofnodi’r 2 ddarpariaeth hyn yng nghofrestr y tenant, heb i’r tenant wneud cais. Bydd landlordiaid y sector cyhoeddus yn llunio’u dogfennau cynsail eu hunain ar gyfer gwarediadau o dan Ddeddf Tai 1985, sy’n golygu nad oes unrhyw gynllun safonol i brydlesi o’r fath. Ar hyn o bryd, gall prydles o’r fath gyfeirio at unrhyw un neu bob un o rannau canlynol Deddf Tai 1985 yn unrhyw ran o’r brydles, gan ei gwneud yn anodd eu hadnabod gydag unrhyw sicrwydd:

  • Adran 156
  • Rhan V
  • Adrannau 118 – 188
  • Atodlen 6

Bydd gofyn am gyfeiriad at y ddeddfwriaeth fel rhan o’r cymalau penodedig yn gwneud adnabod y cais yn rhwyddach i staff Cofrestrfa Tir EF a sicrhau bod y cofnodion cywir yn ymddangos ar y gofrestr.

5.6 LR6

LR6. Cyfnod prydlesu’r Eiddo (dylid cynnwys dim ond y datganiad priodol (wedi ei gwblhau yn briodol) o’r tri opsiwn. NODYN: Defnyddir y wybodaeth rydych yn ei rhoi neu yn cyfeirio ati yma fel rhan o’r manylion i adnabod y brydles o dan reol 6 o Reolau Cofrestru Tir 2003.) Oddi ar ac yn cynnwys/I ac yn cynnwys NEU y cyfnod a nodir yn y brydles hon yn: cymal/atodlen/paragraff NEU mae’r cyfnod fel a ganlyn:

Mae cymal LR6 yn gofyn am ba gyfnod y prydleswyd y tir y cyfeiriwyd ato yng nghymal LR4. Dylid cwblhau’r datganiad priodol o’r 3 dewis.

Rydym yn deall nad yw telerau rhai prydlesi ar ffurf ‘oddi ar… i…’. Bwriad ail a thrydydd dewis cymal LR6 yn arbennig yw caniatáu digon o hyblygrwydd i ddelio ag unrhyw fath o gyfnod all ddigwydd.

Disgrifiwch gyfnod y brydles un ai:

  • trwy roi manylion dyddiadau dechrau a darfod y cyfnod (ar gyfer cyfnodau syml)
  • trwy gyfeirio at y cymal, atodlen neu baragraff atodlen yn y brydles sy’n cynnwys manylion y cyfnod, neu
  • trwy ddangos manylion y cyfnod yn llawn yn y cymal hwn

5.7 LR7

LR7. Premiwm (Nodwch gyfanswm y premiwm, gan gynnwys unrhyw TAW lle bo hynny’n daladwy.)  

5.7.1 7.7.1 Pwyntiau cyffredinol o ran cwblhau cymal LR7

Dylid cwblhau cymal LR7 gyda manylion unrhyw bremiwm a dalwyd. Peidiwch â chyfeirio at y cymal, atodlen neu baragraff yng nghorff y brydles sy’n cynnwys y wybodaeth hon.

Os nad oes premiwm yn cael ei dalu, naill ai rhowch ‘Dim’ neu gadewch y cymal hwn yn wag.

Lle bo’r premiwm yn cynnwys elfen o TAW, cynhwyswch hyn yn y ffigur trwy ddatgan er enghraifft, ‘£100,000 ynghyd â TAW o £17,500’ neu ‘£117,500 yn cynnwys TAW’. Peidiwch â chyfeirio dim ond at TAW yn gyffredinol, er enghraifft, ‘£100,000 ynghyd â TAW’.

Yn absenoldeb tystiolaeth yn y brydles neu bapurau eraill a gyflwynwyd bod TAW yn daladwy, bydd Cofrestrfa Tir EF yn cymryd yn ganiataol bod y gydnabyddiaeth neu bremiwm a rhent a ddyfynnwyd mewn gweithred yn cynnwys unrhyw elfen TAW sy’n daladwy.

5.7.1.1 Gwybodaeth gefndirol

O dan Ddeddf Treth ar Werth 1994, mae TAW ar y gyfradd safonol yn daladwy o ran rhai trafodion eiddo masnachol sy’n cynnwys tir.

Bydd Cofrestrfa Tir EF yn asesu’r ffïoedd ar y swm yn cynnwys TAW ac yn defnyddio’r wybodaeth yng nghymal LR7 i wneud cofnod o’r pris a dalwyd ar y gofrestr. I gael rhagor o wybodaeth am gofnodi data pris a dalwyd ar y gofrestr, gweler cyfarwyddyd ymarfer 7: cofnodi ar y gofrestr y pris a dalwyd neu’r gwerth a ddatganwyd.

5.8 LR8

LR8. Gwaharddiadau neu gyfyngiadau yn erbyn gwaredu’r brydles hon (dylid cynnwys y datganiad sy’n fwyaf priodol o’r ddau. Peidiwch â nodi geiriad y ddarpariaeth yma.) Nid yw’r brydles hon yn cynnwys darpariaeth sy’n gwahardd neu yn cyfyngu ar warediadau. NEU Mae’r brydles hon yn cynnwys darpariaeth sy’n gwahardd neu sy’n cyfyngu ar warediadau.

