Skip to main content

Dod o hyd i feddalwedd gyflogres

Os byddwch yn penderfynu rhedeg cyflogres eich hun, bydd angen meddalwedd gyflogres arnoch i adrodd i Gyllid a Thollau EF (CThEF). Bydd y feddalwedd yn eich helpu gyda thasgau fel:

  • cofnodi manylion eich cyflogeion
  • cyfrifo cyflog a didyniadau’ch cyflogai
  • adrodd gwybodaeth y gyflogres i CThEF
  • cyfrifo faint sydd angen i chi ei dalu i CThEF
  • cyfrifo tâl statudol, er enghraifft tâl mamolaeth neu dâl salwch

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Penderfynu pa nodweddion meddalwedd sydd eu hangen arnoch

Mae’n rhaid i chi gael meddalwedd gyflogres sy’n adrodd gwybodaeth TWE ar-lein, oni bai eich bod wedi’ch esemptio (yn agor tudalen Saesneg).

Dylech hefyd ystyried pa nodweddion eraill sydd eu hangen arnoch. Er enghraifft, ni fydd rhai meddalwedd yn caniatáu i chi wneud y canlynol:

Meddalwedd a gydnabyddir gan CThEF

Gallwch ddewis o feddalwedd cyflogres a gydnabyddir gan CThEF (yn agor tudalen Saesneg).

Ni all CThEF argymell un gwasanaeth neu gynnyrch meddalwedd dros un arall ac nid yw’n gyfrifol am unrhyw broblemau sydd gennych gyda meddalwedd rydych chi wedi’i phrynu.

Os byddwch yn newid meddalwedd

Ni fydd rhai meddalwedd gyflogres yn caniatáu i chi barhau gyda’r un IDs ar y gyflogres ar gyfer y cyflogai os ydych eisoes wedi’u defnyddio mewn meddalwedd arall.

Os nad yw’ch meddalwedd gyflogres yn caniatáu i chi wneud hyn, rhowch ‘Iawn’ yn y ‘Dangosydd Newid ID y Gyflogres’ ar gyfer pob cyflogai yn eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (yn agor tudalen Saesneg) (FPS).

Mae’n bosibl y bydd eich bil TWE wedi’i gyfrifo’n anghywir, a bod cofnodion cyflogres wedi’u dyblygu, os na wnewch hynny.