Rhifyn mis Mehefin 2025 o Fwletin y Cyflogwr
Cyhoeddwyd 18 Mehefin 2025
Rhagarweiniad
Yn rhifyn y mis hwn o Fwletin y Cyflogwr, mae diweddariadau a gwybodaeth bwysig am y canlynol:
TWE
- cyfrifiadau Cytundeb Setliad TWE 2024 i 2025
- dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig yn syrthio ar benwythnos
- diddymu lwfans oes — adrodd ar gyfandaliad
- pensiynau ar gyfer staff tymhorol dros dro
- estyniad o ryddhad cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer cyflogi cyn-filwyr
- talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) Dosbarth 1A
- twyll llafur cyfundrefnol — cyflenwi llafur drwy Gyfryngwyr Cyflogaeth
- ad-daliadau a thandaliadau treth
- TWE y Cyflogwr a thaliadau y mae anghydfod yn eu cylch
- Cynlluniau gwobrwyo trethadwy
- benthyciadau buddiannol cyfarwyddwyr a chyflogeion — Ffurflenni Treth yn ddyledus drwy P11D a P11D(b) erbyn 6 Gorffennaf bob blwyddyn ariannol
- P11D a P11D(b) Terfynau Amser Cyflwyno a Thalu
Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad
- mandadu adrodd ar fuddiannau a threuliau drwy feddalwedd gyflogres
- defnyddio grwpio TAW o fewn y diwydiant gofal
- Offer TWE Sylfaenol — wedi’i ddiweddaru
- Spotlight 68 — defnyddio cardiau debyd rhagdaledig i dynnu elw i leihau elw a chuddio incwm
- newidiadau i nodynnau atgoffa, datganiadau a derbynebau Treth Gorfforaeth
Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid
- Peidiwch â gadael i’ch contractwyr gael eu dal wrthi gan arbed treth
- Absenoldeb a Thâl Gofal Newydd-enedigol Statudol
- Gwarantau Ar Sail Cyflogaeth – Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno datganiad diwedd blwyddyn ar gyfer Cynlluniau cyfranddaliadau cyflogeion
- diwedd y Cynllun Stampiau’r Doll Alcohol
- arweiniad ac offer newydd ar gyfer cwmnïau ambarél
- newidiadau yn y dyfodol i Dâl Salwch Statudol
- atgoffir rhieni pobl ifanc i fynd ar-lein i ymestyn eu hawliad Budd-dal Plant
- Fformat HTML Bwletin y Cyflogwr
- cael rhagor o wybodaeth ac anfon adborth
Cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt
Mae egwyddorion cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt yn amlinellu ein hymrwymiad i helpu cwsmeriaid yn ôl eu hanghenion, ac maent yn tanategu Siarter CThEF.
Dysgwch sut i gael help, ac am y cymorth ychwanegol sydd ar gael.
TWE
Cyfrifiadau Cytundeb Setliad TWE 2024 i 2025
Mae Cytundeb Setliad TWE (PSA) yn caniatáu i gyflogeion wneud un taliad blynyddol ar gyfer yr holl dreth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus ar dreuliau neu fuddiannau trethadwy bach neu afreolaidd ar gyfer eich cyflogeion. Mae PSA yn aros yn ei le nes i chi ei newid neu ei ganslo, neu nes i ni ei wneud.
Rydym yn argymell bod cyfrifiadau PSA ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n dod i ben ar 5 Ebrill 2025 yn cael eu hanfon atom erbyn 31 Gorffennaf 2025, hyd yn oed os yw’n datganiad dim. Y ffordd gyflymaf a hawsaf o wneud hyn yw ar-lein, Rhoi gwybod i CThEF am werth eitemau sydd wedi’u cynnwys yn eich Cytundeb Setliad TWE.
Pan fyddwn yn cael ac yn prosesu’ch cyfrifiad, byddwn yn anfon slip cyflog atoch yn cadarnhau’r swm sydd arnoch. Pan fyddwch yn talu, nodwch y ‘cyfeirnod Cytundeb Setliad TWE’ ar y slip cyflog.
Mae angen i chi dalu’r cyfanswm erbyn 19 Hydref 2025 neu erbyn 22 Hydref 2025 os ydych yn talu’n electronig. Os nad ydych wedi cael eich cyfeirnod Cytundeb Setliad TWE, gallwch ei gael drwy ffonio’r Ganolfan Cyswllt Cymraeg ar 0300 200 1900.
Bydd nodyn atgoffa i gyflwyno’ch cyfrifiad PSA ac i dalu yn cael ei anfon drwy’ch Cyfrif Treth Busnes ym mis Gorffennaf. Ni allwch fwrw golwg dros eich rhwymedigaeth a’ch taliad PSA yn eich Cyfrif Treth Busnes.
Os na fyddwn yn cael eich cyfrifiad, mae’n bosibl y byddwn yn cyhoeddi penderfyniad. Dyma amcangyfrif o swm y dreth a’r Cyfraniadau Yswiriant Gwladol yr ydym yn credu sydd arnoch, a allai fod yn uwch na’ch cyfrifiad.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach am y canlynol:
- Cytundebau Setliad TWE
- Help gyda chyfrifiadau Cytundeb Setliad TWE — GfC1 (yn agor tudalen Saesneg)
- Talu Cytundeb Setliad TWE
Dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig yn syrthio ar benwythnos
Ym mis Mehefin 2025, mae’r dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig yn syrthio ar 22 Mehefin 2025. Er mwyn sicrhau bod eich taliad ar gyfer y mis yn ein cyrraedd mewn pryd, bydd angen bod gennych arian wedi’i glirio yng nghyfrif banc CThEF erbyn 20 Mehefin 2025, oni bai eich bod yn gallu trefnu talu gan ddefnyddio’r gwasanaeth Taliadau Cyflymach.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich taliadau’n cael eu gwneud mewn pryd ac, os yw’ch taliad yn hwyr, mae’n bosibl y codir cosb arnoch.
Cyn gwneud eich taliad, gwiriwch derfynau gwerth eich trafodion dyddiol unigol a therfynau amser eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pryd i gychwyn eich taliad, fel ei fod yn cyrraedd CThEF mewn pryd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn talu TWE cyflogwr.
Diddymu lwfans oes — adrodd ar gyfandaliad
Cyfandaliad Cychwyn Pensiwn Sydd Dros Ben
I roi gwybod am Gyfandaliadau Cychwyn Pensiwn Sydd Dros Ben (PCELS) ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026 bydd angen i chi wneud y canlynol:
- adrodd PCELS drwy Wybodaeth Amser Real (RTI)
- sefydlu cofnod cyflogres ar wahân ar gyfer PCELS er mwyn osgoi problemau gydag adrodd incwm pensiwn rheolaidd a chofnodion treth
- defnyddio amlder talu ‘untro’ a’r dyddiad talu fel y dyddiad gadael
- darparu P45 i’r cwsmer at ddibenion ad-hawlio treth
- defnyddio maes data 219 ar gyfer PCELS a chynnwys y rhan drethadwy ym maes data 173 — gellir dod o hyd i arweiniad manwl ym mharagraff 2.2.9 o CWG2 2025 i 2026: arweiniad pellach i gyfraniadau TWE ac Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg)
Ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025, dilynwch yr arweiniad yng nghylchlythyr lwfans oes mis Mawrth 2023 (yn agor tudalen Saesneg).
Cyfandaliadau Annibynnol
I roi gwybod am Gyfandaliadau Annibynnol (SALS) ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026, bydd angen i chi wneud y canlynol:
- rhoi gwybod am SALS drwy RTI dim ond os oes swm dros yr uchafswm a ganiateir
- sefydlu cofnod cyflogres ar wahân ar gyfer SALS trethadwy, defnyddio amlder talu ‘untro’, a’r dyddiad talu fel y dyddiad gadael
- darparu P45 i’r cwsmer at ddibenion ad-hawlio treth
- defnyddio maes data 220 ar gyfer SALS a chynnwys elfennau trethadwy ac anhrethadwy ym meysydd 173 a 174 yn y drefn honno — gellir dod o hyd i arweiniad manwl ym mharagraff 2.2.10 o CWG2 2025 i 2026: arweiniad pellach i gyfraniadau TWE ac Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg).
Ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025, dilynwch yr arweiniad yng nghylchlythyr cynlluniau pensiwn 151 (yn agor tudalen Saesneg).
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein herthygl diddymu Lwfans Oes (LTA) — adrodd ar swm cyfan yn rhifyn 167 o’r Cylchlythyr Pensiynau (yn agor tudalen Saesneg) a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2025.
Rydym yn ymwybodol nad yw pob cyfandaliad yn cael ei adrodd yn y ffordd hon ac wedi cael ei adrodd yn anghywir ar ffynhonnell pensiwn a delir yn rheolaidd. Mae cylchlythyr cynlluniau pensiwn 170 (yn agor tudalen Saesneg) yn cynnwys erthygl i gwmpasu arweiniad ar y broses i’w dilyn i gywiro cofnod treth unigolyn.
Pensiynau ar gyfer staff tymhorol dros dro
Os ydych yn gyflogwr sy’n cyflogi staff ychwanegol dros yr haf, mae’n rhaid i chi wirio a yw’r gweithwyr hyn yn gymwys i gofrestru awtomatig i bensiwn gweithle.
Mae’n rhaid i gyflogwyr asesu unrhyw staff tymhorol neu dros dro yn unigol bob tro y byddant yn eu talu. Mae hyn yn cynnwys staff ag oriau amrywiol a chyflogau, p’un a ydynt yn cael eu cyflogi am ychydig ddyddiau neu fwy.
Gall cyflogwyr sy’n methu â chydymffurfio â’u dyletswyddau pensiwn gweithle gael rhybudd gyda dyddiad cau i gydymffurfio. Mae’r rhai sy’n parhau i fethu â mewn peryg o gael dirwy.
Os oes gennych staff y gwyddoch y byddant yn gweithio i chi am lai na thri mis, gallwch ddefnyddio gohiriad i ohirio asesu’r cyflogeion hynny. Mae hyn yn oedi’r ddyletswydd i asesu’r staff hynny tan ddiwedd y cyfnod gohirio o dri mis.
Mae rhagor o wybodaeth am ohirio a chyflogi staff tymhorol neu dros dro gan gynnwys pwy sydd angen i chi gofrestru ar wefan y Rheoleiddiwr Pensiynau.
Estyniad o ryddhad cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer cyflogi cyn-filwyr
Mae’r llywodraeth wedi ymestyn y rhyddhad Cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyflogwyr sy’n cyflogi cyn-filwyr (yn agor tudalen Saesneg) am flwyddyn arall, o fis Ebrill 2025 hyd at fis Ebrill 2026. Ni fydd busnesau sy’n cyflogi cyn-filwyr cymwys yn talu unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr ar enillion hyd at £50,270 yn ystod 12 mis cyntaf y cyn-filwr mewn cyflogaeth sifil.
Talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A
Mae’n rhaid i daliad drwy ddull electronig, ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd wedi’u datgan ar eich ffurflen P11D(b) ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2025, glirio i mewn i gyfrif CThEF erbyn 22 Gorffennaf 2025.
Gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn cael ei ddyrannu’n gywir drwy roi’r cyfeirnod talu cywir.
Defnyddiwch eich cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau, wedi’i ddilyn gan 2513. Ni ddylai’r cyfeirnod gynnwys unrhyw fylchau rhwng cymeriadau.
Mae’n bwysig ychwanegu 2513 oherwydd mae ‘25’ yn dangos bod y taliad ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar Dydd Sadwrn, 5 Ebrill 2025, ac mae ‘13’ yn dangos bod y taliad ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am sut i dalu’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A, gan gynnwys y botwm gwyrdd ‘Talu Nawr’ i ddewis un o’r dulliau talu diogel.
Twyll llafur cyfundrefnol — cyflenwi llafur drwy Gyfryngwyr Cyflogaeth
Mae grwpiau troseddau cyfundrefnol (OCGs) sy’n manteisio ar y cyflenwad o lafur i’r defnyddwyr terfynol, sy’n lleihau taliadau treth i CThEF yn sylweddol, gan gynnwys TWE, Yswiriant Gwladol a TAW.
Dylai pob busnes sy’n gosod neu’n defnyddio llafur dros dro fod yn ymwybodol o’r peryglon posibl a achosir i’w busnes gan dwyll llafur cyfundrefnol yn eu cadwyn gyflenwi. Nid yn unig y gall cadwyn gyflenwi dwyllodrus arwain at niwed i enw da a difrod ariannol i’ch busnes neu sefydliad, ond mae’n bosibl na fydd eich gweithwyr yn cael yr holl bethau y mae ganddynt hawl iddynt, fel tâl gwyliau, tâl salwch a buddion yn y dyfodol.
Er mwyn lleihau’r risg y bydd eich busnes, sefydliad neu weithwyr yn ddioddefwyr y math hwn o dwyll, gwnewch yn siŵr bod gennych ddiogelwch cadarn ar waith a chynhaliwch wiriadau diwydrwydd dyladwy priodol yn rheolaidd ar eich cadwyni cyflenwi. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall pa wasanaeth rydych yn ei gael a chan bwy. Os ydych yn defnyddio busnes arall i roi’r sicrwydd hwn i chi, dylech sicrhau bod y gwiriadau hyn yn cael eu cynnal yn iawn ac ystyried cynnal rhai gwiriadau diwydrwydd dyladwy eich hun.
Fel defnyddiwr terfynol neu ddarparwr llafur dros dro, eich cyfrifoldeb chi hefyd yw bod yn glir ynghylch pwy sy’n talu’r gweithwyr yn y pen draw a sut maent yn cael eu talu. Dyma’r unig ffordd i amddiffyn eich busnes neu sefydliad rhag bod yn rhan o dwyll cadwyn gyflenwi llafur.
Rydym yn gwybod bod slipiau cyflog a Ffurflenni TWE Gwybodaeth Amser Real ffug yn cael eu rhoi gan rai cyfryngwyr i eraill mewn cadwyni cyflenwi llafur i guddio’r ffaith bod taliadau gros yn cael eu gwneud yn anghywir i’r gweithiwr. Gwneir hyn i guddio natur dwyllodrus y cyflenwad ac rydym yn argymell eich bod yn cynnal gwiriadau annibynnol o’r slip cyflog yn uniongyrchol gyda’r gweithiwr.
Gwiriadau diwydrwydd dyladwy i helpu i leihau risgiau mewn cadwyni cyflenwi
Nid yw’r gwiriadau diwydrwydd dyladwy canlynol yn rhestr derfynol ond maent yn enghreifftiau o arfer da o’r hyn y gallwch ei wneud i leihau risgiau mewn cadwyni cyflenwi.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod am y cyflenwyr llafur a’r Cwmnïau Ambarél a ddefnyddir trwy ddeall y canlynol:
- pwy ydynt
- sut maent yn contractio’r gweithwyr maent yn eu cyflenwi i chi, neu’r defnyddiwr terfynol
- sut maent yn talu ac yn gweithredu TWE ar gyfer gweithwyr a gyflenwir
Cael proses glir ar gyfer nodi pa weithwyr sy’n gweithio trwy eu Cwmnïau Gwasanaeth Personol eu hunain neu gan gyfryngwr, hyd yn oed lle nad ydych yn cyflenwi’r gweithwyr yn uniongyrchol.
Dysgwch a yw’r cyflenwr llafur uniongyrchol — os ydych yn defnyddio cwmnïau neu asiantaethau recriwtio eraill, yn allanoli’r ddau o’r canlynol:
- gweithwyr
- cyfrifoldeb dros dalu’r gweithwyr hynny — os ydyn nhw’n gwneud hynny, mae angen i chi wybod i ba fusnes maen nhw’n allanoli, a’r canlynol:
- pam mae’r busnes hwnnw’n gysylltiedig
- os ydynt yn talu’r trethi sy’n ddyledus ar enillion y gweithwyr ai peidio
- os ydynt yn cyflwyno Adroddiadau Cyfryngwr Cyflogaeth chwarterol i CThEF ac yn gofyn am weld yr adroddiadau hyn i wirio a yw’r wybodaeth y maent wedi’i darparu i CThEF yn cytuno â’ch dealltwriaeth o’r cyflenwadau a wnaed
- cadarnhau bod yr asiantaeth recriwtio wedi rhoi gwybodaeth allweddol i’r gweithwyr
Dogfennau a chynnal gwiriadau sampl gyda’r gweithwyr i wneud yn siŵr eu bod wedi’u cael a’u deall.