Mae cymal LR8 yn gofyn (yn fras yn unig) a yw’r brydles yn cynnwys unrhyw waharddiad neu gyfyngiad ar waredu gan y tenant. Dylid dileu neu hepgor y geiriad amhriodol yn y cymal hwn.

Bydd Cofrestrfa Tir EF yn gwneud cofnod ar y gofrestr lle dewiswyd yr ail o’r 2 ddewis yng nghymal LR8 (rheol 6(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Peidiwch â manylu’n llawn na chyfeirio at y cymal(au) perthnasol yn y brydles sy’n cynnwys y gwaharddiad neu gyfyngiad, am nad yw ffurf y cofnod ar y gofrestr yn dibynnu ar eiriad y brydles.

Os nad ydych yn cwblhau’r cymal hwn yn gywir (sef trwy gynnwys neu hepgor y 2 ddatganiad) ni fydd Cofrestrfa Tir EF yn gwneud cofnod o’r cyfyngiad ar waredu oni bai eich bod yn gwneud cais ar wahân ar ffurflen AP1 (rheol 72A(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Os byddwch yn gwneud cais ar wahân ar ffurflen AP1, rhaid i chi ddatgan pa gymal, atodlen neu baragraff atodlen arbennig yn y brydles sy’n cynnwys y cyfyngiad ar waredu (rheol 72A(5) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

5.9 LR9

LR9. Hawliau caffael ac ati (rhowch y darpariaethau perthnasol yn yr is-gymalau neu cyfeiriwch at y cymal, atodlen neu baragraff atodlen yn y brydles hon sy’n cynnwys y darpariaethau.) LR9.1 Hawliau cytundebol y Tenant i adnewyddu’r brydles hon, i gaffael y rifersiwn neu brydles arall o’r Eiddo, neu i gaffael budd mewn tir arall; LR9.2 Cyfamod y Tenant i ildio’r brydles hon (neu i gynnig ei wneud; LR9.3 Hawliau cytundebol y Landlord i gaffael y brydles hon

5.9.1 LR9.1

Dylid cwblhau cymal LR9.1 gyda manylion unrhyw hawliau cytundebol o blaid y tenant un ai:

  • i adnewyddu’r brydles hon
  • i gaffael y rifersiwn
  • i gaffael prydles arall o’r eiddo, neu
  • i gaffael budd mewn tir arall

Cewch naill ai:

  • roi testun llawn y ddarpariaeth berthnasol, neu
  • gyfeirio at y cymal, atodlen neu baragraff atodlen yng nghorff y brydles sy’n cynnwys yr opsiwn neu hawl

Os bydd unrhyw hawliau neu opsiynau o blaid y tenant yn effeithio ar rifau teitl heblaw teitl y landlord sy’n cael ei grybwyll yng nghymal LR2.1, mae Cofrestrfa Tir EF yn gorfod gwneud cofnod o’r budd dim ond lle byddwch yn rhestru’r teitlau ychwanegol hyn yng nghymal LR2.2 (rheol 72A(4)(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Os nad ydych yn cwblhau’r cymal hwn, nid yw Cofrestrfa Tir EF yn gorfod gwneud cofnod o’r budd oni bai eich bod yn gwneud cais ar wahân ar ffurflen AN1 neu ffurflen UN1 (rheol 72A(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

5.9.2 LR9.2

Gall prydles gynnwys cyfamod neu ymrwymiad gan y tenant i ildio (neu i gynnig ildio) y brydles i’r landlord o dan amgylchiadau arbennig er enghraifft, cyn aseinio’r brydles. Gall darpariaeth o’r fath ffurfio contract ystad (er na wnaed taliad am ildio) a budd, felly, sy’n effeithio ar yr ystad brydlesol (Greene yn erbyn Comisiynwyr yr Eglwys [1974] Ch 457).

Bydd Cofrestrfa Tir EF yn cofnodi bodolaeth budd o’r fath trwy wneud y nodyn canlynol i fanylion y brydles yn nheitl y tenant:

“NODYN: Mae ymrwymiad ar y prydlesai i [gynnig] ildio’r brydles o dan yr amgylchiadau sy’n cael eu crybwyll ynddi.”

Dylid cwblhau cymal LR9.2 gyda manylion unrhyw:

  • gyfamod gan y tenant i ildio’r brydles, neu
  • gyfamod gan y tenant i gynnig ildio’r brydles

Cewch naill ai:

  • roi testun llawn y ddarpariaeth berthnasol, neu
  • gyfeirio at y cymal, atodlen neu baragraff atodlen yng nghorff y brydles sy’n cynnwys y cyfamod

Os nad ydych yn cwblhau’r cymal hwn, nid yw Cofrestrfa Tir EF yn gorfod gwneud cofnod o’r budd oni bai eich bod yn gwneud cais ar wahân ar ffurflen AN1 neu ffurflen UN1 (rheol 72A(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Sylwer bod yr hawl i landlord wneud cais i’r llys am orchymyn am feddiant o dan adran 61 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993, yn hawl statudol nid cytundebol ac ni ddylid ei nodi yng nghymal 9.3.

