Trosolwg

Mae Cytundeb Setliad TWE (PSA) yn eich galluogi chi i wneud un taliad blynyddol ar gyfer yr holl dreth ac Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus ar dreuliau neu fuddiannau mân, afreolaidd neu anymarferol ar gyfer eich cyflogeion.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Os byddwch yn cael PSA ar gyfer yr eitemau hyn, ni fydd angen i chi wneud y canlynol:

  • eu rhoi drwy’ch cyflogres er mwyn cyfrifo treth ac Yswiriant Gwladol

  • eu cynnwys yn eich ffurflenni P11D diwedd blwyddyn

  • talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A arnynt ar ddiwedd y flwyddyn dreth (yn lle hynny, byddwch yn talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B fel rhan o’ch PSA)

Unwaith bod gennych PSA, bydd angen i chi roi gwybod i CThEF faint sydd arnoch bob blwyddyn dreth.

Mae rhai treuliau cyflogeion wedi’u cwmpasu gan eithriadau (sydd wedi disodli goddefebau). Mae hyn yn golygu na fydd yn rhaid i chi eu cynnwys yn eich adroddiadau diwedd blwyddyn.