Skip to main content

Yr hyn sydd wedi’i gynnwys

Mae’n rhaid i’r treuliau neu’r buddiannau rydych yn eu cynnwys mewn Cytundeb Setliad TWE (PSA) fod yn fân, yn afreolaidd neu’n

Mân

Mae enghreifftiau o fân fuddiannau a threuliau’n cynnwys:

  • gwobrau cymhelliant, er enghraifft ar gyfer gwasanaeth hir

  • biliau ffôn

  • rhoddion bach a thalebau

  • adloniant staff, er enghraifft tocyn i ddigwyddiad

  • treuliau nad yw’n ymwneud â busnes wrth deithio dros nos ar fusnes sydd dros y terfyn dyddiol (yn agor tudalen Saesneg)

Nid oes angen i chi gynnwys buddiannau pitw (yn agor tudalen Saesneg) yn eich Cytundeb Setliad TWE.

Afreolaidd

Mae buddiannau a threuliau afreolaidd yn bethau nad ydynt yn cael eu talu’n rheolaidd dros gyfnod o flwyddyn dreth, er enghraifft yn wythnosol neu’n fisol. Maen nhw hefyd yn bethau nad oes gan gyflogeion hawl contractiol iddynt. Mae enghreifftiau o dreuliau a buddiannau’n afreoleidd yn cynnwys:

  • treuliau adleoli dros £8,000 (mae’r rhain yn rhydd o dreth o dan £8,000)

  • cost mynd i gynadleddau tramor

  • treuliau priod sy’n cyd-fynd â chyflogai tramor

  • defnyddio fflat gwyliau cwmni

Anymarferol

Mae treuliau a buddiannau anymarferol yn bethau sy’n anodd rhoi gwerth arnynt neu rannu rhwng cyflogeion unigol. Mae enghreifftiau o dreuliau a buddiannau anymarferol yn cynnwys:

Beth sydd heb ei gynnwys

Ni allwch gynnwys cyflogau, buddiannau gwerth uchel fel ceir cwmni (yn agor tudalen Saesneg), neu daliadau arian parod fel:

Os ydych yn gwneud cais ar ôl dechrau’r flwyddyn dreth, mae cyfyngiadau ychwanegol ar yr hyn y gallwch ei gynnwys.