Sylwer: Ni fydd Cofrestrfa Tir EF yn gwneud cofnod o ran unrhyw gyfamod sy’n ffurfio rhan o gymal ‘llesteirio’ sy’n cynnwys gofyniad ynghylch cyflwyno rhybudd.

5.9.3 LR9.3

Dylid cwblhau cymal LR9.3 gyda manylion unrhyw hawl gytundebol ar ran y landlord i gaffael y brydles. Enghraifft o hawl o’r fath fyddai hawl ragbrynu (sef hawl cynnig cyntaf ar ran y landlord, petai’r tenant yn penderfynu gwerthu’r teitl prydlesol).

Bydd Cofrestrfa Tir EF yn cofnodi bodolaeth budd o’r fath trwy wneud y nodyn canlynol i fanylion y brydles yn nheitl y tenant:

“NODYN: Mae’r brydles yn cynnwys hawl ragbrynu.”

Cewch naill ai:

  • roi testun llawn y ddarpariaeth berthnasol, neu
  • gyfeirio at y cymal, atodlen neu baragraff atodlen yng nghorff y brydles sy’n cynnwys yr opsiwn neu hawl

Os nad ydych yn cwblhau’r cymal hwn, nid yw Cofrestrfa Tir EF yn gorfod gwneud cofnod o’r budd oni bai eich bod yn gwneud cais ar wahân ar ffurflen AN1 neu ffurflen UN1 (rheol 72A(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

5.10 LR10

LR10. Cyfamodau cyfyngu a roddwyd yn y brydles hon gan y Landlord o ran tir ar wahân i’r Eiddo (rhowch y darpariaethau perthnasol neu cyfeiriwch at y cymal, atodlen neu baragraff atodlen yn y brydles hon sy’n cynnwys y darpariaethau.)  

Dylid cwblhau cymal LR10 gyda manylion unrhyw gyfamodau cyfyngu yn y brydles sy’n rhwymo tir ym meddiant y landlord, heblaw’r budd rifersiwn yn yr eiddo a ddisgrifiwyd yng nghymal LR4.

Cewch naill ai:

  • roi testun llawn y cyfamodau, neu
  • gyfeirio at y cymal, atodlen neu baragraff atodlen yng nghorff y brydles sy’n cynnwys y cyfamodau hynny

Os nad ydych yn cwblhau’r cymal hwn nid yw Cofrestrfa Tir EF yn gorfod gwneud cofnod o’r cyfamodau ar wahân oni bai eich bod yn gwneud cais ar wahân ar ffurflen AN1 neu ffurflen UN1 (rheol 72A(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Os yw unrhyw gyfamodau cyfyngu’n rhwymo tir mewn teitlau cofrestredig heblaw teitl(au) y landlord sy’n cael eu crybwyll yng nghymal LR2.1, mae Cofrestrfa Tir EF yn gorfod gwneud cofnod o’r budd dim ond lle byddwch yn rhestru’r teitlau ychwanegol hyn yng nghymal LR2.2 (rheol 72A(4)(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Sylwer: Ni ddylech gyfeirio at y canlynol yng nghymal LR10:

  • cyfamodau personol
  • cyfamodau cyfyngu a wnaed gan y tenant
  • cyfamodau cyfyngu a wnaed gan y landlord cyn belled â’u bod yn ymwneud dim ond â’r budd rifersiwn yn yr eiddo a ddisgrifir yng nghymal LR4

5.11 LR11

LR11. Hawddfreintiau (cyfeiriwch yma dim ond at y cymal, atodlen neu baragraff atodlen yn y brydles hon sy’n amlinellu’r hawddfreintiau) LR11.1 Hawddfreintiau a roddwyd gan y brydles hon er budd yr Eiddo; LR11.2 Hawddfreintiau a roddwyd neu a neilltuwyd gan y brydles hon dros yr Eiddo er budd eiddo arall

5.11.1 Newid ymarfer pwysig

Sylwer bod y gofynion ac ymarfer isod yn cynrychioli newid pwysig yn sut y bydd Cofrestrfa Tir EF yn delio â hawddfreintiau mewn prydlesi (hynny yw, prydlesi cymalau penodedig).

Eich cyfrifoldeb chi bellach yw cwblhau cymal LR11 yn gywir i gyfeirio at holl hawddfreintiau yn y brydles sydd o fudd i’r eiddo ac sydd ar yr eiddo. Oni bai eich bod yn gwneud cais ar wahân, ni fydd unrhyw hawddfreintiau yn y brydles nad oes cyfeiriad atynt yn y cymal penodedig hwn:

  • yn cael eu cwblhau trwy gofrestru
  • yn ymddangos ar gofrestr teitlau yr effeithir arnynt

5.11.2 Pwyntiau cyffredinol o ran cwblhau cymal LR11

Rhaid i chi gwblhau’r cymal hwn trwy gyfeirio at y cymal, atodlen neu baragraff atodlen yn y brydles sy’n cynnwys yr hawddfreintiau – peidiwch â nodi’r hawddfreintiau’n llawn. Mae hyn oherwydd bod hawddfreintiau sydd mewn prydlesi fel arfer yn hir ac rydym am leihau perygl camgymeriad allai godi wrth eu nodi’n llawn yma.

