TWE Ar-lein i Gyflogwyr
Defnyddio TWE Ar-lein
Fel cyflogwr, mae angen i chi ddefnyddio gwasanaeth TWE Ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF) i wneud y canlynol:
- 
    gwirio’r hyn sydd arnoch i CThEF 
- 
    talu’ch bil 
- 
    bwrw golwg dros hanes eich taliadau 
- 
    cael mynediad at godau treth a hysbysiadau ynghylch eich cyflogeion 
- 
    apelio yn erbyn cosb 
- 
    cael rhybuddion gan CThEF pan fyddwch yn anfon adroddiad neu’n talu’n hwyr, neu pan na fyddwch yn anfon y nifer disgwyliedig o adroddiadau yn ystod y mis 
- 
    anfon datganiadau treuliau a buddiannau, megis P46 (car), P11D a P11D(b) 
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Cyn i chi ddechrau
Er mwyn defnyddio TWE Ar-lein, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- 
    cofrestru fel cyflogwr 
- 
    ymrestru ar gyfer TWE Ar-lein 
- 
    actifadu’r gwasanaeth 
Os ydych wedi cofrestru ar-lein fel cyflogwr
Rydych yn ymrestru’n awtomatig ar gyfer TWE Ar-lein pan fyddwch yn cofrestru fel cyflogwr ar-lein.
Ar ôl i chi gofrestru, bydd CThEF yn gyrru cod actifadu o fewn 10 diwrnod i chi drwy’r post. Mae’n rhaid i chi actifadu eich cyfrif o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad sydd ar y llythyr.
Os nad ydych yn actifadu eich cyfrif o fewn y terfyn amser, bydd yn rhaid i chi ymrestru ar gyfer TWE ar-lein unwaith eto.
Os ydych wedi cofrestru fel cyflogwr dros y ffôn neu drwy’r post
Bydd angen i chi ymrestru ar gyfer TWE Ar-lein cyn i chi allu defnyddio’r gwasanaeth.
Mewngofnodi i TWE Ar-lein
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf yn ystod adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).
Codau treth a hysbysiadau
Mae CThEF yn anfon gwybodaeth ynghylch eich cyflogeion atoch drwy ddefnyddio TWE Ar-lein. Gallwch fewngofnodi i fwrw golwg dros y canlynol:
- 
    hysbysiadau cod treth (P6 a P9) 
- 
    hysbysiadau benthyciadau myfyrwyr (SL1 ac SL2) 
- 
    hysbysiadau gwirio Yswiriant Gwladol (NVR a NOT) 
- 
    hysbysiadau ynghylch cyflwyno’n hwyr a thaliadau hwyr (yn agor tudalen Saesneg) (Mae CThEF yn galw’r rhain yn ‘hysbysiadau cyffredinol’) 
Gallwch gyrchu’r rhain drwy rai mathau o feddalwedd gyflogres, neu drwy’r Gwyliwr Bwrdd Gwaith TWE.