Ffurflen

Rhoi gwybod i CThEF am werth eitemau sydd wedi’u cynnwys yn eich Cytundeb Setliad TWE

Defnyddiwch ffurflen PSA1 neu anfonwch gyfrifiad i roi gwybod i CThEF am werth eitemau sydd wedi’u cynnwys yn eich Cytundeb Setliad TWE.

Dogfennau

Rhoi gwybod i CThEF drwy Borth y Llywodraeth

Manylion

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein neu gyfrifiad anffurfiol gennych chi eich hun i roi gwybod am fudd-daliadau neu dreuliau sydd wedi’u cynnwys yn eich Cytundeb Setliad TWE os ydych yn gyflogwr neu’n asiant.

Mae’n rhaid i chi gynnwys pob cyflogai sydd wedi cael y buddiannau neu’r treuliau, gan gynnwys unrhyw gyflogai sy’n ennill llai na’r lwfans treth personol.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd yn rhaid i chi roi gwybod i ni am y canlynol:

  • eich cyfeiriad e-bost
  • y flwyddyn dreth y mae’r hysbysiad yn berthnasol iddi
  • eich cyfeirnod TWE y cyflogwr
  • pa gyfraddau treth sy’n berthnasol i’r cyflogeion a gafodd y buddiannau neu’r treuliau. Hynny yw, cyfraddau treth yn yr ardaloedd canlynol:

    • yr Alban
    • Cymru
    • gweddill y DU (Lloegr a Gogledd Iwerddon)
  • cyfanswm gwerth (gan gynnwys TAW) pob math o fuddiant neu draul a roddir i weithwyr fesul band treth (ar gyfer cyfraddau treth yn y DU) — er enghraifft, cyfanswm y costau teithio a delir i weithwyr ar gyfradd dreth yr Alban o 20%

Defnyddio’r ffurflen ar-lein

Dyma’r ffordd fwyaf hwylus i ddweud wrthym.

Bydd angen i chi wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • mewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth (os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi am y tro cyntaf)
  • defnyddio’ch cyfeiriad e-bost i gael cod cadarnhau y gallwch ei ddefnyddio i fewngofnodi

Postio cyfrifiad anffurfiol

Gallwch roi gwybod i ni beth yw gwerth eitemau sydd wedi’u cynnwys yn eich Cytundeb Setliad TWE gan ddefnyddio eich cyfrifiad eich hun.

Os dewiswch wneud hyn:

  • mi fydd yn cymryd hirach i ni adolygu’r wybodaeth rydych wedi ei roi
  • byddwn yn cysylltu â chi os oes gennym gwestiynau

Anfonwch eich cyfrifiad i:

Cytundebau Setliad TWE
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST

Does dim rhaid i chi gynnwys enw stryd, dinas na blwch Swyddfa’r Post: Dylai cludwyr ddefnyddio cyfeiriad gwahanol (yn Saesneg).

Cyhoeddwyd ar 4 April 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 October 2023 + show all updates
  1. You can now tell HMRC the value of items in your PAYE Settlement Agreement by using the online form or by posting your calculation to HMRC.

  2. The online version of the PSA1 has been added and information needed before you start has been amended.

  3. The English and Welsh versions of the PAYE Settlement Agreement (PSA1) to be used for tax year 2021 to 2022 have been added and the versions for 2019 to 2020 have been removed.

  4. The English and Welsh versions of the PAYE Settlement Agreement (PSA1) to be used for tax year 2018 to 2019 have been removed.

  5. English and Welsh versions of the PAYE Settlement Agreement (PSA1) to be used for tax year 2020 to 2021 for England, Northern Ireland, Scotland and Wales have been added.

  6. Welsh versions of 'PSA1' for England, Northern Ireland, Scotland and Wales have been added.

  7. The 2017/18 version of form PSA1 has been removed.

  8. New version of the form PSA1 has been added to this page.

  9. Welsh version of the form PSA1 has been added to this page.

  10. First published.