Sylwer ar yr hyn a ddywedir yn Eithriadau o’r tir a brydlesir ynghylch cymalau sy’n atal budd hawddfraint sy’n bodoli rhag pasio i denant.

5.11.3 LR11.1

Dylech gwblhau cymal LR11.1 gyda manylion hawddfreintiau yn y brydles er lles eiddo’r tenant.

Mae hawddfreintiau yn y brydles er budd yr Eiddo’n warediad cofrestradwy (adran 27(2)(d) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) ac nid ydynt yn dod i rym cyfreithiol nes cânt eu cwblhau trwy gofrestru. Os nad ydych yn cwblhau’r cymal hwn nid yw Cofrestrfa Tir EF yn gorfod cwblhau’r hawddfreintiau trwy gofrestru oni bai eich bod yn gwneud cais ar wahân ar ffurflen AP1 (rheol 72A(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Lle byddwch yn gwneud cais ar wahân, rhaid i chi nodi mewn llythyr eglurhaol neu ar ffurflen AP1 (rheol 72A(5) o Reolau Cofrestru Tir 2003) pa gymal, atodlen neu baragraff atodlen penodol yn y brydles sy’n cynnwys yr hawddfraint.

Os bydd unrhyw hawddfreintiau sydd er lles eiddo’r tenant yn faich ar dir mewn rhifau teitl heblaw teitl(au) y landlord sy’n cael eu crybwyll yng nghymal LR2.1, ni fydd yr hawddfraint yn gweithredu’n gyfreithiol nes bydd y gofynion cofrestru wedi cael eu hateb, sy’n golygu bod rhaid nodi’r baich ar y gofrestr briodol a chofnodi’r budd ar y gofrestr brydlesol (adran 27(1) ac Atodlen 2 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Nid yw Cofrestrfa Tir EF ond yn gorfod cwblhau’r hawddfreintiau trwy gofrestriad trwy gofnodi rhybudd ar y gofrestr sy’n dwyn y baich pan fyddwch yn rhestru’r rhif(au) teitl ychwanegol hyn yng nghymal LR2.2 (rheol 72A(4)(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003) neu’n gwneud cais ar wahân ar ffurflen AP1. Os na fyddwn yn cofnodi rhybudd o’r hawddfraint ar gofrestr y tir sy’n dwyn y baich ni fyddwn yn cynnwys yr hawddfraint yn y teitl prydlesol newydd.

5.11.4 LR11.2

Dylid cwblhau cymal LR11.2 gyda manylion unrhyw hawddfreintiau a roddwyd neu a neilltuwyd dros y tir a brydleswyd er lles tir arall.

Mae hyn yn cynnwys hawddfreintiau:

  • a neilltuwyd er lles tir yn nheitlau cofrestredig y landlord y rhoddwyd y brydles allan ohonynt
  • a neilltuwyd er lles tir mewn teitlau cofrestredig eraill, sydd â’r landlord yn berchennog cofrestredig arnynt
  • a roddwyd neu a neilltuwyd er lles tir mewn teitl cofrestredig sydd â thrydydd parti (er enghraifft, cwmni rheoli) yn berchennog arno
  • a roddwyd neu a neilltuwyd er lles tir digofrestredig

Os nad ydych yn cwblhau’r cymal hwn, nid yw Cofrestrfa Tir EF yn gorfod cwblhau’r hawddfreintiau trwy gofrestriad oni bai bod cais ar wahân yn cael ei wneud ar ffurflen AP1 (rheol 72A(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Lle byddwch yn gwneud cais ar wahân, rhaid i chi nodi mewn llythyr eglurhaol neu ar ffurflen AP1 (rheol 72A(5) o Reolau Cofrestru Tir 2003) pa gymal, atodlen neu baragraff atodlen penodol yn y brydles sy’n cynnwys yr hawddfraint.

Lle bo’r hawddfreintiau a neilltuwyd er lles teitlau’r landlord y cyfeiriwyd atynt yng nghymal LR2.1 yn unig, nid oes angen gwneud dim byd arall. Bydd Cofrestrfa Tir EF yn cofrestru yn awtomatig rhybudd o faich yr hawddfreintiau a neilltuwyd ar y gofrestr brydlesol newydd ac yn cyfeirio atynt ar gofrestr y landlord pan gaiff y brydles ei nodi.

Lle bo’r hawddfreintiau er lles teitlau cofrestredig eraill, rhaid i Gofrestrfa Tir EF gwblhau’r hawddfreintiau trwy gofrestriad dim ond pan fyddwch yn rhoi’r rhifau teitl yng nghymal LR2.2 (rheol 72A(4)(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Os na wnewch hynny bydd Cofrestrfa Tir EF yn cofnodi rhybudd o faich yr hawddfraint ar y gofrestr brydlesol ond ni fydd yn gwneud unrhyw gofnod ar gofrestr y tir sy’n elwa.