Gwiriwch y slipiau cyflog a’r wybodaeth Amser Real TWE a ddarperir i chi yn ofalus. Rydym yn ymwybodol o slipiau cyflog ffug yn cael eu rhoi i drydydd partïon i geisio dangos cydymffurfiaeth â’u rhwymedigaethau treth.
Dylech ofyn am weld slipiau cyflog yn uniongyrchol gan weithwyr, nid derbyn ar yr olwg gyntaf yr hyn y gallai cyfryngwr ei roi i chi.
Gwiriwch ac adnewyddwch eich prosesau diwydrwydd dyladwy yn rheolaidd. Hefyd gwiriwch pa mor aml mae’ch cyflenwyr yn gwneud hyn ar gyfer eu cyflenwyr.
Gwiriwch enwau unrhyw gyfryngwyr a ddefnyddir, a gwybodaeth arall am y cwmni, yn Nhŷ’r Cwmnïau yn ofalus. Gwnewch yn siŵr eich bod yn fodlon mai’r wybodaeth hon yw’r hyn a ddywedwyd wrthych a’r hyn y byddech yn disgwyl gweld lle mae cyfryngwyr yn rhan o’r gadwyn gyflenwi.
Rydym yn gwybod fod troseddwyr cyfundrefnol yn mabwysiadu neu’n cofrestru cwmnïau ag enwau tebyg i guddio eu bod wedi cymryd drosodd y cyfrifoldebau cyflogres a gall newidiadau bach i enwau cwmnïau fynd heb i neb sylwi arnynt yn aml.
Chwiliwch am newidiadau mewn cyfarwyddwyr, yn enwedig cyfarwyddwyr tramor a newidiadau i ddisgrifiad gweithgareddau busnes, a allai fod yn arwydd bod angen diwydrwydd dyladwy pellach arnoch i sicrhau uniondeb y gadwyn gyflenwi.
Rhoi gwybod am bryderon
Os oes gennych bryderon ynghylch cyflenwr, neu Dreth Incwm, cyfraniadau Yswiriant Gwladol neu TAW heb eu talu, gallwch wneud y canlynol:
- rhoi gwybod i ni amdano gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein
- cysyllti â llinell gymorth Twyll CThEF drwy ffonio 0300 200 1900 — ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am i 5pm, ac eithrio gwyliau banc
Ad-daliadau a thandaliadau treth
Bydd CThEF yn anfon llawer o lythyrau ym mis Mehefin a mis Gorffennaf, gan gynnwys:
- llythyrau cyfrifiad treth i’r rhai sydd wedi talu gormod neu o dreth neu heb dalu digon
- llythyrau Asesiad Syml ar gyfer y rhai sydd wedi talu gormod o dreth ac sydd â sefyllfa dreth syml, er enghraifft, llog banc yn ddyledus neu’n cael rhyddhad treth anghywir
Os yw’ch cyflogeion yn cael un o’r llythyrau hyn, rhowch wybod iddynt mai’r ffordd hawsaf o hawlio ad-daliad neu dalu’r dreth sydd arnynt yw drwy ap CThEF.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am sut i hawlio ad-daliad, talu treth ac Asesiad Syml.
TWE y Cyflogwr a thaliadau y mae anghydfod yn eu cylch
Mae CThEF yn datblygu gwelliannau i gefnogi taliadau y mae anghydfod yn eu cylch yn TWE i gyflogwyr.
Ar hyn o bryd, gallwch gyflwyno taliadau y mae anghydfod yn eu cylch drwy ffonio ein Llinell Gymorth i Gyflogwyr ar 0300 200 3200 neu drwy ysgrifennu atom yn:
Gweithrediadau Treth Bersonol
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Y Deyrnas Unedig
Mae CThEF yn gwneud gwelliannau a bydd yn cyflwyno ffurflen ar-lein a fydd yn eich galluogi i roi gwybod am anghydfodau ynghylch eich rhwymedigaethau TWE.
Byddwn yn darparu diweddariadau pellach pan fydd y gwelliannau hyn wedi’u cyflwyno.
Cynlluniau gwobrwyo trethadwy
Efallai y caiff cwmnïau trydydd parti eu defnyddio er mwyn rhoi gwobrau cymhelliant nad ydynt ar ffurf arian parod, megis buddiannau neu dalebau nad ydynt ar ffurf arian parod i gyflogeion ar ran eu cyflogwr.
Mae treth ac Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A yn ddyledus ar unrhyw wobrau o’r fath. Os ydych yn darparu gwobrau o’r fath, dylech ddefnyddio cynllun gwobrwyo trethadwy er mwyn gwneud taliad i CThEF sy’n cwmpasu’r rhwymedigaeth treth sy’n ddyledus ar wobrau a wnewch.
Mae’n rhaid i gyflogeion roi gwybod am y wobr ar eu Ffurflen Dreth. Mae’n rhaid iddynt fod yn ymwybodol o’r gwerth sydd wedi’i grosio i fyny, a’r dreth a dalwyd ar werth y wobr, er mwyn iddynt allu gwneud hyn. Mae’n annhebygol y bydd yn rhaid iddynt dalu treth bellach os yw cynllun gwobrwyo trethadwy’n cwmpasu eu gwobr, oni bai eu bod yn agored i dalu treth ar gyfradd uwch a bod y cynllun gwobrwyo trethadwy’n cwmpasu’r gyfradd sylfaenol yn unig.
Mae’r Uned Gwobrau Cymhelliant yn delio â phob agwedd ar gynllun gwobrwyo trethadwy, gan gynnwys prisio gwobrau a’r math o drefniant contractiol. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion ynghylch sut i gysylltu â’r Uned Gwobrau Cymhelliant yma (yn Saesneg) .
Ar gyfer gwobrau a roddir yn ystod blwyddyn dreth 2024 i 2025, mae’n rhaid cytuno ar gynllun gwobrwyo trethadwy erbyn 6 Gorffennaf 2025.
Benthyciadau buddiannol cyfarwyddwyr a chyflogeion — Ffurflenni Treth yn ddyledus drwy P11D a P11D(b) erbyn 6 Gorffennaf bob blwyddyn ariannol
Gall benthyciadau sydd ar gael i gyfarwyddwyr a chyflogeion o fwy na £10,000 yr un, creu buddiant trethadwy. Mae’r buddiant hwn yn codi pan fydd benthyciad rhad, trethadwy, sy’n gysylltiedig â chyflogaeth wedi’i gymryd.
Benthyciad rhad trethadwy o dan Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003, a elwir hefyd yn ITEPA, yw benthyciad sy’n gysylltiedig â chyflogaeth:
-
yn ddyledus am y flwyddyn gyfan neu ran ohoni y mae’r cyfarwyddwyr a’r cyflogeion yn cael eu cyflogi ynddi
-
heb unrhyw log wedi’i dalu, neu mae’r llog a delir yn llai na’r gyfradd llog swyddogol — 2.25% o 6 Ebrill 2023
-
lle nad oes unrhyw eithriadau yn adrannau 176-179 mae ITEPA yn berthnasol
Dylid rhoi gwybod am fenthyciadau ar Ffurflenni P11D a P11D(b) erbyn 6 Gorffennaf bob blwyddyn ariannol.
Os ydych wedi darparu benthyciadau, ac nad ydynt yn cael eu trin yn gywir ar gyfer treth ac Yswiriant Gwladol, mae’n bosibl nad ydych yn bodloni’ch ymrwymiadau.
Mae rhai eithriadau i’r buddiant trethadwy.
