Skip to main content

Treuliau a buddiannau ar gyfer cyflogwyr

Sgipio cynnwys

Rhoi gwybod a thalu

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am dreuliau neu fuddiannau trethadwy rydych yn eu rhoi i’ch cyflogeion. Gallwch wneud hyn naill ai drwy’ch cyflogres neu ar-lein ar ddiwedd y flwyddyn dreth.

Mae angen i chi hefyd roi gwybod faint o Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd arnoch ar yr holl dreuliau a buddiannau rydych wedi’u rhoi a thalu unrhyw Yswiriant Gwladol sydd heb ei dalu.

Beth i roi gwybod amdano

Mae pob traul neu fuddiant yn cael ei gyfrifo’n wahanol. Dewch o hyd i’r math o draul neu fuddiant (yn agor tudalen Saesneg) rydych wedi’i roi, i weld beth fydd angen i chi roi gwybod amdano a’i dalu.

Ar gyfer treuliau neu fuddiannau ‘bach’, mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud taliad untro, a elwir yn Gytundeb Setliad TWE.

Os ydych yn talu treuliau a buddiannau drwy’r gyflogres (‘talu drwy’r gyflogres’)

Rhowch wybod am dreuliau a buddiannau cyflogeion drwy’ch meddalwedd cyflogres a thalwch dreth arnynt drwy gydol y flwyddyn.

Nid oes angen i chi roi gwybod am dreuliau a buddiannau ar gyfer pob cyflogai ar ddiwedd y flwyddyn dreth os yw eu holl dreuliau a buddiannau wedi’u talu drwy’r gyflogres.

Ar ddiwedd y flwyddyn dreth, mae’n rhaid i chi roi gwybod am yr Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd arnoch trwy gyflwyno ffurflen ar-lein o’r enw P11D(b).

Gallwch ddysgu rhagor am dalu’ch treuliau a buddiannau drwy’r gyflogres (yn agor tudalen Saesneg).

Os na fyddwch yn talu treuliau a buddiannau drwy’r gyflogres

Mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen ar-lein o’r enw P11D a’i chyflwyno i CThEF ar ddiwedd y flwyddyn dreth.

Llenwch P11D ar gyfer pob cyflogai rydych wedi rhoi treuliau neu fuddiannau trethadwy iddynt nad oeddent wedi’u talu drwy’r gyflogres.

Mae’n rhaid i chi hefyd gyflwyno ffurflen ar-lein i CThEF ar ddiwedd y flwyddyn dreth ar gyfer unrhyw Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd arnoch. Gelwir hyn yn P11D(b).

Sut i gyflwyno ffurflen P11D neu P11D(b)

Os oes gennych lai na 500 o gyflogeion, llenwch a chyflwynwch y ffurflenni trwy wasanaeth TWE ar-lein CThEF.

Os oes gennych fwy na 500 o gyflogeion, llenwch a chyflwynwch y ffurflenni trwy’ch meddalwedd gyflogres.

Bydd CThEF ond yn derbyn ffurflenni papur os ydych wedi rhoi’r gorau i fasnachu.

Os ydych wedi rhoi’r gorau i fasnachu yn ystod y flwyddyn dreth

Gallwch ond cyflwyno P11D neu P11D(b) ar-lein ar ôl diwedd blwyddyn dreth.

Os ydych wedi rhoi’r gorau i fasnachu, gallwch chi (neu ymarferydd ansolfedd sy’n gweithredu ar eich rhan) gyflwyno fersiynau papur i CThEF.

Mae’n rhaid i chi gyflwyno llythyr eglurhaol gyda’r ffurflenni er mwyn egluro i CThEF eich bod wedi rhoi’r gorau i fasnachu yn y flwyddyn dreth bresennol. Gallwch argraffu ffurflen P11D neu P11D(b) drwy ddefnyddio eich meddalwedd gyflogres.

Os nad oes gennych feddalwedd gyflogres, gallwch anfon rhestrau sydd wedi’u teipio. Defnyddiwch ffont Arial maint 11 pwynt.

Ar gyfer y rhestr P11D, bydd angen i chi ddefnyddio un llinell ar gyfer pob cyflogai sydd wedi cael buddiannau ers dechrau’r flwyddyn dreth. Mae’n rhaid i’r rhestr gynnwys yr wybodaeth ganlynol am y cyflogai:

  • ei enw llawn
  • ei ddyddiad geni
  • ei rif Yswiriant Gwladol
  • math y buddiant sydd wedi’i ddarparu
  • swm y buddiant sydd wedi’i ddarparu

Ar gyfer P11D(b), bydd angen i chi restru’r holl gyflogeion sydd angen ffurflen P11D, a chrynodeb o’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sy’n ddyledus.

Anfonwch eich llythyr eglurhaol a’ch ffurflenni at y cyfeiriad canlynol:

P11D & P11D(b)
HM Revenue and Customs
BX9 1WE

Cywiro gwall neu roi gwybod am flynyddoedd blaenorol

I drwsio gwall, rhoi gwybod am fuddiannau a threuliau ar gyfer blynyddoedd treth cynharach neu roi gwybod i CThEF am unrhyw newidiadau, llenwch y ddwy ffurflen gywiro ar-lein:

Enghraifft

Gwnaethoch gyflwyno ffurflen P11D yn dangos buddiant meddygol o £300 a buddiant car o £2,100. Mae’r buddiant car yn gywir, ond fe ddylai’r buddiant meddygol fod yn £500. Cyflwynwch ffurflen gywiro P11D sy’n dangos y buddiant meddygol o £500 a’r buddiant car o £2,100.

Os ydych yn cywiro P11D(b), dylech gynnwys cyfanswm yr Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A y mae angen i chi ei dalu - nid y gwahaniaeth o’ch fersiwn flaenorol.

Enghraifft

Gwnaethoch gyflwyno ffurflen P11D(b) yn dangos bod angen i chi dalu £10,000 o Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A, ac rydych yn sylweddoli eich bod wedi anghofio ychwanegu £500. Dylai’ch ffurflen P11D(b) ar-lein ddangos y swm fel £10,500.

Cosbau

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir yn eich Ffurflen Dreth yn ddiofal neu’n fwriadol sy’n golygu eich bod:

  • yn peidio â thalu digon o dreth
  • yn gor-hawlio rhyddhadau treth