Yn y sefyllfa hon mae angen cais ar wahân ar ffurflen AP1 i gofnodi budd yr hawddfraint ar y gofrestr briodol i ateb y gofynion cofrestru. Lle byddwch yn gwneud cais ar wahân, rhaid i chi nodi mewn llythyr eglurhaol neu ar ffurflen AP1 (rheol 72A(5) o Reolau Cofrestru Tir 2003) pa gymal, atodlen neu baragraff atodlen penodol yn y brydles sy’n cynnwys yr hawddfraint.

Ni fydd yr hawddfraint yn dod i rym cyfreithiol nes caiff y cais hwn ei wneud.

5.12 LR12

LR12. Rhent-dâl ystad sy’n faich ar yr Eiddo (cyfeiriwch yma dim ond at y cymal, atodlen, neu baragraff atodlen yn y brydles hon sy’n amlinellu’r rhent-dâl.)  

Sylwer mai ystyr y term ‘Rhent-dâl ystad’, fel y’i defnyddiwyd yng nghymal LR12, yw rhent-dâl yn ôl y diffiniad yn adran 1(2)(b) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925.

Dylid cwblhau cymal LR12 gyda manylion unrhyw rent-dâl ystad a grëwyd gan y brydles.

Rhaid i chi gwblhau’r cymal hwn trwy gyfeirio at y cymal, atodlen neu baragraff atodlen yn y brydles sy’n cynnwys rhent-dâl yr ystad – peidiwch â chyflwyno’r darpariaethau’n llawn.

Sylwer: Peidiwch â chyfeirio yn y cymal hwn at y rhent(i) a gedwir gan y brydles, gan nad yw’r manylion yn ffurfio rhan o’r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer y cymalau penodedig.

Os nad ydych yn cwblhau’r cymal hwn nid oes rhwymau ar Gofrestrfa Tir EF i wneud cofnod ynghylch baich y rhent-dâl oni bai eich bod yn gwneud cais ar wahân yn ffurflen AN1 neu ffurflen UN1 (rheol 72A(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Ni fyddwn ar unrhyw adeg yn cofrestru’r rhent-dâl yn safonol oni bai y gwneir cais penodol ar ffurflen AP1.

5.13 LR13

LR13. Cais am ffurf safonol o gyfyngiad (rhowch destun llawn y ffurf safonol o gyfyngiad a’r teitl y mae i’w chofnodi yn ei erbyn. Os hoffech wneud cais am fwy nag un ffurf safonol o gyfyngiad defnyddiwch y cymal hwn i wneud cais am bob un ohonynt, dywedwch wrthym pwy sy’n gwneud cais yn erbyn pa deitl a rhowch destun llawn y cyfyngiad mae’ch cais amdano.  
Amlinellir y ffurfiau safonol o gyfyngiad yn Atodlen 4 i Reolau Cofrestru Tir 2003.) Mae’r Partïon i’r brydles hon yn gwneud cais i gofnodi’r ffurf safonol o gyfyngiad ganlynol [yn erbyn teitl yr Eiddo] neu [yn erbyn rhif teitl ]

5.13.1 Caniatáu cyfyngiadau safonol yn unig

Defnyddiwch gymal LR13 i wneud cais i gofrestru cyfyngiad safonol. Mae rhestr o ffurfiau cyfyngu safonol yn Atodlen 4 i Reolau Cofrestru Tir 2003. Nid ydych yn gorfod llenwi ffurflen RX1 yn ogystal. Fodd bynnag, os nad ydych yn cwblhau’r cymal hwn, nid yw Cofrestrfa Tir EF yn gorfod cofnodi cyfyngiad yn y gofrestr oni bai eich bod yn gwneud cais ar wahân (rheol 72A(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003) ar ffurflen RX1 (rheol 92(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Os nad yw’r cyfyngiad sydd ei angen yn un safonol:

  • peidiwch â chyfeirio ato yn y cymal hwn
  • cyflwynwch ffurflen RX1 wedi ei llenwi gyda’ch cais

Am ragor o wybodaeth, gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr – adran 3.3.2 Cyfyngiadau nad ydynt ar ffurf safonol.

5.13.2 Pwyntiau cyffredinol o ran cwblhau cymal LR13

Gallwch newid dim ond y geiriad nad yw’n ymddangos mewn cromfachau. Rhaid i eiriau cais ddechrau bob amser ‘Mae’r Partïon i’r brydles hon yn gwneud cais i gofnodi’r ffurf safonol o gyfyngiad ganlynol…’ Yn ogystal, oherwydd ein bod bob amser yn barod i dderbyn bod y partïon wedi cyflawni’r brydles wreiddiol a’r brydles wrthrannol, nid oes angen cyflwyno’r ddogfen wrthrannol wrth wneud cais i gofnodi cyfyngiad yn erbyn teitl y tenant.