O dan ITEPA, byddwch yn ymwybodol, hyd yn oed os caiff rhywfaint neu’r cyfan o fenthyciad ei ad-dalu cyn pen 9 mis i ddiwedd eich cyfnod cyfrifyddu, y gall fod tâl benthyciad budiannol incwm cyflogaeth o hyd.
Mae rhagor o wybodaeth am fenthyciadau a ddarperir i gyflogeion (yn agor tudalen Saesneg) ar gael.
Dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno P11D a P11D(b) a thalu
Y dyddiad cau i roi gwybod i CThEF am unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd arnoch ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n dod i ben ar 5 Ebrill 2025 yw 6 Gorffennaf 2025. Gwnewch yn siŵr bod pob cyflwyniad yn cael ei wneud erbyn y dyddiad hwn gan y gallai cyflwyniadau hwyr a methu â chyflwyno o gwbl arwain at gosb.
Mae’n rhaid i’r taliad ein cyrraedd erbyn 19 Gorffennaf 2025 os ydych yn talu drwy siec, neu 22 Gorffennaf 2025 os ydych yn talu’n electronig.
Wrth gyflwyno’ch ffurflen P11D a P11D(b), gwnewch yn siŵr bod enw’r busnes wedi’i nodi yn union fel y’i cofrestrwyd, heb unrhyw dalfyriadau, atalnodi na newidiadau.
Os gwnewch gamgymeriad, mae angen i chi lenwi ffurflen ddiwygio treuliau a buddiannau P11D neu /P11D(b) ar-lein (yn agor tudalen Saesneg). Mae hwn yn ofyniad ar gyfer pob diwygiad i gyflwyniadau anghywir.
Mae nifer o webinarau byw ar gael sy’n cwmpasu’r broses ar gyfer cyflwyno P11D a P11D(b) (yn agor tudalen Saesneg). Mae arweiniad pellach ar gael.
Sut i gyflwyno ffurflenni P11D a P11D(b) ar-lein
Gallwch gyflwyno gan ddefnyddio’r naill neu’r llall o’r canlynol:
-
gwasanaeth TWE ar-lein CThEF ar gyfer hyd at 500 cyflogai
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch holl ffurflenni P11D a P11D(b) gyda’i gilydd, mewn un cyflwyniad ar-lein.
Yr hyn i’w gyflwyno
Mae angen i chi gyflwyno ffurflen P11D(b) os gwnaethoch dau unrhyw fuddiannau a/neu dreuliau heb eu heithrio, neu os gwnaethoch dalu unrhyw fuddiannau drwy’r gyflogres, yn y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2025. Dylech gynnwys cyfanswm y buddiannau sy’n agored i Gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A, hyd yn oed os ydych wedi trethu rhai ohonynt – neu bob un – drwy gyflogau’ch cyflogeion.
Mae angen i chi gyflwyno ffurflen P11D ar gyfer pob cyflogai sy’n cael buddiannau a/neu dreuliau heb eu heithrio, oni bai eich bod wedi cofrestru i dalu buddiannau a threuliau’ch cwmni gyda ni ar-lein cyn 6 Ebrill 2024.
Os nad ydych eisoes wedi cofrestru i dalu’ch buddiannau cwmni drwy’r gyflogres, mae’n bosibl yr hoffech wneud hynny cyn blwyddyn dreth 2026 i 2027. Bydd hyn yn golygu na fydd angen i chi anfon ffurflenni P11Ds mwyach ar gyfer blynyddoedd treth yn y dyfodol. Yr unig fuddiannau na allwch eu talu drwy gyflogres ar hyn o bryd yw benthyciadau a llety.
Nid yw CThEF yn derbyn trefniadau talu drwy’r gyflogres yn anffurfiol.
Rhoi gwybod i CThEF os nad ydych wedi talu unrhyw dreuliau a buddiannau
Does dim angen i chi roi gwybod i ni nad oes angen i chi gyflwyno ffurflen P11D(b), oni bai ein bod wedi anfon hysbysiad i gyflwyno ffurflen P11D(b) atoch yn electronig neu lythyr yn eich atgoffa i gyflwyno ffurflen P11D(b). Gallwch roi gwybod i ni drwy lenwi ffurflen nad ydych yn cyflwyno ffurflen cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A.
Awgrymiadau defnyddiol wrth gwblhau P11D a P11d(b)
Mae’n rhaid cwblhau’ch holl ffurflenni P11D ar-lein a’u cyflwyno ar yr un pryd â’ch cyflwyniad P11D(b). Nid yw’n bosibl cyflwyno ffurflenni P11D ar wahân dros sawl diwrnod. Cyn i chi gyflwyno, gwiriwch fod yr holl ffurflenni wedi’u cwblhau’n gywir. Os na wnewch hynny ac os ydych wedi gwneud camgymeriad, bydd angen i chi gyflwyno sawl ffurflen ddiwygio a bydd hyn yn arafu’r broses yn sylweddol.
Anfonwch un ffurflen P11D(b) yn unig ar gyfer pob cynllun, gan ddangos y cyfanswm sy’n ddyledus. Peidiwch ag anfon un ar wahân ar gyfer cyflogeion a chyfarwyddwyr. Rydym yn trin pob P11D(b) ar wahân fel diwygiad i unrhyw rai sydd eisoes wedi dod i law.
Defnyddiwch y dyddiadau dechrau a dod i ben cywir ar gyfer eich buddiannau car cwmni — hyd yn oed os yw’r rhain y tu allan i’r flwyddyn dreth berthnasol. Peidiwch â rhoi ‘6 Ebrill 2024’ fel y dyddiad dechrau na ‘5 Ebrill 2025’ fel y dyddiad dod i ben ar gyfer ceir eich cwmni, oni bai mai’r rhain yw’r dyddiadau gwirioneddol daeth y car cwmni i law neu y dychwelodd eich cyflogai gar cwmni.
Wrth roi gwybod am gar sy’n gwbl drydanol, gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynnwys y ffigur allyriadau CO2 cymeradwy.
Wrth roi gwybod am gar hybrid gyda ffigur allyriadau CO2 cymeradwy sydd rhwng 1-50, gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynnwys y milltiroedd allyriadau sero cymeradwy.
Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad
Mandadu adrodd ar fuddiannau a threuliau drwy feddalwedd gyflogres
Ar 28 Ebrill 2025, cyhoeddodd y llywodraeth y byddai’r adrodd gorfodol a thalu Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar fuddiannau (BiKs) yn cael ei chyflwyno o fis Ebrill 2027 ymlaen yn lle mis Ebrill 2026. Bydd hyn yn rhoi mwy o amser i gyflogwyr, gweithwyr proffesiynol y gyflogres, darparwyr meddalwedd, asiantau treth a rhanddeiliaid eraill baratoi ar gyfer y newid.
Mae CThEF wedi cyhoeddi nodyn technegol wedi’i ddiweddaru sy’n darparu mwy o wybodaeth weithredol ar sut y gall busnesau addasu i’r newidiadau hyn mewn pryd ar gyfer mis Ebrill 2027 (yn agor tudalen Saesneg).
Byddwch yn barod ar gyfer talu drwy’r gyflogres
Mae’n bosibl y byddai’n werth cofrestru i dalu buddiannau trwy’r gyflogres yn wirfoddol o fis Ebrill 2026 ymlaen. Bydd hyn yn eich helpu i ymgyfarwyddo â’r broses o adrodd buddiannau trwy feddalwedd cyflogres er mwyn paratoi ar gyfer talu trwy’r gyflogres yn orfodol. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i brofi sut mae prosesau a systemau cyflogres eich sefydliad yn gweithio a’u haddasu ar gyfer adrodd mewn amser real os oes angen.
Os ydych chi am wneud hyn, mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer cyflogres wirfoddol erbyn mis Ebrill 2026 er mwyn gallu talu buddiannau drwy’r gyflogres yn y flwyddyn dreth 2026 i 2027. Dim ond o ddechrau’r flwyddyn dreth newydd y gallwch ddechrau talu buddiannau a threuliau.
