Cytundebau Setliad TWE
Rhoi gwybod i CThEF faint sydd arnoch
Unwaith bod gennych eich Cytundeb Setliad TWE (PSA), bydd angen i chi roi gwybod i CThEF faint sydd arnoch bob blwyddyn dreth.
Llenwch a chyflwynwch y ffurflen ar-lein. Os na fyddwch yn gwneud hyn, bydd CThEF yn cyfrifo’r swm. Bydd y swm a godir arnoch yn uwch os bydd hyn yn digwydd.
Bydd angen i chi roi gwybod ar wahân am unrhyw beth na ellir ei gynnwys yn eich PSA, drwy ddefnyddio ffurflen P11D. Nid oes angen i chi anfon ffurflen P11D os ydych yn talu treuliau a buddiannau cyflogeion drwy’ch cyflogres.