Dylech gwblhau geiriau cyntaf y cais yn y cymal hwn (gan ddechrau, ‘Mae’r Partïon …’) gyda rhif y teitl yr ydych am gofrestru’r cyfyngiad yn ei erbyn. Rhaid dileu’r dewis amhriodol o’r rhai sy’n cael eu cynnig. Os nad yw’r cyfyngiad i’w gofrestru yn erbyn rhif y teitl a neilltuwyd i’r tir a brydleswyd, cwblhewch yr ail ddewis gyda’r teitl y mae i gael ei gofnodi yn ei erbyn.

Os yw’r cyfyngiad yn effeithio ar rifau teitl heblaw’r hyn a neilltuwyd i’r eiddo a brydleswyd y cyfeiriwyd ato yng nghymal LR4 neu deitlau’r landlord sy’n cael eu crybwyll yng nghymal LR2.1, nid yw Cofrestrfa Tir EF yn gorfod gwneud cofnod o’r cyfyngiad oni bai eich bod yn rhestru’r teitlau ychwanegol hyn yng nghymal LR2.2 (rheol 72A(4)(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Rhowch destun llawn y cyfyngiad, gan gynnwys unrhyw fewnlenwadau sydd eu hangen. Rhaid i chi:

  • beidio â chyfeirio at gymal, atodlen neu baragraff atodlen prydles sy’n cynnwys y cyfyngiad
  • na chyfeirio at y cyfyngiad trwy ei lythyren yn Atodlen 4 i Reolau Cofrestru Tir 2003 (er enghraifft, ‘Ffurf A’, ‘Ffurf N’)

I gael rhagor o wybodaeth am ddrafftio cyfyngiad lle y mae’n ymwneud â chyfamodau wedi eu cynnwys mewn prydles, gweler cyfarwyddyd ymarfer 19A: cyfyngiadau ac eiddo prydlesol.

5.13.3 Cyfyngiad sy’n effeithio ar ran yn unig o deitl cofrestredig

Yn wahanol i banel 3 ar ffurflen RX1, nid yw cymal penodedig LR13 yn caniatáu i’r ceisydd bennu lle bydd cyfyngiad yn effeithio ar ran o deitl cofrestredig yn unig. Fodd bynnag, gallwch ddefnyddio cymal LR13 i wneud cais i gofrestru cyfyngiad safonol yn erbyn rhan yn unig o deitl, cyn belled â’ch bod yn diffinio’n eglur pa ran o’r teitl sy’n cael ei heffeithio.

Os yw’r cyfyngiad yn effeithio ar ran o deitl yn unig, rhaid i chi ymgorffori disgrifiad o’r rhan o dan sylw o fewn geiriad y cyfyngiad, rhywbeth yn debyg i’r isod (rheol 91A(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Cyn belled â bod y geiriad yn ddigonol i nodi rhan y teitl sydd i gael ei heffeithio gan y cyfyngiad, byddwn yn ei dderbyn. Gall y disgrifiad fod naill ai ar ffurf:

  • disgrifiad geiriol (er enghraifft, ‘Ni ellir cofrestru unrhyw warediad o [ran] yr ystad gofrestredig [yn dwyn yr enw 22 Stryd y Gof] gan berchennog yr ystad gofrestredig …’), neu
  • cyfeiriad at y cynllun ynghlwm wrth y brydles (er enghraifft, ‘Ni ellir cofrestru unrhyw warediad o [ran] yr ystad gofrestredig [sy’n cael ei dangos gydag ymyl las ar y cynllun i’r brydles] gan berchennog yr ystad gofrestredig …’).

Sylwer y byddwn yn derbyn disgrifiad geiriol o’r eiddo (22 Stryd y Gof) dim ond lle bo modd dynodi union faint yr eiddo hwnnw’n eglur ar fap yr Arolwg Ordnans.

5.13.4 Angen mwy nag un cyfyngiad

Efallai y byddwch am wneud cais am fwy nag un ffurf safonol o gyfyngiad yn y brydles. Os felly, dylech ailadrodd geiriau cyntaf y cais (‘Mae’r Partïon i’r brydles hon yn gwneud cais i gofnodi’r ffurf safonol o gyfyngiad ganlynol’) ar ôl testun y cyfyngiad cyntaf a chwblhau gweddill y geiriad yn ôl y cyfarwyddyd uchod.

5.13.5 Cyfyngiadau ar ddefnyddio cymal LR13

Nid yw cymal LR13 yn cynnwys geiriad llawn ffurflen RX1. Mae cyfyngiadau, felly, ar ddefnyddio cymal LR13.

Yn arbennig, mae’n bosibl y bydd angen tystiolaeth ychwanegol i gofrestru cyfyngiad mewn rhai achosion. Nid yw cymal LR13 yn gwneud darpariaeth i’r ceisydd gyflwyno tystiolaeth ychwanegol o hawl i gofrestru cyfyngiad. Caiff y sefyllfaoedd hyn eu trin yng nghyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti ar y gofrestr .