Ni ellir adrodd am bob buddiant drwy’r system gyflogres wirfoddol bresennol ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027. Bydd angen rhoi gwybod o hyd am lety byw sy’n gysylltiedig â chyflogaeth, benthyciadau di-log a benthyciadau buddiannol llog isel ar ffurflen P11D ar gyfer Treth Incwm. Ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027, bydd angen i chi roi gwybod am yr Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar gyfer pob buddiant o hyd drwy gyflwyno ffurflen P11D(b) ar-lein. Mae’n rhaid i chi lenwi a chyflwyno ffurflenni P11D o hyd ar gyfer unrhyw fuddiannau a threuliau nad ydynt wedi’u talu trwy’r gyflogres.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i’ch cyflogeion am symud o P11D a P11D(b) i adrodd amser real.
Mae rhagor o wybodaeth am sut i roi gwybod am dreuliau a buddiannau rydych chi’n eu rhoi i gyflogeion neu gyfarwyddwyr drwy’r system gyflogres gwirfoddol ar gael.
Byddwn yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid i wneud yn siŵr bod yr adroddiadau gorfodol ar fuddiannau a threuliau trethadwy drwy feddalwedd gyflogres yn gweithio i CThEF a chwsmeriaid.
Defnyddio grwpio TAW o fewn y diwydiant gofal
Mae Revenue and Customs Brief 2 (2025): the use of VAT grouping within the care industry (yn agor tudalen Saesneg) wedi’i gyhoeddi’n ddiweddar gan CThEF. Mae’r briff yn egluro bod strwythur grwpio TAW a ddefnyddir gan rai darparwyr gofal a reoleiddir gan y wladwriaeth i adennill TAW ar gostau sy’n ymwneud â chyflenwadau gwasanaethau lles a fyddai fel arall wedi’u hesemptio rhag TAW, yn cael ei ystyried yn fath o arbed treth.
Mae hefyd yn egluro’r camau y bydd CThEF yn eu cymryd ar grwpiau TAW newydd a rhai sy’n bodoli eisoes.
Ceisiadau grŵp TAW newydd
Bydd CThEF yn gwneud defnydd llawn o’i bwerau i ddiogelu refeniw TAW. Lle bo angen, bydd yn gwrthod ceisiadau cofrestru grŵp TAW newydd sydd wedi’u cynllunio i weithredu a hwyluso’r strwythurau grwpio TAW hyn.
Grwpiau TAW presennol
Mae CThEF yn lansio rhaglen ar unwaith i adolygu ac ymchwilio i bob achos lle mae’n hysbys neu lle amheuir bod cynllun arbed treth ar waith o fewn trefniant grŵp TAW. Mae’r crynodeb yn amlinellu’r pwerau a fydd yn cael eu defnyddio i herio trefniadau o’r fath ac yn awgrymu y gallai sefydliadau sy’n defnyddio’r trefniadau hyn ar hyn o bryd fod eisiau adolygu eu harferion cyfrifyddu TAW presennol yn annibynnol a cheisio cyngor proffesiynol. Mae’r briff hefyd yn egluro mai dim ond ar ôl i’r ymchwiliad gael ei gwblhau y bydd unrhyw bwerau a ddefnyddir yn dod i rym. Mae hwyrach bod CThEF yn ceisio hawlio treth yn ôl o unrhyw gyfnod cynharach, lle mae’r trefniant penodol hwn ar waith. Os canfyddir anghywirdebau mewn meysydd eraill yn ystod yr ymchwiliad, gellir adennill treth mewn perthynas â’r anghywirdebau hynny.
Mae rhagor o wybodaeth ynghylch sut mae’r trefniadau’n honni eu bod yn gweithio ar gael mewn erthygl Spotlight (yn agor tudalen Saesneg).
Lle rydych o’r farn bod trefniadau’ch busnes yn dod o fewn y disgrifiad a roddir yn y crynodeb a’r erthygl Spotlight, dylech anfon e-bost at CAGetHelpOutOfTaxAvoidance@hmrc.gov.uk a chynnwys y geiriau ‘VAT grouping’ ym mhwnc eich e-bost.
Ymagwedd ehangach CThEF ar arbed treth
Os ydych yn rhan o gynllun arbed treth, bydd CThEF yn ymchwilio’n llawn i’ch materion treth ac mae’n bosibl y bydd yn eich trin fel trethdalwr risg uchel. Mae hyn yn golygu y bydd CThEF yn archwilio’ch holl faterion treth yn y dyfodol, nid dim ond eich defnydd o’r cynllun arbed treth.
Rhoi gwybod am gynllun
Gallwch roi gwybod am drefniadau twyll treth ac arbed treth, cynlluniau a’r person sy’n eu cynnig i CThEF drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i roi gwybod am dwyll treth.
Gallwch gyflwyno’r ffurflen hon yn ddienw ac nid oes rhaid i chi roi’ch enw, cyfeiriad na’ch e-bost.
Gallwch gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein.
Ffôn: 0800 788 887 (Saesneg yn unig)
Y tu allan i’r DU: +44 203 080 0871
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 09.00 i 17.00 (heblaw am wyliau cyhoeddus)
Dysgwch am gostau galwadau
Offer TWE Sylfaenol ― wedi’i ddiweddaru
Rhyddhawyd diweddariad cynnal a chadw pwysig i’r Offer TWE Sylfaenol (BPT) ar ddechrau mis Ebrill 2025, yn dilyn y prif ryddhad tua diwedd mis Mawrth 2025, ar gyfer y flwyddyn dreth 2025 i 2026. Mae’n bwysig eich bod yn diweddaru ac yn defnyddio’r datganiad diweddaraf o BPT, sef fersiwn 25.1.
I ddiweddaru neu wirio am ddiweddariadau, dylech wneud y canlynol:
- dewis ‘Gwirio nawr’ yn adran ddiweddaru’r gosodiadau, i’w weld yng nghornel dde uchaf yr offeryn
- dewis ‘Iawn’ ar gyfer diweddaru’n awtomatig
Fel cwsmer newydd, cyn i chi allu defnyddio BPT i redeg eich cyflogres, mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru ar gyfer TWE ar-lein yn unol â’r cyfarwyddyd yn eich llythyr i gyflogwr newydd.
Mae arweiniad pellach ar argaeledd gwasanaeth a phroblemau (yn agor tudalen Saesneg) a help ar sut i lawrlwytho BPT ar gael.
Spotlight 68 — defnyddio cardiau debyd rhagdaledig i dynnu elw i leihau elw a chuddio incwm
Mae Spotlight 68 (yn agor tudalen Saesneg) yn darparu gwybodaeth am gynllun arbed treth sy’n cael ei farchnata i gwmnïau sy’n anelu at leihau rhwymedigaethau Treth Gorfforaeth a TAW tra hefyd yn honni ei fod yn darparu incwm nad yw’n drethadwy i gyfarwyddwyr, eu partneriaid neu’r ddau.
Honnir bod hyn yn gweithio fel a ganlyn:
- Mae cwmni’n prynu ‘hysbysebu’ o’r cynllun. Mae’r gwariant hwn wedi’i gynnwys yng nghyfrif elw a cholled y defnyddiwr. Honnir bod hyn yn ddidynadwy o dreth.
- Yna caiff swm sydd yn aml yn hafal i o leiaf 80% o’r swm a werir ar “farchnata” ei ddychwelyd i gyfarwyddwyr neu gyflogeion ar ffurf “pwyntiau teyrngarwch” sy’n cael eu trosi’n symiau ariannol ac yn cael eu codi ar gardiau rhagdaledig.
- Yna mae derbynwyr y cardiau hyn yn gwario’r symiau ar y cardiau hyn fel y dymunant. Honnir nad yw’r “pwyntiau teyrngarwch” yn incwm trethadwy.
Dylech fod yn effro i’r manylion sydd wedi’u cynnwys yn Spotlight 68 gan mai barn CThEF yw nad yw’r cynllun hwn yn gweithio, a byddwn yn herio unrhyw un sy’n hyrwyddo trefniadau o’r fath. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i bobl sy’n defnyddio’r trefniadau hyn dalu mwy na’r dreth y ceision nhw ei harbed yn ogystal â thalu llog, cosbau a ffioedd uchel am ddefnyddio cynlluniau o’r fath.
