Treuliau a buddiannau ar gyfer cyflogwyr
Esemptiadau a goddefebau
Mae yna rhai treuliau arferol cyflogeion nad oes rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) amdanynt. Gelwir hyn yn ‘esemptiad’.
Mae esemptiadau wedi disodli goddefebau. Ni allwch wneud cais am oddefeb mwyach.
Treuliau sydd wedi’u cwmpasu gan esemptiad
Nid oes rhaid i chi roi gwybod am rai treuliau busnes a buddiannau fel:
- teithio busnes
- biliau ffôn
- treuliau busnes ar gyfer gwesteia
- gwisg ac offer ar gyfer gwaith
I fod yn gymwys i gael esemptiad, mae’n rhaid i chi fod naill ai:
- yn talu cyfradd unffurf i’ch cyflogai fel rhan o’i enillion - mae’n rhaid i hyn fod naill ai’n gyfradd meincnod neu’n gyfradd arbennig (‘pwrpasol’) sydd wedi’i chymeradwyo gan CThEF
- yn talu costau gwirioneddol y cyflogai yn ôl
Mae’n rhaid i chi ddidynnu a thalu treth ac Yswiriant Gwladol ar yr holl dreuliau a buddiannau eraill (yn agor tudalen Saesneg) rydych yn eu rhoi i’ch cyflogeion. Rhowch wybod i CThEF amdanynt yn ôl yr arfer.
Gwneud cais am esemptiad
Nid oes angen i chi wneud cais am esemptiad os ydych yn talu cyfraddau meincnod CThEF ar gyfer treuliau caniataol.
Mae ond angen i chi wneud cais am esemptiad os ydych am dalu cyfraddau pwrpasol i’ch cyflogeion.
Bydd yn rhaid i chi roi tystiolaeth i CThEF fod y cyfraddau rydych yn eu hawgrymu yn seiliedig ar dreuliau gwirioneddol eich cyflogeion.
Gwirio treuliau
Mae’n rhaid i chi fod â system ar waith i wirio taliadau rydych yn eu gwneud ar gyfraddau meincnod neu bwrpasol.
Ni all eich cyflogeion wirio eu treuliau eu hunain.
Gofynnwch i’ch cyflogeion gadw tystiolaeth o’u treuliau, er enghraifft derbynebau neu filiau, rhag ofn bod angen i chi eu gwirio.