Mae’r ceisiadau hyn yn debygol o fod yn anghyffredin wrth gofrestru prydlesi cymalau penodedig. Fodd bynnag, lle bo angen tystiolaeth ychwanegol, rhaid i chi roi datganiad yn dilyn geiriad y panel priodol ar ffurflen RX1 ynghyd â naill ai:

  • y dystiolaeth angenrheidiol o’r hyn y cyfeiriwyd ati ym mhaneli 9, 11, 12 a 13 ar ffurflen RX1, neu (pan fo’n briodol)
  • dystysgrif eich bod yn dal y dystiolaeth ychwanegol

5.13.6 Ymrwymiad i gofnodi cyfyngiad trwy statud

Weithiau mae Cofrestrfa Tir EF yn gorfod cofnodi cyfyngiadau ar y gofrestr heb unrhyw gais (rheol 95 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Mae manylion llawn o dan ba amgylchiadau y gwnawn gofnod o’r fath yng nghyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti ar y gofrestr.

Nid oes unrhyw ofyniad i chi gwblhau cymal penodedig LR13 er mwyn cofnodi cyfyngiad o’r fath. Byddwn yn nodi pan fo’r cyfyngiadau hyn yn briodol.

5.14 LR14

LR14. Datganiad o ymddiried os yw’r Tenant yn fwy nag un person (os mai un person yw’r Tenant, dylech hepgor neu ddileu’r holl ddatganiadau dewisol. Os yw’r Tenant yn fwy nag un person, cwblhewch y cymal hwn trwy hepgor neu ddileu pob datganiad dewisol nad yw’n gymwys) Mae’r Tenant yn fwy nag un person. Byddant yn dal yr Eiddo ar ymddiried ar eu cyfer eu hunain fel cyd-denantiaid. NEU Mae’r Tenant yn fwy nag un person. Byddant yn dal yr Eiddo ar ymddiried ar eu cyfer eu hunain fel tenantiaid cydradd â chyfrannau cyfartal. NEU Mae’r Tenant yn fwy nag un person. Byddant yn dal yr Eiddo ar ymddiried. Cwblhewch fel y bo angen

5.14.1 Pwyntiau cyffredinol o ran cwblhau cymal LR14

Dylid cwblhau cymal LR14 gyda’r datganiad ymddiried priodol lle bo’r tenant a enwyd yng nghymal LR3 yn fwy nag un person neu gorff. Fel arall, gallwch ddewis i lenwi ffurflen JO. Cynlluniwyd ffurflen JO fel dewis arall i gydberchnogion ddatgan ymddiriedau ar adeg caffael ac i ymdrin â’r anawsterau ymarferol y gall trawsgludwyr eu hwynebu wrth sicrhau cyflawniad y brydles gan bob prydlesai o fewn amserlen dynn trafodiad trawsgludo arferol.

Os yw’r brydles o blaid un tenant yn unig, cewch naill ai:

  • hepgor neu ddileu’r holl eiriau eraill, neu
  • hepgor neu ddileu cymal LR3 yn llwyr

Mae’r datganiad ymddiried hwn yn berthnasol i’r tenantiaid gwreiddiol a enwyd yng nghymal LR3 yn unig.

Gallwch weld gwybodaeth am effaith y datganiadau hyn, ffurflen JO a’r cofnodion ar y gofrestr all ddeillio ohonynt, yng nghyfarwyddyd ymarfer 24: ymddiriedau tir preifat.

5.14.2 Unig berchennog – cofnodi cyfyngiad ffurf A

Efallai eich bod am adlewyrchu bodolaeth ymddiried trwy gofnodi cyfyngiad ffurf A yn erbyn unig berchennog. Os felly, dylech wneud cais amdano gan ddefnyddio cymal LR13.

I gael rhagor o fanylion ac enghreifftiau o ble y gall fod angen cyfyngiad o’r fath, gweler cyfarwyddyd ymarfer 24: ymddiriedau tir preifat.

6. Hepgoriadau o brydlesi cymalau penodedig a newidiadau iddynt

Mae’r wybodaeth yn yr adran hon yn berthnasol i brydlesi cymalau penodedig a roddwyd ar neu ar ôl 19 Mehefin 2006 yn unig.

6.1 Gwybodaeth gyffredinol o ran hepgoriadau a newidiadau

Gall un neu fwy o’r cymalau penodedig fod un ai:

  • heb eu cwblhau
  • wedi cael eu cwblhau’n anghywir, neu
  • wrthdaro gyda darpariaeth yn rhywle arall yn y brydles

Lle bo’r gwall neu wrthdaro’n peri ein bod naill ai’n gwneud cofnod y teimlwch ei fod yn anghywir, neu’n hepgor cofnod o’r gofrestr, efallai y byddwch am wneud cais ar wahân i newid y gofrestr.