Os ydych o’r farn eich bod eisoes yn rhan o’r trefniant hwn ac eisiau gadael, gall CThEF helpu. Mae CThEF yn cynnig amrywiaeth o gymorth i’ch cael chi’n ôl ar y trywydd cywir neu i osgoi cael eich dal allan yn y lle cyntaf. Cysylltwch â CThEF am help i gael allan o gynllun arbed (yn agor tudalen Saesneg) os oes gennych unrhyw bryderon.
Gallwch roi gwybod am dwyll treth a threfniadau arbed treth, cynlluniau a’r person sy’n eu cynnig i chi i CThEF drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i roi gwybod am dwyll treth.
Newidiadau i nodynnau atgoffa, datganiadau a derbynebau Treth Gorfforaeth
Fel rhan o ymdrechion parhaus CThEF i wella ei wasanaethau i anfon a chael gwybodaeth trethdalwyr yn ddigidol, nid yw CThEF bellach yn anfon copïau papur o rai llythyrau Treth Gorfforaeth (CT) lle gall cwsmeriaid ac asiantau gael mynediad at yr un wybodaeth trwy wasanaethau ar-lein pan fydd ei hangen arnynt.
O fis Mehefin ymlaen, ni fyddwn yn anfon y llythyrau Treth Gorfforaeth anstatudol canlynol yn awtomatig:
- CT205/Nodynnau atgoffa i gwmnïau ac asiantau gyflwyno Ffurflenni Treth
- CT207 datganiad llog
- CT209 derbynneb o daliad
- CT603A rhestr asiant o hysbysiadau a gyhoeddir i gyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni
- CT608 nodyn atgoffa taliad rhandaliadau
Byddwn hefyd yn rhoi cynnig ar roi’r gorau i anfon llythyrau atgoffa Treth Gorfforaeth CT208 cyn i ni roi’r gorau i’w hanfon yn barhaol. Bydd y treial yn rhoi’r gorau i anfon nodynnau atgoffa at boblogaeth fach o gwsmeriaid sydd ag asiantau i ddechrau ac, os bydd yn llwyddiannus, byddwn yn cynyddu hyn ac yn y pen draw yn cynnwys y nodynnau atgoffa CT208 i gwsmeriaid. Byddwn yn monitro’r effaith ac yn atal y treial os gwelwn effaith negyddol ar ein cwsmeriaid neu’n proses.
Nid oes unrhyw newidiadau i’r broses Treth Gorfforaeth ei hun. Gall cwmnïau gael mynediad at eu cyfrifon ar-lein CThEF a gall asiantau gael mynediad at wasanaeth ar-lein Treth Gorfforaeth i Asiantau CThEF (yn agor tudalen Saesneg) i fwrw golwg dros rwymedigaethau a thaliadau. Mae gwybodaeth am Ffurflenni Treth y Cwmni (yn agor tudalen Saesneg) ar gael gan gynnwys arweiniad ar gyfnodau cyfrifyddu Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg).
Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid
Peidiwch â gadael i’ch contractwyr gael eu dal wrthi gan arbed treth
Mae ymgyrch CThEF ‘peidiwch â chael eich dal wrthi’ (yn agor tudalen Saesneg) yn helpu pobl sy’n gweithio fel contractwyr i osgoi cyngor treth gwael drwy adnabod arwyddion amlwg arbed treth.
Gall unrhyw un sy’n gweithio i chi fel contractwr ddysgu mwy am arbed treth gan ddefnyddio’r ffynonellau canlynol:
- arweiniad ar-lein, gan gynnwys canllawiau a fideo YouTube (yn agor tudalen Saesneg) byr i adnabod arwyddion arbed treth a deall sut mae cwmnïau ambarél yn gweithio
- offer rhyngweithiol i weld a yw eu contractau’n cynnwys arbed treth neu wirio eu pecynnau cyflog i wneud yn siŵr eu bod yn talu’r swm cywir o dreth
- straeon personol gan bobl sydd wedi’u dal mewn cynlluniau arbed treth sydd eisiau rhannu eu profiadau fel rhybudd i eraill.
Gall contractwyr sydd wedi defnyddio cynllun arbed treth hefyd ddod o hyd i’r cymorth sydd ei hangen arnynt i adael a rhoi gwybod i CThEF amdano drwy ymweld â thudalen yr ymgyrch ‘peidiwch â chael eich dal wrthi’ (yn agor tudalen Saesneg).
Cyhoeddir manylion cynlluniau arbed treth a’u hyrwyddwyr yr ydym wedi’u henwi hefyd. Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr. Ni waeth yr hyn y bydd hyrwyddwyr cynlluniau arbed treth yn ei honni, nid yw CThEF byth yn cymeradwyo cynlluniau o’r fath.
Rydym yn ymwybodol bod y rhan fwyaf o bobl sy’n dod yn rhan o gynllun arbed treth yn difaru gwneud hynny, ac am wneud pethau’n iawn. Rydym am eu helpu drwy gynnig y cymorth sydd ei hangen arnynt, heb unrhyw farn, i fynd allan a setlo eu materion treth mewn ffordd fforddiadwy ac amserol.
Rydym yn eich annog i rannu ein hadnoddau cefnogol ein hymgyrch ar draws eich cylchlythyrau a’ch gwefannau. Gan gynnwys rhannu a hoffi ein negeseuon ar sianeli cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, LinkedIn, X.
Absenoldeb a Thâl Gofal Newydd-enedigol Statudol
Ar 6 Ebrill, cyflwynodd y llywodraeth hawl statudol newydd i Absenoldeb a Thâl Gofal Newyddenedigol. Mae hyn yn rhoi hawl cyflogaeth diwrnod cyntaf i rieni cyflogedig y mae eu babanod yn mynd i ofal newydd-anedig gymryd hyd at 12 wythnos i ffwrdd o’r gwaith, yn dibynnu ar faint o amser y mae eu babi mewn gofal newydd-enedigol. Mae gan rieni cymwys hawl hefyd i hyd at 12 wythnos o dâl statudol.
Cafodd Rheoliadau Absenoldeb Gofal Newyddenedigol a Diwygiadau Amrywiol 2025 (yn agor tudalen Saesneg) a Rheoliadau Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol (Cyffredinol) 2025 (yn agor tudalen Saesneg) eu cymeradwyo gan Dŷ’r Senedd ar ddydd Llun 17 Mawrth 2025. Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi prif ddarpariaethau’r hawl newydd, gan gynnwys:
- diffiniad eang o riant sy’n cwmpasu ystod o berthnasoedd rhiant a phersonol — gan gynnwys rhieni mabwysiadol, rhieni sy’n maethu i fabwysiadu a’r darpar rieni mewn trefniadau mam fenthyg
- y gallu i gymryd yr absenoldeb yn hyblyg, mewn blociau o leiaf un wythnos, pan fydd y plentyn yn dal i gael gofal newyddenedigol, gan gynnwys wythnos wedyn, a’r gofyniad i gymryd yr absenoldeb mewn un bloc parhaus ar unrhyw gyfnod arall o fewn 68 wythnos i enedigaeth y plentyn
- gofynion rhybudd er mwyn cymryd Absenoldeb Gofal Newyddenedigol
- gofynion rhybudd a gwybodaeth i gymryd Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol
Mae’r llywodraeth hefyd wedi gwneud Rheoliadau i wneud diwygiadau i ddeddfwriaeth eilaidd arall er mwyn adlewyrchu cyflwyno Absenoldeb a Thâl Gofal Newyddenedigol Statudol, yn ogystal ag ymdrin â gweinyddu’r taliad statudol newydd, a hawl rhai pobl dramor a morwyr i’r taliad hwn. Gyda’i gilydd, mae’r Rheoliadau hyn yn sicrhau cysondeb rhwng Absenoldeb Gofal Newyddenedigol a Thâl Gofal Newyddenedigol Statudol a hawliau absenoldeb a thâl eraill sy’n gysylltiedig â’r teulu sy’n bodoli eisoes.
Mae arweiniad pellach ar Dâl ac Absenoldeb Gofal Newyddenedigol Statudol i gyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg) a Thâl ac Absenoldeb Gofal Newyddenedigol i gyflogeion (yn agor tudalen Saesneg) ar gael.
