Sut i gael Cytundeb Setliad TWE

Gallwch wneud cais i gael Cytundeb Setliad TWE (PSA) ar-lein. Os nad oes modd i chi wneud cais ar-lein, gallwch wneud cais drwy’r post.

Gallwch gael asiant i wneud cais ar eich rhan. Bydd angen i chi roi llythyr o awdurdod wedi’i lofnodi i’ch asiant os nad oes ganddo awdurdodiad i wneud cais eisoes.

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os hoffech gyngor ynghylch sut i gael a chyfrifo’ch PSA.

Gwneud cais ar-lein

Bydd angen eich cyfeirnod TWE y cyflogwr arnoch. Mae’r cyfeirnod hwn yn rif 3 digid, blaenslaes, ac yna cymysgedd o lythrennau a rhifau, e.e. 123/AB456. Gallwch ddod o hyd i hwn ar lythyrau rydych wedi’u cael oddi wrth CThEF ynglŷn â TWE.

Bydd hefyd angen i chi roi manylion cyswllt, gan gynnwys:

  • enw’ch busnes

  • cyfeiriad

  • eich rhif ffôn

  • eich cyfeiriad e-bost (oni bai eich bod yn mewngofnodi gan ddefnyddio Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth)

Gwneud cais ar-lein

Bydd CThEF yn gwirio cynnwys eich PSA. Byddant yn cysylltu â chi pe bai unrhyw broblemau

Os yw’ch cais yn cael ei awdurdodi, byddwch yn cael e-bost neu lythyr i gadarnhau. Yna bydd eich PSA yn cael ei anfon atoch drwy’r post.

Gwneud cais drwy’r post

Ysgrifennwch at Busnes, Treth a Thollau CThEF yn disgrifio’r treuliau a’r budd-daliadau yr ydych am i’r PSA ei gwmpasu.

Cytundebau Setliad TWE
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
BX9 1ST

Unwaith i CThEF gytuno ar yr hyn y gall gael ei gynnwys, byddant yn anfon copi drafft o ffurflen P626 atoch. Llofnodwch y ffurflen hon, a’i dychwelyd. Bydd CThEF yn awdurdodi’ch cais ac yn anfon y canlynol atoch:

  • llythyr PSA02 – dyma eich PSA
  • copi o’r ffurflen P626 wedi ei chydlofnodi

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Unwaith y bydd gennych PSA, bydd angen i chi roi gwybod i CThEF am yr hyn sydd arnoch pob blwyddyn dreth.

Bydd y cytundeb yn parhau hyd nes y byddwch chi, neu CThEF, yn canslo’r cytundeb, neu eich bod angen ei newid. Nid oes angen i chi adnewyddu’r PSA pob blwyddyn dreth.