Yn amodol ar eu natur, mae modd datrys hepgoriadau, gwallau ac anghysondebau yn y cymalau penodedig trwy un ai:

  • gais ychwanegol
  • newid o dan baragraff 6(e) Atodlen 10 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a rheol 130 o Reolau Cofrestru Tir 2003, neu
  • weithred gywiro

Gallwch wneud cais un ai:

  • wrth gyflwyno’r brydles i’w chofrestru
  • tra bo’r brydles wrthi’n cael ei chofrestru, neu
  • ar ôl cwblhau’r cofrestru

6.2 Cais ychwanegol am gofnod ar gofrestr

Lle bo gwall neu hepgoriad wrth gwblhau cymalau LR2.2 neu LR8 i LR14 yn gynwysedig wedi arwain at hepgor cofnod, rhaid i chi wneud cais ychwanegol. Rhaid i chi beidio â newid y cymalau penodedig eich hun ar ôl cofrestru na gofyn i ni eu newid a gwneud y cofnod priodol.

Rhaid gwneud y cais gan ddefnyddio’r ffurflen gais briodol.

Os ydych yn paratoi gweithred gywiro (gweler Gweithred gywiro prydles, rhaid ichi gyflwyno’r ffurflen gais briodol.

Lle’r ydych yn gorfod gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen AP1 a bod y cais i wneud y cofnod yn cael ei wneud ar yr un pryd â chofrestru’r brydles, dylid cynnwys y cais ym mhanel 4 y ffurflen gais honno.

Rhaid i geisiadau i gofnodi cyfyngiadau ar waredu neu roi hawddfreintiau nodi’r cymal neu atodlen arbennig sy’n cynnwys y cyfyngiad neu hawddfraint ym mhanel 4 ffurflen AP1.

Os yw’r cais ychwanegol yn cael ei wneud ar ôl cwblhau’r cais i gofrestru’r brydles rhaid talu’r ffi briodol yn ôl y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru.

Rhaid i chi ddarparu unrhyw gydsyniadau neu dystysgrifau sydd eu hangen i gydymffurfio ag unrhyw gyfyngiadau a gofnodwyd ar y gofrestr a, phan fo hynny’n briodol (er enghraifft, yn achos rhoi hawddfreintiau), cydsyniad unrhyw arwystlai, oni bai y rhoddwyd y rhain pan gofrestrwyd y brydles.

Sylwer: Os cofnodwyd cyfyngiad neu y gwnaed cofnod ar ôl cofrestru’r brydles ond cyn derbyn y cais ychwanegol rhaid darparu unrhyw gydsyniad ac ati sydd ei angen ar y cyfyngiad neu gofnod hwnnw.

6.3 Newidiad i’r brydles ei hun

Cyn cwblhau cofrestru gall y partïon i’r brydles ei newid i gywiro unrhyw hepgoriadau neu gamgymeriadau yn y cymalau penodedig, yng nghorff y brydles neu yn unrhyw gynllun. Dylid gwneud y newidiadau hyn yn y ffordd arferol ac, os bydd angen, dylid ailgyflawni’r brydles.

Unwaith y cofrestrwyd y brydles rhaid i’r partïon beidio â’i newid eu hunain. Gall Cofrestrfa Tir EF wneud newidiadau cyfyngedig i gywiro camgymeriadau clercio naill ai cyn neu ar ôl cwblhau cofrestru. Fodd bynnag, bydd y newidiadau hyn yn cael eu cyfyngu i:

  • newidiadau i gywiro anghysondebau mewn enwau
  • newidiadau bach i’r cymalau penodedig neu gymalau eraill mewn prydles i wneud iddynt gytuno lle bo gwybodaeth yn ymddangos ddwywaith mewn prydles ac y bu gwall copïo (er enghraifft, dyddiad y brydles neu swm y premiwm)

Mewn sefyllfaoedd eraill (neu lle bu gwall copïo sylweddol), ni fydd Cofrestrfa Tir EF yn newid y brydles:

  • Os na chofrestrwyd y brydles, byddwn yn ei dychwelyd i’r ceisydd er mwyn i’r partïon allu ystyried newid y brydles
  • Lle’r ydym eisoes wedi cwblhau cofrestru, byddwn yn gwrthod cais o’r fath ac yn gwahodd y ceisydd i wneud cais ychwanegol neu baratoi gweithred gywiro (os na fydd cais ychwanegol yn cywiro’r diffyg) a gwneud cais i gofrestru’r weithred

6.4 Gweithred gywiro prydles

Mae’r cymalau penodedig yn rhan annatod o brydles ac, felly, mae modd eu cywiro yn yr un modd ag unrhyw gymal arall. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o achosion ni ddylai fod angen gweithred gywiro. Lle bo gwall neu hepgoriad yn y cymalau penodedig wedi arwain at hepgor cofnod o’r gofrestr, dim ond cais i gynnwys y cofnod a adawyd allan sydd ei angen. Nid oes angen cywiro’r brydles ei hun.

Yn ôl pob tebyg, bydd y rhan fwyaf o weithredoedd cywiro’n ymwneud â’r stent a brydleswyd naill ai oherwydd bod anghysondeb rhwng cymal LR4 a disgrifiad o’r eiddo a brydleswyd yn rhywle arall yn y brydles neu nad yw’r tir a brydleswyd yng nghymal LR4 yn adlewyrchu’r hyn y cytunwyd ei brydlesu mewn cytundeb blaenorol.

7. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.