Gwarantau ar sail cyflogaeth – dyddiad cau ar gyfer cyflwyno datganiad diwedd blwyddyn ar gyfer cynlluniau cyfranddaliadau cyflogeion
Mae rhoddion a dyfarniadau o gyfranddaliadau mewn cwmnïau, a elwir yn aml yn Warantau Ar Sail Cyflogaeth (ERS), yn cael eu defnyddio’n aml gan gyflogwyr i wobrwyo, cadw neu roi cymelliadau i gyflogeion.
Os ydych yn gweithredu cynllun ERS, mae’n rhaid i chi gyflwyno datganiad ERS diwedd blwyddyn, gan gynnwys datganiadau ‘dim’ (lle nad oes gennych unrhyw beth i’w ddatgan). Mae’n rhaid i chi wneud hyn ar gyfer pob cynllun sydd wedi’i gofrestru ar wasanaeth ERS ar-lein yn erbyn eich cynllun TWE.
Ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025, bydd rhaid i chi gyflwyno datganiad ERS diwedd blwyddyn ar neu cyn 6 Gorffennaf 2025.
Os byddwch yn methu’r dyddiad cau, bydd cosb am gyflwyno’n hwyr o £100 yn cael ei hanfon i gyfeiriad y cyfrif TWE cysylltiedig.
Bydd cosbau awtomatig ychwanegol o £300 yn cael eu codi os nad ydych wedi cyflwyno’r datganiad cyn pen tri mis ar ôl y dyddiad cau gwreiddiol, sef 6 Gorffennaf 2025. Bydd cosb arall o £300 yn cael ei chodi os yw’n dal yn ddyledus chwe mis ar ôl y dyddiad hwn.
Bydd disgrifiad o’r tâl ar gyfer cosbau sy’n ymwneud â chynlluniau cyfranddaliadau cyflogeion yn cyfeirio at Warantau ar Sail Cyflogaeth.
Os ydych yn apelio yn erbyn cosb am gyflwyno datganiad ERS yn hwyr, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod chi wedi cyflwyno’ch Ffurflenni Treth diwedd blwyddyn sy’n weddill. Mae’n rhaid cyflwyno Ffurflen Dreth diwedd blwyddyn i atal cosbau pellach.
I gofrestru ar gyfer y cynllun ERS, mae angen cyfeirnod TWE y cyflogwr arnoch. Er mwyn cyflwyno datganiad ERS diwedd blwyddyn (yn agor tudalen Saesneg), mae’n rhaid eich bod eisoes wedi cofrestru’ch cynllun ar y gwasanaeth ar-lein.
Os yw cynllun wedi’i gofrestru ar gam, neu os nad yw’n gweithredu mwyach, bydd rhaid dod â’r cynllun i ben ar-lein. Ni all asiant wneud hyn, dim ond y cyflogwr all ddod â’r cynllun i ben ar-lein.
Mae angen i gynllun ERS fod yn gysylltiedig â chynllun TWE y Cyflogwr byw. Os ydych yn cau’ch cynllun TWE, dylech ystyried a oes angen i chi hefyd roi’r gorau i’ch cynllun ERS (yn agor tudalen Saesneg).
Unwaith y bydd cynllun ERS wedi dod i ben, bydd rhaid cyflwyno datganiad blynyddol neu ddatganiad dim o hyd ar gyfer y flwyddyn dreth y mae dyddiad y digwyddiad olaf yn syrthio ynddi.
Diwedd y Cynllun Stampiau’r Doll Alcohol
Daeth y Cynllun Stampiau’r Doll Alcohol i ben ar 1 Mai 2025.
Roedd y cynllun hwn yn berthnasol i gynwysyddion manwerthu mwy o gynhyrchion cryfder alcoholaidd uwch — y rhai â chyfaint o 35cl neu fwy, a chryfder o leiaf 30% abv.
Nid oes angen stamp ‘Doll wedi’i Thalu yn y DU’ mwyach ar gynhyrchion a oedd gynt o fewn y cynllun, sef gwirodydd cryfder uwch fel arfer.
Dylai cynhyrchwyr a mewnforwyr nawr roi’r gorau i stampio cynwysyddion manwerthu gyda’r dyluniad tollau stamp. Dylen nhw ddiweddaru eu dyluniadau labeli poteli ar gyfer stoc newydd. Bydd stoc stampiedig presennol yn parhau i fod yn gyfreithlon i’w werthu a’i gyflenwi, tra bod stoc stampiedig etifeddol yn cael ei ddefnyddio.
Dylai masnachwyr atgoffa eu hunain o’r risgiau sydd fel arfer yn gysylltiedig â chynhyrchion alcohol anghyfreithlon. Lle bo’n berthnasol, mae’n rhaid i gyfanwerthwyr a manwerthwyr hefyd ddilyn gofynion y Cynllun Cofrestru Cyfanwerthwyr Alcohol (yn agor tudalen Saesneg).
Mae arweiniad ymarferol ynghylch diwedd y cynllun ar gael yn y Briff Cyllid a Thollau: Diwedd y Cynllun Stampiau’r Doll Alcohol (yn agor tudalen Saesneg).
Arweiniad ac offer newydd ar gyfer cwmnïau ambarél
Am y tro cyntaf, mae CThEF wedi cyhoeddi arweiniad a ysgrifennwyd yn benodol ar gyfer cwmnïau ambarél sy’n gweithredu yn y farchnad lafur dros dro. Nod y datblygiad pwysig hwn yw gosod disgwyliadau clir a chodi safonau ar draws y sector.
Arweiniad cwmni ambarél newydd
Mae’rarweiniad yn amlinellu enghreifftiau o arfer da ar gyfer cwmnïau ambarél yn y farchnad lafur dros dro (yn agor tudalen Saesneg) sy’n gwneu y canlynol:
- anelu at wella sut mae’r farchnad yn gweithredu
- nodi camau gweithredu sy’n cefnogi cydymffurfiaeth
- annog chwarae teg ar draws y farchnad lafur dros dro
Mae’r arweiniad hwn yn gam tuag at godi safonau tra bod y llywodraeth yn cynllunio goruchwyliaeth ffurfiol ar gwmnïau ambarél rheoleiddiol. Mae’n helpu i greu marchnad decach ac yn galluogi gweithwyr, busnesau a rhanddeiliaid yn y gadwyn gyflenwi i ddeall sut olwg sydd ar weithrediad cwmni ambarél cyfrifol.
Offeryn ‘cyfrifo cyflog o gwmni ambarél’ wedi’i ddiweddaru
Gall busnesau cyflogaeth sy’n defnyddio cwmnïau ambarél a’u gweithwyr nawr gael mynediad at offeryn cyfrifo cyflog o gwmni ambarél’ wedi’i ddiweddaru gan CThEF (yn agor tudalen Saesneg). Mae’r offeryn hwn yn gwneud y canlynol:
- cynhyrchu cyfrifiadau darluniadol cyflog a didyniadau cynhwysfawr yn seiliedig ar gyfraddau aseiniad
- helpu i wirio a yw cyflog a didyniadau yn gyfreithlon ac wedi’u cyfrifo’n gywir
- ymgorffori cyfraddau a throthwyon blwyddyn ariannol 2025 i 2026
- yn gwbl ddienw heb gasglu manylion adnabod
Mae’r adnodd hwn yn cefnogi busnesau cyflogaeth i gyflawni rhwymedigaethau cydymffurfio wrth sicrhau bod gweithwyr yn cael gwybod yn well am eu hawliau cyflog ac yn cael eu hamddiffyn rhag cynlluniau arbed treth.
Newidiadau yn y dyfodol i Dâl Salwch Statudol
Fel rhan o’r Cynllun Gwneud i Waith Dalu, mae’r Llywodraeth yn gwneud newidiadau i Dâl Salwch Statudol (SSP). Drwy’r Bil Hawliau Cyflogaeth, rydym yn cryfhau’r SSP i wneud yn siŵr bod gan bob cyflogai fynediad at SSP o’r diwrnod cyntaf y mae angen iddynt gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch, waeth beth fo’u henillion.
Newidiadau allweddol i SSP
Bydd SSP ar gael o’r diwrnod cyntaf. Rydym yn dileu’r cyfnod aros sy’n golygu bod cyflogeion bellach yn gymwys i gael SSP o’r diwrnod cyntaf o absenoldeb salwch yn hytrach na’r bedwerydd diwrnod sy’n wir ar hyn o bryd.
Rydym hefyd yn dileu’r Terfyn Enillion Isaf fel meini prawf cymhwystra ar gyfer SSP, sy’n golygu y bydd gan bob cyflogai cymwys, waeth beth fo’u henillion, fynediad i SSP pan fyddant i ffwrdd yn sâl. Bydd gan gyflogeion hawl i 80% o’u henillion wythnosol arferol, neu’r gyfradd wastad, sydd ar hyn o bryd yn £118.75, pa un bynnag sydd isaf.
Mae’r Adran Busnes a Masnachu’n arwain gwaith i greu Asiantaeth Gwaith Teg, asiantaeth weithredol newydd a fydd yn dwyn ynghyd swyddogaethau gorfodi presennol mewn un lle, fel bod hawliau cyflogaeth yn cael eu gorfodi’n fwy effeithiol ac effeithlon. Bydd hefyd yn gorfodi hawliau ychwanegol, gan gynnwys yr hawl i SSP.
Camau nesaf
Wrth i ni symud ymlaen â’n hymrwymiad i gryfhau SSP, rydym am barhau i wrando a dysgu gan gyflogwyr, cyflogeion a rhanddeiliaid i gefnogi cyflwyno’r mesurau hyn. Byddem yn awyddus i ymgysylltu â chyflogwyr a darparwyr cyflogres, o ystyried eich arbenigedd sylweddol, i drafod sut y gellir gweithredu’r newidiadau hyn yn llwyddiannus. Hoffem hefyd ddeall pa gefnogaeth sydd ei hangen i gyflwyno’r newidiadau sylweddol hyn, gan gynnwys gwybodaeth ac arweiniad a allai fod yn ofynnol.
Dim ond cam cyntaf cyflawni’r Cynllun Gwneud i Waith Dalu yw’r Bil Hawliau Cyflogaeth. Ochr yn ochr â Strategaeth Ddiwydiannol newydd y llywodraeth, bydd y Bil yn cefnogi cenhadaeth y llywodraeth i gynyddu cynhyrchiant a chreu’r amodau cywir ar gyfer twf economaidd cynaliadwy, cynhwysol a diogel yn yr hirdymor. Ochr yn ochr â hyn, gofynnwyd i Syr Charlie Mayfield arwain yr adolygiad Cadwch Brydain yn Gweithio (yn agor tudalen Saesneg), a fydd yn ystyried argymhellion i’r llywodraeth weithio’n agos gyda busnesau, ac i adeiladu partneriaeth i wella ansawdd a chynhwysiant gwaith.
Os hoffech gysylltu â ni ynglŷn â’r newidiadau sy’n cael eu gwneud i SSP, neu os hoffech rannu’ch barn a’ch arbenigedd, anfonwch e-bost at Dîm Polisi SSP yn SSP.Team@DWP.gov.uk.
Mae rhagor o wybodaeth am Dâl Salwch Statudol — Strwythur Dileu Terfyn Enillion Isad ar gael yn Bil Hawliau Cyflogaeth: taflenni gwybodaeth (yn agor tudalen Saesneg).
Atgoffir rhieni pobl ifanc i fynd ar-lein i ymestyn eu hawliad Budd-dal Plant
Os oes gennych gyflogeion sydd â phlant, rhwng 16 a 19 oed, mae gwybodaeth bwysig y mae angen iddynt ei gwybod fel nad ydynt yn colli hyd at £1,354 y flwyddyn mewn Budd-dal Plant.
Rydym yn ysgrifennu at rieni i roi gwybod iddynt fod yn rhaid iddynt gadarnhau a yw eu plant yn aros mewn addysg amser llawn, neu hyfforddiant, cyn y dyddiad cau sef 31 Awst 2025.
Gallwch helpu’ch cyflogeion i gael y taliadau y maen nhw’n gymwys i’w cael drwy eu hatgoffa i ymestyn eu hawliad am Fudd-dal Plant ar-lein neu drwy ap CThEF.
Mae’r llythyr y byddant yn ei gael yn cynnwys cod QR defnyddiol sy’n mynd â nhw’n syth i’r gwasanaeth digidol o fewn arweiniad Budd-dal Plant pan fydd eich plentyn yn troi’n 16 oed (yn agor tudalen Saesneg). Yn yr arweiniad gallant hefyd wirio cymhwystra, neu gallant chwilio am ’ymestyn Budd-dal Plant’ a mewngofnodi i’w cyfrif ar-lein.
Os na fydd rhieni’n rhoi gwybod i ni erbyn 31 Awst 2025, bydd eu Budd-dal Plant yn dod i ben.
Os yw eich cyflogeion neu eu partneriaid wedi dewis peidio â chael taliadau Budd-dal Plant oherwydd eu hincwm, mae angen iddynt ymestyn eu hawliad o hyd. Mae’r swm y gall rhieni ei ennill cyn bod angen iddynt dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel bellach wedi cynyddu i rhwng £60,000 ac £80,000.
Dylech annog eich cyflogeion i ddefnyddio’r ar-lein cyfrifiannell treth Budd-dal Plant (yn agor tudalen Saesneg) i gael amcangyfrif o faint o fudd-dal y byddant yn ei gael, a beth allai’r tâl fod.
Mae’n bosibl y bydd hi’n werth iddynt nawr ddewis ailymuno â thaliadau neu wneud hawliad os nad ydynt wedi gwneud hynny o’r blaen. Mae’n gyflym ac yn hawdd i’w wneud drwy ap CThEF neu ar-lein.
Fformat HTML Bwletin y Cyflogwr
Ers mis Medi 2020, mae’n rhaid i ddeunydd a gyhoeddir ar GOV.UK neu ar wefannau eraill y sector cyhoeddus fodloni safonau hygyrchedd (yn agor tudalen Saesneg). Mae hyn er mwyn sicrhau y gall cynifer o bobl â phosibl eu defnyddio, gan gynnwys y sawl sydd â:
-
nam ar eu golwg
-
anawsterau echddygol
-
anawsterau gwybyddol neu anableddau dysgu
-
trymder clyw neu nam ar eu clyw
Erbyn hyn mae tudalen gynnwys, gyda chysylltiadau, ac mae modd sgrolio drwy’r dudalen yn llwyr. Mae’r erthyglau wedi’u rhoi mewn categorïau o dan benawdau, a hynny yn y Rhagarweiniad, er mwyn ei gwneud yn haws dod o hyd i’r diweddariadau a’r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddynt.
Mae’r fformat HTML yn caniatáu i chi wneud y canlynol (yn dibynnu ar eich porwr gwe):
-
argraffu’r ddogfen pe baech yn dymuno cadw ffeil ar bapur:
- dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ o dan y rhestr cynnwys a gallwch argraffu’r ddogfen ar eich argraffydd lleol
-
i gadw’r ddogfen fel PDF:
-
dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ a, chan ddefnyddio’r gwymplen ar yr argraffydd, dewis ‘Argraffu i PDF’ — sy’n caniatáu i chi gadw’r ddogfen fel PDF a’i ffeilio ar ffurf electronig
-
ar ddyfais symudol, gallwch ddewis y botwm ar gyfer rhagor o opsiynau, yna dewiswch yr opsiynau i allu cadw fel PDF
-
Cael rhagor o wybodaeth ac anfon adborth
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y diweddaraf am newidiadau drwy gofrestru i gael ein negeseuon e-bost hysbysu (yn agor tudalen Saesneg).
Gallwch hefyd ein dilyn ar X (Twitter) @HMRCgovuk (yn agor tudalen Saesneg).
Anfonwch eich adborth am y Bwletin hwn, neu rhowch wybod am erthyglau yr hoffech eu gweld, drwy e-bostio GRP128613644@hmrc.onmicrosoft.com.